Gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS)
Child and adolescent mental health services (CAMHS)
Below is a Welsh translation of our information resource on child and adolescent mental health services (CAMHS). You can also view our other Welsh translations.
Ymwadiad
Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae'r adnodd hwn yn trafod gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS). Mae wedi cael ei ysgrifennu ar gyfer rhieni a gofalwyr plant a allai fod yn cael eu trin gan y gwasanaethau hyn neu'n symud ymlaen oddi wrthyn nhw. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i blant a phobl ifanc.
“CAMHS oedd y lle cyntaf i mi deimlo fy mod i'n gallu siarad ac y byddai rhywun yn gwrando arna i.” Jack
Mae gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS) yn wasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc.
Gall y gwasanaethau hyn helpu plant, pobl ifanc a'u teuluoedd gydag ystod eang o gyflyrau iechyd meddwl, cyflyrau niwroddatblygiadol a phroblemau ymddygiadol.
Fel arfer, mae pobl ifanc yn gallu cael mynediad at CAMHS nes eu bod yn 18 oed. Mae rhai gwasanaethau CAMHS yn gallu gweld pobl ifanc nes eu bod yn 25 oed.
Term arall a ddefnyddir i gyfeirio at CAMHS yw gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (neu CYPMHS).
Nid CAMHS yw'r unig le sy’n darparu cymorth i blant a phobl ifanc. Maen nhw hefyd yn gallu cael cymorth gan y gwasanaethau a nodir isod. Os bydd CAMHS yn asesu eich plentyn, efallai y byddan nhw'n awgrymu y byddai'n cael ei gefnogi'n well gan un o'r gwasanaethau hyn yn lle, neu yn ogystal â CAMHS.
Meddyg teulu
Gall meddyg teulu eich plentyn helpu i'w atgyfeirio am therapi seicolegol. Gall hefyd ei gyfeirio at wasanaethau eraill y GIG neu wasanaethau gwirfoddol a allai fod o gymorth.
Gwasanaethau ysbyty
Efallai y bydd rhai pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed yn gallu cael mynediad at therapïau siarad drwy wasanaeth eu hysbyty.
Yr ysgol
Mae ysgolion yn gallu helpu i gefnogi pobl ifanc sydd ag anghenion iechyd meddwl, a’u hatgyfeirio am gymorth pellach. Mae gan rai ysgolion annibynnol eu therapyddion eu hunain sydd ddim yn gysylltiedig yn uniongyrchol â sefydliadau'r GIG.
Elusennau lleol neu grwpiau cymorth
Gofynnwch i'ch meddyg teulu am wybodaeth am elusennau a grwpiau yn eich ardal chi.
Awdurdodau lleol
Mae rhai awdurdodau lleol yn cynnig rhaglenni rhianta i rieni pobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol fel anableddau deallusol neu gyflyrau niwroddatblygiadol. Gall y rhain helpu rhieni i ddeall mwy am bethau fel ymddygiadau heriol a phroblemau cysgu. Efallai bod y rhaglenni hyn yn cael eu cynnig gan wahanol wasanaethau mewn gwahanol ardaloedd yn y DU.
Gwasanaethau mabwysiadu a phlant mewn gofal
Mae'r gwasanaethau hyn ar gyfer plant mewn gofal a phlant sydd wedi cael eu mabwysiadu. Efallai y byddan nhw’n gallu cyfeirio rhieni maeth, gofalwyr a rhieni sydd wedi mabwysiadu at y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Weithiau, mae gwasanaethau mabwysiadu hefyd yn gallu cynnig therapïau i rieni a phobl ifanc.
Mae angen eich plentyn am gymorth gan CAMHS yn hytrach na gwasanaeth arall yn dibynnu ar:
- yr heriau y mae’n eu hwynebu
- y math o gymorth sydd ar gael lle rydych chi'n byw
- unrhyw gymorth arall y mae'n ei chael
- meini prawf atgyfeirio eich gwasanaeth CAMHS lleol. Mae’r rhain yn feini prawf y mae gwasanaethau lleol wedi cytuno arnyn nhw gyda'u Hymddiriedolaeth ac wedi’u creu gan gyfeirio at ganllawiau cenedlaethol.
Yn gyffredinol, mae pobl ifanc yn cael eu hatgyfeirio at CAMHS os ydyn nhw’n profi trafferthion gyda'u hiechyd meddwl a'u lles, ac:
- nid yw mathau eraill o gymorth wedi gweithio
- nid yw mathau eraill o gymorth ar gael
- maen nhw'n peri risg iddyn nhw eu hunain neu i eraill, ac mae angen cymorth arbenigol ar gyfer y risg honno
- mae ffactorau eraill yn golygu y gallai fod yn anodd iddyn nhw ymdopi, neu fod angen cymorth mwy arbenigol arnyn nhw. Er enghraifft, os oes ganddyn nhw gyflwr niwroddatblygiadol neu anabledd dysgu hefyd.
Mae llawer o wahanol 'lwybrau' y gall pobl ifanc eu dilyn wrth ryngweithio gyda CAMHS. Dyma rai enghreifftiau:
- Mae person ifanc wedi colli cryn dipyn o bwysau, nid yw'n bwyta mwyach ac mae’n profi meddyliau dryslyd a negyddol am ei ymddangosiad. Mae’n cael apwyntiad gyda'r meddyg teulu, sy'n archwilio ei iechyd ac yn ei atgyfeirio ar frys at wasanaeth anhwylderau bwyta CAMHS.
- Mae person ifanc yn cael trafferth gyda hunan-niweidio ac wedi cymryd gorddos sylweddol. Mae'n cael ei weld gan weithiwr cyswllt CAMHS yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys, ac yna'n cael apwyntiad dilynol wythnos yn ddiweddarach.
- Mae person ifanc awtistig yn profi pryder cymdeithasol sylweddol, mae wedi bod yn absennol o'r ysgol am rai wythnosau ac mae'n teimlo nad yw’n gallu mynd yn ôl. Mae’n cael ei weld gan weithiwr proffesiynol CAMHS, sy'n gweithio gydag ef i ddeall y gorbryder y mae’n ei brofi o ran yr ysgol a rhyngweithio cymdeithasol.
- Mae unigolyn ifanc yn cael trafferth gydag iselder, gorbryder a dysmorffia'r corff ac yn profi unigedd cymdeithasol sylweddol. Mae'n anfodlon mynd i'r ysgol ac mae ei raddau'n gostwng. Mae'n cael ei weld gan weithiwr proffesiynol CAMHS sy'n gysylltiedig â'i ysgol ac yna'n cael ei atgyfeirio at y clinig CAMHS lleol.
Bydd pob uned CAMHS yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, a bydd adnoddau ar gael yn ystod ac y tu allan i'w oriau gwaith. I gael gwybod beth sydd ar gael yn lleol, rydym yn argymell eich bod chi’n edrych ar wefan eich CAMHS lleol.
Efallai y bydd eich plentyn yn symud rhwng gwasanaethau CAMHS neu efallai y bydd nifer o wasanaethau CAMHS yn ymwneud â'i ofal ar yr un pryd. Mae gan y gwasanaethau hyn enwau gwahanol mewn gwahanol rannau o'r wlad.
Isod mae rhestr o rai o'r gwasanaethau y gallech chi eu gweld yn CAMHS. Fodd bynnag, efallai na fydd y rhain i gyd ar gael lle rydych chi'n byw:
Brysbennu
Mae'r tîm brysbennu neu 'driniaeth gychwynnol' yn helpu i gyfeirio pobl ifanc a'u rhieni at y gwasanaethau cywir. Efallai y byddan nhw’n gallu darparu adnoddau ychwanegol ar eich cyfer.
Cymorth iechyd meddwl
Mae gan rai ysgolion dîm CAMHS sy'n gallu darparu cymorth yn uniongyrchol i bobl ifanc yn yr ysgol honno.
Cyswllt
Efallai y byddwch chi’n cyfarfod tîm cyswllt os bydd eich plentyn yn mynd i adran damweiniau ac achosion brys neu'n cael ei dderbyn i ward pediatrig. Mae seicolegwyr ynghlwm wrth dimau meddygol mewn rhai ysbytai mwy eu maint.
Anhwylder bwyta
Mae’r rhain yn wasanaethau cymunedol a gwasanaethau cleifion mewnol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anhwylderau bwyta.
Anabledd deallusol
Mae’r gwasanaethau hyn wedi'u cynllunio ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anabledd deallusol (a elwir hefyd yn anabledd dysgu).
Niwroddatblygiadol
Mae'r rhain yn wasanaethau ar gyfer pobl ifanc sy'n cael eu hatgyfeirio am asesiad awtistiaeth neu ADHD, neu ar gyfer triniaeth ADHD. Weithiau, caiff y gwasanaethau hyn eu darparu gan wasanaeth pediatreg cymunedol yn hytrach na CAMHS. Mae pediatryddion yn feddygon sy'n arbenigo mewn trin plant.
Cleifion mewnol
Efallai y bydd angen i rai plant a phobl ifanc gael eu derbyn i'r ysbyty i gael y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Mae hyn yn golygu bod yn ‘glaf mewnol’.
Gallen nhw gael eu derbyn i ward bediatrig gyffredinol, i uned gyffredinol i bobl ifanc, neu i uned dibyniaeth uchel. Mae'r gwasanaethau hyn yn benodol ar gyfer pobl ifanc sy'n profi anawsterau iechyd meddwl ac sydd angen lefel o ofal a thriniaeth nad yw’n bosibl ei darparu iddyn nhw gartref (term arall am hyn yw 'yn y gymuned').
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau cleifion mewnol ar wefan Young Minds.
Gofal brys neu ofal allgymorth
Mae'r rhain yn wasanaethau dwys i bobl ifanc sydd mewn argyfwng ac sydd angen mwy o ofal nag y mae CAMHS cymunedol yn gallu ei ddarparu. Mae'r gwasanaethau hyn yn aml yn cynnig gofal y tu allan i oriau neu ofal oriau estynedig.
Ymyriad Cynnar mewn Seicosis
Mae'r gwasanaethau hyn ar gyfer pobl ifanc ac oedolion sy'n profi eu cyfnod cyntaf o seicosis. Maen nhw'n aml yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau eraill CAMHS a gwasanaethau cymunedol i oedolion.
Pontio
Mae'r gwasanaethau hyn yn helpu pobl ifanc i symud ymlaen, neu 'adael' CAMHS.
Os yw eich plentyn yn cael trafferthion iechyd meddwl, efallai y caiff ei atgyfeirio am asesiad CAMHS. Mae llawer o wahanol bobl yn gallu gwneud atgyfeiriadau ar gyfer asesiad CAMHS, maen nhw’n cynnwys:
- ysgolion
- gwasanaethau meddyg teulu
- gwasanaethau cymdeithasol.
Mewn rhai rhannau o'r DU, mae rhieni, a phobl ifanc eu hunain, yn gallu gwneud atgyfeiriad am asesiad CAMHS. Gellir gwneud atgyfeiriadau ar gyfer asesiad CAMHS hyd nes y bydd person ifanc yn 18 oed.
Bydd gan eich gwasanaeth CAMHS lleol ffurflen atgyfeirio neu borth atgyfeirio ar eu gwefan. Bydd y rhain yn cynnwys cwestiynau penodol am y gefnogaeth y mae'r person sy'n cwblhau'r ffurflen yn chwilio amdani, a'r heriau y mae'r person ifanc a'i deulu yn eu hwynebu.
Bydd CAMHS yn gofyn am ganiatâd rhieni neu ofalwyr cyn derbyn atgyfeiriad at eu gwasanaethau gan berson ifanc. Ar gyfer plant hŷn, bydd CAMHS yn gofyn am eu caniatâd cyn derbyn atgyfeiriad gan riant neu ofalwr.
Mae asesiad CAMHS yn gyfarfod, neu gyfres o gyfarfodydd, rhwng person ifanc ac un neu fwy o weithwyr proffesiynol CAMHS. Weithiau bydd rhieni neu ofalwyr y person ifanc hefyd yn bresennol yn yr asesiad. Bydd hyn yn dibynnu ar oedran y person ifanc a beth sydd orau ganddo. Gellir cynnal y cyfarfodydd hyn wyneb yn wyneb, ar-lein, neu dros y ffôn. Bydd hyn yn dibynnu ar beth sydd orau gennych chi a'ch plentyn, neu beth sy'n gyfleus.
“Gall fod yn beth chwithig iawn i’w wneud wrth i chi agor eich hun i gael eich clywed a chael clust i wrando arnoch chi, i feithrin perthnasoedd ac i siarad am y pethau a'r profiadau mwyaf anodd.” Daniel
Beth sy'n digwydd yn ystod asesiad CAMHS?
Paratoi ar gyfer yr asesiad
Unwaith y cewch chi ddyddiad ar gyfer asesiad CAMHS, efallai y byddwch chi eisiau paratoi drwy wneud nodiadau neu feddwl am:
- eich pryderon chi ynghylch iechyd meddwl eich plentyn
- unrhyw newidiadau rydych chi wedi sylwi arnyn nhw yn ei ymddygiad.
Gall fod yn ddefnyddiol dod â chofnod iechyd personol eich plentyn (ei lyfr coch) i'r apwyntiad hwn. Mae hyn oherwydd y gallai'r clinigydd CAMHS eich holi chi am enedigaeth eich plentyn a'i hanes datblygiadol cynnar. Gall gwybod eich hanes teulu fod o gymorth hefyd.
Rydyn ni’n deall y gall dod at CAMHS am y tro cyntaf fod yn anodd i chi a'ch plentyn. Dylai eich tîm CAMHS egluro beth fydd yn digwydd yn ystod yr asesiad, beth i'w ddisgwyl ac unrhyw gyfnod amser arfaethedig.
Yn ystod yr asesiad
“Roeddwn i'n poeni sut fyddai fy asesiad cyntaf, ond roeddwn i'n teimlo'n gyfforddus iawn gan i mi gael cynnig pethau i gefnogi fy anghenion synhwyraidd yn ogystal â chael fy holi am y goleuadau a'r cadeiriau yn yr ystafell. Roeddwn i'n hoffi fy mod i'n gallu eistedd ar fag ffa a defnyddio teganau ffidlan. Gwnaeth hyn fy helpu i deimlo'n fwy hamddenol felly roeddwn i’n gallu meddwl am y cwestiynau oedd yn cael eu gofyn”. Lily
Fel arfer, mae asesiad CAMHS yn digwydd dros nifer o apwyntiadau.
Yn dibynnu ar ei oed a'i aeddfedrwydd, efallai y bydd eich plentyn yn cael y dewis o gael ei weld ar ei ben ei hun. Mae hyn oherwydd y gall fod yn anodd i blant drafod eu pryderon yn onest o flaen eu rhieni neu eu gofalwyr. Fodd bynnag, os bydd hyn yn digwydd, byddai'n dal i gael apwyntiadau ar y cyd gyda'i rieni neu ei ofalwyr. Weithiau, bydd clinigwyr hefyd yn cael apwyntiadau gyda’r rhieni neu’r gofalwyr yn unig.
Beth fydd yn cael ei drafod yn yr asesiad?
Yn yr asesiad, bydd gweithwyr proffesiynol CAMHS yn ceisio darganfod mwy am eich pryderon chi a phryderon eich plentyn, a hefyd yn treulio amser yn dod i ddeall:
- Beth sydd ei angen ar eich plentyn a sut mae'n teimlo. Datganiad clinigol yw’r enw am hyn.
- Eich disgwyliadau a'ch anghenion chi a rhai eich plentyn. Bydd hefyd yn ceisio deall a yw eich disgwyliadau a’ch anghenion chi a rhai eich plentyn yn wahanol ac, os oes angen, a yw’n bosibl datrys y gwahaniaethau hyn.
- Y rhwydwaith o amgylch eich plentyn, megis ysgol, ffrindiau, teulu a chymuned.
- Datblygiad cynnar eich plentyn, a'i hanes cymdeithasol ac addysgol.
- Unrhyw broblemau iechyd eraill sy'n effeithio ar eich plentyn, arnoch chi, neu ar unrhyw aelod arall o'r teulu.
Byddwch hefyd yn trafod sut y gallai CAMHS helpu, neu a oes gwasanaethau eraill y gallai eich plentyn elwa ohonyn nhw yn lle, neu yn ogystal â, CAMHS.
Prif nod tîm asesu CAMHS yw creu gofod diogel i chi a'ch plentyn, fel eich bod chi'ch dau yn teimlo eich bod yn gallu rhannu teimladau a phrofiadau anodd. Fel rhiant, mae'n bwysig eich bod chi’n ceisio bod mor glir a chywir â phosibl.
Bydd gweithwyr proffesiynol yn sensitif i wahaniaethau diwylliannol a chrefyddol wrth weithio gyda chi. Bydd y gweithwyr proffesiynol sy'n gwneud yr asesiad hefyd yn trafod caniatâd â chi. Mae hyn yn cynnwys egluro â phwy y bydd yr asesiad yn cael ei rannu a pham.
Gall yr asesiad fod yn gyfle pwysig i chi gyd ofyn cwestiynau, cael amser i rannu rhai o'ch pryderon, a theimlo bod rhywun yn eich clywed ac yn gwrando arnoch chi.
Gall teimlo bod rhywun yn gwrando arnoch chi heb farnu, weithiau am y tro cyntaf, gael effaith bwerus ar y person ifanc a'u teulu.
Pa gwestiynau fydd yn cael eu gofyn yn ystod asesiad fy mhlentyn?
Mae'r mathau o gwestiynau a allai gael eu gofyn pan fydd eich plentyn yn cael ei asesu yn cynnwys:
- Pwy sy'n byw yn eich cartref?
- I ba ysgol neu goleg ydych chi'n mynd?
- Beth yw eich hanes addysg?
- Pwy yw'r bobl sy’n bwysig yn eich bywyd?
- Beth yw’r pethau rydych chi’n eu hoffi a'u casáu?
- Beth yw eich cryfderau?
- Beth yw’r pethau sy’n achosi pryder a gofid ichi?
- Beth yw eich arferion bwyta, cysgu a hunanofal?
- Beth sydd wedi newid ac wedi dod â chi at CAMHS?
- Oes unrhyw ddigwyddiadau difrifol wedi digwydd yn eich bywyd yn ddiweddar?
- Ydych chi'n brifo'ch hun neu'n teimlo'n hunanladdol?
Efallai eich bod chi neu'ch plentyn yn poeni bod 'asesiad' yn golygu bod dod at CAMHS fel sefyll prawf yn yr ysgol neu gael cyfweliad y mae’n rhaid ichi wneud yn dda ynddo. Peidiwch â phoeni, yn CAMHS mae asesiad yn golygu bod y bobl rydych chi'n siarad â nhw yn casglu gwybodaeth am eich plentyn. Does dim atebion cywir neu anghywir, a does dim cwestiynau 'gwirion'.
“Fel rhiant mae’n hawdd poeni eich bod chi heb wneud digon, neu feddwl ‘wnes i ddod â fy mhlentyn i mewn yn ddigon buan?'” Abiola
“Roedd yn rhaid i ni aros yn hir i gael mynediad at y gwasanaeth, ond unwaith roedd hynny wedi digwydd, roedd yn rhyddhad mawr cael help o’r diwedd. Roeddwn i'n falch bod rhywun wedi gofyn a oeddwn i eisiau i fy mam fod yn yr asesiad gyda mi ai peidio. Gwnaeth hynny i mi deimlo fy mod i'n rhan o'r broses ac nid dim ond yn gwylio.” Aisha
Bydd tîm CAMHS yn gweithio gyda chi a'ch plentyn i ddatblygu cynllun gofal. Bydd y cynllun hwn yn cynnwys:
- Canlyniad eich asesiad cychwynnol.
- Eich cyd-ddealltwriaeth o'r camau nesaf.
- Nodau rydych chi a'ch plentyn eisiau gweithio tuag atyn nhw.
- Cynllun risg neu gynllun cynyddu diogelwch, os oes angen.
- Y clinigwyr a fydd yn weithiwr allweddol i’ch plentyn, neu'r prif bobl y gallwch chi gysylltu â nhw ynglŷn â gofal eich plentyn.
- Manylion cyswllt argyfwng y tu allan i oriau.
Mae pob gwasanaeth yn wahanol, ond fel arfer byddwch chi’n cael copi papur o'r wybodaeth hon.
Os yw cynllun triniaeth eich plentyn yn cynnwys therapi seicolegol, efallai y bydd yn rhaid i'ch plentyn aros i hyn gael ei ddarparu. Efallai y bydd rhywun yn dweud wrthych chi ei fod ar ‘restr aros’. Bydd yr amser aros yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw a symptomau eich plentyn. Mae'n bwysig eich bod chi’n rhoi gwybod i’r tîm CAMHS os bydd unrhyw newidiadau tra byddwch chi’n aros. Efallai y byddan nhw’n gallu eich cyfeirio chi a'ch plentyn at wasanaethau cymorth eraill tra byddwch chi’n aros.
Beth os bydd yr atgyfeiriad yn cael ei wrthod gan CAMHS neu os cawn ein cyfeirio at wasanaeth gwahanol?
Efallai y byddwch chi a'ch plentyn yn teimlo'n siomedig os bydd hyn yn digwydd. Mae'n bwysig cofio nad yw hyn yn golygu bod eich plentyn 'ddim yn sâl', 'ddim mewn digon o berygl', nac y bydd yn cael gofal o safon is.
Dylai eich tîm asesu yn CAMHS egluro pam nad yw eich plentyn wedi cyrraedd y meini prawf atgyfeirio ar gyfer eu gwasanaeth, a pha wasanaeth arall allai helpu i gefnogi eich plentyn yn well.
Os bydd eich atgyfeiriad yn cael ei dderbyn, bydd tîm CAMHS yn cynnig gwahanol fathau o driniaeth a chymorth i'ch plentyn. Bydd beth yw'r rhain yn dibynnu ar anghenion eich plentyn, beth sydd ar gael yn y CAMHS rydych chi wedi cael eich atgyfeirio ato, a'ch teimladau chi a'ch plentyn am wahanol driniaethau.
Therapïau seicolegol
Dyma'r brif driniaeth i bobl ifanc sy'n cael eu hatgyfeirio at wasanaethau CAMHS. Mae yna lawer o wahanol fathau o therapïau seicolegol, a bydd y math a gynigir i'ch plentyn yn dibynnu ar yr heriau y mae’n eu profi.
Mae’r rhain yn enghreifftiau o therapïau seicolegol:
- therapi ymddygiad gwybyddol (CBT)
- therapi ymddygiad dialectig (DBT)
- therapi teulu
- therapi celf.
Meddyginiaeth
Mae llawer o wahanol feddyginiaethau y gellir eu defnyddio i drin cyflyrau iechyd meddwl. Bydd tîm CAMHS yn dweud wrthych chi os ydyn nhw’n meddwl y gallai eich plentyn elwa o gymryd meddyginiaeth.
Byddwch chi a'ch plentyn yn cael cyfle i drafod sut mae'r meddyginiaethau hyn yn gweithio, unrhyw sgil-effeithiau y gallwch eu disgwyl, a beth i'w wneud os bydd eich plentyn yn profi'r rhain.
Dylai'r gweithiwr proffesiynol sy'n rhagnodi'r feddyginiaeth i'ch plentyn roi pamffled ichi sy'n cynnwys gwybodaeth am y feddyginiaeth benodol. Fel arfer, mae’r rhain ar gael mewn fformatau gwahanol, gan gynnwys fersiynau hawdd eu darllen, ac mae llawer wedi cael eu cyfieithu i wahanol ieithoedd. Darllenwch y wybodaeth hon, a holwch y person sy’n rhagnodi’r feddyginiaeth os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Therapi galwedigaethol
Gall therapyddion galwedigaethol gefnogi pobl ifanc gyda phethau ymarferol, fel eu trefn ddyddiol. Maen nhw hefyd yn gallu asesu sut mae person ifanc yn ymdopi â gwahanol dasgau. Er enghraifft, trin arian, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu fynd i mewn i siopau. Maen nhw’n gallu bod yn arbennig o ddefnyddiol i bobl ifanc sydd ag anableddau dysgu neu gyflyrau niwroddatblygiadol.
Cefnogaeth gan gymheiriaid
Mae cefnogaeth gan gymheiriaid yn golygu bod rhywun yn cael cymorth gan berson arall sydd â phrofiadau tebyg. Yn CAMHS, efallai y bydd grwpiau cefnogaeth gan gymheiriaid lle gall pobl ifanc siarad am eu teimladau a dysgu gan bobl eraill sydd mewn cyfnod diweddarach yn eu hadferiad.
Cefnogaeth arall
Mae mathau eraill o gymorth yn cynnwys:
- cymorth deietegol
- therapi lleferydd ac iaith
- therapi teulu
- monitro iechyd corfforol a meddyliol
- cymorth cyffredinol gan weithwyr cymorth.
“Cefais gefnogaeth i mi fy hun ac yn ddiweddarach i fy nheulu hefyd. Dw i'n credu ei bod hi’n bwysig cofio'r effaith mae hyn yn gallu ei chael ar frodyr a chwiorydd ac roeddwn i’n falch fy mod i wedi cael cynnig therapi teulu. Roedd yn help mawr wrth imi roi sylw i fy nhriniaeth a chadw mewn cysylltiad â fy chwaer ar adeg anodd.” Lily
Mae pob uned CAMHS yn wahanol, a gall maint y timau amrywio. Bydd gan rai clinigwyr sawl rôl, ac efallai y bydd eich plentyn yn cael ei weld gan nifer o weithwyr proffesiynol gwahanol o CAMHS. Mae gan y gweithwyr proffesiynol hyn ystod o sgiliau seicolegol i gefnogi eich plentyn. Byddant yn ystyried y rhwydweithiau o amgylch eich plentyn a'ch teulu wrth ddatblygu cynllun gofal gyda chi.
“Ges i gymorth gan lawer o wahanol dimau CAMHS. Dechreuodd hyn pan ges i fy nerbyn i'r ysbyty. Daeth rhai i fy nghartref, nes i weld rhai eraill ar gyfer apwyntiadau mewn clinigau. Ar y pryd, doeddwn i ddim wir yn meddwl am y peth, ond roedd cael yr holl gymorth gwahanol hwnnw, yn dibynnu ar ba mor sâl oeddwn i, yn help mawr imi”. Jack
Gweithiwr allweddol
Mae gan bob plentyn neu berson ifanc yn CAMHS weithiwr allweddol. Enwau eraill ar gyfer gweithiwr allweddol yw cydlynydd gofal, rheolwr achosion neu weithiwr craidd. Bydd y person hwn yn cymryd y rôl arweiniol wrth drefnu gofal eich plentyn, weithiau gyda chymorth pobl sydd â rolau eraill yn CAMHS. Bydd hefyd yn gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer eich plentyn a'ch teulu.
Gall gweithiwr allweddol fod yn un o nifer o wahanol rolau o fewn y tîm CAMHS. Bydd pwy yw gweithiwr allweddol eich plentyn yn dibynnu ar lawer o bethau, gan gynnwys:
- y mathau o heriau y mae eich plentyn yn eu profi
- sgiliau a hyfforddiant y gweithiwr allweddol, a sut mae'r rhain yn berthnasol i anghenion eich plentyn
- y rolau sydd ar gael yn yr uned CAMHS penodol
- y gwahanol staff sydd ar gael pan fydd eich plentyn yn cael ei atgyfeirio at y tîm CAMHS.
Mae gennych chi a'ch plentyn yr hawl i ofyn am newid gweithiwr allweddol os ydych chi'n teimlo nad yw eich plentyn yn meithrin perthynas gadarnhaol â'r person hwnnw. Er nad yw wastad yn bosibl bodloni'r cais hwn, bydd bob amser yn cael ei ystyried.
Rolau eraill
- Seicolegwyr clinigol – Maen nhw’n gallu asesu pobl ifanc a darparu gwahanol fathau o gefnogaeth ar gyfer eu problemau iechyd meddwl.
- Seicotherapyddion – Maen nhw'n darparu gwahanol fathau o therapïau seicolegol, fel therapïau celf a therapïau teulu.
- Seiciatryddion plant a phobl ifanc – Mae’r rhain yn feddygon cymwysedig sy'n arbenigo mewn gweithio gyda phobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl a'u teuluoedd. Maen nhw hefyd yn gallu rhagnodi meddyginiaeth.
- Nyrsys iechyd meddwl arbenigol – Mae’r rhain yn nyrsys sy'n gweithio mewn ysbytai ac yn y gymuned, i gefnogi pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl. Mae rhai nyrsys, sy’n cael eu galw’n ‘rhagnodwyr anfeddygol’, hefyd yn gallu rhagnodi meddyginiaeth.
- Gweithwyr cymdeithasol – Mae gan rai gweithwyr proffesiynol CAMHS gefndir mewn gofal cymdeithasol. Bydd ganddyn nhw brofiad o ystyried y materion seicolegol, cymdeithasol a systemig a allai fod yn cyfrannu at broblemau iechyd meddwl eich plentyn.
- Gweithwyr iechyd proffesiynol – Mae’r rhain yn weithwyr gofal iechyd sy'n arbenigo mewn triniaethau ac arferion penodol. Maen nhw'n cynnwys rolau fel deietegyddion, ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol.
- Pediatryddion – Mae’r rhain yn feddygon sy'n arbenigo mewn diagnosio a thrin babanod, plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau iechyd corfforol a rhai anhwylderau niwroddatblygiadol. Maen nhw'n gweithio'n agos gyda rhai timau CAMHS.
- Gweithwyr cymorth – Maen nhw'n gweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ac yn eu cefnogi yn y gwaith o drin eu cleifion.
Cofiwch, efallai y bydd enwau ychydig yn wahanol ar y rolau hyn yn eich gwasanaeth chi. Fel arfer, bydd rhestr o bwy sydd yn eu tîm ar wefan eich CAMHS lleol. Os oes gennych chi neu'ch plentyn anghenion mynediad, gallwch hefyd ofyn am ffotograffau a gwybodaeth wedi'i hargraffu am y gweithwyr proffesiynol rydych chi'n eu gweld.
Dylai unrhyw bobl y byddwch chi’n eu cyfarfod yn CAMHS egluro pwy ydyn nhw, a beth yw eu rôl yng ngofal eich plentyn.
Bydd gan yr holl bobl y mae eich plentyn yn eu gweld amrywiaeth o sgiliau i asesu a thrin problemau iechyd meddwl mewn pobl ifanc. Er enghraifft, efallai y bydd eich plentyn yn gweld therapydd galwedigaethol sydd hefyd wedi'i hyfforddi i ddarparu therapïau seicolegol.
“O fy mhrofiad i, gall fod llawer o bryder ynghylch CAMHS, wrth i rieni eraill rannu pethau. Efallai bod un person yn dweud ‘mae fy mhlentyn i’n gweld ymarferydd yn y rôl hon’. Ac efallai y byddwch chi'n meddwl, ‘o, dydy fy mhlentyn i ddim yn gweld ymarferydd yn y rôl honno’. Mae'n bwysig cofio efallai bod eich CAMHS chi'n defnyddio enw gwahanol ar gyfer yr un rôl.” Abiola
Pam mae fy mhlentyn yn gweld seiciatrydd?
Mae rhai camsyniadau ynghylch rôl seiciatryddion mewn gwasanaethau CAMHS. Mae’r rhain yn cynnwys:
- mai dim ond os bydd eich plentyn yn gweld seiciatrydd y bydd ei iechyd meddwl yn cael ei gymryd o ddifrif
- bod y ffaith ei fod yn gweld seiciatrydd yn golygu bod ei broblemau iechyd meddwl yn ddifrifol
- bod gweld seiciatrydd yn golygu y bydd yn cael presgripsiwn am feddyginiaeth.
Mae seiciatryddion yn gweithio gyda phlant yn CAMHS am lawer o wahanol resymau. Y prif reswm pam y gallai eich plentyn weld seiciatrydd yw eu bod yn gallu cynnig persbectif gwahanol ar ei iechyd meddwl, a'r triniaethau a'r gefnogaeth a allai fod o gymorth.
Dylai seiciatrydd eich plentyn ystyried unrhyw ffactorau biolegol, seicolegol a chymdeithasol a allai fod yn cyfrannu at anawsterau iechyd meddwl eich plentyn.
Bydd gwasanaethau CAMHS bob amser yn rhannu eich gwybodaeth chi â'ch meddyg teulu. Mae hyn oherwydd mai eich meddyg teulu yw'r pwynt canolog ar gyfer eich cofnodion clinigol.
Gyda'ch caniatâd chi a chaniatâd eich plentyn, efallai y bydd CAMHS hefyd yn cyfarfod â gwasanaethau eraill. ‘Gweithio amlasiantaeth’ yw’r enw am hyn. Bydd pa wasanaethau y mae CAMHS yn cyfarfod â nhw yn dibynnu ar y cymorth y mae eich plentyn yn ei gael a'r heriau y mae'n eu hwynebu, ond gallent gynnwys:
- darparwyr addysg megis ysgol eich plentyn
- sefydliadau'r sector gwirfoddol ac elusennau
- gwasanaethau gofal cymdeithasol.
O bryd i'w gilydd, os oes pryderon sylweddol am les eich plentyn neu les pobl eraill, efallai y bydd angen i CAMHS rannu gwybodaeth heb eich caniatâd chi na chaniatâd eich plentyn. Bydd tîm CAMHS yn siarad yn fanwl â chi a'ch plentyn am hyn os bydd yn digwydd.
Bydd faint fyddwch chi'n ymwneud â gofal eich plentyn, a faint y bydd eich plentyn yn ymwneud â gwneud penderfyniadau, yn dibynnu ar lawer o bethau gwahanol. Mae’r rhain yn cynnwys:
A yw'n gallu rhoi caniatâd gwybodus
Mae caniatâd gwybodus yn golygu bod person ifanc:
- yn cael gwybodaeth glir a hygyrch am ei gynllun triniaeth a gofal posibl
- â'r gallu i ddeall, cofio a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar y wybodaeth honno
- yn gallu cyfleu ei benderfyniad i weithiwr proffesiynol CAMHS.
Mae rhai pobl ifanc yn methu â chydsynio i'r cynllun triniaeth a awgrymir ar eu cyfer. Os yw hyn yn wir, efallai y byddai'n fwy priodol i'w rhieni neu eu gofalwyr wneud y penderfyniad hwn ar eu rhan. Yn ddelfrydol, byddwch chi a'ch plentyn yn gwneud y penderfyniadau hyn gyda'ch gilydd.
Gall gallu person ifanc i roi caniatâd ar gyfer triniaeth newid dros amser. Bydd yn dibynnu ar nifer o ffactorau fel oedran, datblygiad, ac a oes ganddo salwch meddwl.
Mae’n rhaid asesu caniatâd yn gyson. Mae hyn yn golygu, er nad yw'n gallu rhoi caniatâd ar gyfer un peth, y gall plentyn roi caniatâd ar gyfer pethau eraill.
I ba raddau y mae eich plentyn eisiau i chi fod yn rhan o'i ofal
Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn dweud y dylid tybio bod pobl ifanc 16-18 oed yn gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain, gan gynnwys cydsynio i driniaeth feddygol, oni bai nad oes ganddyn nhw’r galluedd i wneud hynny.
Er bod rhieni’n parhau i fod â chyfrifoldeb rhiant dros blant dan 18 oed, ni all eu penderfyniadau ddiystyru penderfyniadau unigolyn 16 neu 17 oed sy’n ‘gymwys’.
Wrth i'ch plentyn fynd yn ddigon hen i ddechrau gwneud ei benderfyniadau ei hun, bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn dechrau ceisio caniatâd ganddo cyn rhannu ei wybodaeth bersonol.
Bydd rhai pobl ifanc yn gofyn i’w gwybodaeth beidio â chael ei rhannu â’u rhieni. Os bydd hyn yn digwydd, a'u bod wedi cael eu hasesu i fod yn gymwys i wneud y penderfyniad hwnnw, bydd eu cyfrinachedd yn cael ei barchu a'i gynnal gan weithwyr proffesiynol CAMHS.
Bydd gweithwyr proffesiynol CAMHS yn agored gyda'r person ifanc os oes adegau pan fydd angen torri'r cyfrinachedd hwn a rhannu ei wybodaeth ag eraill, fel ei rieni. Efallai y bydd hyn yn angenrheidiol os oes risg wirioneddol a difrifol i iechyd, diogelwch neu les eich plentyn, neu berson arall.
Mae'n bwysig gwybod, fel rhiant neu ofalwr, y byddwch chi bob amser yn gallu rhannu eich meddyliau a'ch pryderon â'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'ch plentyn. Ni ddylai cyfrinachedd rwystro cyswllt rhwng gweithwyr proffesiynol a gofalwyr, na rhwystro gweithwyr proffesiynol rhag gwrando neu gael gwybodaeth.
“Fel rhiant, alla i ddim gorbwysleisio pa mor bwysig yw hi bod gweithwyr proffesiynol yn gweithio'n agos gyda theuluoedd. Yn enwedig pan fydd triniaethau neu feddyginiaethau yn newid. Ni sy'n adnabod ein person ifanc orau, a phan fydd clinigwyr yn gwrando go iawn ac yn ein cynnwys ni, mae'n gwneud y broses gyfan yn fwy diogel, yn fwy hamddenol, ac yn llawer mwy effeithiol. Mae'n teimlo fel ein bod ni'n mynd drwy bethau gyda'n gilydd yn hytrach nag ar ein pennau ein hunain.” Toni
“Roeddwn i’n teimlo’n nerfus iawn am adael a bod hynny’n mynd i ddigwydd cyn i mi fod yn barod. Fodd bynnag, gyda llawer o anogaeth ac ychydig o sesiynau ychwanegol, roeddwn i'n teimlo'n barod.” Lily
Bydd gadael CAMHS (neu gael eich ‘rhyddhau’) yn benderfyniad a wneir rhyngoch chi, eich plentyn a thîm CAMHS. Bydd yn digwydd pan fydd eich plentyn wedi cael y gofal sydd yn ei gynllun gofal neu wedi gwella'n ddigonol.
Efallai y bydd eich plentyn yn symud i wasanaeth arall pan gaiff ei ryddhau. Er enghraifft, efallai y bydd yn cyrraedd oedran pan fydd yn barod i adael CAMHS (16-18 oed) ond bod angen triniaeth bellach arno gan y tîm iechyd meddwl oedolion.
Wrth baratoi i adael CAMHS, efallai y bydd y pethau canlynol yn cael eu trafod â chi a'ch plentyn:
- Anghenion iechyd meddwl eich plentyn.
- Cynllun triniaeth eich plentyn a sut i barhau â'r sgiliau y mae wedi'u dysgu o dan ofal CAMHS.
- Arwyddion rhybudd cynnar a allai ddangos ei bod hi'n bryd gofyn am ail-atgyfeiriad at wasanaethau iechyd meddwl.
- A oes angen atgyfeirio eich plentyn at wasanaethau iechyd meddwl oedolion, neu wasanaeth arall.
Sut brofiad yw gadael CAMHS?
Bydd sut rydych chi a'ch plentyn yn teimlo am adael CAMHS yn dibynnu i raddau helaeth arnoch chi fel unigolion, a'r rhesymau pam mae eich plentyn yn gadael CAMHS.
Dylech chi a'ch plentyn gael llawer o amser i ymaddasu cyn i'ch plentyn adael CAMHS neu symud i wasanaeth arall. Dylech gael gwybod am fathau eraill o gymorth a fydd ar gael i chi a'ch plentyn pan fydd yn gadael CAMHS.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch eich plentyn yn gadael CAMHS, neu'n cael ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl, siaradwch â'ch gweithiwr allweddol.
“Dw i'n meddwl ei bod hi'n ddefnyddiol cynllunio ymlaen llaw ar gyfer sut fydd pethau, fel nad yw'n rhy sydyn.” Abiola
“Roedd gwylio fy mhlentyn yn symud o CAMHS i wasanaethau oedolion fel sefyll ar ymyl clogwyn. Am flynyddoedd roedd gennyn ni gefnogaeth, strwythur, a phobl oedd yn adnabod ein person ifanc ni. Yna'n sydyn, pan gyrhaeddodd 18 oed, newidiodd popeth. Mae teuluoedd angen gweithwyr proffesiynol sydd ddim yn gadael i’n plant ni syrthio rhwng y bylchau, ac sy’n gwneud i’r newid deimlo fel trosglwyddo.” Toni
Pa mor gyflym fydd hyn yn digwydd?
Fel arfer, bydd gadael CAMHS yn cael ei gynllunio dros nifer o sesiynau. Gall cael ei ryddhau o CAMHS gymryd mwy o amser os oes angen i'ch plentyn drosglwyddo i wasanaeth arall, ac os oes rhaid iddo aros i gael ei dderbyn i'r gwasanaeth hwnnw. Weithiau, efallai y bydd angen i ofal a thriniaeth eich plentyn gael eu rheoli gan eich meddyg teulu neu wasanaeth arall yn y cyfamser.
Mae'n bwysig i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ystyried a oes unrhyw ffactorau eraill a allai wneud symud ymlaen o CAMHS yn fwy heriol i'ch plentyn. Er enghraifft, os yw niwroamrywiaeth yn gwneud newid yn anodd. Os felly, byddant yn eich cefnogi chi a'ch plentyn er mwyn gwneud y newid hwn mor ddidrafferth â phosibl.
“Siaradodd fy ngweithiwr allweddol â mi am gael fy atgyfeirio at wasanaethau oedolion, ond penderfynais fy mod i ddim eisiau gwneud hynny. Roeddwn i'n teimlo'n barod i gamu'n ôl o gael cymorth a gofalu amdana i fy hun. Wnaethon ni siarad am hyn sawl gwaith, a helpodd hynny fi i wneud y penderfyniad yma. Cefais wybodaeth hefyd am sut i gysylltu yn ddiweddarach, petawn i'n newid fy meddwl”. Aisha
Bydd rhai pobl ifanc yn CAMHS yn cael eu hatgyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl oedolion pan fyddan nhw’n cyrraedd 18 oed. Yn anffodus, efallai y bydd oedi wrth drosglwyddo eich plentyn i wasanaethau oedolion os oes rhestrau aros.
Mewn gwasanaethau oedolion, bydd eich plentyn yn rhyngweithio'n uniongyrchol â'i dîm iechyd meddwl, a bydd llythyrau a gwybodaeth am apwyntiadau yn cael eu hanfon yn uniongyrchol ato ef neu ati hi. Bydd gwasanaethau iechyd meddwl oedolion yn dal i geisio cydweithio â theuluoedd a gofalwyr gan eu bod yn deall y gall hyn wella'r gofal y mae eich plentyn yn ei gael. Fodd bynnag, bydd angen i'ch plentyn roi caniatâd penodol i hyn ddigwydd.
I chi fel rhiant, efallai y bydd symud o wasanaethau iechyd meddwl plant i wasanaethau iechyd meddwl oedolion yn heriol, yn enwedig os ydych chi wedi arfer bod yn rhan fawr o ofal eich plentyn.
“Yn aml, pan rydych chi'n ofalwr, dyna oedd eich hunaniaeth a'ch profiad am amser maith, ac yna'n sydyn mae'r staff yn cysylltu'n uniongyrchol â'ch plentyn. Felly, mae'n newid i'r rhiant hefyd, gorfod camu'n ôl ychydig.” Abiola
Efallai y bydd angen i rai rhieni a gofalwyr ymwneud yn fwy â gwneud penderfyniadau a rhannu gwybodaeth. Er enghraifft, os oes gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol, fel anabledd deallusol, ac os nad oes ganddo'r gallu i wneud rhai penderfyniadau am ei ofal. Os byddwch chi'n parhau i fod yn gyfrifol am ofal eich plentyn, bydd y gwasanaeth iechyd meddwl oedolion yn cysylltu'n uniongyrchol â chi.
Mae rhagor o wybodaeth am rôl gofalwyr yn ein hadnodd sy’n trafod gofalu am rywun sydd â salwch meddwl.
“Mi gymerodd dipyn o amser imi gael fy nerbyn i wasanaeth iechyd meddwl oedolion, a dweud y gwir. Mae'n bwysig cofio nad ydy hynny ddim oherwydd dych chi ddim yn ddigon sâl na dim, ond eu bod nhw'n ceisio dod o hyd i'r lle iawn i chi.” Emma
Yn aml, mae pobl ifanc a'u rhieni eisiau gwybod beth sy'n digwydd i'r wybodaeth y maen nhw’n ei rhannu â gwasanaethau iechyd meddwl, tra eu bod nhw'n cael gofal gan wasanaeth ac wedyn.
Mae'r rhan fwyaf o gofnodion yn cael eu storio'n electronig. Gall pobl ifanc a'u gofalwyr siarad â'u gweithiwr allweddol i gael eglurhad ynghylch pwy sydd â mynediad at eu gwybodaeth glinigol a sut mae eu data'n cael eu storio a’u ddefnyddio.
Dim ond at ddiben clir y dylid rhannu data. Os yw data eich plentyn yn cael eu rhannu â gweithwyr proffesiynol eraill, dylid rhoi gwybod iddo neu iddi am hyn fel arfer. Anaml iawn y caiff data eu rhannu â gweithwyr proffesiynol heb ganiatâd. Fel arfer, mae hyn yng nghyd-destun diogelu, ac oherwydd bod risg i'ch plentyn neu i eraill. Hyd yn oed yn yr achos hwn, bydd gweithwyr proffesiynol CAMHS yn gwneud pob ymdrech i roi gwybod i chi a'ch plentyn fod angen rhannu'r wybodaeth hon.
Mae gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ddyletswydd i ystyried yn ofalus pryd mae angen rhannu gwybodaeth a phryd nad oes angen gwneud hynny.
Gwneud cais am fynediad at ddata gan y testun (mynediad at wybodaeth bersonol)
Mae cais am fynediad at wybodaeth bersonol yn digwydd pan fyddwch chi neu'ch plentyn yn gwneud cais i gael mynediad at ei gofnodion clinigol. Mae’n rhaid i blant dros 12 neu 13 oed roi eu caniatâd os yw eu rhieni am gael mynediad at eu cofnodion clinigol.
Fel arfer, byddech chi neu'ch plentyn yn gwneud cais i'ch tîm CAMHS, a fyddai wedyn yn eich cyfeirio at eu Tîm Ceisiadau Mynediad at Wybodaeth neu'n anfon ffurflen atoch chi i'w llenwi. Mae gan Mind, yr elusen iechyd meddwl, dudalen ar eu gwefan sy'n egluro sut i wneud hyn.
Cofiwch na fydd cofnodion clinigol eich plentyn yn cynnwys unrhyw ‘wybodaeth trydydd parti’. Mae hyn yn golygu y byddai gwybodaeth sy'n ymwneud ag unrhyw un ar wahân i'r clinigydd, y claf neu'r gofalwr yn cael ei dileu o'r cofnod clinigol.
Gwybodaeth CAMHS i bobl ifanc 11-18 oed, Mind – Mae gan yr elusen Mind 'hyb' CAMHS sy'n edrych ar beth yw CAMHS a sut mae'n gweithio.
Cymorth i rieni, Young Minds – Mae gan yr elusen Young Minds adran ar eu gwefan ar gyfer rhieni sy'n cefnogi eu plant gyda'u hiechyd meddwl.
Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar faterion Plant a Theuluoedd (CAFPEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (Royal College of Psychiatrists). Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.
Arbenigwyr clinigol: Dr Reenee Barton, Emma Lawton a Constance Bowler
Arbenigwyr trwy brofiad: Abiola Johnson ac Emma Wakefield
Diolch i'r bobl ifanc o Grwpiau Cyfranogiad CAMHS Gwlad yr Haf am rannu eu profiadau drwy ddyfyniadau yn yr adnodd hwn. Mae eu henwau wedi cael eu newid drwy gydol yr adnodd.
Mae ffynonellau llawn ar gael ar gais.
This translation was produced by CLEAR Global (April 2026)