Gofid a thrawma mewn plant a phobl ifanc
Distress and trauma in children and young people
Below is a Welsh translation of our information resource on distress and trauma in children and young people. You can also view our other Welsh translations.
Ymwadiad
Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae'r wybodaeth hon yn trafod gofid a thrawma mewn plant a phobl ifanc. Rydyn ni'n gobeithio y bydd yn helpu rhieni drwy egluro ystyr y termau hyn, beth yw digwyddiad trawmatig, a sut y gall rhieni a gofalwyr gefnogi plentyn os yw wedi profi digwyddiad o'r fath.
Gall gofid a thrawma fod yn gysyniadau cymhleth, ac mae'r geiriau hyn yn aml yn cael eu defnyddio i ddisgrifio pethau gwahanol.
Gall fod yn ddefnyddiol i rieni a gofalwyr, a'u plant, ddeall y gwahaniaeth rhwng gofid a thrawma. Mae hyn oherwydd bod sut y dylid ymateb i ofid a thrawma, a'r lefelau o gefnogaeth sydd eu hangen ar blant, yn wahanol.
Mae gofid yn ymateb dynol arferol i sefyllfaoedd heriol. Rydyn ni i gyd yn profi gofid o bryd i'w gilydd. Gall pobl sy'n ofidus deimlo'n bryderus, yn ypset, yn ffwndrus neu wedi'u llethu.
Nid yw profi gofid o reidrwydd yn beth drwg. Mae'n bwysig i blant brofi heriau o bryd i'w gilydd a dysgu sut i ymdopi â nhw a sut i ymateb iddyn nhw. Yn aml, bydd angen cefnogaeth gan eu rhieni neu eu gofalwyr i wneud hyn.
Pa fathau o bethau sy'n achosi i blant fynd yn ofidus?
Yn aml, mae pethau normal iawn yn achosi gofid mewn plant. Er enghraifft, efallai y byddan nhw'n ypsetio pan fyddan nhw eisiau rhywbeth nad ydyn nhw'n gallu ei gael.
Mae hefyd yn normal i blant ypsetio neu boeni os bydd rhywbeth heriol yn digwydd yn eu bywydau. Er enghraifft, os oes rhaid iddyn nhw symud ysgol, os ydyn nhw'n ffraeo â ffrindiau, neu os yw eu rhieni'n gwahanu.
Pam mae rhai plant yn mynd yn fwy gofidus nag eraill?
Ni fydd yr un pethau yn peri gofid i bob plentyn. Er enghraifft, pan fydd rhieni'n gwahanu, gallai hyn beri gofid enbyd i un plentyn, ond nid i blentyn arall. Bydd y pethau sy'n peri gofid i blant yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys:
- Eu personoliaeth – Er enghraifft, ydyn nhw'n cael eu llethu neu eu hypsetio yn hawdd.
- Eu ffordd o feddwl ac amgyffred – Gall cyflyrau niwroddatblygiadol fel awtistiaeth effeithio ar a yw pethau'n peri gofid i blant ai peidio. Maen nhw hefyd yn gallu effeithio ar sut maen nhw'n mynegi'r gofid hwnnw.
- Eu cyd-destun teuluol ehangach – Er enghraifft, sut mae eu teulu yn trafod emosiynau ac yn ymateb iddyn nhw.
- Eu cyd-destun diwylliannol – Er enghraifft, a yw'r peth sy'n digwydd yn cael ei ystyried yn 'normal' ai peidio yn eu diwylliant.
- Sut maen nhw'n dehongli beth ddigwyddodd – Byddwn yn edrych ar hyn yn fwy manwl yn ddiweddarach yn y ddogfen hon.
Pryd ddylwn i boeni am ofid fy mhlentyn?
Ni ddylai plant fod yn ofidus drwy'r amser neu'r rhan fwyaf o'r amser. Ni ddylai plant chwaith fod mor ofidus fel nad ydyn nhw'n gallu gwneud eu gweithgareddau dyddiol arferol.
Beth ddylwn i ei wneud os bydd fy mhlentyn yn ofidus?
Os bydd eich plentyn wedi ypsetio, yn ddig neu'n bryderus, gadewch iddo fynegi ei deimladau mewn ffordd ddiogel a chefnogol. Gallwch wneud hyn trwy ofyn iddo rannu sut mae'n teimlo â chi, neu ag oedolyn dibynadwy arall. Os yw eich plentyn yn ddigon hen, gallech chi ei annog i nodi ei deimladau ar bapur. Ar gyfer plant iau, gallech eu hannog i dynnu llun i gyfleu eu teimladau, neu archwilio eu teimladau trwy chwarae.
Weithiau, mae rhannu ei deimladau yn gallu bod yn ddigon ynddo’i hun i helpu plentyn i deimlo'n llai gofidus. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i chi ei helpu i ddod o hyd i atebion ymarferol i ddelio â'r pethau sy'n achosi'r gofid. Er enghraifft, os yw eich plentyn yn poeni am fynd i ysgol newydd, efallai y byddai'n ddefnyddiol iddo ymweld â'r ysgol gyda chi cyn dechrau. Neu gallech chi roi gwybod i'r athro neu athrawes sut mae eich plentyn wedi bod yn teimlo.
Mae’r gair trawma yn aml yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio digwyddiad erchyll neu frawychus sydd â'r potensial i achosi gofid eithafol. Mae'r gair trawma weithiau'n cael ei ddefnyddio hefyd i ddisgrifio'r ymatebion i ddigwyddiadau trawmatig. Fodd bynnag, er mwyn osgoi dryswch, nid yw hyn yn arfer cyffredin mewn seiciatreg.
Mae tystiolaeth yn dangos bod cyfran sylweddol o blant yn profi digwyddiadau trawmatig. Yn ôl un astudiaeth, mae 3 o bob 10 o blant yn dod i gysylltiad â digwyddiadau a allai fod yn drawmatig erbyn eu bod yn 18 oed. Nid yw llawer o'r plant hyn yn mynd ymlaen i brofi problemau iechyd meddwl hir dymor o ganlyniad.
Gall digwyddiadau trawmatig achosi i blant brofi gofid. Fodd bynnag, mae plant hefyd yn aml yn profi gofid am resymau sydd ddim yn drawmatig.
Beth yw digwyddiadau trawmatig?
Gall digwyddiadau trawmatig gynnwys:
- gweld rhywun yn marw
- meddwl eich bod chi yn mynd i farw
- cael eich anafu'n ddifrifol
- profi trais rhywiol.
Gall digwyddiadau trawmatig ddigwydd mewn gwahanol ffyrdd:
- yn uniongyrchol – mae wedi digwydd i chi
- dan fygythiad – pan fydd rhywbeth ddim yn digwydd, ond roeddech chi'n meddwl y byddai'n digwydd
- bod yn dyst – rydych chi wedi gweld hyn yn digwydd i rywun arall
- dysgu – rydych chi wedi darganfod bod y digwyddiad wedi digwydd i rywun sy'n agos iawn atoch chi.
Mae enghreifftiau o ddigwyddiadau trawmatig nodweddiadol yn cynnwys:
- bod yn dyst i farwolaeth dreisgar neu ysgytwol
- damweiniau difrifol, megis damwain car sylweddol
- ymosodiad corfforol neu rywiol
- problemau iechyd difrifol (sy’n bygwth bywyd) neu fod mewn gofal dwys
- rhyfel a gwrthdaro
- ymosodiadau gan derfysgwyr
- trychinebau naturiol neu o waith dyn, ee tswnami neu dân.
Enghreifftiau yn unig yw’r digwyddiadau uchod. Mae llawer o ddigwyddiadau sydd heb eu cynnwys yma yn gallu bod yn brofiadau trawmatig.
Ar ôl digwyddiad arbennig o drawmatig, mae'n gyffredin i blant brofi rhai o'r pethau canlynol:
Atgofion, breuddwydion ac ôl-fflachiau
Efallai bydd eich plentyn yn cael atgofion gofidus, breuddwydion neu hunllefau am y digwyddiad. Efallai na fydd bob amser yn ymddangos bod cysylltiad uniongyrchol rhwng breuddwydion a hunllefau a'r digwyddiad trawmatig. Efallai y bydd eich plentyn hefyd yn profi'r digwyddiad fel petai'n digwydd eto (ôl-fflach yw’r enw am hyn).
Ypsetio wrth gael ei atgoffa o'r digwyddiad
Efallai y bydd rhywbeth sy'n ei atgoffa o'r digwyddiad yn achosi i’ch eich plentyn ypsetio’n arw. Er enghraifft, os yw'n agos at ble digwyddodd y digwyddiad neu mewn amgylchedd sy'n ei atgoffa o'r digwyddiad.
Osgoi teimladau a sefyllfaoedd
Efallai y bydd eich plentyn yn ceisio osgoi pethau, pobl a lleoedd sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad. Efallai hefyd na fydd eisiau siarad am beth ddigwyddodd.
Anghofio
Efallai na fydd eich plentyn yn gallu cofio rhannau o'r digwyddiad.
Symptomau corfforol
Efallai y bydd eich plentyn yn cael poenau stumog neu gur pen/pen tost.
Chwarae ailadroddus
Efallai y bydd eich plentyn yn actio'r digwyddiad trawmatig, neu themâu'r digwyddiad, trwy chwarae. Er enghraifft, os oedd mewn damwain ffordd, efallai y bydd yn ail-greu'r gwrthdrawiad gyda cheir tegan.
Teimladau annymunol
Gall y rhain gynnwys:
- teimlo'n negyddol amdano’i hun, am bobl eraill neu am y byd
- beio ei hun neu bobl eraill am beth ddigwyddodd, hyd yn oed os nad oedd eich plentyn, na'r bobl y mae'n eu beio, wedi gwneud dim o'i le
- emosiynau negyddol fel ofn, arswyd, dicter, euogrwydd neu gywilydd
- ymddangos fel nad yw'n gallu teimlo'n hapus, yn fodlon neu'n gariadus tuag at eraill
- credu y bydd ei fywyd yn dod i ben yn fuan neu na fydd yn tyfu i fyny.
Newidiadau yn ei ymddygiad
Gall y rhain gynnwys:
- colli diddordeb mewn pethau yr oedd yn arfer eu mwynhau
- ymddangos fel ei fod ar wahân i bobl eraill
- gwneud pethau peryglus neu fyrbwyll
- ymddwyn yn ddig ac yn ymosodol tuag at bobl neu bethau
- bod ‘ar bigau’r drain’ a methu ymlacio fel petai’n disgwyl i rywbeth ddigwydd. Weithiau gelwir hyn yn or-wyliadwriaeth.
- cael ei ddychryn yn hawdd gan synau uchel neu bethau annisgwyl
- trafferth canolbwyntio
- trafferth cysgu.
Gwneud ystyr o’r digwyddiad
Nid yw llawer o blant sy'n profi digwyddiad trawmatig yn datblygu unrhyw effeithiau negyddol parhaol. Gallai dau blentyn brofi'r un digwyddiad trawmatig hefyd, ond dod i gasgliadau gwahanol amdano.
Gallai un plentyn brofi'r digwyddiad a dysgu:
Mae’r peth drwg hwn wedi digwydd. Roedd yn ofnadwy, ond fe wnaeth pobl fy helpu. Mae'n debyg na fydd yn digwydd eto, ond os bydd, bydd pobl yn fy helpu i eto.
Gallai plentyn arall brofi'r digwyddiad a dysgu:
Mae’r peth drwg hwn wedi digwydd. Mae hyn yn golygu y gallai pethau drwg ddigwydd eto ar unrhyw adeg, a does dim byd y galla i ei wneud amdano. Dyw’r byd ddim yn ddiogel.
Mae sut mae plant yn dod i gasgliadau gwahanol am yr un digwyddiad yn dibynnu ar lawer o bethau gwahanol, gan gynnwys:
- Beth ddigwyddodd cyn y digwyddiad – Pa brofiadau anodd eraill maen nhw wedi eu profi yn y gorffennol, a sut maen nhw wedi dysgu ymateb iddyn nhw.
- Y digwyddiad ei hun – Er enghraifft, pa mor hir y parhaodd neu pa mor 'eithafol' ydoedd.
- Beth ddigwyddodd ar ôl y digwyddiad – Er enghraifft:
- a gawson nhw gefnogaeth
- y math o gefnogaeth a gawson nhw
- sut siaradodd pobl o'u cwmpas am y digwyddiad
- a gawson nhw amser i orffwys a dod dros y digwyddiad
- a oedd eu gofalwyr hefyd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad ac yn gallu eu cefnogi.
Beth am ddigwyddiadau trawmatig niferus?
Yn anffodus, mae rhai plant yn profi digwyddiadau trawmatig niferus drwy gydol eu plentyndod. Er enghraifft:
- bod yn dyst i drais domestig yn erbyn gofalwr
- cam-drin rhywiol, corfforol neu emosiynol cyson
- byw trwy ryfel, gwrthdaro neu hil-laddiad.
Gall fod yn llawer mwy anodd dod dros ddigwyddiadau niferus. Mae hyn yn rhannol oherwydd ei bod yn llawer anoddach gwneud synnwyr ohonyn nhw.
Os yw eich plentyn wedi profi digwyddiad trawmatig, mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i'w gefnogi.
Rhoi amser i’ch plentyn
Gall gymryd amser i wella ar ôl digwyddiad trawmatig. Ni ddylid rhoi pwysau ar blant i siarad am y digwyddiad, i 'ddod drosto', neu i anghofio ei fod wedi digwydd.
Peidiwch â disgwyl i'ch plentyn deimlo'n well ar unwaith. Cofiwch fod profi rhywfaint o ofid yn gyffredin ac nid yw o reidrwydd yn golygu bod eich plentyn yn sâl. Cofiwch nad yw gwella yn dilyn digwyddiad trawmatig bob amser yn broses syml. Efallai y bydd eich plentyn yn cael cyfnodau da a chyfnodau drwg. Yn y rhan fwyaf o achosion, gydag amynedd a chefnogaeth, bydd plant yn dechrau teimlo'n well dros amser.
Rhoi cyfle i’ch plentyn siarad am y digwyddiad
Mae ymchwil wedi dangos bod siarad am ddigwyddiadau trawmatig yn gallu helpu pobl i fod yn fwy gwydn, ac i wneud synnwyr o'r digwyddiad.
Peidiwch â gwthio'ch plentyn i siarad am y digwyddiad os nad yw eisiau, ond rhowch gyfleoedd iddo siarad os yw'n dewis gwneud hynny. Os yw eich plentyn wedi profi digwyddiad trawmatig, dylech geisio rhwystro 'ymddygiadau osgoi'. Er enghraifft, peidio â siarad am beth ddigwyddodd. Er y gallai'r ymddygiadau hyn leihau gofid yn y tymor byr, os ydyn nhw'n mynd ymlaen am ormod o amser, efallai y bydd yn anodd i’ch plentyn wneud synnwyr o'r profiad.
Os gwnaethoch chi brofi'r digwyddiad hefyd, ac os ydych chi'n teimlo eich bod chi’n gallu gwneud hynny, gallech rannu eich teimladau â'ch plentyn. Mae'n iawn dweud wrth eich plentyn eich bod chi'n ypset neu wedi bod yn ofnus. Gall hyn ei helpu i weld nad yw emosiynau'n rhywbeth i'w ofni na'u cuddio.
Mae’n iawn hefyd os yw eich teimladau chi a theimladau eich plentyn am y digwyddiad yn wahanol. Gallwch egluro i'ch plentyn fod y rhan fwyaf o bobl yn profi rhywfaint o ofid ac yna'n gwella. Gallwch hefyd egluro fod gwahanol bobl yn ymateb i'r un digwyddiad mewn gwahanol ffyrdd.
Cynnal trefn arferol eich plentyn
Mae cael trefn arferol yn helpu plant i deimlo'n ddiogel ac yn saff. Gall cynnal trefn ar ôl i'ch plentyn brofi rhywbeth trawmatig fod yn rhan bwysig o'i adferiad. Gallai hyn olygu:
- cadw at yr un amser bwyd a’r un amser gwely
- parhau i ymweld â ffrindiau a theulu
- ei annog i ddal i fynd i'r ysgol.
Fodd bynnag, mae'n iawn os nad yw eich plentyn yn gallu dilyn ei drefn arferol am gyfnod. Byddwch yn hyblyg ac yn amyneddgar, a pheidiwch â disgwyl i bopeth fynd yn ôl i normal ar unwaith.
Bod yn ofalus o ran defnyddio cyfryngau cymdeithasol a dod i gysylltiad â'r newyddion
Os oedd y digwyddiad a brofodd eich plentyn yn gyhoeddus iawn neu wedi bod yn y newyddion, efallai y bydd yn cael ei demtio i ddarllen amdano ar-lein neu ar gyfryngau cymdeithasol.
Weithiau, gall fod yn ddefnyddiol darllen am ddigwyddiad trawmatig ar ôl iddo ddigwydd. Gall hyn eich helpu i ddeall beth ddigwyddodd a pham. Fodd bynnag, dylech chi annog eich plentyn i beidio â gwylio, darllen, neu wrando ar lawer o gynnwys sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad yn y cyfryngau. Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw gwneud hyn yn achosi gofid i’ch plentyn. Os yw’n darllen unrhyw beth sy’n ei ypsetio, dylech ei annog i siarad â chi neu ag oedolyn dibynadwy arall.
Ceisiwch ddod o hyd i gydbwysedd rhwng helpu eich plentyn i wneud synnwyr o beth ddigwyddodd, a'i helpu i osgoi mynd yn rhy ofidus.
Meddwl am eich ymateb eich hun
Os yw eich plentyn wedi profi rhywbeth trawmatig, mae'n debyg y bydd hyn yn cael effaith sylweddol arnoch chi a'ch lles. Efallai y bydd angen cefnogaeth emosiynol neu ymarferol arnoch chi er mwyn i chi allu bod yno i'ch plentyn.
Mae mynegi eich emosiynau yn normal a gall helpu eich plentyn i brosesu ei deimladau ei hun. Fodd bynnag, dylech geisio taro cydbwysedd.
Byddwch yn ofalus ynglŷn â sut rydych chi'n siarad am y digwyddiad pan fydd eich plentyn yn bresennol, yn enwedig ag oedolion eraill. Os ydych chi'n gwylio, darllen neu'n gwrando ar lawer o gynnwys am y digwyddiad yn y cyfryngau, ceisiwch osgoi gwneud hyn o flaen eich plentyn. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych chi'n gweld fod hynny'n ei wneud yn anghyfforddus.
Gofyn am gefnogaeth
Lle bo hynny'n briodol, efallai y byddwch chi eisiau gofyn am gymorth gan deulu, ffrindiau neu bobl ddibynadwy eraill. Efallai y byddan nhw'n gallu cynnig cefnogaeth emosiynol i chi a'ch plentyn, eich helpu gyda thasgau ymarferol, neu dreulio amser gyda chi a'ch plentyn yn gwneud pethau 'normal'.
Siarad â’r ysgol
Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi roi gwybod i rywun yn ysgol eich plentyn ei fod wedi profi digwyddiad trawmatig. Gall hyn helpu athrawon eich plentyn i fod yn ymwybodol o'i deimladau, ac i fod yn amyneddgar os nad yw'n gallu cymryd rhan yn yr ysgol yn yr un ffordd â chyn y digwyddiad. Efallai y bydd eich ysgol hefyd yn gallu gwneud addasiadau rhesymol. Er enghraifft:
- gadael i'ch plentyn ddod i'r ysgol am ran o'r diwrnod neu'r wythnos
- rhoi mwy o seibiannau neu 'amser tawel' y tu allan i'r ystafell ddosbarth i'ch plentyn
- bod mewn cysylltiad â'ch plentyn bob dydd
- gadael i’ch plentyn eich ffonio chi yn ystod y diwrnod ysgol.
Gwybodaeth ar gyfer rhieni sydd wedi mabwysiadu neu rieni maeth
Os ydych chi'n rhiant sydd wedi mabwysiadu neu’n rhiant maeth, efallai bod eich plentyn wedi profi un neu fwy o ddigwyddiadau trawmatig cyn i chi ei adnabod. Yn ogystal â'r syniadau uchod, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi siarad â'r oedolion sydd wedi bod yn rhan o ofal eich plentyn yn y gorffennol. Efallai y byddan nhw'n gallu eich helpu i ddeall y canlynol:
Pethau sydd wedi helpu eich plentyn
Er enghraifft:
- A yw wedi cael unrhyw driniaeth neu gefnogaeth yn y gorffennol, a sut mae hyn wedi helpu. Gallai hyn fod yn driniaeth feddygol, neu’n fath arall o gefnogaeth.
- Unrhyw bethau y mae eich plentyn wedi eu dysgu ac y gallwch chi ddal i'w hymarfer gyda'ch gilydd. Er enghraifft, ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar neu CBT.
- Unrhyw feddyginiaethau y gallai fod yn eu cymryd, neu therapi y gallai fod yn ei gael.
- Pethau sy’n rhoi cysur i’ch plentyn. Er enghraifft, trefn arferol, hoff deganau neu oleuadau nos.
Pethau sydd wedi bod yn anodd i’ch plentyn
Er enghraifft:
- A oes pethau, digwyddiadau neu leoedd y mae'n eu hosgoi neu'n eu cael yn anodd.
- A yw pen-blwydd y digwyddiad neu'r digwyddiadau yn anodd i'ch plentyn.
- A yw wedi bod yn rhan o unrhyw driniaethau, ond heb gymryd rhan weithredol ynddyn nhw. Neu a yw wedi cael unrhyw driniaethau a oedd yn amharu ar ei adferiad.
Efallai na fyddwch chi'n gallu cael atebion i'ch holl gwestiynau, ond gall eich helpu i ddeall mwy am sut i gefnogi eich plentyn.
Mae pawb yn delio â phrofiadau trawmatig yn wahanol, ond mae plant yn gyffredinol yn wydn iawn. Bydd y rhan fwyaf o blant yn gallu gwella ar ôl digwyddiad trawmatig gyda chymorth eu teulu, eu ffrindiau a'u hysgol.
Nid yw gwella yn golygu y byddan nhw'n anghofio'r digwyddiad neu byth yn ypsetio pan fyddan nhw'n meddwl amdano. Yn hytrach, mae'n golygu na fydd meddwl neu siarad am y digwyddiad yn achosi gofid eithafol iddyn nhw nac yn eu rhwystro rhag gwneud y pethau maen nhw'n eu mwynhau.
Dylech ofyn i’ch meddyg teulu am gymorth os yw eich plentyn:
- yn dal i brofi gofid mawr ar ôl mis
- ddim i'w weld yn gwella
- neu'n gwaethygu.
Dylech ofyn i'ch meddyg teulu am gymorth ar ôl tri mis os yw eich plentyn:
- yn well ond yn dal i fod yn ofidus
- ac mae hyn yn effeithio ar ei allu i wneud gweithgareddau arferol.
Mae anhwylder straen wedi trawma (PTSD) yn salwch meddwl sy'n gallu datblygu pan fydd rhywun yn dod i gysylltiad â digwyddiad trawmatig, neu lawer o ddigwyddiadau trawmatig.
A fydd fy mhlentyn yn datblygu PTSD?
Ni fydd y rhan fwyaf o blant sy'n profi digwyddiadau trawmatig yn mynd ymlaen i ddatblygu PTSD, nac unrhyw salwch meddwl arall. Fodd bynnag, bydd rhwng tua 2 a 3 o bob 20 o blant a phobl ifanc sy'n profi trawma yn mynd ymlaen i ddatblygu PTSD erbyn eu bod yn 18 oed.
Mae PTSD yn fwy cyffredin mewn plant sydd wedi profi trawma 'rhyngbersonol'. Mae hyn yn golygu bod y trawma wedi digwydd o ganlyniad i bobl eraill. Er enghraifft, byw trwy ryfel neu wrthdaro, neu brofi cam-drin corfforol neu rywiol.
Sut alla i ddweud a oes PTSD ar fy mhlentyn?
Mae symptomau PTSD yr un fath â'r symptomau sy'n cael eu disgrifio yn yr adran 'Sut allai fy mhlentyn deimlo ar ôl digwyddiad trawmatig?'. Fodd bynnag, gyda PTSD, nid yw'r symptomau hyn yn gwella dros amser ac maen nhw'n gallu gwaethygu.
Dylech siarad â'ch meddyg teulu os yw eich plentyn wedi profi digwyddiad trawmatig ac:
- mae'n profi rhai o'r symptomau sy'n cael eu disgrifio ar ddechrau'r adnodd hwn ac
- mae'r symptomau hyn yn parhau am fwy na mis neu'n effeithio'n sylweddol ar fywyd eich plentyn.
Dylech hefyd siarad â'ch meddyg teulu os oes unrhyw newidiadau sylweddol yn hwyliau neu ymddygiad eich plentyn.
Os ydych chi'n credu bod eich plentyn chi, neu blentyn rhywun arall, mewn perygl uniongyrchol, dylech gysylltu â'r heddlu. Gallwch wneud hyn drwy ffonio 999, neu 101 ar gyfer ymholiadau sydd ddim yn rhai brys.
Os ydych chi'n poeni am blentyn ond ddim yn siŵr a yw mewn perygl, cysylltwch â'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC). Siaradwch â nhw am eich pryderon, a byddan nhw'n gallu cymryd y camau nesaf os yw plentyn mewn perygl. Gallwch ddysgu mwy am y camau sy'n gysylltiedig ag adrodd am gam-drin neu gam-drin posibl i'r NSPCC ar eu gwefan.
Diogelu
Mae'r NSPCC yn diffinio diogelu fel "camau rydych chi'n eu cymryd i hyrwyddo lles plant a'u gwarchod rhag niwed". Dylai pob sefydliad sy'n dod i gysylltiad â phlant gael polisi diogelu. Mae hyn yn cynnwys:
- ysgolion
- unrhyw glybiau fel clybiau ar ôl ysgol, clybiau cymdeithasol a chlybiau chwaraeon
- gwasanaethau cymdeithasol
- y GIG.
Os yw plentyn yn profi unrhyw fath o gam-drin, trais neu fwlio, cyfrifoldeb unrhyw weithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â'r plentyn hwnnw yw ei ddiogelu. Gallai hyn olygu rhoi gwybod i’r heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol am beth sy’n digwydd.
Ffynonellau eraill
Isod mae rhai o'n hadnoddau ar gyfer plant a phobl ifanc:
Mae’r isod yn adnoddau am drawma a PTSD ar gyfer oedolion:
Sefydliadau eraill
- UK Trauma Council – Mae Cyngor Trawma’r DU yn darparu adnoddau, canllawiau a hyfforddiant ar ymateb i ddigwyddiadau trawmatig sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc.
- Trauma, ACAMH – Gwybodaeth gan yr Association for Child and Adolescent Mental Health ar drawma mewn plant a phobl ifanc.
Llinellau cymorth
- NSPCC – Mae'r NSPCC yn elusen amddiffyn plant, sydd â llinellau cymorth i oedolion sy'n poeni am blentyn, ac i blant a phobl ifanc.
- Childline – Mae Childline yn wasanaeth preifat, cyfrinachol a rhad ac am ddim i bobl ifanc dan 19 oed.
- Young Minds – Mae gan Young Minds wasanaeth llinell gymorth gyfrinachol am ddim i rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc 25 oed neu iau. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael ledled y DU.
Llyfrau
Helping Your Child with Loss and Trauma: A self-help guide for parents gan David Trickey a Vicky Lawson
Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar faterion Plant a Theuluoedd (CAFPEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (Royal College of Psychiatrists). Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.
Awduron arbenigol: Yr Athro Andrea Danese, Yr Athro Neil Greenberg a David Trickey
Arbenigwyr trwy brofiad: Abiola Johnson, Emma Wakefield a Toni Wakefield
Mae ffynonellau llawn ar gael ar gais.
This translation was produced by CLEAR Global (March 2026)