Gwobr Ymchwil Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Cenedlaethol

Mae Gwobr Ymchwil Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn fenter gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru i hyrwyddo ymchwil, arloesi, ac ymwybyddiaeth o broblemau Iechyd Meddwl ledled Cymru.Cynlluniwyd y rhaglen genedlaethol i annog pobl ifanc i wneud a chyflwyno ymchwil sy'n canolbwyntio ar faterion Iechyd Meddwl cyfredol. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar sail gwreiddioldeb eu hymchwil ac ansawdd cyflwyniad eu prosiect.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2024/25 yn agor yn gynnar ym mis Tachwedd 2024.

Llinell amser

  • Dylid derbyn pob datganiad o ddiddordeb erbyn 13 Rhagfyr 2024.
  • Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 21 Chwefror 2025.
  • Cyhoeddir y ceisiadau buddugol ym mis Mawrth 2025.

Cwestiynau Cyffredin

Dyma ychydig o fanylion am y wobr, tra bydd gwybodaeth bellach a ffurflenni yn cael eu dosbarthu’n uniongyrchol unwaith y bydd datganiadau o ddiddordeb wedi’u cofrestru trwy lenwi’r blwch glas golau ar ochr dde’r sgrin. Gellir cyfeirio unrhyw ymholiadau pellach at Annie Fabian.

Enillydd 2021

Dyma gais buddugol 2021. Mae'r datganiad i'r wasg cysylltiedig yn cynnwys yr astudiaeth a gwblhawyd gan Julia.

Dioddefodd gweithwyr gofal iechyd rheng flaen o anawsterau iechyd meddwl yn ystod misoedd cyntaf y pandemig

Julia Bugelli, myfyriwr chweched dosbarth o Ysgol Glan Clwyd oedd y cyntaf i dderbyn ein Gwobr Ymchwil Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Cenedlaethol ar gyfer 2021/22.

Cyflwynwyd y wobr yn ffurfiol i Julia yn ein Cynhadledd Aeaf gyda Chymdeithas Seiciatrig Cymru a’r Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol ar 2 Rhagfyr 2022.

Mae ei hastudiaeth ar gael drwy’r datganiad i’r wasg cysylltiedig: Dioddefodd gweithwyr gofal iechyd rheng flaen anawsterau iechyd meddwl yn ystod misoedd cyntaf y pandemig – astudiaeth unigryw gan fyfyriwr o Gymru

Er bod astudiaeth Julia yn rhagddyddio cyhoeddi'r rhaglen hon, gellir gweld ei hastudiaeth a'i hadroddiad fel enghraifft o sut y gallai pobl ifanc ddymuno adrodd a chyflwyno canfyddiadau.

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry