Geiriau ar gyfer iechyd meddwl
Drwy gydol y prosiect hwn rydym wedi derbyn cefnogaeth gan nifer o artistiaid ffantastig.
Patrick Jones, Eric Ngalle Charles, Mark Smith, Parvin Ziaei, Christina Thatcher, Mab Jones, Mair Elliott, Rufus Mufusa a Clare Potter.
Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi rhaglen gyffrous a nifer o ddigwyddiadau drwy gydol 2020.
Credaf y gall y celfyddydau creadigol, gyda phwyslais arbennig ar ysgrifennu, fynd â ni i le i iacháu o'n poen. Anghofiwn ble'r ydym wedi bod a ble'r ydym yn mynd ac yn syml. Fel artistiaid a/neu ymarferwyr, mae angen i ni ailedrych ar ein credoau craidd ynglŷn â pham y gwnaethom ein siwrnai greadigol ein hunain. Rwy'n aml yn mynd yn ôl at y rheswm pam y dechreuais ysgrifennu. O unigrwydd, anobaith, tristwch a dicter, fe wnes i ddod o hyd i eiriau. Rwyf hefyd yn meddwl yn ôl at yr eiliadau hynny a sut yr oeddwn yn teimlo. Dyna'r allwedd. Teimlad.
Patrick Jones, arlunydd preswyl, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru
Mae'r gwaith hwn yn gyffrous ac yn amhrisiadwy, ac rydym yn awyddus i estyn allan at fwy o awduron a beirdd. Nid oes neb yn ddiogel rhag profi salwch meddwl, mae'r ffordd yr ydym yn rheoli ein hiechyd meddwl mor bwysig ac mae gan y celfyddydau rôl i'w chwarae o ran hybu lles meddyliol cadarnhaol.
Yr Athro Keith Lloyd, Cadeirydd, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru
Fel sefydliad, rydym yn credu'n angerddol y gall ymgysylltu â'r celfyddydau – a llenyddiaeth yn benodol – gael effaith gadarnhaol ar les meddyliol a chorfforol pobl a gall wella ein bywydau. I'r perwyl hwnnw, rydym yn falch iawn o gefnogi'r digwyddiad hwn a fydd yn helpu i chwyddo'r angen i ehangu'r sgyrsiau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl.
Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru