Anhwylder deubegynol

Bipolar disorder

Below is a Welsh translation of our information resource on bipolar disorder. You can also view our other Welsh translations.

Ymwadiad

Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Roedd yn arfer cael ei alw'n ‘iselder manig’. Fel y mae'r term hwn yn ei awgrymu, rydych chi'n profi hwyliau ansad. Mae'r rhain fel arfer yn para wythnosau neu fisoedd ac maent yn llawer mwy difrifol na'r newidiadau emosiynol y mae'r rhan fwyaf ohonom yn eu profi. Gallant fod yn: 1

  • Isel neu 'iselhaol' - Rydych chi'n teimlo'n hynod o isel, yn isel eich ysbryd a hyd yn oed yn ddiobaith.
  • Uchel neu 'fanig' - Rydych chi'n teimlo'n hapus iawn, ar ben eich digon ac yn mynd yn orfywiog. Efallai y byddwch chi'n datblygu syniadau mawreddog, rhithdybiol amdanoch chi'ch hun a'ch galluoedd.
  • Hypomanig - Mae eich hwyliau'n uchel, ond nid mor eithafol ag mewn mania.
  • Cymysg - Rydych chi'n profi cymysgedd o fania ac iselder - er enghraifft, rydych chi’n teimlo’n isel iawn eich ysbryd, ond rydych chi hefyd yn profi'r anesmwythder a'r gorfywiogrwydd sy'n gysylltiedig â mania.

Disgrifir y cyflyrau hwyliau hyn yn fwy manwl isod.

Bydd tua 1 o bob 50 o oedolion yn dioddef o anhwylder deubegynol ar ryw adeg yn eu bywyd. Mae fel arfer yn dechrau rhwng 15 a 25 oed - ac yn anaml ar ôl 50 oed1.

Mae'r mathau canlynol yn bodoli2:

Anhwylder deubegynol I

  • Rydych wedi cael o leiaf un cyfnod uchel neu fanig, sydd wedi para mwy nag wythnos - fel arfer yn llawer hirach.
  • Efallai mai dim ond cyfnodau manig y byddwch chi'n eu cael, er bod y rhan fwyaf o bobl sydd ag Anhwylder deubegynol I hefyd yn cael cyfnodau o iselder dwfn.
  • Heb ei drin, bydd cyfnod manig fel arfer yn para rhwng 3 a 6 mis.
  • Mae cyfnodau o iselder yn para ychydig yn hirach – rhwng 6 a 12 mis heb driniaeth.

Anhwylder deubegynol II

  • Rydych chi'n profi fwy nag un cyfnod o iselder difrifol, a chyfnodau llai dwys o fania – gelwir hyn yn ‘hypomania’.

Anhwylder sy'n achosi dilyniant cyflym o hwyliau newidiol (rapid cycling)

  • Rydych chi'n profi pedwar neu fwy o byliau o iselder neu fania mewn cyfnod o 12 mis. Mae hyn yn effeithio ar tua 1 o bob 10 o bobl sydd ag anhwylder deubegynol a gall ddigwydd gyda mathau I a II.

Seiclothymia

  • Mae'r hwyliau ansad yn llai difrifol na'r rhai a brofir gydag anhwylder deubegynol llawn ond gallant fynd ymlaen yn hirach. Gall hyn, ymhen amser, ddatblygu'n anhwylder deubegynol llawn.

Mae ‘ffactorau risg’ genetig tebyg yn gysylltiedig â’r posibilrwydd bod rhywun yn datblygu anhwylder deubegynol, iselder difrifol neu sgitsoffrenia. Mae yna ffactorau risg amgylcheddol hefyd, a gall y rhain ryngweithio â ffactorau risg genetig i gynyddu neu leihau eich risg o ddatblygu'r cyflyrau hyn.

Er enghraifft, efallai bod gennych ffactorau risg genetig sy'n golygu eich bod yn fwy tebygol o ddatblygu anhwylder deubegynol. Fodd bynnag, os byddwch yn tyfu i fyny neu'n byw mewn amgylchedd sefydlog a chadarnhaol gallai hyn leihau eich risg o ddatblygu salwch meddwl difrifol.

Y ffactor risg cryfaf y gwyddom amdano ar gyfer datblygu salwch meddwl difrifol eich hun yw bod â rhiant sydd â salwch meddwl difrifol fel anhwylder deubegynol. Mae gan blant sydd â rhiant ag afiechyd meddwl difrifol siawns o 1 mewn 3 o ddatblygu salwch meddwl difrifol eu hunain.

Wrth feddwl am beth sy'n achosi anhwylder deubegynol, mae'n bwysig cofio bod llawer o bethau gwahanol yn gysylltiedig, ac nad oes un ffactor risg yn achosi anhwylder deubegynol.3

Iselder

Rydyn ni i gyd yn profi teimladau o iselder o bryd i'w gilydd4. Gall hyd yn oed ein helpu i adnabod a delio â phroblemau yn ein bywydau. Fodd bynnag, mewn iselder mawr neu iselder deubegynol, mae'r teimladau hyn yn llawer mwy dwys5 6. Maent yn para am fwy o amser ac yn ei gwneud hi'n anodd neu'n amhosibl delio â phethau normal bywyd5. Os byddwch chi'n mynd yn isel eich ysbryd, byddwch yn sylwi ar rai, neu bob un o'r pethau hyn:

Newidiadau emosiynol

  • teimladau o anhapusrwydd sydd ddim yn diflannu.
  • teimlo eich bod am dorri allan i grïo am ddim rheswm.
  • colli diddordeb mewn pethau.
  • methu mwynhau pethau.
  • teimlo'n aflonydd ac ar bigau drain.
  • colli hunanhyder.
  • teimlo'n ddiwerth, yn annigonol ac yn ddiobaith.
  • teimlo'n fwy pigog nag arfer.
  • meddwl am hunanladdiad.

Anawsterau meddwl

  • Dydych chi ddim yn gallu meddwl yn gadarnhaol neu’n obeithiol.
  • Rydych chi'n ei chael hi'n anodd gwneud penderfyniadau syml hyd yn oed.
  • Dydych chi ddim yn gallu canolbwyntio'n iawn.

Symptomau corfforol

  • Dydych chi ddim eisiau bwyta ac rydych chi'n colli pwysau.
  • Rydych chi’n cael trafferth mynd i gysgu.
  • Rydych chi'n deffro/dihuno'n gynnar iawn - ac yn methu mynd yn ôl i gysgu.
  • Rydych chi'n teimlo'n hollol flinedig.
  • Rydych chi'n mynd yn rhwym.
  • Rydych chi'n colli diddordeb mewn rhyw.

Ymddygiad

  • Rydych chi’n ei chael hi'n anodd dechrau neu orffen pethau - hyd yn oed tasgau bob dydd.
  • Rydych chi'n crïo llawer - neu'n teimlo eich bod chi eisiau crïo ond yn methu.
  • Rydych chi'n osgoi pobl eraill.

Mania

Rydych chi'n teimlo'n arbennig o dda, yn llawn egni ac yn optimistaidd - cymaint fel ei fod yn effeithio ar eich meddwl a'ch crebwyll. Efallai y byddwch chi'n dechrau credu pethau rhyfedd amdanoch chi'ch hun, gwneud penderfyniadau gwael, ac ymddwyn mewn ffyrdd sy'n achosi embaras, sy'n niweidiol ac - yn achlysurol - yn beryglus.

Fel iselder, gall ei gwneud hi'n anodd neu'n amhosibl delio â bywyd o ddydd i ddydd. Gall mania effeithio'n wael ar eich perthnasoedd a'ch gwaith.

Pan nad yw mor eithafol, caiff ei alw'n 'hypomania'. Gall effeithio ar eich crebwyll o hyd, a sut rydych chi'n dod ymlaen â phobl eraill1.

Pan fyddwch chi'n mynd drwy gyfnod manig, efallai y byddwch yn sylwi eich bod chi’n:

Emosiynol

  • Hapus iawn ac wedi cynhyrfu.
  • Pigog iawn (yn aml oherwydd nad yw pobl yn gallu gweld pwrpas eich syniadau hynod optimistaidd, nac yn ymuno â beth rydych chi eisiau iddyn nhw ei wneud).
  • Teimlo'n bwysicach nag arfer.

Meddwl

  • Llawn syniadau newydd a chyffrous.
  • Symud yn gyflym o un syniad i'r llall, ac yn colli golwg ar beth rydych chi'n ceisio ei feddwl neu ei egluro.
  • Clywed lleisiau nad yw pobl eraill yn gallu eu clywed.

Corfforol

  • Llawn egni ac yn fwy egnïol nag arfer
  • Methu neu'n anfodlon cysgu
  • Efallai â mwy o ddiddordeb mewn rhyw.

Ymddygiad

  • Gwneud cynlluniau sy'n fawreddog ac yn afrealistig.
  • Egnïol iawn, yn symud o gwmpas yn gyflym iawn.
  • Ymddwyn yn wahanol i'r arfer.
  • Siarad yn gyflym iawn – mor gyflym fel bod pobl eraill yn ei chael hi’n anodd deall beth rydych chi’n siarad amdano.
  • Gwneud penderfyniadau rhyfedd yng ngwres y foment, weithiau gyda chanlyniadau trychinebus.
  • Gwario'ch arian yn ddi-hid.
  • Gor-gyfarwydd â phobl eraill neu ddi-hid o feirniadol ohonyn nhw.
  • Llai tawedog yn gyffredinol.

Os ydych chi ar ganol cyfnod manig am y tro cyntaf, efallai na fyddwch chi'n sylweddoli bod unrhyw beth o'i le - er y bydd eich ffrindiau, teulu neu gydweithwyr fel arfer yn sylweddoli hynny. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn teimlo'n flin os bydd rhywun yn ceisio tynnu'ch sylw chi at hyn. Rydych chi'n dechrau colli cysylltiad â materion dydd i ddydd - ac â theimladau pobl eraill.

Symptomau seicotig

Os bydd cyfnod o fania neu iselder yn mynd yn ddifrifol iawn, efallai y byddwch chi'n datblygu syniadau rhithdybiol1.

  • Mewn cyfnod manig - bydd y rhain yn dueddol o fod yn syniadau mawreddog amdanoch chi'ch hun - eich bod ar genhadaeth bwysig neu fod gennych bwerau a galluoedd arbennig.
  • Mewn cyfnod o iselder - gallwch deimlo eich bod yn neilltuol o euog, eich bod yn waeth na neb arall, neu hyd yn oed nad ydych chi ddim yn bodoli.

Yn ogystal â'r syniadau anarferol hyn, efallai y byddwch chi'n profi rhithweledigaethau - pan fyddwch chi'n clywed, yn arogli, yn teimlo neu'n gweld rhywbeth, ond does dim byd (na neb) yno i'w egluro.

Rhwng cyfnodau

Mae rhai pobl sydd ag anhwylder deubegynol yn teimlo eu bod yn gwella'n llwyr rhwng eu cyfnodau o hwyliau ansad - ond nid yw llawer yn gwneud hynny. Gallwch barhau i deimlo'n isel a chael problemau meddwl, hyd yn oed pan fydd yn ymddangos (i bobl eraill) eich bod yn well.

Gall pwl o anhwylder deubegynol olygu bod yn rhaid i chi roi’r gorau i yrru am gyfnod – mae'n rhaid i chi ddweud wrth y DVLA os oes anhwylder deubegynol arnoch chi. Mae gwybodaeth am hyn ar wefan y DVLA.

Pwy fydda i'n ei weld?

Efallai y byddwch chi'n gweld eich meddyg teulu i ddechrau, yn enwedig os byddwch chi'n cael pwl o iselder. Ond, os byddwch chi’n cael diagnosis o anhwylder deubegynol, bydd yn rhaid i'r meddyg eich cyfeirio at arbenigwr - seiciatrydd. Mae canllawiau NICE yn argymell mai arbenigwr ddylai ragnodi cwrs o sefydlogyddion hwyliau7, hyd yn oed os mai eich meddyg teulu fydd yn gyfrifol am eich gofal yn ddiweddarach.

Pan fyddwch chi'n gweld seiciatrydd, byddwch hefyd yn cyfarfod aelodau eraill o'r tîm iechyd meddwl cymunedol (TIMC). Byddant yn gallu helpu gyda chefnogaeth emosiynol, gwybodaeth, ymyriadau seicolegol, a helpu i roi trefn ar faterion ymarferol.

Unwaith y bydd yn edrych yn debyg bod unrhyw feddyginiaeth rydych yn ei chymryd yn effeithiol ac wedi sefydlogi, gall eich meddyg teulu ymgymryd â'r rhan fwyaf o'ch gofal, er y bydd fel arfer yn dymuno i chi gadw mewn cysylltiad â seiciatrydd a'r TIMC.

Meddyginiaethau i drin anhwylder deubegynol

Mae yna bethau sy'n gallu helpu i reoli hwyliau ansad, fel nad ydyn nhw'n datblygu i fod yn gyfnodau llawn o fania neu iselder. Trafodir y rhain isod, ond yn aml mae angen meddyginiaeth i:

  • gadw eich hwyliau'n sefydlog (proffylacsis)
  • trin cyfnod manig neu gyfnod o iselder.

Mae yna nifer o sefydlogyddion hwyliau, a defnyddir rhai ohonynt hefyd i drin epilepsi neu i helpu gyda sgitsoffrenia8. Efallai y bydd angen i'ch seiciatrydd ddefnyddio mwy nag un feddyginiaeth i reoli hwyliau ansad yn effeithiol9.

Lithiwm

Mae lithiwm wedi cael ei ddefnyddio fel sefydlogydd hwyliau ers degawdau - ond nid yw eto'n glir sut mae'n gweithio. Dyma'r dewis cyntaf o hyd ar gyfer triniaeth hirdymor ar gyfer anhwylder deubegynol a gellir ei ddefnyddio i drin cyfnodau o fania ac o iselder.

Seiciatrydd ddylai ddechrau triniaeth â lithiwm. Yr anhawster yw cael lefel y lithiwm yn y corff yn iawn – os yw'n rhy isel ni fydd yn gweithio, os yw'n rhy uchel gall eich niweidio. O'r herwydd, bydd angen i chi gael profion gwaed rheolaidd yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf i wneud yn siŵr eich bod yn cael y dos cywir1 10. Unwaith y bydd y dos yn sefydlog, gall eich meddyg teulu ragnodi'r lithiwm i chi a threfnu profion gwaed rheolaidd ar gyfer y tymor hwy.

Mae faint o lithiwm sydd yn eich gwaed yn sensitif iawn i lefelau'r dŵr yn eich corff. Os byddwch yn dioddef o ddiffyg hylif, bydd lefel y lithiwm yn eich gwaed yn codi, a byddwch yn fwy tebygol o brofi sgil-effeithiau, neu hyd yn oed effeithiau gwenwynig1. Felly, mae’n bwysig:

  • yfed digon o ddŵr – mwy mewn tywydd poeth neu pan fyddwch chi'n weithgar
  • cymryd gofal o ran faint o de neu goffi rydych chi'n ei yfed - maen nhw'n cynyddu faint o ddŵr sy'n cael ei basio yn eich wrin.

Gall gymryd tri mis neu fwy i lithiwm weithio'n iawn. Mae'n well parhau i gymryd y tabledi, hyd yn oed os byddwch yn parhau i brofi hwyliau ansad yn ystod y cyfnod hwn.

Sgil-effeithiau

Gall y rhain ddechrau yn yr ychydig wythnosau cyntaf ar ôl dechrau triniaeth lithiwm. Gallant fod yn annifyr ac yn annymunol, ond yn aml byddant yn diflannu neu'n gwella gydag amser.

Maent yn cynnwys:

  • teimlo'n sychedig.
  • pasio mwy o wrin (ac yn amlach) nag arfer.
  • ennill pwysau.

Mae’r canlynol yn sgil-effeithiau llai cyffredin:

  • golwg aneglur.
  • ychydig o wendid yn y cyhyrau.
  • dolur rhydd ysbeidiol.
  • cryndod mân yn y dwylo.
  • teimlo ychydig yn sâl.

Fel arfer gellir gwella'r effeithiau hyn trwy leihau'r dos o lithiwm.

Mae'r arwyddion canlynol yn awgrymu bod eich lefel lithiwm yn rhy uchel. Cysylltwch â'ch meddyg ar unwaith os byddwch yn sylwi:

  • eich bod yn teimlo'n sychedig iawn.
  • bod gennych ddolur rhydd drwg neu eich bod yn chwydu.
  • cryndod amlwg yn eich dwylo a'ch coesau.
  • gwingo yn eich cyhyrau.
  • eich bod yn mynd yn gymysglyd neu'n ddryslyd.

Profion gwaed ac wrin

I ddechrau bydd angen profion gwaed arnoch bob ychydig wythnosau i wneud yn siŵr bod gennych chi’r lefel gywir o lithiwm yn eich gwaed. Bydd angen y profion hyn arnoch tra byddwch yn dal i gymryd lithiwm, ond yn llai aml ar ôl y misoedd cyntaf.

Gall defnydd hirdymor o lithiwm effeithio ar yr arennau neu'r chwarren thyroid. Bydd angen i chi gael profion gwaed ac wrin bob ychydig fisoedd i sicrhau bod yr organau hyn yn dal i weithio'n iawn. Os oes problem, efallai y bydd angen i chi roi'r gorau i gymryd lithiwm a thrafod dewis arall â'ch meddyg.

Gofalu amdanoch eich hun5

  • Bwytewch ddeiet cytbwys.
  • Yfwch ddiodydd heb siwgr yn rheolaidd. Mae hyn yn helpu i gadw’r cydbwysedd rhwng halen a hylif yn eich corff. Osgowch yfed cola a diodydd meddal gyda llawer o siwgr ynddynt.
  • Bwytewch yn rheolaidd - bydd hyn hefyd yn helpu i gynnal cydbwysedd hylif eich corff.
  • Cadwch olwg am gaffein - mewn te, coffi neu gola. Mae hwn yn gwneud i chi basio dŵr yn amlach, ac felly gall amharu ar eich lefel lithiwm.

Sefydlogyddion hwyliau eraill

Mae meddyginiaethau eraill, ar wahân i lithiwm, a all helpu. Bydd sut y defnyddir y rhain yn dibynnu a yw'r driniaeth ar gyfer cyfnod manig neu gyfnod o iselder, neu i rwystro'r rhain rhag digwydd - ac a yw'r person eisoes yn cymryd cyffur gwrthiselder.

  • Meddyginiaethau gwrth-epilepsi/gwrthgonfylsiwn:
    • Mae'n bosibl bod sodium valproate, cyffur gwrthgonfylsiwn, yn gweithio cystal â lithiwm, ond nid oes gennym ddigon o dystiolaeth eto i fod yn sicr. Os caiff ei gymryd yn ystod beichiogrwydd gall niweidio babi sydd heb ei eni, felly ni ddylid ei ragnodi i unrhyw un a allai feichiogi.
    • Mae carbamazepine a lamotrigine hefyd yn effeithiol i rai pobl.
  • Meddyginiaethau gwrthseicotig: Haloperidol, olanzapine, quetiapine a risperidone.

Pryd i ddechrau cymryd sefydlogydd hwyliau

Ar ôl un pwl yn unig o hwyliau da neu ddrwg, mae'n anodd rhagweld pa mor debygol yw hi y byddwch chi'n cael un arall. Nid yw rhai pobl eisiau dechrau cymryd sefydlogydd hwyliau ar yr adeg hon, ond gall cyfnodau o fania fod yn ddifrifol ac yn drafferthus iawn.

Os byddwch chi'n profi ail gyfnod, mae siawns gref y bydd cyfnodau pellach yn dilyn. Felly, yn y sefyllfa honno, byddai sefydlogydd hwyliau yn cael ei argymell yn gryfach.

Am ba mor hir y dylai rhywun gymryd sefydlogydd hwyliau?

Am o leiaf:

  • Dwy flynedd ar ôl un cyfnod o anhwylder deubegynol.
  • Pum mlynedd os bu:
    • cyfnodau aml o ailwaelu yn y gorffennol
    • cyfnodau seicotig
    • camddefnyddio alcohol neu sylweddau
    • straen parhaus gartref neu yn y gwaith.

Os byddwch chi'n penderfynu rhoi'r gorau i'ch meddyginiaeth, dylech drafod hyn â'ch meddyg. Fel arfer mae’n well parhau i weld eich seiciatrydd am 2 flynedd ar ôl rhoi’r gorau i feddyginiaeth ar gyfer anhwylder deubegynol fel y gall eich asesu am unrhyw arwyddion o ailwaelu.

Os byddwch chi'n parhau i gael cyfnodau trafferthus o hwyliau ansad, efallai y bydd angen i chi barhau â'r feddyginiaeth am gyfnod hirach.

Bydd angen i chi drafod hyn â'ch meddyg, ond mae yna rai egwyddorion cyffredinol.

  • Lithiwm fel arfer yw'r dewis cyntaf; a sodium valproate yn ail ddewis, er y gellir hefyd ei ragnodi gyda lithiwm. Gellir rhoi cynnig ar olanzapine os nad yw lithiwm a sodium valproate wedi helpu.
  • Gellir defnyddio quetiapine hefyd, yn enwedig pan fydd rhywun yn parhau i fod yn isel rhwng cyfnodau manig8.
  • Gellir awgrymu lamotrigine ar gyfer anhwylder deubegynol II neu iselder deubegynol, ond nid ar gyfer mania.
  • Weithiau mae angen cyfuniad o'r cyffuriau hyn.

Mae llawer yn dibynnu ar ba mor dda rydych chi'n ymateb i feddyginiaeth benodol. Efallai na fydd beth sy'n addas i un person yn gweddu i berson arall.

Mae lithiwm yn lleihau eich siawns o ailwaelu 30–40%8, ond po fwyaf o gyfnodau manig rydych chi wedi’u cael, y mwyaf tebygol y byddwch chi o gael un arall.

Nifer y cyfnodau manig blaenorolY siawns o gael cyfnod arall yn y flwyddyn nesaf
Peidio â chymryd LithiwmCymryd Lithiwm
1-210% (10 o bob 100)6-7% (6-7 o bob 100)
3-420% (20 o bob 100)12% (12 o bob 100)
5+40% (40 o bob 100)26% (26 o bob 100)

Wrth i chi fynd yn hŷn, mae'r risg o gael cyfnodau pellach yn aros yr un fath. Hyd yn oed os ydych chi wedi bod yn iach am amser hir, rydych chi'n dal i wynebu risg o gael cyfnod arall.

Dylech drafod unrhyw gynlluniau ar gyfer beichiogi â'ch seiciatrydd. Gyda'ch gilydd, gallwch drefnu sut i reoli'ch hwyliau yn ystod y beichiogrwydd ac am yr ychydig fisoedd cyntaf ar ôl i'r babi gyrraedd. Ni ddylid rhagnodi lithiwm a sodium valproate os ydych chi'n feichiog neu'n bwriadu beichiogi.

Os byddwch chi'n beichiogi tra byddwch chi'n cymryd lithiwm, mae'n well trafod â'ch seiciatrydd a oes angen i chi roi'r gorau i gymryd lithiwm. Er bod lithiwm yn fwy diogel yn ystod beichiogrwydd na'r sefydlogyddion hwyliau eraill, mae risg sylweddol o broblemau'r galon i'r babi. Bydd angen pwyso a mesur y risg hon yn erbyn y risg y byddwch chi'n mynd yn isel neu'n fanig.

Mae'r risg fwyaf yn ystod tri mis cyntaf beichiogrwydd. Mae lithiwm yn ddiogel ar ôl 26 wythnos o feichiogrwydd. Fodd bynnag, ni ddylech fwydo'ch babi ar y fron os ydych chi'n cymryd lithiwm oherwydd gall fod yn wenwynig i'ch babi12.

Bydd yn werth trafod y posibilrwydd o ddechrau rhai o'r triniaethau seicolegol a grybwyllir uchod.

Yn ystod beichiogrwydd, mae angen i bawb sydd ynghlwm - yr obstetrydd, bydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddyg teulu, seiciatrydd, a nyrs seiciatrig gymunedol - gadw mewn cysylltiad agos â'i gilydd.

Yn ystod cyfnod o iselder, neu rhwng cyfnodau o fania ac iselder ysbryd, gall triniaethau seicolegol fod yn ddefnyddiol1 5 11. Gall y rhain gynnwys:

  • seico-addysg – dysgu mwy am anhwylder deubegynol
  • monitro hwyliau – rydych chi'n dysgu adnabod pan fydd eich hwyliau'n dechrau newid
  • help i ddatblygu sgiliau ymdopi cyffredinol
  • therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) ar gyfer cyfnodau o iselder, yn ogystal â rhwng cyfnodau o’r fath (mae triniaeth fel arfer yn cynnwys rhwng 16 ac 20 sesiwn o awr yr un dros gyfnod o 3 i 4 mis)
  • therapi rhyngbersonol (IPT)
  • therapi ymddygiadol i gyplau
  • cyfarfodydd teulu.

Cyfnodau o iselder

  • Os yw eich iselder yn weddol ddifrifol fan leiaf, efallai y bydd eich meddyg yn awgrymu:
    • fluoxetine (cyffur gwrthiselder SSRI) gydag olanzapine (cyffur gwrthseicotig sy'n gweithredu fel sefydlogydd hwyliau)
    • quetiapine
    • opsiynau eraill os na fydd y dewisiadau uchod wedi helpu.
  • Os ydych chi eisoes yn cymryd lithiwm neu sodium valproate, gall ychwanegu quetiapine helpu.
  • Os ydych chi wedi cael cyfnod manig yn ddiweddar neu os oes gennych anhwylder sy'n achosi dilyniant cyflym o hwyliau newidiol (rapid cycling), gall cyffur gwrthiselder achosi cyfnod manig. Efallai y bydd yn fwy diogel cynyddu dos y sefydlogydd hwyliau, heb gyffur gwrthiselder.
  • Gall cyffuriau gwrthiselder gymryd rhwng pythefnos a chwe wythnos i wella'ch hwyliau, ond mae cwsg ac awydd bwyd yn aml yn gwella gyntaf. Dylid parhau i gymryd cyffuriau gwrthiselder am bedair wythnos ar ôl i'r iselder wella. Yna, gallwch chi a'ch meddyg drafod sut i barhau â'r feddyginiaeth neu ystyried rhoi cynnig ar driniaeth siarad. Os byddwch am roi'r gorau i gymryd eich cyffur gwrthiselder, bydd angen torri i lawr yn araf ar y dos cyn i chi roi'r gorau i'w gymryd yn gyfan gwbl.
  • Os ydych chi'n cael pyliau niferus o iselder, ond erioed wedi profi cyfnod o fania ar gyffuriau gwrthiselder, gallwch barhau i gymryd sefydlogydd hwyliau a chyffur gwrthiselder i rwystro cyfnodau pellach.
  • Os ydych chi wedi cael cyfnodau manig, ni ddylech gymryd cyffuriau gwrthiselder yn y tymor hir.

Mania a chyfnodau o iselder cymysg

Dylid rhoi'r gorau i unrhyw gyffur gwrthiselder. Gellir defnyddio haloperidol, olanzapine, quetiapine neu risperidone i drin cyfnod manig. Os nad yw'r rhain yn gweithio'n dda, gellir ychwanegu lithiwm.

Unwaith y bydd y driniaeth wedi dechrau, mae'r symptomau fel arfer yn gwella o fewn ychydig ddyddiau, ond gall gymryd sawl wythnos i wella'n llwyr. Dylech ofyn cyngor eich meddyg os ydych chi'n meddwl gyrru tra byddwch yn cymryd y math hwn o feddyginiaeth.

Cymorth arall

Os byddwch chi'n mynd i drafferthion oherwydd, er enghraifft, gwario gormod pan fyddwch chi mewn hwyliau uchel, dylai eich tîm iechyd meddwl eich helpu chi i drafod â'ch banc neu â'r bobl y mae arnoch chi arian iddyn nhw. Os yw hyn wedi digwydd, efallai y byddai’n werth meddwl am roi atwrneiaeth dros eich materion i ofalwr neu berthynas rydych chi'n ymddiried ynddo.

Hunan-fonitro

Dysgwch sut i adnabod yr arwyddion bod eich hwyliau'n mynd allan o reolaeth fel y gallwch gael help yn gynnar. Efallai y byddwch chi'n gallu osgoi pyliau dwys a chyfnodau yn yr ysbyty. Gall cadw dyddiadur hwyliau helpu i adnabod y pethau yn eich bywyd sy'n eich helpu - a'r rhai sydd ddim yn eich helpu.

Gwybodaeth

Dysgwch gymaint ag y gallwch am eich salwch - a'r help sydd ar gael. Mae rhestr o ffynonellau gwybodaeth bellach ar ddiwedd y daflen hon. Gweler isod am grwpiau cymorth a sefydliadau gofal.

Straen

Ceisiwch osgoi sefyllfaoedd sy'n peri straen - gall y rhain achosi cyfnod manig neu gyfnod o iselder. Mae'n amhosibl osgoi pob straen, felly gall fod yn ddefnyddiol dysgu ffyrdd o ddelio’n well â straen. Gallwch wneud hyfforddiant ymlacio gyda CD neu DVD, ymuno â grŵp ymlacio, neu ofyn am gyngor gan seicolegydd clinigol.

Perthnasoedd

Gall iselder neu fania roi llawer o straen ar ffrindiau a theulu - efallai y byddwch chi'n gweld bod yn rhaid i chi ailadeiladu rhai perthnasoedd ar ôl cyfnod o hwyliau uchel neu isel.

Mae'n ddefnyddiol cael o leiaf un person y gallwch ddibynnu arno ac ymddiried ynddo. Pan fyddwch chi'n iach, ceisiwch egluro'r salwch wrth bobl sy'n bwysig i chi. Mae angen iddynt ddeall beth sy'n digwydd i chi - a beth allan nhw ei wneud i chi.

Gweithgareddau

Ceisiwch gydbwyso eich bywyd a'ch gwaith, hamdden, a pherthnasoedd gyda'ch teulu a'ch ffrindiau. Os byddwch chi'n mynd yn rhy brysur efallai y bydd hynny’n achosi cyfnod manig.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael digon o amser i ymlacio a dadflino. Os ydych chi'n ddi-waith, meddyliwch am ddilyn cwrs, neu wneud rhywfaint o waith gwirfoddol sydd heb unrhyw gysylltiad â salwch meddwl.

Ymarfer corff

Mae'n ymddangos bod gwneud ymarfer corff cymharol ddwys am tua 20 munud, dair gwaith yr wythnos, yn gwella hwyliau.

Hwyl

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud pethau rydych chi'n eu mwynhau ac sy'n rhoi ystyr i'ch bywyd yn rheolaidd.

Daliwch i gymryd eich meddyginiaeth

Efallai y byddwch yn dymuno rhoi'r gorau i gymryd eich meddyginiaeth cyn bod eich meddyg yn meddwl fod hynny'n ddiogel - ond gall hyn arwain at newid arall yn eich hwyliau. Trafodwch hyn â'ch meddyg a'ch teulu pan fyddwch chi'n iach.

Os ydych chi wedi cael eich derbyn i’r ysbyty oherwydd anhwylder deubegynol, efallai yr hoffech chi - gyda’ch meddyg a’ch teulu - ysgrifennu:

  • 'datganiad ymlaen llaw', i nodi sut yr hoffech gael eich trin os byddwch yn mynd yn sâl eto (gall hyn gynnwys unrhyw wybodaeth rydych chi'n ystyried yn bwysig i’ch iechyd neu'ch gofal)
  • 'penderfyniad ymlaen llaw' i wrthod unrhyw driniaethau penodol nad ydych yn dymuno eu cael.

Os ydych chi'n cymryd lithiwm neu unrhyw feddyginiaeth arall ar gyfer eich anhwylder deubegynol, disgwylir i'ch meddyg teulu roi asesiad iechyd corfforol blynyddol i chi.1 Bydd hyn yn mesur eich:

  • Pwysedd gwaed.
  • Pwysau a Mynegai Màs y Corff (BMI).
  • Defnydd o alcohol ac ysmygu.
  • Lefelau siwgr yn y gwaed.
  • Lefelau lipid - ar gyfer pob claf dros 40 oed.
  • Os ydych chi'n cymryd lithiwm, bydd angen:
    • archwiliad lefel lithiwm bob 3-6 mis.
    • Prawf gwaed i fesur gweithrediad y thyroid a'r arennau bob 6 mis. Os oes unrhyw broblemau, efallai y bydd angen i chi gael y profion gwaed hyn yn amlach.

Gall mania neu iselder achosi gofid - a blinder - i deulu a ffrindiau.

Delio â chyfnod o hwyliau ansad

Iselder

Gall fod yn anodd gwybod beth i'w ddweud wrth rywun sy'n isel iawn eu hysbryd. Maen nhw'n gweld popeth mewn golau negyddol ac efallai na fyddant yn gallu dweud beth maen nhw am i chi ei wneud. Gallant fod yn encilgar ac yn bigog, ond ar yr un pryd mae angen eich help a'ch cefnogaeth arnyn nhw. Efallai eu bod yn poeni, ond yn methu neu'n anfodlon i dderbyn cyngor. Ceisiwch fod mor amyneddgar a deallgar â phosibl.

Mania

Ar ddechrau cyfnod manig, bydd y person yn ymddangos yn hapus, yn egnïol ac yn allblyg - enaid unrhyw barti neu drafodaeth danbaid. Fodd bynnag, bydd cyffro sefyllfaoedd o'r fath yn tueddu i wthio eu hwyliau yn uwch fyth. Felly, ceisiwch eu cadw draw o sefyllfaoedd o'r fath. Gallwch geisio eu perswadio i gael cymorth - neu efallai y gallwch ddod o hyd i wybodaeth iddyn nhw am y salwch ac am hunangymorth.

Mae cymorth ymarferol yn bwysig iawn - ac yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Gwnewch yn siŵr bod eich perthynas neu ffrind yn gallu gofalu am ei hun yn iawn – ac nad yw tasgau ymarferol, bob dydd, fel talu biliau, yn cael eu hanghofio.

Helpu eich anwyliaid i gadw'n iach

Rhwng cyfnodau o hwyliau ansad, dysgwch fwy am anhwylder deubegynol. Gall fod yn ddefnyddiol mynd gyda'ch ffrind neu anwylyd i apwyntiadau gyda'r meddyg teulu neu'r seiciatrydd.

Dylai eich gwasanaeth seiciatrig lleol fedru darparu cefnogaeth, cyfarfodydd teulu a gwybodaeth am anhwylder deubegynol i'ch teulu.

Cadw'n iach eich hun

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael cyfle ac amser i fagu nerth newydd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael rhywfaint o amser ar eich pen eich hun, neu gyda ffrindiau y gallwch ymddiried ynddyn nhw ac a fydd yn rhoi'r gefnogaeth sydd ei angen arnoch. Os bydd rhaid i'ch perthynas neu ffrind fynd i'r ysbyty, rhannwch yr ymweliadau â rhywun arall. Gallwch gynnig gwell cefnogaeth i'ch ffrind neu berthynas drwy wneud yn siŵr nad ydych chi'n gorflino.

Delio ag argyfwng

  • Mewn mania difrifol, gall person ddod yn elyniaethus, yn amheus ac yn ffrwydrol ar lafar neu'n gorfforol.
  • Mewn iselder difrifol, gall person ddechrau meddwl am hunanladdiad.

Os byddwch chi'n gweld fod rhywun yn:

  • esgeuluso ei hun yn ddifrifol trwy beidio â bwyta neu yfed
  • ymddwyn mewn ffordd sy’n eu rhoi nhw, neu eraill, mewn perygl
  • sôn am niweidio neu ladd ei hun

Galwch am gymorth meddygol ar unwaith. Efallai y bydd rhif ffôn argyfwng ar gael ar gyfer yr ymddiriedolaeth iechyd meddwl neu dîm brys. Bydd seiciatrydd ar gael 24 awr y dydd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys.

Gwnewch gofnod o enw a rhif ffôn gweithiwr proffesiynol y gallwch ymddiried ynddo a'i ffonio mewn argyfwng o'r fath. Ambell waith, efallai y bydd angen cyfnod byr yn yr ysbyty.

Os byddwch chi'n cael pwl o fania neu iselder ysbryd, efallai na fyddwch chi'n gallu gofalu am eich plant yn iawn am gyfnod. Bydd angen i'ch partner, neu aelod arall o'r teulu, wneud hyn tra byddwch chi'n sâl. Gall fod yn ddefnyddiol gwneud cynlluniau ar gyfer hyn ymlaen llaw, pan fyddwch chi’n iach.

Efallai y bydd eich plentyn yn teimlo'n bryderus ac yn ddryslyd pan fyddwch chi'n sâl. Os nad ydyn nhw'n gallu mynegi eu gofid mewn geiriau, efallai y bydd plant bach yn glynu atoch neu efallai y bydd eu hymddygiad yn anodd. Bydd plant hŷn yn dangos eu teimladau mewn ffyrdd eraill.

Bydd o gymorth i blant os yw’r oedolion o’u cwmpas yn sensitif, yn ddeallgar, ac yn gallu ymateb i’w hanawsterau a’u cwestiynau mewn ffordd dawel, gyson a chefnogol. Gall oedolyn eu helpu i ddeall pam mae eu rhiant yn ymddwyn yn wahanol. Bydd angen ateb cwestiynau yn bwyllog, yn ffeithiol ac mewn iaith y maent yn ei deall. Byddant yn teimlo'n well os bydd eu trefn ddyddiol arferol yn aros yr un fath.

Egluro anhwylder deubegynol wrth blant

Weithiau mae plant hŷn yn poeni mai nhw sydd wedi achosi salwch eu rhiant. Mae angen rhoi sicrwydd iddyn nhw nad oes dim bai arnyn nhw, a hefyd rhoi amser a chefnogaeth iddyn nhw. Pan fydd plentyn hŷn yn cael ei hun yn gofalu am riant sy'n sâl, bydd angen dealltwriaeth arbennig a chymorth ymarferol arno.

Bipolar UK
Mae Bipolar UK yn darparu cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i bobl sydd ag anhwylder deubegynol, eu ffrindiau a'u gofalwyr.
Llinell cymorth cyfoedion:
 07591375544 (peiriant ateb a galwadau'n ôl)

Bipolar Fellowship Scotland
Mae Bipolar Fellowship Scotland yn darparu gwybodaeth, cymorth a chyngor i bobl sydd wedi’u heffeithio gan anhwylder deubegynol ac i bawb sy’n gofalu amdanyn nhw. Maent yn hyrwyddo hunangymorth ledled yr Alban ac yn rhannu gwybodaeth ac yn addysgu am y salwch ac am y sefydliad.
Ffôn:
 0141 560 2050

Ochr-yn-ochr - cymuned ar-lein MIND
Mae Ochr-yn-ochr yn gymuned gefnogol ar-lein lle gallwch deimlo’n gartrefol yn siarad am eich iechyd meddwl a chysylltu ag eraill sy’n deall beth rydych chi'n mynd drwyddo.

Llinellau Cymorth MIND
Mae MIND yn darparu llinellau cymorth i drafod iechyd meddwl.

Samariaid
Mae’r Samariaid yn darparu cymorth cyfrinachol, anfeirniadol 24 awr y dydd dros y ffôn a thrwy e-bost i unrhyw un sy’n poeni, yn profi gofid neu’n teimlo'n hunanladdol.
Ffôn: 
116 123. Llinell Gymraeg: 0808 164 0123 (7pm – 11pm bob nos)
E-bost: 
jo@samaritans.org

  • Fast A. J., Preston J. D. Loving someone with bipolar disorder: understanding and helping your partner. New Harbinger Publications; 2012.
  • Geddes, J. (2003) Bipolar disorder. Evidence-Based Mental Health, 6 (4): 101-2.
  • Goodwin, G.M. (2009) Evidence-based guidelines for treating Bipolar disorder: revised third edition - recommendations from The British Association for Psychopharmacology. Journal of Psychopharmacology, 30(6); 495-553.
  • Kay Redfield Jamison. An Unquiet Mind. Alfred A. Knopf; 1995.

Cynhyrchwyd gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â'r Cyhoedd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (RCPsych)

Golygydd y Gyfres: Dr Phil Timms

Rheolwr y Gyfres: Thomas Kennedy

© Awst 2020 Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o'r daflen hon heb ganiatâd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion.

This translation was produced by CLEAR Global (Mar 2023)

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry