Canabis ac iechyd meddwl

Cannabis and mental health

Below is a Welsh translation of our information resource on cannabis and mental health. You can also view our other Welsh translations.

Ymwadiad

Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae’r wybodaeth hon yn edrych ar ganabis, sut y gall effeithio ar eich iechyd meddwl a sut i gael cymorth a chefnogaeth.

Mae’r adnodd hwn yn canolbwyntio ar ganabis fel cyffur hamdden, ac nid ar ganabis meddyginiaethol neu ar bresgripsiwn.

Mae’r planhigyn canabis yn aelod o deulu’r cywarch sydd wedi tyfu'n wyllt ledled y byd ers canrifoedd.

Mae canabis yn cynnwys dros 400 o gemegion, ac mae dros 100 o’r rhain yn ganabinoidau. Mae’r rhain yn gemegion sy’n effeithio ar ‘dderbynyddion canabinoid’ trwy gydol y corff. Maent yn achosi effeithiau corfforol a seicolegol gwahanol.

Mae canabis i’w gael ar ddwy brif ffurf:

  • Canabis gwair - Mae hwn yn cynnwys dail a blodau sych y planhigyn canabis. Mae hefyd yn cael ei alw’n ‘weed’, ‘grass’, mariwana, ‘spliff’, ‘skunk’ ac ati.
  • Resin - Mae hwn yn lwmp brownddu sydd hefyd yn cael ei alw’n ganja neu hashish.

Gellir cymryd canabis mewn gwahanol ffyrdd gan gynnwys:

  • ei ysmygu ar ei ben ei hun, mewn sigaréts neu drwy ddefnyddio dyfais a elwir yn ‘bong’
  • ei fwyta neu ei yfed trwy ychwanegu canabis at wahanol fwydydd neu ddiodydd
  • fepio
  • cymryd olew canabis.

Mae pobl yn defnyddio canabis am lawer o resymau, gan gynnwys i ymlacio ac er mwyn hwyl.

Mae paratoadau o ganabis sy'n feddyginiaethau trwyddedig yn y DU. Defnyddir y rhain i drin:
  • rhai mathau o epilepsi mewn plant
  • sbasmau yn y cyhyrau a achosir gan sglerosis ymledol (MS)
  • cyfog neu chwydu na ellir ei reoli.

Mae gwahanol fathau o ganabis yn amrywio o ran cryfder ac yn achosi effeithiau gwahanol. Gall yr effeithiau y mae canabis yn eu hachosi amrywio o berson i berson. Fel arfer ni fyddwch yn gallu dweud pa mor gryf yw canabis na’r math o effeithiau y bydd yn ei gael arnoch tan ar ôl i chi ei gymryd.

Mae canabis yn gyffur Dosbarth B o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971.

Yn ôl y gyfraith, os cewch eich dal â chanabis yn eich meddiant, gallech gael dedfryd o hyd at bum mlynedd yn y carchar. Yn aml, mae unigolion a ganfyddir yn defnyddio canabis neu â chanabis ar eu person yn cael rhybuddiad, sef ddim yn cael eu herlyn.

Os canfyddir eich bod yn cynhyrchu neu’n cyflenwi canabis i bobl eraill, gallech gael eich carcharu am hyd at 14 mlynedd. Gallech hefyd gael dirwy heb derfyn.

Mae defnyddio canabis fel cyffur hamdden yn gyfreithlon mewn rhai gwledydd, ond nid yn y DU.

Pan fyddwch chi’n ysmygu canabis, mae’r cemegion ynddo yn cyrraedd eich ymennydd yn gyflym trwy eich llif gwaed. Y ddau gemegyn pwysicaf mewn canabis yw:

  • canabidiol (CBD)
  • tetrahydrocanabinol (THC)

Dangoswyd mai THC yw’r unig gemegyn mewn canabis a ddefnyddir fel cyffur hamdden sy’n creu effeithiau seicoweithredol. Mae THC yn glynu wrth rai derbynyddion yn yr ymennydd ac yn eich gwneud yn ‘benfeddw’. Mae nifer o astudiaethau wedi dangos nad yw CBD yn addasu ei effeithiau mewn unrhyw ffordd pan fydd THC a CBD yn cael eu hanadlu gyda’i gilydd.

Bydd gwahanol gynhyrchion canabis yn cynnwys cyfrannau gwahanol o CBD, THC a chemegion eraill.

Mae cyfran y THC mewn canabis stryd (mewn cyferbyniad â chanabis meddyginiaethol) wedi cynyddu’n sylweddol dros y 50 mlynedd diwethaf. Mae canabis sy’n cynnwys lefelau uchel o THC yn fwy tebygol o achosi effeithiau negyddol mewn pobl sy’n ei gymryd.

Pan fyddwch chi’n defnyddio canabis, efallai y byddwch chi’n profi effeithiau gwahanol, megis:

  • Teimlo wedi ymlacio ac yn siaradus. Efallai y bydd lliwiau neu gerddoriaeth yn ymddangos yn gryfach.
  • Teimlo’n sâl, yn llawn panig ac yn baranoiaidd. Efallai y byddwch chi'n clywed lleisiau neu efallai y byddwch chi’n teimlo’n isel eich ysbryd a heb gymhelliad.

Yn aml mae'r effeithiau annymunol yn cymryd mwy o amser i ymddangos na'r rhai dymunol.

Mae astudiaethau’n awgrymu y gall canabis gael effeithiau niweidiol ar iechyd corfforol ac ar iechyd meddwl.

Yn anffodus, mae rhai pobl yn gallu dod yn gaeth i ganabis neu’n ddibynnol arno. Mae astudiaethau’n dangos mai canabis yw’r trydydd sylwedd a ‘gamddefnyddir’ amlaf yn y byd, ar ôl alcohol a thybaco.

Os ydych chi’n ddibynnol ar ganabis, efallai y byddwch yn gwneud rhai o’r pethau canlynol:

  • Defnyddio canabis yn rheolaidd.
  • Cael trafferth rhoi’r gorau i ddefnyddio canabis unwaith y byddwch wedi dechrau. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n bwriadu ei ddefnyddio am hanner awr yn unig, ac yna yn treulio’r prynhawn cyfan yn ei ddefnyddio.
  • Rhoi’r gorau i wneud pethau rydych chi i fod i’w gwneud, neu bethau rydych chi’n eu mwynhau fel arfer, oherwydd eich bod yn defnyddio canabis yn lle hynny.
  • Treulio llawer o amser yn meddwl am ddefnyddio canabis.
  • Canfod bod eich defnydd o ganabis yn effeithio ar eich cof neu’ch gallu i ganolbwyntio.
  • Defnyddio canabis hyd yn oed mewn sefyllfaoedd lle y gallai gwneud hynny fod yn beryglus. Er enghraifft, pan fyddwch chi yn y gwaith neu’n gofalu am blant.
  • Cael trafferth i roi’r gorau i’w ddefnyddio hyd yn oed os ydych chi’n teimlo ei fod yn cael effaith negyddol ar eich bywyd.

Fel y soniwyd eisoes, mae ymchwil yn dangos y gall canabis gael effeithiau negyddol ar eich iechyd meddwl a chorfforol.

Seicosis

Mae ymchwil wedi dangos bod gan bobl sy’n defnyddio canabis risg uwch o ddatblygu seicosis. Mae hwn yn gyflwr lle mae eich meddyliau a’ch teimladau’n newid mewn ffordd mor ddramatig fel eich bod yn colli cysylltiad â realiti. Gall pobl sy’n profi seicosis brofi rhithdybiau, rhithweledigaethau a meddyliau dryslyd.

Mae ymchwil yn dangos mai'r ieuengaf ydych chi pan fyddwch chi'n dechrau defnyddio canabis, y mwyaf tebygol yw hi y byddwch chi'n datblygu seicosis.

Gall defnyddio mathau cryfach o ganabis, neu ei ddefnyddio’n rheolaidd, hefyd gynyddu’r risg o ddatblygu seicosis.

Os ydych chi’n credu efallai eich bod yn profi symptomau seicosis, dylech siarad â’ch meddyg teulu ar unwaith. Gorau po gyntaf y cewch chi gymorth ar gyfer seicosis.

Problemau iechyd meddwl eraill

Gall defnyddio canabis hefyd gynyddu eich risg o ddatblygu problemau iechyd meddwl eraill megis:

Mae ymchwil yn awgrymu y gallai pobl sydd eisoes mewn perygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl wynebu risg uwch o fynd yn sâl os ydynt yn defnyddio canabis yn rheolaidd.

Yr ieuengaf ydych chi pan fyddwch chi'n dechrau defnyddio canabis, y mwyaf yw eich risg o brofi'r problemau hyn. Mae hyn oherwydd bod eich ymennydd yn dal i ddatblygu a gall gael ei niweidio’n haws gan y cemegion sydd mewn canabis.

Mae rhai pobl yn defnyddio canabis oherwydd bod ganddynt broblemau iechyd meddwl yn barod ac maent yn ceisio ymlacio neu anghofio eu symptomau. Gall ymddangos yn y tymor byr bod hyn yn helpu, ond os oes gennych chi broblemau iechyd meddwl eisoes mae tystiolaeth y gall canabis wneud y rhain yn waeth.

Os ydych chi’n cymryd meddyginiaeth ar gyfer problem iechyd meddwl, ni fydd defnyddio canabis yn effeithio ar sut mae’r feddyginiaeth honno’n gweithio. Fodd bynnag, gallai olygu eich bod yn llai tebygol o gymryd eich meddyginiaeth.

Os ydych chi'n profi problemau iechyd meddwl, siaradwch â'ch meddyg teulu i gael gwybod pa driniaethau y gallai eu cynnig i chi.

Iechyd corfforol

Gall ysmygu canabis hefyd effeithio ar eich iechyd corfforol, gan achosi i chi golli’ch gwynt neu roi peswch i chi. Os oes gennych chi asthma, gall ysmygu canabis wneud hwn yn waeth. Mae hyn oherwydd bod anadlu mwg neu anwedd dŵr, gan gynnwys canabis a thybaco, yn ddrwg i’ch ysgyfaint.

Mae canabis yn aml yn cael ei ysmygu gyda thybaco, sy'n achosi'r un risgiau iechyd ag ysmygu tybaco mewn sigaréts. Mae risgiau hefyd yn gysylltiedig ag ysmygu canabis ar ei ben ei hun.

Meysydd eraill o’ch bywyd

Os ydych chi’n defnyddio canabis yn aml efallai y byddwch chi’n gweld:

  • ei fod yn effeithio ar eich bywyd cartref, gwaith neu gymdeithasol
  • ei fod yn effeithio ar eich perthynas â theulu a ffrindiau
  • eich bod yn rhoi’r gorau i weithgareddau roeddech chi'n arfer eu mwynhau
  • os ydych chi’n defnyddio llawer o ganabis, efallai y bydd yn dechrau costio llawer o arian i chi.

Os ydych chi’n teimlo bod canabis yn cael effaith negyddol ar eich iechyd corfforol, eich iechyd meddwl neu eich bywyd cymdeithasol, mae cymorth a’r gael.

Gall lleihau’r defnydd o ganabis, neu roi'r gorau i'w ddefnyddio, helpu i leihau symptomau problemau iechyd meddwl fel iselder ysbryd a seicosis. Fodd bynnag, efallai y bydd angen cefnogaeth ychwanegol arnoch ar gyfer eich problemau iechyd meddwl, a chymorth i roi’r gorau i ddefnyddio canabis mewn ffordd ddiogel.

Os ydych chi’n cael problemau iechyd corfforol sy’n gysylltiedig â defnyddio canabis, efallai y bydd y rhain hefyd yn gwella pan fyddwch wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio canabis. Fodd bynnag, os ydych chi’n cael problemau parhaus, siaradwch â’ch meddyg teulu.

Symptomau diddyfnu

Gall pobl sy’n ddibynnol ar ganabis gael trafferth rhoi’r gorau i ddefnyddio canabis ar unwaith. Os ydych chi’n defnyddio canabis yn aml ac yn rhoi’r gorau i’w ddefnyddio, efallai y byddwch chi’n profi symptomau diddyfnu annifyr. Y symptomau mwyaf cyffredin yw:

  • methu cysgu
  • gorbryder
  • anniddigrwydd a dicter
  • hwyliau isel
  • aflonyddwch
  • llai o archwaeth bwyd.

Efallai y byddwch chi hefyd yn profi effeithiau corfforol fel:

  • cur pen/pen tost
  • chwysu
  • cryndod
  • oerfel
  • poen yn yr abdomen
  • twymyn
  • breuddwydion byw.

Mae symptomau diddyfnu fel arfer yn dechrau o fewn diwrnod neu ddau ar ôl defnyddio canabis ddiwethaf. Gallant bara tua phythefnos, ac mae’n debyg mai yn yr wythnos gyntaf y byddant fwyaf dwys. Gall fod yn ddefnyddiol lleihau eich defnydd o ganabis yn araf dros sawl wythnos cyn rhoi'r gorau iddi yn gyfan gwbl.

Gelwir canabinoidau synthetig hefyd yn:

  • mariwana synthetig
  • sbeis
  • K2
  • sylweddau seicoweithredol newydd (NPS).

Mae canabinoidau synthetig yn gemegion sydd wedi’u datblygu i gael effeithiau tebyg i ganabis. Fodd bynnag, maent yn aml yn llawer cryfach a gallant achosi sgil-effeithiau meddyliol a chorfforol difrifol. Mewn rhai achosion gall y rhain beryglu bywyd.

Mae canabinoidau synthetig yn anghyfreithlon. Yn y gorffennol, roeddent yn gyfreithlon ac yn cael eu hadnabod fel un math o ‘gyffuriau penfeddwol cyfreithlon’. Dyma un o’r rhesymau pam mae pobl weithiau'n meddwl eu bod yn fwy diogel na chanabis. Fodd bynnag, maent yn gallu bod yn fwy peryglus na chanabis.

Mae ymchwil wedi dangos bod canabinoidau synthetig yn gysylltiedig â:

  • deliriwm math o ddryswch difrifol a phenbleth, ee peidio gwybod ble ydych chi)
  • aflonyddwch
  • rhithweledigaethau
  • trais
  • hunan-niweidio.

Mae canabinoidau synthetig hefyd yn gysylltiedig â niwed i iechyd corfforol gan gynnwys:

  • problemau’r galon
  • niwed i’r arennau
  • ffitiau.

Mae llawer o bobl sy’n gallu eich helpu i benderfynu a oes gennych chi broblem gyda chanabis naturiol neu synthetig a’ch cefnogi i geisio cymorth.

Os ydych chi’n teimlo bod eich defnydd o ganabis yn mynd allan o reolaeth, siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo, megis ffrind neu aelod o’r teulu. Efallai y bydd yn gallu eich cefnogi i siarad â gweithiwr proffesiynol, os ydych chi’n teimlo bod angen mwy o gefnogaeth arnoch.

Os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn siarad â rhywun rydych chi’n ei adnabod, neu’n siarad â rhywun wyneb yn wyneb, mae gan y gwasanaeth cynghori cyffuriau FRANK linell gymorth gyfrinachol sydd ar gael 24/7.

Tra’ch bod chi’n gweithio tuag at roi’r gorau i ddefnyddio canabis, neu at ddod o hyd i wasanaeth cymorth, mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu’ch hun. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cadw dyddiadur – Mesurwch faint rydych chi’n ei ddefnyddio a phryd. Gall hyn roi gwell ddealltwriaeth i chi o’ch defnydd o ganabis a faint y mae’n ei gostio.
  • Gosod terfynau – Defnyddiwch eich dyddiadur i osod terfynau o ran pryd a faint rydych chi’n ei ddefnyddio. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os ydych chi’n defnyddio canabis drwy'r amser neu'n ei chael hi’n anodd dychmygu rhoi’r gorau iddo yn gyfan gwbl.
  • Archwilio eich gwerthoedd a’ch nodau eich hun – Meddyliwch am beth sy’n wirioneddol bwysig yn eich bywyd, pwy rydych chi eisiau bod a beth rydych chi eisiau ei wneud. Yna ystyriwch sut mae eich perthynas â chanabis yn effeithio ar hyn.
  • Osgoi prynu mewn llwyth – Dylech osgoi prynu canabis pan fyddwch newydd gael eich talu neu newydd gael arian. Gall hyn eich helpu i osgoi prynu symiau mawr o ganabis.
  • Osgoi pobl, llefydd a gweithgareddau rydych chi’n eu cysylltu â defnyddio canabis – Byddwch yn ymwybodol os ydych chi am fod mewn amgylchedd lle byddwch chi’n fwy tebygol o ddefnyddio canabis. Neu os byddwch chi’n treulio amser gyda phobl sy’n defnyddio canabis.
  • Peidiwch â’i ddefnyddio os ydych chi’n teimlo’n drist neu’n isel – Er y gall hyn fod yn anodd, gall wneud i chi deimlo’n waeth neu olygu eich bod yn dod i arfer â defnyddio canabis pan fyddwch chi’n isel eich ysbryd.
  • Ceisio cymorth iechyd meddwl – Os ydych chi’n meddwl bod gennych chi broblemau iechyd meddwl fel iselder neu orbryder, siaradwch â’ch meddyg teulu.
  • Gwobrwyo eich hun – Gwobrwywch eich hun am beidio â defnyddio canabis, ee prynu bwyd rydych chi’n ei hoffi'n arw neu fynd i’r sinema.

Lleihau niwed

Y ffordd fwyaf effeithiol o leihau'r niwed a achosir gan ysmygu canabis yw torri i lawr neu roi'r gorau iddi yn gyfan gwbl. Fodd bynnag, mae yna bethau eraill y gallwch chi eu gwneud i wneud y broses yn llai niweidiol neu beryglus.

  • Ysmygu gyda ffrindiau dibynadwy yn unig.
  • Osgoi ysmygu cyn mynd i’r gwaith neu i’r ysgol.
  • Prynu canabis o ffynhonnell ddibynadwy yn unig.
  • Defnyddio ychydig i ddechrau a gweld sut rydych chi’n teimlo.
  • Osgoi cymysgu canabis â chyffuriau eraill.
  • Osgoi ysmygu canabis mewn mannau cyhoeddus.
  • Osgoi defnyddio canabis cyn cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol.

Mae’r elusen Release yn cynnig rhestr o awgrymiadau ar gyfer lleihau niwed, sydd ar gael ar eu gwefan.

Os yw eich defnydd o ganabis yn cael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl neu gorfforol, siaradwch â’ch meddyg teulu. Neu, siaradwch â’ch tîm iechyd meddwl, os oes gennych chi un.

Ni ddylid gwrthod gofal iechyd meddwl neu gorfforol i chi oherwydd eich bod yn defnyddio canabis. Fodd bynnag, efallai y bydd y bobl sy’n eich trin yn eich annog i roi’r gorau i ddefnyddio canabis neu leihau eich defnydd o ganabis os yw’n bosibl ei fod yn cyfrannu at eich problemau iechyd.

Gall y rhan fwyaf o bobl leihau a rhoi’r gorau i ddefnyddio canabis naill ai ar eu pennau eu hunain neu gyda rhywfaint o gymorth. Os na allwch chi wneud hyn, bydd eich meddyg yn gallu eich cynghori ar sut i leihau eich defnydd o ganabis yn ddiogel a’ch cyfeirio at wasanaethau lleol.

Os ydych chi’n ysmygu canabis gyda thybaco, efallai y bydd angen cymorth arnoch chi i roi’r gorau i ysmygu hefyd. Gall eich meddyg ragnodi therapi amnewid nicotin, megis clytiau nicotin, gwm cnoi, tabledi neu fêps. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gymorth i roi’r gorau i ysmygu ar wefan y GIG.

Os ydych chi’n ceisio cymorth ynglŷn â’ch defnydd o ganabis, ni fydd eich meddyg yn dweud wrth yr heddlu, oni bai eich bod yn rhoi eraill mewn perygl.

Os ydych chi’n poeni am bartner, ffrind neu aelod o’ch teulu sy’n defnyddio canabis, mae yna lefydd sy’n darparu cymorth, cefnogaeth a gwybodaeth:

  • Cyngor y GIG, i deuluoedd defnyddwyr cyffuriau – Mae’r dudalen hon yn cynnwys llawer o sefydliadau defnyddiol sy’n gallu helpu i’ch cefnogi.
  • Families Anonymous – Mae’r sefydliad hwn yn darparu cydgymorth i deuluoedd a ffrindiau pobl sy’n defnyddio cyffuriau.
  • Adfam – Mae’r elusen hon yn mynd i’r afael ag effeithiau alcohol, cyffuriau neu gamblo ar deulu a ffrindiau yng Nghymru a Lloegr.
  • Scottish Families Affected by Alcohol & Drugs (SFAD) – Mae’r elusen hon yn cefnogi unrhyw un sy’n pryderu am ddefnydd rhywun arall o alcohol neu gyffuriau yn yr Alban.
  • Drugfam – Mae’r elusen hon yn cefnogi pobl sydd wedi eu heffeithio gan ddefnydd niweidiol rhywun arall o alcohol, cyffuriau, sylweddau neu gamblo.
  • SMART Recovery, support group for friends and family – Mae’r elusen hon yn darparu rhwydwaith cenedlaethol o gyfarfodydd cydgymorth a rhaglenni hyfforddi ar-lein. Mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd i deulu a ffrindiau rhywun sydd ag anhwylder defnyddio sylweddau.
  • Release – Canolfan genedlaethol sy'n darparu cyngor a gwybodaeth i'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol ar ddeddfau defnyddio cyffuriau.

Gwybodaeth bellach

Mae'r isod yn adnoddau defnyddiol sy'n egluro mwy am ganabis a sut i gael cymorth i roi'r gorau i'w ddefnyddio.

  • Know cannabis – Gwefan sy'n gallu eich helpu i asesu eich defnydd o ganabis, ei effaith ar eich bywyd a sut i wneud newidiadau os ydych chi’n dymuno gwneud hynny.
  • FRANK – Gwybodaeth a chyngor cyfrinachol a di-dâl ar gyffuriau.
    Llinell gymorth: 0300 123 6600
    Testun: 82111
    E-bost

Darllen pellach

Cannabis and you, workbook and self help tools (PDF – Gall y llyfryn hwn gan ‘Drugs and Alcohol Northern Ireland’ eich helpu i ddatblygu cynllun ar gyfer rhoi’r gorau i, neu dorri i lawr ar, ddefnyddio canabis. Mae’n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol am ganabis.

Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PEEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (Royal College of Psychiatrists). Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.

Awduron arbenigol: Dr Emily Finch a Dr Anto Eric Varughese  

Arbenigwr trwy brofiad: Abiola Awojobi-Johnson

Mae ffynonellau llawn ar gyfer yr adnodd hwn ar gael ar gais.

© Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (Royal College of Psychiatrists)

This translation was produced by CLEAR Global (Dec 2024)

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry