Gorbryder ac Anhwylder Gorbryder Cyffredinol (GAD) 

Anxiety and generalised anxiety disorder (GAD)

Below is a Welsh translation of our information resource on anxiety and generalised anxiety disorder (GAD). You can also view our other Welsh translations.

Ymwadiad

Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae gorbryder yn air rydyn ni'n ei ddefnyddio i ddisgrifio'r teimlad annymunol rydyn ni'n ei gael pan fyddwn ni mewn sefyllfa sy'n llawn straen, yn fygythiol neu'n anodd, neu pan fyddwn ni'n wynebu problem. Nid yw’n gyflwr iechyd meddwl ynddo’i hun.

Bydd y rhan fwyaf ohonon ni'n profi gorbryder ar ryw adeg yn ein bywydau am lawer o wahanol resymau. Gall fod yn ymateb normal, ac fel arfer mae'n diflannu dros amser, pan fydd y sefyllfa’n newid, neu pan fyddwch chi'n gadael y sefyllfa sy'n achosi gorbryder i chi.

Gall gorbryder ddod yn broblem:

  • pan fydd eich gorbryder yn gryf iawn
  • pan fyddwch chi'n teimlo'n bryderus drwy'r amser neu'r rhan fwyaf o'r amser
  • pan nad oes unrhyw reswm amlwg pam eich bod chi'n teimlo'n bryderus
  • pan fydd yn effeithio'n negyddol ar eich bywyd bob dydd

Pan fydd hyn yn digwydd, gall gorbryder wneud i chi deimlo'n anghyfforddus drwy'r amser, eich rhwystro rhag gwneud y pethau rydych chi eisiau eu gwneud, a'i gwneud yn anodd i chi fwynhau bywyd.

Gall gorbryder achosi i chi deimlo llawer o bethau gwahanol yn eich meddwl a’ch corff, gan gynnwys:

Yn y meddwl

  • teimlo'n bryderus drwy'r amser
  • teimlo'n flinedig neu gael trafferth cysgu
  • methu canolbwyntio
  • teimlo'n flin neu'n isel eich ysbryd
  • teimlo'n anesmwyth neu dan straen
  • teimlo wedi'ch llethu
  • ofni y gallai rhywbeth ofnadwy ddigwydd.

Yn y corff

  • curiad calon cyflym neu afreolaidd (crychguriad y galon)
  • chwysu
  • ceg sych
  • tensiwn a phoen yn y cyhyrau
  • cur pen/pen tost
  • cryndod
  • diffyg teimlad neu binnau bach yn y bysedd, bysedd y traed neu'r gwefusau
  • anadlu'n gyflym
  • teimlo'n chwil neu'n benysgafn
  • problemau stumog fel diffyg treuliad, crampiau neu deimlo'n gyfoglyd
  • mynd i'r tŷ bach yn aml
  • profi llawer o bryder yn gysylltiedig â'r teimladau corfforol hyn.

Weithiau, mae pobl sydd â gorbryder yn poeni bod eu symptomau yn arwydd o salwch corfforol. Gall hyn wneud eu gorbryder hyd yn oed yn waeth.

Pan fydd gorbryder yn parhau am amser hir, mae'n hawdd dechrau teimlo'n isel eich ysbryd. Bydd rhai pobl sydd â gorbryder hefyd yn profi iselder ar yr un pryd.

Gall nifer fawr o bethau achosi gorbryder, gan gynnwys:

  • digwyddiadau bob dydd fel cael e-bost sy'n achosi straen yn y gwaith neu ryngweithio â chwsmer anodd
  • digwyddiadau mawr bywyd fel mynd trwy ysgariad, cael salwch corfforol, neu adnabod rhywun sydd wedi marw.

Weithiau rydyn ni hyd yn oed yn profi gorbryder pan fydd rhywbeth da yn digwydd. Er enghraifft, os ydyn ni'n paratoi i fynd ar ddêt neu i gael cyfweliad ar gyfer swydd. Dydi'r rhain ddim yn bethau drwg, ond gallant greu effeithiau corfforol a seicolegol gorbryder yn ein cyrff.

Er y gall gorbryder deimlo’n annymunol, gall fod yn ddefnyddiol mewn rhai amgylchiadau ac am gyfnodau byr o amser:

  • yn seicolegol - Mewn sefyllfaoedd anodd, mae gorbryder yn dweud wrthyn ni fod rhywbeth o’i le ac yn ein cadw’n effro fel y gallwn ni ymateb yn briodol.
  • yn gorfforol - Gall effeithiau corfforol gorbryder baratoi ein corff i ddianc rhag perygl neu i amddiffyn ein hunain. Yr enw am hyn yw'r ymateb 'ymladd neu ffoi'.

Mae anhwylder gorbryder cyffredinol (GAD) yn fath o anhwylder gorbryder. Mae yna lawer o anhwylderau gorbryder eraill sydd heb eu cynnwys yma, fel anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD) neu anhwylder panig.

Os ydych chi'n dioddef o GAD, byddwch yn:

  • profi llawer o wahanol bryderon ar yr un pryd
  • profi pryderon sy'n anghymesur â'r sefyllfa
  • ei chael hi’n anodd rheoli eich pryderon.

Mae GAD yn eithaf cyffredin ac yn effeithio ar 1 o bob 25 o bobl yn y DU. 

Nid oes un peth penodol yn achosi GAD. Mae eich genynnau, amgylchedd cymdeithasol a phrofiadau bywyd i gyd yn chwarae rhan, ac yn rhyngweithio â'i gilydd.

Os oes aelod agos o'ch teulu yn dioddef o GAD, rydych chi rhwng pedair a chwe gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu anhwylder gorbryder. Fodd bynnag, nid oes un genyn neilltuol yn achosi anhwylderau gorbryder. Yn hytrach, mae llawer o enynnau, sydd i gyd yn cael effaith fach, yn rhyngweithio i gynyddu eich risg.

Os yw gorbryder yn cael effaith negyddol ar eich bywyd, neu os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n profi GAD, gorau po gyntaf y byddwch chi'n gofyn am help y cynharaf y gallwch chi ddechrau gwella.

Mae yna lawer o resymau pam mae pobl yn oedi cyn cael cymorth, ac mae’n normal meddwl rhai o’r pethau canlynol hyd yn oed os nad ydyn nhw’n wir:

  • “Dyma sut ydw i, dylwn i drio ymdopi ar fy mhen fy hun” – Ni ddylai neb orfod brwydro ar ei ben ei hun, ac mae pawb yn haeddu cefnogaeth. Ceisiwch siarad â chi'ch hun gyda charedigrwydd a thosturi, fel y byddech chi'n siarad â rhywun sy'n bwysig i chi.
  • “Mae gen i bethau eraill pwysicach i ganolbwyntio arnyn nhw” – Mae llawer o bobl yn cael trafferth rhoi blaenoriaeth i'w hiechyd meddwl. Gall hyn fod yn arbennig o anodd os oes ganddyn nhw gyfrifoldebau pwysig o fewn eu teulu neu'r gymuned ehangach, neu os ydyn nhw'n wynebu heriau allanol eraill. Fodd bynnag, fyddwch chi ddim yn gallu parhau i wneud y pethau sy'n bwysig i chi os ydych chi'n sâl. Drwy helpu eich hun byddwch yn y sefyllfa orau i helpu pobl eraill.
  • “Rydw i'n poeni am beth fydd pobl yn ei feddwl os bydda i'n gofyn am help” – Efallai y cewch eich synnu gan faint o bobl fydd yn deall beth rydych chi'n mynd drwyddo, ac o bosibl wedi profi heriau tebyg eu hunain. Ceisiwch wrando ar y bobl yn eich bywyd sy'n deall ac yn cefnogi'r ffaith eich bod am gael cymorth.

Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch gorbryder neu os ydych chi'n dioddef o GAD mae llawer o help ar gael. Yn aml, gall gorbryder wella drwy gymryd camau i helpu eich hun:

  • Siarad am y peth – Os yw eich gorbryder wedi dechrau oherwydd rhywbeth sy’n digwydd yn eich bywyd, fel perthynas yn chwalu, plentyn yn mynd yn sâl neu golli swydd, gall fod yn ddefnyddiol siarad â rhywun am hynny. Siaradwch â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo ac yn ei barchu, ac sy'n wrandäwr da. Gallai hyn fod yn ffrind agos, meddyg teulu, arweinydd crefyddol, neu unrhyw un rydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn gofyn iddo am gymorth.
  • Offer hunangymorth – Mae nifer o offer hunangymorth y gallwch eu defnyddio i wella eich iechyd meddwl. Mae’r rhain yn cynnwys pethau fel apiau myfyrdod neu ymwybyddiaeth ofalgar, yn ogystal â llyfrau neu apiau sy’n caniatáu i chi ymarfer therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) ar eich pen eich hun. Mae mwy o wybodaeth am CBT yn yr adran isod ar therapïau seicolegol.
  • Grwpiau hunangymorth – Cysylltwch â’ch meddyg teulu i ofyn am awgrymiadau am grwpiau hunangymorth, lle byddwch yn gallu cyfarfod â phobl sydd â phroblemau tebyg. Yn ogystal â chael cyfle i siarad, efallai y byddwch chi'n gallu darganfod sut mae pobl eraill yn rheoli eu gorbryder. Mae rhai o'r grwpiau hyn yn ymwneud â phryderon a ffobiâu penodol. Gofynnwch i'ch meddyg teulu pa fath o grŵp allai fod o gymorth i chi.
  • Cymorth gan gymheiriaid – Cymorth gan gymheiriaid yw pan fyddwch chi'n cyfarfod pobl eraill sydd â phrofiadau tebyg i chi mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Dysgu mwy am ddod o hyd i gefnogaeth gan gymheiriaid.

Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu dod o hyd i grŵp hunangymorth, neu gefnogaeth gan gymheiriaid, trwy elusen. Er enghraifft, mae gan yr elusen iechyd meddwl Mind wasanaethau lleol sy'n rhedeg grwpiau gwahanol yn dibynnu ar bwy ydych chi a pha help sydd ei angen arnoch chi.

Os ydych chi wedi ceisio helpu eich hun ac yn dal i gael trafferth, efallai y bydd angen cymorth pellach arnoch chi. Bydd y driniaeth a gynigir i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau, ond dyma rai o'r triniaethau y gellir eu cynnig i chi os ydych chi'n dioddef o GAD.

Therapïau seicolegol

Gyda therapïau seicolegol, neu ‘driniaethau siarad’, rydych chi’n siarad â therapydd am y problemau rydych chi’n eu hwynebu.

Defnyddir gwahanol ddulliau i helpu gwahanol gyflyrau iechyd meddwl. Argymhellir y ddau ddull canlynol ar gyfer GAD:

Therapi ymddygiad gwybyddol (CBT)

Mae CBT yn therapi siarad sy'n eich helpu i ddysgu ffyrdd mwy defnyddiol o feddwl ac ymateb i sefyllfaoedd bob dydd. Ei nod yw gwella cyflwr eich meddwl trwy eich dysgu i adnabod y cysylltiadau rhwng eich meddyliau, eich gweithredoedd a'ch teimladau.

Os ydych chi'n dioddef o GAD, gall CBT eich helpu i roi eich ofnau ar brawf a goddef eich gorbryder. Gellir gwneud CBT yn unigol, neu fel rhan o grŵp. Gallwch gael CBT wyneb yn wyneb neu ar-lein, ac fel arfer bydd sesiynau CBT yn digwydd unwaith yr wythnos am nifer o wythnosau neu fisoedd.

Mae rhagor o wybodaeth am CBT ar gael yn ein hadnodd gwybodaeth CBT.

Ymlacio cymhwysol

Mae ymlacio cymhwysol yn therapi sy'n eich helpu i ymlacio'ch corff mewn sefyllfaoedd lle byddech chi fel arfer yn bryderus. Bydd therapydd hyfforddedig yn gweithio gyda chi mewn sesiynau awr bob wythnos am nifer o fisoedd ac yn eich dysgu sut i ymlacio'ch corff.

Unwaith y byddwch chi wedi cael y therapi hwn, dylech allu defnyddio ymlacio cymhwysol mewn sefyllfaoedd bob dydd pan fyddwch chi'n profi gorbryder.

Meddyginiaeth

Os nad yw triniaethau seicolegol wedi helpu, neu os byddai’n well gennych beidio â’u cael, efallai y cynigir meddyginiaeth i chi.

Efallai y bydd eich meddyg yn cynnig cyfuniad o feddyginiaeth a therapi siarad i chi. Mae hyn oherwydd bod cael y ddau ar yr un pryd yn gallu bod yn fwy effeithiol i rai pobl na meddyginiaeth neu therapi siarad yn unig.

SSRIs

Mae atalyddion aildderbyn serotonin dethol (SSRIs) yn fath o gyffur gwrth-iselder. Er bod SSRIs yn cael eu galw'n gyffuriau gwrth-iselder, gellir eu defnyddio i drin anhwylder gorbryder cyffredinol.

Credir bod SSRIs yn cynyddu lefelau serotonin yn yr ymennydd. Credir bod serotonin yn cael dylanwad da ar hwyliau, emosiwn a chwsg. Mae SSRIs yn achosi llai o sgil-effeithiau na chyffuriau gwrth-iselder eraill.

SNRIs

Os nad yw SSRIs yn gweithio i chi, efallai y cewch gynnig atalydd aildderbyn serotonin a noradrenalin (SNRI). Mae hwn yn fath arall o gyffur gwrth-iselder ac mae'n debyg i SSRIs ond mae'n gweithio ychydig yn wahanol.

Mae cyffuriau gwrth-iselder fel arfer yn cymryd rhwng 2 ac 8 wythnos i weithio ac mae'n rhaid eu cymryd yn rheolaidd iddynt weithio'n iawn. Fel pob meddyginiaeth, gall cyffuriau gwrth-iselder achosi sgil-effeithiau y dylai eich meddyg eu trafod â chi. Mae rhagor o wybodaeth am y rhain yn ein hadnodd gwrth-iselder.

Pregabalin

Os nad yw SSRIs a SNRIs yn gweithio i chi, efallai y cewch gynnig pregabalin; defnyddir hwn hefyd i drin trawiadau a phoen. Dangoswyd ei fod yn helpu pobl sy'n dioddef o orbryder.

Mae pregabalin yn gallu bod yn gaethiwus. Os byddwch chi'n teimlo eich bod yn dod yn ddibynnol ar pregabalin neu'n cymryd mwy nag a ragnodwyd i chi, siaradwch â'ch meddyg ar unwaith.

Triniaethau eraill

Benzodiazepines

Mae benzodiazepines yn fath o dawelydd. Efallai y cewch gynnig y rhain am gyfnod byr os ydych chi'n cael trafferth ymdopi a bod eich gorbryder yn teimlo allan o reolaeth. Gall benzodiazepines ddod yn gaethiwus os cânt eu defnyddio am gyfnod rhy hir. Os byddwch chi'n teimlo eich bod yn dod yn ddibynnol ar benzodiazepines, siaradwch â'ch meddyg ar unwaith.

Beta-atalyddion

Ar adegau prin, efallai y byddwch chi'n cael beta-atalyddion, sef meddyginiaeth sy'n gweithio trwy arafu'ch calon. Gall hyn helpu i atal effeithiau corfforol gorbryder.

Meddyginiaethau llysieuol

Mae rhai pobl yn gweld meddyginiaethau llysieuol yn ddefnyddiol ar gyfer trin eu gorbryder. Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth gref bod unrhyw un o'r rhain yn gweithio. Dylech siarad â'ch meddyg cyn defnyddio unrhyw feddyginiaethau amgen gan y gallant achosi problemau difrifol pan gânt eu cymryd gyda meddyginiaethau eraill.

Mae rhagor o wybodaeth am y rhain yn ein hadnoddau gwybodaeth ar feddyginiaethau cyflenwol ac amgen a thriniaethau corfforol.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn profi gorbryder o bryd i'w gilydd heb iddo ddod yn broblem. Dyma rai pethau i gadw golwg amdanyn nhw os ydych chi’n meddwl y gallai rhywun rydych chi’n ei adnabod fod yn profi lefelau uwch o orbryder nag arfer:

  • Mae'n ymddangos eu bod yn poeni am rywbeth, neu lawer o bethau, i lefel sydd ddim yn ymddangos yn rhesymol.
  • Maen nhw'n osgoi sefyllfaoedd neu amgylcheddau nad oedden nhw'n eu hosgoi yn y gorffennol. Er enghraifft, mynd i bartïon, allan am swper neu i lefydd llawn pobl.
  • Maen nhw'n cwyno am symptomau corfforol fel cur pen/pen tost, poen stumog neu flinder.
  • Maen nhw'n ymddangos yn ofidus, yn flin neu'n rhwystredig heb unrhyw reswm amlwg.
  • Maen nhw'n canslo cynlluniau, neu ddim yn gwneud pethau maen nhw'n dweud y byddan nhw'n eu gwneud.
  • Mae'n ymddangos eu bod yn bell eu meddwl neu'n methu gwrando pan fyddwch chi'n siarad â nhw.

Mae gwahanol bobl yn profi ac yn cyfleu gorbryder mewn gwahanol ffyrdd, yn dibynnu ar eu profiadau bywyd, eu cefndir diwylliannol neu grefyddol, a'u prif iaith. Gallai hyn olygu nad yw gorbryder rhywun yn amlwg i chi ar unwaith.

Gall cefnogi rhywun sy'n profi gorbryder fod yn heriol, yn enwedig os nad ydych chi'n berson pryderus eich hun. Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu:

  • Gwrando - Gall bod yno i wrando ar rywun sy'n cael trafferth gyda gorbryder fod yn gefnogaeth enfawr. Weithiau gall rhannu teimladau o orbryder gyda pherson arall helpu i leddfu eu pryder.
  • Bod yn amyneddgar - Ceisiwch fod yn amyneddgar os yw'r person rydych chi'n ei adnabod yn ei chael hi'n anodd cadw at gynlluniau rydych chi wedi'u gwneud, neu'n ymddangos yn flin neu'n bell eu meddwl. Mae'n bwysig peidio â chymryd hyn yn bersonol.
  • Eu cymryd o ddifrif - Hyd yn oed os yw rhywun yn bryderus am bethau sydd ddim yn ymddangos yn rhesymol i chi, bydd y ffordd maen nhw'n teimlo yn real iawn iddyn nhw. Does dim rhaid i chi annog eu meddyliau pryderus, ond gallwch eu cysuro bod eu teimladau'n ddilys a'u bod yn haeddu cefnogaeth.

Os ydych chi'n adnabod rhywun sy'n cael trafferth gyda gorbryder, anogwch nhw i geisio cymorth, boed hynny drwy gynnal eu hunain, neu drwy gael cymorth gan weithiwr proffesiynol.

Mae gan yr elusen Anxiety UK awgrymiadau defnyddiol ar gyfer cefnogi rhywun sy'n profi gorbryder.

Dyma rai ffynonellau gwybodaeth a chymorth defnyddiol os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn cael trafferth gyda gorbryder neu GAD.

Gwybodaeth a chefnogaeth ynghylch gorbryder

Gwybodaeth a chefnogaeth ynghylch GAD

Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PEEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.

Awduron arbenigol: Yr Athro David Veale a’r Athro David Nutt

Mae ffynonellau llawn ar gyfer yr adnodd hwn ar gael ar gais.

Cyhoeddwyd: Mai 2022

Adolygiad i ddod: Mai 2025

© Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

This translation was produced by CLEAR Global (Apr 2023)

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry