02 December 2020
Mae Coleg a GIG Cymru wedi datblygu adnodd digidol ar y cyd sy'n tynnu sylw at ddarpariaeth gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol ar draws byrddau iechyd, y 3ydd sector a phartneriaid allweddol.
Mae sefydliadau wedi cyflwyno fideos ac astudiaethau achos ar waith y maent wedi bod yn ymgymryd ag ef, ac mae'r adnodd yn gweithredu i dynnu sylw at lwyddiannau timau ledled Cymru, tra'n rhannu dysgu.
Dywedodd Dr Divya Sakhuja, Cadeirydd Cyfadran Seiciatreg Amenedigol yng Ngholeg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru:
'Mae'n wych bod timau ledled Cymru yn ymfalchïo cymaint yn y gwaith y maent yn ei wneud, mae'r adnodd hwn yn ceisio cyflwyno nifer o brosiectau arloesol sydd ar y gweill. Mae hon yn enghraifft wych o rywfaint o'r gwaith yn unig, ac mae'n wych dysgu, rhannu a dathlu llwyddiannau timau ledled Cymru.'