Grŵp Cynghori Arbenigol Iechyd Meddwl Colegau Brenhinol

Newyddion Cymru
16 August 2021

Heddiw, ar dydd iau 12fed Awst, rydym yn falch o gyhoeddi sefydliad Grŵp Cynghori Arbenigol Iechyd Meddwl y Coleg Brenhinol yn ffurfiol.

Mae'r grŵp yn dod â phartneriaid o bob rhan o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd a byddant yn gweithredu fel ffynhonnell cyngor arbenigol diduedd, wedi'i seilio ar dystiolaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a rhanddeiliaid eraill.

Nod y grŵp hefyd yw sicrhau ffocws a dealltwriaeth fwy craff ar y gefnogaeth gyfredol ac angenrheidiol i'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli gyda'n gilydd ym maes gofal cymdeithasol ac mewn gwasanaethau iechyd meddwl gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd.

Bydd y grŵp hwn yn ategu gwaith Academi Colegau Brenhinol Meddygol a fforymau eraill. Mae'r grŵp cynghori wedi sefydlu meysydd gwaith cyffredin Adfer Covid (gan gynnwys lles y gweithlu), Cynllun y Gweithlu Iechyd Meddwl, a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol fel blaenoriaethau cychwynnol.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn gynhwysfawr, a bydd y grŵp cynghori yn awyddus i ddatblygu a derbyn meysydd diddordeb pellach.

Mae'r aelodaeth lawn yn cynnwys:

  • Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru
  • Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd
  • Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol
  • Coleg Brenhinol y Ffisigwyr
  • Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
  • Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant
  • Coleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru
  • Cymdeithas Fferyllol Frenhinol
  • Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gysylltu, cysylltwch â Liz Williams (Liz.Williams@rcpsych.ac.uk) ar ran y grŵp.