Ysgol Seiciatreg Gymreig
Mae'r ysgol seiciatreg yn ymrwymedig i sicrhau bod Cymru yn cynnig rhaglen hyfforddi o ansawdd uchel, wedi'i gyrru gan y cwricwlwm, gyda'r nod o gynhyrchu Seiciatryddion o'r radd flaenaf a fydd yn darparu'r gofal gorau posibl ar gyfer eu cleifion.
Pennaeth dros dro'r ysgol yw'r Dr Paul Emmerson ac fe'i cefnogir gan y Pwyllgor hyfforddi arbenigol.Mae Seiciatryddion yn mwynhau cyfuniad o her ddeallusol a'r cyfle i ddeall y ' claf cyfan ' yn wirioneddol. Gyda chyfleoedd i ddilyn diddordebau mewn meysydd fel plant, oedolion, seiciatreg henaint a chefnogi anabledd dysgu neu adsefydlu, mae'r arbenigedd hwn yn cynnig amrywiaeth o arferion ar draws ystod eang o leoliadau clinigol a chymunedol.
Mae hyfforddeion yng Nghymru yn elwa ar berthynas eithriadol o gefnogol gan gyfoedion a gweithwyr proffesiynol a safonau uchel o waith tîm.
Read more
to receive further information regarding a career in psychiatry