Anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD)

Obsessive compulsive disorder (OCD)

Below is a Welsh translation of our information resource on obsessive compulsive disorder (OCD). You can also view our other Welsh translations.

Ymwadiad

Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Nodweddion OCD

Mae tair prif nodwedd i OCD.

  • Obsesiynau – y meddyliau sy'n eich gwneud chi'n bryderus
  • Emosiynau – y gorbryder rydych chi'n ei deimlo
  • Ymddygiadau cymhellol – y pethau rydych chi'n eu gwneud i leihau eich pryder

Gadewch i ni edrych yn fwy manwl ar y rhain.

Obsesiynau – y meddyliau sy'n eich gwneud chi'n bryderus

"Dw i'n ofni y bydda i'n niweidio fy merch fach. Dw i'n gwybod fy mod i ddim eisiau gwneud hynny, ond mae meddyliau drwg yn dod i fy mhen i o hyd. Mi alla i ddychmygu fy hun yn colli rheolaeth ac yn ei thrywanu hi â chyllell. Yr unig ffordd y galla i gael gwared ar y syniadau yna yw dweud gweddi, ac yna meddwl rhywbeth da fel "Dw i'n gwybod fy mod i'n ei charu hi'n fawr". Fel arfer mi fydda i'n teimlo ychydig yn well ar ôl hynny, tan y tro nesaf y daw'r lluniau ofnadwy yna i fy mhen i. Dw i wedi cuddio pob peth miniog a phob cyllell sydd yn fy nhŷ. Dw i'n meddwl i mi fy hun "rhaid dy fod ti'n fam ofnadwy i feddwl fel hyn. Mae'n rhaid fy mod i'n mynd yn wallgof". - Dawn
  • Syniadau - geiriau unigol, ymadroddion byr neu rigymau sy’n annymunol, yn gableddus neu’n peri sioc. Rydych chi'n ceisio peidio â meddwl amdanyn nhw, ond maen nhw’n dal i ddod i'ch pen. Rydych chi'n poeni y gallech chi gael eich heintio (gan afiechyd, germau neu faw), neu y gallai rhywun gael ei niweidio oherwydd eich bod chi wedi bod yn ddiofal.
  • Lluniau yn eich meddwl – rydych chi’n gweld eich teulu wedi marw, neu’n gweld eich hun yn gwneud rhywbeth treisgar neu rywiol sy’n gwbl groes i’ch cymeriad – yn trywanu neu’n cam-drin rhywun, neu’n bod yn anffyddlon. Gall meddyliau o'r fath fod yn frawychus iawn, i'r dioddefwr, ei deulu a hyd yn oed i weithwyr proffesiynol. Ond gwyddom nad yw pobl sydd ag obsesiynau yn gweithredu ar y meddyliau hyn er eu bod nhw'n ofni y byddan nhw'n gwneud hynny. Nid yw person sydd ag OCD mewn mwy o berygl o achosi niwed nag unrhyw aelod arall o'r cyhoedd. Serch hynny, os oes ydych chi'n cael meddyliau o'r fath, mae'n well gweld gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol sydd â phrofiad arbenigol o drin OCD.
  • Amheuon - rydych chi'n meddwl am oriau a allech chi fod wedi achosi damwain neu anffawd i rywun. Efallai eich bod chi'n poeni eich bod wedi taro/bwrw rhywun i lawr yn eich car, neu eich bod chi wedi gadael eich drysau a’ch ffenestri heb eu cloi.
  • Pendroni - rydych chi'n dadlau'n ddiddiwedd â chi'ch hun a ydych chi am wneud y naill beth neu'r llall, sy'n arwain at fethu gwneud y penderfyniad symlaf.
  • Perffeithiaeth - rydych chi'n poeni, mewn ffordd nad yw pobl eraill yn poeni, os fydd pethau ddim yn y drefn gywir, ddim yn gytbwys neu ddim yn y lle iawn. Er enghraifft, os nad yw llyfrau wedi'u gosod mewn rhes daclus ar silff lyfrau.

Emosiynau – y gorbryder rydych chi'n ei deimlo

"Rydw i'n treulio fy niwrnod cyfan yn gwneud yn siŵr na fydd unrhyw beth yn mynd o'i le. Mae'n cymryd awr i mi adael y tŷ yn y bore, oherwydd dydw i byth yn siŵr fy mod i wedi diffodd yr holl offer trydanol fel y popty, a chloi'r ffenestri i gyd. Wedyn, dw i'n checio bum gwaith fod y tân nwy i ffwrdd, ond os nad yw'n teimlo'n iawn rhaid i mi wneud yr holl beth eto. Yn y diwedd, dw i'n gofyn i fy mhartner checio'r cyfan i mi eto beth bynnag. Yn y gwaith dw i bob amser ar ei hôl hi gan fy mod i’n mynd trwy bopeth sawl gwaith rhag ofn fy mod i wedi gwneud camgymeriad. Os nad ydw i'n checio, dw i'n teimlo mor bryderus na alla i ddim ei ddioddef. Dw i'n gwybod ei fod o'n hurt, ond dw i'n meddwl petai rhywbeth ofnadwy yn digwydd, fi fyddai ar fai". - John
  • Rydych chi'n teimlo'n llawn straen, yn bryderus, yn ofnus, yn euog, wedi ffieiddio neu'n isel eich ysbryd.
  • Rydych chi'n teimlo'n well os byddwch chi'n cyflawni eich ymddygiadau cymhellol, neu ddefod - ond nid yw’r teimlad yn para'n hir.

Ymddygiadau cymhellol – y pethau rydych chi'n eu gwneud i leihau eich pryder

"Mae arna i ofn dal rhywbeth gan bobl eraill. Dw i'n treulio oriau yn diheintio'r holl arwynebau yn fy nhŷ i gael gwared ar y germau, ac yn golchi fy nwylo sawl gwaith bob dydd. Os bosib, dw i'n ceisio peidio â gadael y tŷ. Pan fydd fy ngŵr a'r plant yn dod adref, mi fydda i'n eu holi nhw'n fanwl iawn am ble maen nhw wedi bod, rhag ofn eu bod nhw wedi ymweld â rhywle peryglus, fel ysbyty. Dw i hefyd yn gwneud iddyn nhw dynnu eu dillad i gyd a 'molchi'n drylwyr. Mae rhan ohono i’n sylweddoli bod yr ofnau yma'n dwp. Mae fy nheulu wedi cael llond bol, ond mae wedi mynd ymlaen ers cymaint o amser na alla i ddim stopio". - Liz
  • Ailgyfeirio meddyliau obsesiynol - rydych chi'n rhoi'ch sylw i feddyliau amgen niwtral fel cyfrif, gweddïo neu ddweud gair arbennig drosodd a throsodd. Mae'n teimlo fel bod hyn yn rhwystro pethau drwg rhag digwydd. Gall hefyd fod yn ffordd o gael gwared ar unrhyw feddyliau neu luniau annymunol sy'n eich poeni.
  • Defodau - rydych chi'n golchi'ch dwylo'n aml, yn gwneud pethau'n araf ac yn ofalus iawn, efallai'n trefnu gwrthrychau neu weithgareddau mewn ffordd arbennig. Oherwydd yr amser sydd ei angen i wneud hyn, gall gymryd oesoedd i fynd i unrhyw le neu i wneud unrhyw beth defnyddiol.
  • Gwirio - eich corff am halogiad, bod offer wedi’u diffodd, bod y tŷ wedi’i gloi neu fod llwybr eich taith yn ddiogel.
  • Osgoi - unrhyw beth sy’n eich atgoffa o feddyliau pryderus. Rydych chi'n osgoi cyffwrdd gwrthrychau penodol, mynd i rai mannau, cymryd risgiau neu dderbyn cyfrifoldeb. Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n osgoi'r gegin oherwydd eich bod yn gwybod y bydd cyllyll miniog yno.
  • Gorgasglu - pethau diwerth ac sydd ag ôl traul arnyn nhw. Dydych chi ddim yn gallu taflu unrhyw beth.
  • Sicrwydd - rydych chi’n gofyn dro ar ôl tro i eraill ddweud wrthych chi fod popeth yn iawn.

Mae tua 1 o bob 50 o bobl yn dioddef o OCD ar ryw adeg yn eu bywydau, dynion a merched fel ei gilydd. Mae hynny’n gyfanswm o dros 1 miliwn o bobl yn y DU.

Mae'n bosib bod y biolegydd Charles Darwin, y nyrs arloesol Florence Nightingale, yr actores Cameron Diaz, a'r chwaraewr pêl-droed David Beckham ymysg yr enwogion sy’n dioddef o’r cyflwr.

Na. Mae'r geiriau 'cymhellol' ac 'obsesiynol' yn cael eu defnyddio weithiau i ddisgrifio pobl sy'n gamblo, yfed alcohol, siopa, defnyddio cyffuriau stryd - neu hyd yn oed yn gwneud gormod o ymarfer corff.

Fodd bynnag, gall yr ymddygiadau hyn fod yn bleserus. Nid yw ymddygiadau cymhellol OCD byth yn rhoi pleser - maen nhw bob amser yn teimlo fel cymhelliad annymunol neu faich.

Mae'n amrywio llawer, ond mae gwaith, perthnasoedd a bywyd teuluol i gyd yn fwy cynhyrchiol a boddhaol os nad ydych chi'n gorfod ymdopi'n gyson ag OCD.

Gall OCD difrifol ei gwneud hi'n amhosib gweithio'n rheolaidd, i gymryd rhan mewn bywyd teuluol - neu hyd yn oed i gyd-dynnu â'ch teulu.

Yn arbennig, efallai y bydd eich teulu yn mynd yn ofidus os byddwch chi'n ceisio eu cynnwys nhw yn eich defodau.


Na - nid yw pobl sydd ag OCD yn colli rheolaeth, er eu bod yn aml yn poeni llawer am hyn. Efallai y byddan nhw'n gofyn a ydyn nhw'n 'mynd yn wallgof' neu'n 'drysu'. Yn aml, byddan nhw'n teimlo cywilydd am sut maen nhw ac yn ceisio ei guddio, er nad eu bai nhw yw beth sy'n digwydd.

Er efallai y byddwch chi'n poeni am golli rheolaeth, rydyn ni’n gwybod mai anaml iawn y bydd hynny'n digwydd.

Mae nifer o gyflyrau eraill a all orgyffwrdd ag OCD, neu sydd yn debyg mewn rhai ffyrdd.

  • Anhwylder dysmorffig y corff, neu 'syndrom hylltra dychmygol'. Rydych chi'n dod yn argyhoeddedig bod rhan o'ch wyneb neu'ch corff yn edrych yn anghywir, ac yn treulio oriau o flaen drych yn gwirio ac yn ceisio ei guddio. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn rhoi'r gorau i fynd allan yn gyhoeddus.
  • Trichotillomania - ysfa i dynnu eich gwallt neu flew'r aeliau.
  • Pryder iechyd (hypochondriasis) - ofn dioddef o salwch corfforol difrifol, fel canser.
  • Yn aml mae gan bobl sydd â syndrom Tourette (lle gall person weiddi'n sydyn neu wneud symudiadau anfwriadol) OCD hefyd.
  • Gall plant ac oedolion sydd â rhai mathau o awtistiaeth, fel syndrom Asperger, ymddangos fel petaent ag OCD oherwydd eu bod yn hoffi i bethau fod yr un peth, ac efallai yn hoffi gwneud yr un peth dro ar ôl tro.

Mae gan lawer o blant ymddygiadau cymhellol ysgafn. Efallai eu bod yn trefnu eu teganau yn fanwl iawn, neu'n osgoi camu ar graciau yn y palmant. Mae hyn fel arfer yn diflannu wrth iddynt fynd yn hŷn.

Mae OCD mewn oedolion fel arfer yn dechrau yn yr arddegau neu'r ugeiniau cynnar. Gall symptomau fynd a dod gydag amser, ond yn aml nid yw dioddefwyr yn ceisio cymorth nes eu bod wedi dioddef o OCD ers blynyddoedd lawer.

Gall symptomau OCD wella neu ddiflannu am gyfnod, ond maent yn aml yn dychwelyd. Bydd rhai pobl yn gwaethygu'n araf, tra i eraill bydd y symptomau'n gwaethygu pan fyddant dan straen neu'n isel eu hysbryd.

Fel arfer, bydd triniaeth yn helpu.

Mae yna lawer o ffactorau sy'n pennu a yw OCD yn datblygu.

  • Genynnau - Mae OCD yn anhwylder cymhleth. Mae astudiaethau wedi dangos bod gwahanol ffactorau risg genetig yn gysylltiedig â datblygu OCD. Mae pobl sydd â pherthynas sydd ag OCD yn fwy tebygol o ddatblygu'r cyflwr na phobl heb berthynas agos sydd ag OCD.
  • Straen - Mae digwyddiadau llawn straen mewn bywyd yn arwain at ddatblygu OCD mewn tua un neu ddau o bob tri achos.
  • Newidiadau bywyd - Adegau pan fydd rhywun yn sydyn yn gorfod ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb - er enghraifft, y glasoed (oed aeddfedrwydd), genedigaeth plentyn neu swydd newydd.
  • Newidiadau i'r ymennydd - Nid ydym yn gwybod a yw hyn yn achosi, neu'n ganlyniad i OCD - ond os yw'r symptomau arnoch chi am fwy nag amser byr, mae ymchwilwyr yn meddwl bod y modd y mae'r cemegolyn serotonin (a elwir hefyd yn 5HT) yn gweithio yn yr ymennydd yn gallu newid.
  • Personoliaeth - Os ydych chi'n berson taclus, gofalus, trefnus gyda safonau uchel efallai y byddwch chi'n fwy tebygol o ddatblygu OCD. Mae'r rhinweddau hyn fel arfer yn ddefnyddiol, ond gallant ddatblygu i fod yn OCD os ydyn nhw'n mynd yn rhy eithafol.
  • Ffyrdd o feddwl - Mae bron bob un ohonon ni'n cael meddyliau neu luniau od neu ofidus yn ein meddyliau ar adegau - "beth petawn i'n camu allan o flaen y car yna?" neu "efallai y bydda i'n niweidio fy mhlentyn". Mae'r rhan fwyaf ohonon ni'n diystyru'r syniadau hyn yn gyflym ac yn bwrw ymlaen â'n bywydau. Ond, os yw eich safonau moesol a chyfrifoldeb yn arbennig o uchel, efallai y byddwch chi'n teimlo ei bod hyd yn oed cael y meddyliau hyn yn ofnadwy. Felly, rydych chi'n fwy tebygol o wylio rhag iddyn nhw ddod yn ôl - sydd yn ei gwneud hi'n fwy tebygol mai dyna fydd yn digwydd.

Dyma rai o’r pethau y gallwch chi eu gwneud sydd wedi helpu pobl eraill sydd ag OCD.

  • Cofio – nid arnoch chi mae'r bai a dydych chi ddim yn mynd yn 'wallgof'.
  • Dwyn eich meddyliau cythryblus i'r amlwg. Mae hyn yn swnio'n od, ond mae'n ffordd o gael mwy o reolaeth arnyn nhw. Gallwch eu recordio a gwrando arnyn nhw, neu eu cofnodi ar bapur a'u hailddarllen. Dylech wneud hyn yn rheolaidd am tua hanner awr bob dydd nes bod eich pryder yn lleihau.
  • Gwrthsefyll yr ymddygiad cymhellol, ond nid y meddwl obsesiynol.
  • Peidio â defnyddio alcohol neu gyffuriau stryd i reoli eich pryder.
  • Os yw'ch meddyliau'n cynnwys pryderon am eich ffydd neu grefydd, yna weithiau gall fod yn ddefnyddiol siarad ag arweinydd crefyddol i'ch helpu i ganfod a yw hon yn broblem OCD.
  • Cysylltwch ag un o'r grwpiau cymorth neu wefannau a restrir ar ddiwedd y daflen hon.
  • Rhowch gynnig ar lyfr hunangymorth, fel un o'r rhai a restrir ar ddiwedd y daflen hon.

Yn annisgwyl, gall rhai o'r dulliau yr ydych chi’n eu defnyddio i helpu eich hun weithio i gynnal y meddyliau:

  • Ceisio gwthio meddyliau annymunol o'ch meddwl – fel arfer, mae hyn yn gwneud i'r meddyliau ddychwelyd. Er enghraifft, ceisiwch beidio â meddwl am eliffant pinc am y funud nesaf - mae'n debyg y bydd hi'n anodd i chi feddwl am unrhyw beth arall.
  • Meddwl yn 'ddiogel' neu 'ailgyfeirio' meddyliau. Er enghraifft, rydych chi'n treulio amser yn ailgyfeirio meddyliau annifyr trwy gyflwyno meddyliau eraill (fel cyfrif i ddeg) neu lun (fel gweld person yn fyw ac yn iach).
  • Bydd defodau, gwirio, osgoi a cheisio sicrwydd i gyd yn eich gwneud chi'n llai pryderus am gyfnod byr - yn enwedig os ydych chi'n teimlo y gallai hyn rwystro rhywbeth ofnadwy rhag digwydd. Ond, bob tro rydych chi'n gwneud y pethau hyn, rydych chi'n atgyfnerthu eich argyhoeddiad eu bod nhw'n rhwystro pethau drwg rhag digwydd. Ac felly rydych chi'n teimlo mwy o bwysau i'w gwneud nhw... ac felly ymlaen.

Mae amrywiaeth o therapïau a mathau eraill o help ar gael i bobl sydd ag OCD.

Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT)

Mae hon yn driniaeth sy'n eich helpu i newid y ffordd rydych chi'n meddwl ac yn ymddwyn fel y gallwch chi deimlo'n well a bwrw ymlaen â'ch bywyd.

Defnyddir dau fath o CBT i drin OCD – Amlygiad (wynebu achosion gorbryder) a Rhwystro Ymateb (ERP) a Therapi Gwybyddol (CT).

Amlygiad a Rhwystro Ymateb (ERP)

Mae hon yn ffordd i rwystro ymddygiadau a phryderon cymhellol rhag cryfhau ei gilydd. Rydyn ni'n gwybod os byddwch chi'n aros mewn sefyllfa llawn straen yn ddigon hir, y byddwch chi’n dod i arfer ag hi yn raddol a bydd eich pryder yn diflannu. Fel hyn, rydych chi'n raddol yn wynebu'r sefyllfa rydych chi'n ei hofni (amlygiad) ond yn rhwystro eich hun rhag gwneud eich defodau cymhellol arferol, gwirio neu lanhau (rhwystro ymateb), ac yn aros i'ch pryder ddiflannu.

Fel arfer mae'n well gwneud hyn mewn camau bach:

  • gwnewch restr o'r holl bethau rydych chi'n eu hofni neu'n eu hosgoi ar hyn o bryd;
  • rhowch y sefyllfaoedd neu'r meddyliau rydych chi'n eu hofni leiaf ar y gwaelod, a'r rhai gwaethaf ar ben y rhestr;
  • yna dechreuwch ar y gwaelod a gweithiwch i fyny, gan fynd i'r afael ag un ar y tro. Peidiwch â symud ymlaen i'r cam nesaf nes eich bod wedi goresgyn yr un blaenorol.

Bydd hyn yn gweithio orau os byddwch chi'n ymarfer yn aml, sawl gwaith bob dydd, am o leiaf wythnos neu bythefnos. Bob tro, gwnewch hyn am ddigon o amser i’ch pryder ostwng i lai na hanner beth ydyw ar ei waethaf – gall hyn gymryd rhwng 10 a 90 munud i ddechrau. Gall cofnodi lefel eich pryder bob 5 munud, er enghraifft, o 0 (dim ofn) i 10 (ofn eithafol), fod yn ddefnyddiol. Byddwch yn gweld sut mae eich pryder yn codi, ac yna'n lleihau.

Efallai y byddwch chi'n ymarfer rhai o'r camau gyda'ch therapydd, ond gan amlaf byddwch chi'n gwneud hynny ar eich pen eich hun, ar gyflymder sy'n gyfforddus i chi. Mae'n bwysig cofio nad oes angen i chi gael gwared ar eich holl bryder, dim ond digon i'w reoli'n well. Cofiwch:

  • mae eich pryder yn annymunol ond ni fydd yn gwneud unrhyw niwed i chi.
  • bydd eich pryder yn diflannu yn y pen draw.
  • bydd wynebu eich pryder yn dod yn haws wrth i chi ymarfer yn rheolaidd.

Mae dwy brif ffordd o roi cynnig ar ERP:

  • Hunangymorth dan arweiniad - Rydych chi'n defnyddio llyfr neu DVD fel arweiniad, neu’n defnyddio rhaglen feddalwedd ar gyfrifiadur, llechen neu ap ffôn clyfar. Byddwch hefyd yn cael cyswllt achlysurol â gweithiwr proffesiynol am gyngor a chymorth. Gall y dull hwn fod yn addas os yw eich OCD yn ysgafn, ac oes os gennych chi'r hyder i roi cynnig ar ffyrdd o helpu eich hun.
  • Cyswllt rheolaidd uniongyrchol â gweithiwr proffesiynol, ar eich pen eich hun neu mewn grŵp - Gall hyn fod wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo. Mae hyn fel arfer yn digwydd bob wythnos neu bythefnos i ddechrau, a gall bara rhwng 45 a 60 munud ar y tro. Argymhellir hyd at ddeg awr o gyswllt i ddechrau, ond efallai y bydd angen mwy arnoch chi.

Dyma enghraifft:

Doedd John ddim yn gallu gadael y tŷ ar amser i fynd i'w waith bob dydd, roedd hyn oherwydd bod rhaid iddo wirio cymaint o bethau yn y tŷ. Roedd yn poeni y gallai'r tŷ losgi i lawr, neu efallai y byddai rhywun yn torri i mewn i'r tŷ, os nad oedd o'n gwirio rhai pethau bum gwaith yr un. Gwnaeth restr o beth roedd o'n ei wirio, gan ddechrau gyda'r hawsaf i'w daclo. Roedd yn edrych fel hyn:

  1. Y popty (yr ofn lleiaf)
  2. Y tegell
  3. Y tân nwy
  4. Y ffenestri
  5. Y drysau (yr ofn mwyaf)

Ei gam cyntaf oedd delio â'r popty, gan mai dyma oedd ei ofn lleiaf. Yn hytrach na gwirio nifer o weithiau bod y popty wedi'i ddiffodd, dim ond unwaith yr oedd yn ei wirio (amlygiad). Ar y dechrau, roedd yn teimlo'n bryderus iawn. Rhwystrodd ei hun rhag mynd yn ôl i wirio eto. Cytunodd i beidio â gofyn i'w wraig wirio popeth hefyd, ac i beidio â gofyn iddi am sicrwydd bod y tŷ yn ddiogel (rhwystro ymateb). Yn raddol dros y pythefnos nesaf daeth i deimlo'n llai ofnus.

Symudodd ymlaen wedyn i gam dau (y tegell) ac ati. Yn y diwedd, roedd yn gallu gadael y tŷ heb gyflawni unrhyw un o'i ddefodau gwirio. Gallai nawr gyrraedd y gwaith ar amser.

Effeithiolrwydd

Mae tua 3 o bob 4 o bobl sy'n cwblhau ERP yn cael llawer o fudd ohono. O'r rhai sy'n gwella, bydd tua 1 o bob 5 yn datblygu symptomau yn y dyfodol, a bydd angen triniaeth ychwanegol arnyn nhw. Fodd bynnag, mae tua 1 o bob 4 o bobl yn gwrthod rhoi cynnig ar ERP, neu ddim yn cwblhau'r cwrs. Efallai nad ydyn nhw’n gallu ei wneud oherwydd eu bod yn rhy ofnus, neu'n teimlo wedi’u llethu.

Therapi gwybyddol (CT)

Mae therapi gwybyddol yn driniaeth seicolegol sy'n eich helpu i newid eich ymateb i'r meddyliau, yn hytrach na cheisio cael gwared arnynt. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os ydych chi'n cael meddyliau obsesiynol sy'n peri pryder, ond nad ydych chi'n cyflawni unrhyw ddefodau neu weithredoedd i wneud i chi'ch hun deimlo'n well. Gellir hefyd ychwanegu CT at driniaeth amlygiad (ERP) i helpu i oresgyn OCD.

Mae therapi gwybyddol yn eich helpu i wneud y pethau canlynol:

Rhoi’r gorau i frwydro yn erbyn y meddyliau

Rydyn ni i gyd yn cael meddyliau od ar adegau, ond dyna'r cwbl ydyn nhw. Dydyn nhw ddim yn golygu eich bod chi’n berson drwg na bod pethau drwg yn mynd i ddigwydd - ac nid yw ceisio cael gwared ar feddyliau o'r fath yn gweithio. Gall therapi gwybyddol eich helpu i deimlo'n well, a hyd yn oed i ymlacio, pan fyddwch chi'n cael meddyliau o'r fath. Gallwch ddysgu eu trin â chwilfrydedd neu ddifyrrwch. Os byddwch chi’n cael mwy fyth o feddyliau annymunol, rydych chi'n dysgu peidio â'u gwrthsefyll, dim ond gadael iddyn nhw ddigwydd, a meddwl amdanyn nhw yn yr un ffordd. Bydd meddyliau o'r fath yn aml yn diflannu ar eu pennau'u hunain pan fyddwch chi'n rhoi'r gorau i geisio gwneud iddyn nhw ddiflannu.

Newid eich ymateb i'ch meddyliau

Rydych chi'n dysgu sylwi pan fyddwch chi'n cael 'meddyliau am feddyliau' fel 'dw i'n berson drwg am feddwl fel hyn'. Gallwch gadw dyddiadur o’r ffyrdd di-fudd hyn o feddwl, a'u herio drwy ofyn i chi'ch hun:

  • Beth yw'r dystiolaeth o blaid ac yn erbyn gwirionedd y syniad hwn?
  • Pa mor ddefnyddiol yw'r syniad hwn? Oes yna ffordd arall o edrych ar hyn?
  • Beth yw'r canlyniad gwaethaf/gorau/mwyaf realistig?
  • Sut byddwn i'n cynghori ffrind a oedd yn cael y problemau sydd gen i? Os fyddai fy nghyngor iddyn nhw yn wahanol i'r cyngor dw i'n ei roi i mi fy hun, pam?

Delio â chyfrifoldeb a bai

Rydych chi'n mynd i'r afael â meddyliau afrealistig a hunanfeirniadol Gall y rhain gynnwys:

  • rhoi gormod o bwys ar eich meddyliau (dim ond meddyliau ydyn nhw);
  • rhoi gormod o bwys ar y siawns y bydd rhywbeth drwg yn digwydd;
  • cymryd cyfrifoldeb am bethau drwg sy'n digwydd, hyd yn oed pan fyddan nhw y tu allan i'ch rheolaeth;
  • ceisio cael gwared ar bob risg sydd ym mywydau eich anwyliaid.

Rhoi argyhoeddiadau di-fudd ar brawf

Ofn cyffredin mewn OCD yw y 'bydd meddwl amdano yn gwneud iddo ddigwydd'. Ceisiwch edrych drwy'r ffenestr ar adeilad a meddwl amdano'n dymchwel. Crëwch ddarlun cryf iawn yn eich meddwl. Beth sy'n digwydd? Argyhoeddiad arall sy'n peri gofid yw bod 'cael meddyliau cynddrwg â'u cyflawni'. Dychmygwch fod eich cymydog yn sâl a bod angen gwneud ychydig o siopa ar ei ran. Meddyliwch am ei wneud. Ydi hynny'n eich gwneud chi'n berson da? Ddim mewn gwirionedd. Er mwyn bod o gymorth, mae'n rhaid i chi gyflawni'r weithred. Mae'r un peth yn wir am feddyliau 'drwg'. Mae'n bwysig atgoffa'ch hun nad yw person sydd ag OCD yn cyflawni ei feddyliau obsesiynol.

Bydd therapydd gwybyddol yn eich helpu i benderfynu pa rai o'ch syniadau rydych chi’n dymuno eu newid, a bydd yn eich helpu i adeiladu syniadau newydd sy'n fwy realistig, cytbwys a defnyddiol.

Cynhelir y rhan fwyaf o gyfarfodydd gyda therapydd yn eich meddygfa leol, mewn clinig neu weithiau mewn ysbyty. Efallai y byddwch chi'n gallu cael CT dros y ffôn, neu yn eich cartref os nad ydych chi'n gallu gadael eich tŷ.

Meddyginiaeth gwrth-iselder

Gall cyffuriau gwrth-iselder SSRI (Atalyddion Aildderbyn Serotonin Dewisol) helpu i leihau obsesiynau ac ymddygiadau cymhellol, hyd yn oed os nad ydych chi'n isel eich ysbryd. Mae enghreifftiau yn cynnwys sertraline, fluoxetine, paroxetine, escitalopram a fluvoxamine.

Maen nhw'n ddiogel, yn gyffredinol, ond yn yr ychydig ddyddiau cyntaf gallant achosi sgil-effeithiau fel anesmwythder, cur pen/pen tost, ceg sych neu deimlo'n gyfoglyd. Gellir defnyddio SSRIs ar eu pen eu hunain, neu gyda CBT, ar gyfer OCD cymedrol i ddifrifol. Mae dosau uwch yn aml yn gweithio'n well ar gyfer OCD.

Os na fydd triniaeth gydag SSRI wedi helpu o gwbl ar ôl 3 mis, y cam nesaf yw newid i SSRI gwahanol neu i feddyginiaeth o'r enw clomipramine. Mae'n well parhau i gymryd meddyginiaeth am o leiaf 12 mis, os yw'n helpu. Nid yw'r meddyginiaethau hyn yn gaethiwus, ond dylech leihau eich dos yn araf dros nifer o wythnosau cyn rhoi'r gorau i'w cymryd.

Effeithiolrwydd

Mae tua 6 o bob 10 o bobl yn gwella gyda meddyginiaeth. Ar gyfartaledd, mae eu symptomau yn lleihau o ryw draean. Mae meddyginiaeth gwrth-obsesiwn yn helpu i rwystro OCD rhag dod yn ôl cyhyd ag y mae'n cael ei gymryd, hyd yn oed ar ôl nifer o flynyddoedd. Ond bydd tua 1 o bob 3 o bobl sy’n rhoi’r gorau i gymryd meddyginiaeth yn cael symptomau eto ymhen misoedd o roi’r gorau i'w chymryd.  Mae hyn yn llawer llai tebygol o ddigwydd os caiff y feddyginiaeth ei chyfuno â CBT.

Gellir rhoi cynnig ar therapi amlygiad (ERP) heb gymorth proffesiynol (mewn achosion o OCD ysgafnach); mae'n effeithiol ac nid yw'n peri sgil-effeithiau, ar wahân i bryder. Ar y llaw arall, mae angen llawer o ysgogiad a gwaith caled, ac mae'n golygu profi mwy o bryder am gyfnod byr.

Mae'n debyg bod CBT a meddyginiaeth yr un mor effeithiol â'i gilydd. Os yw eich OCD yn ysgafn, gall CBT ar ei ben ei hun fod yn effeithiol.

Os yw eich OCD yn weddol ddifrifol, yna gallech ddewis naill ai CBT (hyd at 10 awr o gysylltiad â therapydd) neu feddyginiaeth (am 12 wythnos) i ddechrau. Os nad ydych chi'n gwella, yna dylech roi cynnig ar y ddwy driniaeth.  Mewn rhai rhannau o'r wlad efallai y bydd rhestr aros o nifer o fisoedd i weld gweithiwr proffesiynol.

Os yw eich OCD yn ddifrifol, mae'n debyg ei bod yn well rhoi cynnig ar feddyginiaeth a CBT gyda'i gilydd o'r dechrau. Mae meddyginiaeth yn unig yn opsiwn os yw'ch OCD yn fwy nag ysgafn, ac os nad ydych chi'n teimlo y gallwch wynebu pryder ERP yn ogystal â'ch OCD. Mae’n helpu tua 6 o bob 10 o bobl, ond mae mwy o siawns y bydd yr OCD yn dychwelyd yn y dyfodol - tua 1 o bob 3 o’i gymharu â thua 1 o bob 5 ar gyfer triniaethau amlygiad (ERP). Mae'n rhaid cymryd y feddyginiaeth am tua blwyddyn, ac ni fyddai fel arfer yn ddewis cyntaf i chi os ydych chi’n feichiog neu'n bwydo ar y fron.

Mae'n werth trafod yr opsiynau hyn â'ch meddyg a fydd yn gallu darparu unrhyw wybodaeth bellach sydd ei hangen arnoch. Efallai yr hoffech chi hefyd ofyn i ffrindiau neu aelodau o'r teulu yr ydych chi'n ymddiried ynddyn nhw.

Gall eich meddyg eich cyfeirio at dîm arbenigol, a all gynnwys seiciatryddion, seicolegwyr, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol a therapyddion galwedigaethol. Efallai y bydd yn awgrymu:

  • ychwanegu therapi gwybyddol at driniaeth amlygiad neu feddyginiaeth;
  • cymryd dwy feddyginiaeth gwrth-obsesiwn ar yr un pryd, er enghraifft clomipramine a citalopram;
  • ychwanegu meddyginiaethau gwrthseicotig, fel aripiprazole neu risperidone;
  • trin cyflyrau eraill (mae tua 1 o bob 3 o bobl sydd ag OCD hefyd yn dioddef o orbryder, iselder, neu broblem camddefnyddio alcohol neu sylweddau);
  • gweithio gyda'ch teulu a'ch gofalwyr, i'w cefnogi a'u cynghori.

Os ydych chi'n cael anhawster byw ar eich pen eich hun, efallai y bydd hefyd yn awgrymu dod o hyd i lety addas gyda phobl a fydd yn gallu eich helpu i ddod yn fwy annibynnol.

Gyda thriniaeth, mae'r rhagolygon yn dda ar gyfer y rhan fwyaf o bobl sydd ag OCD. Fodd bynnag, os oes gennych chi OCD difrifol iawn nad yw wedi gwella:

  • Rhaglen ddyddiol o driniaeth seicolegol (CBT ac ERP) fwy dwys, lle byddwch yn aros yn yr ysbyty yn ystod y driniaeth.
  • Dull newydd sy'n cael ei ymchwilio ar hyn o bryd yw ysgogiad dwfn yr ymennydd, sy’n defnyddio curiadau trydanol i leddfu symptomau.
  • Mae llawdriniaeth ar yr ymennydd - a elwir yn 'niwrolawdriniaeth abladol' - yn driniaeth sy'n cael ei chynnig yn anaml iawn, pan fydd dim byd arall wedi helpu. Dyma’r dewis olaf mewn gwirionedd gan y gall achosi sgil-effeithiau difrifol.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella trwy gael triniaeth mewn meddygfa deulu, neu glinig a all fod yn gysylltiedig ag ysbyty. Bydd mynediad i uned iechyd meddwl ond yn cael ei awgrymu os:

  • bydd eich symptomau yn ddifrifol iawn, os na fyddwch chi'n gallu gofalu amdanoch eich hun yn iawn neu os byddwch chi’n cael meddyliau am hunanladdiad;
  • bydd gennych broblemau iechyd meddwl difrifol eraill, fel anhwylder bwyta, sgitsoffrenia, seicosis neu iselder difrifol;
  • bydd eich OCD yn eich rhwystro rhag cyrraedd clinig i gael triniaeth.

Gall rhai o’r dulliau hyn weithio ar gyfer cyflyrau eraill – ond nid oes tystiolaeth gref eu bod yn gweithio ar gyfer OCD:

  • Therapïau cyflenwol neu amgen fel hypnosis, homeopathi, aciwbigo a meddyginiaethau llysieuol - er eu bod yn swnio'n addawol.
  • Mathau eraill o feddyginiaethau gwrth-iselder, oni bai eich bod yn dioddef o iselder yn ogystal ag OCD.
  • Tabledi cysgu a thawelyddion (zopiclone, diazepam, a benzodiazepines eraill) am fwy na phythefnos. Gall y cyffuriau hyn fod yn gaethiwus.
  • Therapi cyplau neu briodasol - oni bai bod problemau eraill yn y berthynas ar wahân i'r OCD. Mae'n ddefnyddiol i bartner a theulu geisio darganfod mwy am OCD a sut i helpu.
  • Cwnsela a seicotherapi seicodreiddiol. Mae'n ymddangos bod y triniaethau mwy penodol a ddisgrifir uchod yn gweithio'n llawer gwell ar gyfer symptomau OCD. Ond mae rhai pobl sydd ag OCD yn teimlo bod siarad am eu plentyndod a'u profiadau yn y gorffennol yn ddefnyddiol.

Gall eich meddyg teulu eich cyfeirio at wasanaeth lleol o'r enw 'Gwella Mynediad at Therapïau Seicolegol' (IAPT) neu at dîm iechyd meddwl arbenigol.

Ar hyn o bryd, mae yna brinder gweithwyr proffesiynol yn y GIG sydd wedi’u hyfforddi i drin CBT. Mewn rhai ardaloedd, efallai y bydd yn rhaid i chi aros nifer o fisoedd i ddechrau triniaeth. Mae therapyddion cymwys yn aml wedi'u cofrestru gyda Chymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain.

Os na fydd y mesurau a amlinellir yn yr adran 'Sut alla i helpu fy hun?' yn helpu, gallwch holi eich meddyg teulu am ddechrau meddyginiaeth SSRI yn y cyfamser.

Dyma rai ffyrdd y gall teulu a ffrindiau gynnig cymorth a chefnogaeth.

  • Gall ymddygiad rhywun sydd ag OCD beri cryn rwystredigaeth - ceisiwch gofio nad yw'r unigolyn yn ceisio bod yn anodd nac ymddwyn yn od – mae'n ymdopi cystal ag y gall.
  • Gall gymryd amser i rywun dderbyn bod angen help arnyn nhw. Anogwch nhw i ddarllen am OCD a'i drafod â gweithiwr proffesiynol.
  • Dysgu mwy am OCD.
  • Efallai y gallwch chi helpu triniaethau amlygiad trwy ymateb yn wahanol i ymddygiad cymhellol eich perthynas trwy:
    • ei annog i fynd i'r afael â sefyllfaoedd sy'n peri ofn;
    • gwrthod gwirio pethau a chymryd rhan mewn defodau;
    • peidio â rhoi sicrhad bod pethau'n iawn.
  • Peidiwch â phoeni y bydd rhywun sydd ag ofn obsesiynol o fod yn dreisgar yn gweithredu ar hynny. Nid yw hyn yn digwydd.
  • Mae’n well peidio â cheisio rhwystro rhywun yn gorfforol rhag cyflawni defod.
  • Gofynnwch a allwch chi fynd gyda’r unigolyn i weld eu meddyg teulu, seiciatrydd neu weithiwr proffesiynol arall.

Grwpiau cefnogi

OCD Action
Elusen ar gyfer pobl sydd ag OCD, anhwylder dysmorffig y corff, pigo croen cymhellol a thrichotillomania.

Llinell gymorth a gwybodaeth: 0845 390 6232

E-bost: support@ocdaction.org.uk.

OCD-UK
Grŵp cymorth cenedlaethol i blant ac oedolion sydd ag OCD.

Llinell gymorth: 0845 120 3778

E-bostsupport@ocduk.org.  

Anxiety UK
Sefydliad ar gyfer pobl sydd â phroblemau gorbryder gan gynnwys panig, ffobiâu, OCD a chyflyrau cysylltiedig. Mae'n cynnig cefnogaeth i ddioddefwyr, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Sgwrs ar-lein, e-bost, llyfrau hunangymorth, cryno ddisgiau, DVDs ac adnoddau.

Llinell gymorth: 0844 775774

E-bost: support@anxietyuk.org.uk.

Gwybodaeth bellach

NHS Choices
Gwybodaeth gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyflyrau, triniaethau, gwasanaethau lleol a byw'n iach.

Cymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP)

Y prif gorff ar gyfer y gwahanol grwpiau o weithwyr proffesiynol sy'n cynnig therapi ymddygiad gwybyddol y tu mewn a'r tu allan i'r GIG. Mae'n cynnal safonau arfer da, yn darparu gwybodaeth a thaflenni ac yn cadw cofrestr o aelodau y gellir cysylltu â nhw am driniaeth nad yw'n ymwneud â'r GIG. Ffôn: 0161 054 304; e-bost: babcp@babcp.com

CBT cyfrifiadurol

I gael gwybodaeth am becynnau cyfrifiadurol hunangymorth ar gyfer gorbryder, iselder, ffobiâu, panig ac OCD gweler ein taflen CBT neu'r dolenni canlynol:

Darllen pellach

Reading Well (Llyfrau ar Bresgripsiwn)

Mae’r cynllun hwn yn eich helpu i reoli eich lles gan ddefnyddio darllen hunangymorth. Mae'r rhestr lyfrau wedi'i chymeradwyo gan bobl sy'n byw gyda'r cyflyrau dan sylw a chan weithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae'r cynllun yn cael ei gefnogi'n eang gan lyfrgelloedd cyhoeddus.

Deall arweiniad NICE

Gwybodaeth i bobl sydd ag OCD neu anhwylder dysmorffig y corff, eu teuluoedd a'u gofalwyr, a'r cyhoedd.

Break Free from OCD: Overcoming Obsessive Compulsive Disorder with CBT gan Fiona Challacombe, Victoria Bream Oldfield a Paul Salkovskis, Vermillion.

Understanding Obsessions & Compulsions: A self-help manual gan Frank Tallis, Sheldon Press.

Overcoming Obsessive-Compulsive Disorder: a self-help book using cognitive-behavioural techniques gan David Veale a Robert Willson, Constable and Robinson.

This translation was produced by CLEAR Global (Apr 2023)

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry