Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn darparu £10 miliwn yn ychwanegol eleni i gefnogi myfyrwyr prifysgol yn ystod y pandemig.
Bwriad y cyllid yw cefnogi gweithgareddau fel mwy o wasanaethau iechyd meddwl a chronfeydd caledi ariannol i fyfyrwyr. Bydd hefyd yn helpu prifysgolion i gryfhau eu gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, gan gynnwys gwasanaethau bwyd i fyfyrwyr y mae'n rhaid iddynt hunanynysu.
Bydd y cyllid yn helpu i gynyddu capasiti undebau myfyrwyr a phrifysgolion i roi cyngor a chymorth i fyfyrwyr a staff, gan ganolbwyntio ar gymorth iechyd meddwl a mesurau i sicrhau bod prifysgolion yn fwy diogel rhag hunanladdiad. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau ar-lein a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd rhywfaint o'r cyllid yn cael ei dargedu at gymorth dysgu i fyfyrwyr sy'n agored i niwed a’r rheini sydd ag anableddau neu gyfrifoldebau gofalu, gan gynnwys helpu i fynd i'r afael â thlodi digidol.
Caiff y cyllid ei reoli gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ac mae'n ychwanegol at y Gronfa Buddsoddi ac Adfer Addysg Uwch gwerth £27m a gyhoeddwyd yn yr haf.
Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:
Gall mynd i ffwrdd i'r brifysgol fod yn gyfnod anodd i lawer o fyfyrwyr, ac mae wedi bod yn fwy anodd o ganlyniad i’r amgylchiadau presennol. Mae cefnogi ein prifysgolion a'n myfyrwyr eleni yn arbennig wedi bod yn flaenoriaeth i mi.
Mae ein prifysgolion yma yng Nghymru ar flaen y gad o ran lles myfyrwyr. Yn dilyn y £27m a gyhoeddais i gefnogi ein prifysgolion eleni, bydd y cyllid hwn yn helpu prifysgolion i barhau â'u rôl bwysig o gefnogi a datblygu ein myfyrwyr.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg:
Mae eleni wedi bod yn gyfnod heriol i bawb a gall fod yn arbennig o anodd os ydych chi'n fyfyriwr ac i ffwrdd o'ch teulu a llawer o'ch ffrindiau. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru’n gallu cefnogi lles myfyrwyr drwy'r cyfnod hwn.
Ychwanegodd Becky Ricketts, Llywydd UCM Cymru:
Dyma fuddsoddiad i’w groesawu yn lles myfyrwyr ar draws Cymru. Bydd y cyllid yn darparu cymorth sydd ei angen yn fawr ar wasanaethau iechyd meddwl i fyfyrwyr, sy’n wynebu galw na welwyd ei debyg o’r blaen oherwydd effaith y pandemig.
Rydym hefyd yn croesawu’r cyllid i fynd i’r afael â thlodi digidol ac ar gyfer undebau myfyrwyr, sydd wedi gwneud cryn dipyn o waith eleni i gefnogi myfyrwyr a’r gymuned ehangach."