Therapi ymddygiad gwybyddol (CBT)

Cognitive behavioural therapy (CBT)

Below is a Welsh translation of our information resource on congitive behavioural therapy (CBT). You can also view our other Welsh translations.

Ymwadiad

Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Therapi siarad yw CBT. Enw arall am therapïau siarad yw seicotherapïau. Mae rhagor o wybodaeth am y rhain ar ein tudalen sy'n ymdrin â seicotherapïau a thriniaethau seicolegol.

Mae CBT yn eich helpu i ddysgu ffyrdd mwy defnyddiol o feddwl ac ymateb mewn sefyllfaoedd bob dydd. Gall newid y ffordd rydych chi'n meddwl, a beth rydych chi'n ei wneud, eich helpu i deimlo'n well.

Yn wahanol i rai therapïau siarad eraill, mae CBT yn canolbwyntio ar eich heriau presennol yn hytrach nag ar eich profiadau yn y gorffennol. Nod CBT yw gwella cyflwr eich meddwl trwy eich dysgu i adnabod y cysylltiadau rhwng eich meddyliau, eich gweithredoedd a'ch teimladau.

Wrth wneud CBT, byddwch yn gweithio gyda'ch therapydd i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddelio â phroblemau, a gosod nodau ar gyfer beth rydych chi am ei newid. Pan fydd CBT yn llwyddiannus gall eich helpu i deimlo bod gennych chi fwy o reolaeth dros eich bywyd.

Dangoswyd bod CBT yn helpu gyda llawer o wahanol gyflyrau iechyd meddwl. Mae’r rhain yn cynnwys:

Gall CBT hefyd helpu gyda phroblemau eraill, gan gynnwys:

  • anawsterau cysgu
  • straen
  • dicter
  • hunan-barch isel
  • problemau iechyd corfforol, fel poen a blinder eithafol.

Gall CBT weithio i bobl o unrhyw oedran, gan gynnwys plant.

Gallwch gymryd meddyginiaeth ar gyfer eich iechyd meddwl ar yr un pryd â chael CBT. Bydd hyn yn dibynnu ar y broblem, cyngor eich meddyg a dewis personol.

Os oes gennych chi broblemau o ran dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, mae'n well cael help i ddelio â'r rhain cyn dechrau CBT ar gyfer problem arall. Mae hyn oherwydd bod defnyddio lefelau uchel o alcohol neu gyffuriau yn gallu ei gwneud hi’n anodd dysgu a chofio ffyrdd mwy defnyddiol o reoli eich iechyd meddwl.

Ni ddangoswyd bod CBT yn effeithiol mewn pobl sydd â phroblemau cof difrifol, gan gynnwys dementia. Mae dysgu sgiliau newydd yn rhan bwysig o CBT ac mae hyn yn debygol o fod yn anodd os na allwch chi gofio neu ymarfer ffyrdd newydd o ymdopi.

Mae C yn sefyll am ‘gwybyddol’ (beth rydych chi’n ei feddwl)  Yn CBT, rydych chi’n dysgu sylwi pan fyddwch chi’n meddwl yn negyddol. Rydych chi'n gweithio i herio meddyliau negyddol neu ddi-fudd, er enghraifft:

  • ‘Rydw i'n dda i ddim’ neu
  • ‘Mae popeth yn mynd i fynd o’i le’.

Yn lle hynny, rydych chi'n gweithio i ddatblygu meddyliau mwy defnyddiol a realistig, er enghraifft:

  • ‘Beth yw’r dystiolaeth bod hyn yn wir?’
  • ‘Oes yna ffordd arall o feddwl am hyn?’ neu
  • ‘Pa gyngor fyddwn i’n ei roi i ffrind yn fy sefyllfa i?’

Mae B yn sefyll am ‘ymddygiad’ (beth rydych chi’n ei wneud) – Eich ymddygiad yw beth rydych chi’n ei wneud a sut rydych chi’n ymddwyn. Gall CBT eich helpu i ddelio â phethau yr ydych wedi bod yn eu hosgoi neu yr ydych chi'n eu hofni. Wrth wneud CBT, efallai y byddwch chi’n cadw dyddiadur dyddiol o weithgareddau, ac yn gosod nodau i roi cynnig ar bethau rydych chi'n ofni eu gwneud. Gall cofnodi eich nodau a'ch gweithredoedd ar bapur roi ymdeimlad o gyflawniad i chi a'ch helpu i nodi eich cynnydd.

Mae T yn sefyll am ‘therapi’ (beth rydych chi’n ei ddysgu) – Trwy CBT rydych chi’n dysgu sgiliau newydd y gallwch chi wedyn eu hymarfer fel ‘gwaith cartref’. Ar ôl i chi orffen cael CBT gallwch barhau i ymarfer y sgiliau hyn, a all roi'r offer i chi gadw'n iach yn y dyfodol.

CBT mewn mwy o fanylder

Gall CBT eich helpu i wneud synnwyr o broblemau llethol trwy eu torri i lawr yn rhannau llai. Mae hyn yn ei gwneud hi'n haws gweld y cysylltiad rhyngddyn nhw a gweld sut maen nhw'n effeithio arnoch chi. Y rhannau hyn yw:

  • Sefyllfa – er enghraifft, gweithgaredd, neu rywbeth sy'n digwydd i chi ac sy'n anodd i chi

Gall y canlynol ddeillio o hyn:

  • Meddyliau
  • Emosiynau
  • Teimladau corfforol
  • Gweithredoedd

Mae’r diagram hwn yn dangos sut y gall y ffordd yr ydym yn meddwl am sefyllfaoedd ac yn ymateb iddyn nhw effeithio ar ein hymddygiad a’n hemosiynau:

CBT figure in Welsh

Dyma enghraifft o sut y gall y ffordd rydych chi'n meddwl mewn sefyllfa effeithio ar eich emosiynau, eich teimladau a'ch gweithredoedd.

Enghraifft:

Y sefyllfa

Rydych chi wedi cael diwrnod gwael ac wedi cael llond bol, felly rydych chi'n mynd allan i siopa. Wrth i chi gerdded i lawr y ffordd, mae rhywun rydych chi'n ei adnabod yn cerdded heibio ac mae'n ymddangos eu bod yn eich anwybyddu. Gallwch ymateb i'r sefyllfa hon naill ai gyda meddyliau defnyddiol neu gyda meddyliau di-fudd. Yn dibynnu ar eich ymateb, gall y pethau canlynol ddigwydd:

 Di-fuddDefnyddiol
Meddyliau:Wnaethon nhw fy anwybyddu i - dydyn nhw ddim yn fy hoffi fiMaen nhw'n edrych fel petai rhywbeth ar eu meddwl - tybed a oes rhywbeth o'i le?
Teimladau emosiynol:Isel, trist a gwrthodedigPryder am y person arall, cadarnhaol
Teimladau corfforol:Crampiau stumog, egni isel, yn teimlo'n gyfoglydDim - teimlo'n gyfforddus
Gweithredoedd:Mynd adref a'u hosgoiCysylltu i wneud yn siŵr eu bod nhw’n iawn

Yn yr enghraifft hon, mae'r un sefyllfa wedi arwain at ddau ganlyniad gwahanol iawn.

Pan fyddwn ni'n teimlo'n drist neu'n ofidus, efallai y byddwn ni'n fwy tebygol o ddehongli pethau mewn ffyrdd eithafol a di-fudd.

Mae CBT yn eich helpu chi i ddeall sut mae eich meddyliau, eich teimladau a'ch gweithredoedd yn gweithio gyda'i gilydd. Gall hyn eich helpu i ddysgu sut i:

  • roi'r gorau i arferion meddwl sy'n ddi-fudd (neidio i gasgliadau)
  • rhoi'r gorau i weithredoedd di-fudd (osgoi sefyllfaoedd)
  • mabwysiadu arferion meddwl sy'n ddefnyddiol (gweld y potensial ar gyfer rhywbeth cadarnhaol) a
  • mabwysiadu gweithredoedd sy'n ddefnyddiol (yn yr enghraifft hon, estyn allan at ffrind). 

Gall cwrs CBT bara rhwng 6 wythnos a 6 mis. Bydd yn dibynnu ar y broblem a sut mae CBT yn gweithio i chi.

Fel arfer, byddwch yn cael rhwng 6 ac 20 sesiwn gyda therapydd. Bydd y sesiynau hyn yn digwydd bob wythnos neu bob pythefnos. Mae pob sesiwn fel arfer yn para rhwng 30 a 60 munud.

Yn y 2-4 sesiwn gyntaf, bydd y therapydd yn gweld a ydych chi'n gallu defnyddio'r math hwn o driniaeth ac yn gwirio eich bod chi'n teimlo'n gyfforddus wrth ei wneud. Er nad yw CBT yn canolbwyntio ar y gorffennol, bydd angen o hyd i'r therapydd ofyn rhai cwestiynau am eich bywyd a'ch cefndir. Ar adegau mae’n bwysig siarad am y gorffennol i ddeall sut mae’n effeithio arnoch chi nawr.

Ym mhob sesiwn, byddwch chi a'r therapydd yn dechrau trwy gytuno ar beth i'w drafod y diwrnod hwnnw. Gall hyn gynnwys sut rydych chi wedi bod ers y sesiwn ddiwethaf, edrych ar waith cartref a siarad am unrhyw broblemau.

Ar ddiwedd cwrs CBT byddwch yn creu cynllun ‘cadw’n iach’ personol. Bydd hwn yn cynnwys y sgiliau rydych chi wedi'u dysgu, a sut gallwch chi eu defnyddio i ddelio ag anawsterau yn y dyfodol. Byddwch yn cael eich annog i barhau i ymarfer y sgiliau hyn ar ôl i'ch CBT ddod i ben.

Yn ystod CBT byddwch yn gweithio gyda'ch therapydd i rannu pob problem i'w darnau gwahanol, fel yn yr enghraifft uchod. Gyda’ch gilydd byddwch yn edrych ar eich meddyliau, eich teimladau a’ch ymddygiadau i weithio allan:

  • a ydyn nhw'n afrealistig neu'n ddi-fudd
  • sut maen nhw'n effeithio ar ei gilydd, ac arnoch chi.

Bydd gofyn i chi lenwi rhai holiaduron neu daflenni gwaith yn ystod y driniaeth. Efallai y bydd eich therapydd hefyd yn gofyn i chi gadw dyddiadur. Bydd hyn yn caniatáu ichi gofnodi sut rydych chi'n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn mewn gwahanol sefyllfaoedd o ddydd i ddydd. Bydd eich therapydd wedyn yn eich helpu chi i weithio allan sut i newid meddyliau annifyr ac ymddygiad di-fudd.

Mae CBT yn fwy effeithiol os byddwch chi'n rhoi'r newidiadau hyn ar waith. Bydd eich therapydd yn argymell 'gwaith cartref' rheolaidd. Bydd hyn yn cynnwys ymarfer sgiliau newydd yn eich bywyd bob dydd. Efallai y byddwch chi'n dechrau ymarfer:

  • Cwestiynu meddyliau – er enghraifft, bod yn hunanfeirniadol, anwybyddu pethau cadarnhaol neu gymryd pethau'n bersonol. Byddwch yn dysgu newid arferion meddwl di-fudd a datblygu meddyliau mwy defnyddiol a realistig.
  • Herio gweithredoedd – cydnabod eich bod chi ar fin gwneud rhywbeth a allai helpu am gyfnod byr ond a fydd yn gwneud i chi deimlo'n waeth yn y tymor hir. Er enghraifft, osgoi sefyllfa, gwirio pethau neu ofyn am sicrwydd dro ar ôl tro. Yn lle hynny, byddwch chi'n dysgu dechrau gwneud pethau sy'n fwy defnyddiol.
  • Rhoi argyhoeddiadau ar brawf – rhoi pethau rydych chi'n eu credu ar brawf er mwyn darganfod a ydyn nhw'n wir ai peidio. Er enghraifft, os ydych chi'n flinedig iawn ac yn isel eich ysbryd efallai y byddwch chi'n ofni y bydd mynd am dro am 20 munud bob dydd yn gwneud i chi deimlo'n waeth. Byddwch yn cytuno i roi cynnig ar hyn am wythnos, yn cadw cofnod ysgrifenedig ac yn gwirio a oedd eich proffwydoliaeth yn gywir.

Efallai y byddwch chi hefyd yn defnyddio datrys problemau ar gyfer problemau ymarferol neu realistig, fel dyledion.

Mae’r ‘gwaith cartref’ hwn yn bwysig, oherwydd nod CBT yw eich arwain chi at bwynt lle rydych chi'n gallu ‘ei wneud o eich hun’, a darganfod eich ffyrdd eich hun o ddelio â phroblemau.

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell CBT fel dewis cyntaf ar gyfer amrywiaeth o broblemau.

  • Gorbryder ac iselder - CBT yw un o'r triniaethau mwyaf effeithiol ar gyfer cyflyrau lle mai pryder yw'r brif broblem (ee anhwylder gorbryder cyffredinol neu anhwylder panig) neu iselder.
  • Ffobiâu ac OCD - CBT yw'r driniaeth seicolegol fwyaf effeithiol ar gyfer ffobiâu ac OCD.

Mae tua un o bob pedwar o bobl yn rhoi'r gorau i CBT. Mae hyn yn fwy tebygol o ddigwydd yn gynnar yn y driniaeth, os ydych chi'n isel eich ysbryd, neu os na chaiff CBT ei gyflwyno wyneb yn wyneb â therapydd.

Mae CBT yn gweithio cystal â chyffuriau gwrth-iselder ar gyfer trin llawer math o iselder. Gall weithio ychydig yn well na chyffuriau gwrth-iselder wrth drin gorbryder. Mae effeithiau CBT yn para'n hirach na meddyginiaeth, gan eich helpu i gadw'n iach yn y dyfodol.

Os yw eich problem iechyd meddwl yn ddifrifol, gall ychwanegu CBT at feddyginiaeth fod yn fwy effeithiol na meddyginiaeth ar ei ben ei hun, neu CBT ar ei ben ei hun.

Therapydd hyfforddedig sy'n darparu CBT. Gallwch gael CBT mewn gwahanol ffyrdd:

CBT wyneb yn wyneb

Gall hyn ddigwydd mewn sesiynau unigol neu mewn sesiynau grŵp. Fel arfer wyneb yn wyneb yw'r dull mwyaf effeithiol o gael CBT.

CBT digidol (ar-lein neu ‘e-CBT’)

Gall hyn ddigwydd ar gyfrifiadur, gliniadur, cyfrifiadur llechen (tabled) neu ffôn clyfar trwy fideo neu sgwrs testun. Gall CBT digidol fod yn ddefnyddiol:

  • os dydych chi ddim yn gallu cyfarfod wyneb yn wyneb, er enghraifft oherwydd problemau iechyd
  • os oes gennych chi gyfrifoldebau gofalu sy'n ei gwneud hi'n anodd mynd i apwyntiadau ar eich pen eich hun neu
  • os ydych chi'n byw ymhell i ffwrdd o rywle sy'n cynnig CBT wyneb yn wyneb.

Gall CBT digidol fod yr un mor effeithiol â CBT wyneb yn wyneb, ond bydd hyn yn dibynnu ar yr unigolyn.

CBT hunangymorth

Ar gyfer CBT hunangymorth byddwch yn defnyddio llyfr, rhaglen ar-lein neu ap. Mae gwneud CBT eich hun yn golygu bod angen cymhelliant arnoch i wneud gwaith cartref a gorffen y cwrs. Mae CBT hunangymorth yn fwy tebygol o weithio os byddwch chi hefyd yn cael cymorth gan weithiwr proffesiynol. Gelwir hyn yn ‘hunangymorth dan arweiniad’, a gellir ei gyflwyno dros y ffôn, drwy e-bost neu ar-lein.

Gweler yr adran gwybodaeth bellach isod am argymhellion ar sut i gael mynediad at CBT.

CBT yw’r enw ar grŵp o therapïau siarad, yn hytrach nag un therapi. Mae'r dull gorau yn aml yn dibynnu ar bwy ydych chi a pha heriau rydych chi'n eu hwynebu. Er enghraifft, mae rhai mathau o CBT yn eich helpu i roi'r gorau i hen ffyrdd o ymddwyn. Mae mathau eraill yn eich dysgu i newid sut rydych chi'n ymateb i'ch meddyliau, yn hytrach na newid y meddyliau eu hunain.

Dyma rai mathau o CBT y dangoswyd eu bod yn effeithiol:

Math o CBTBeth ydych chi'n ei wneud yn y driniaeth hon?Beth all y driniaeth helpu i'w drin?
Therapi gwybyddol
 
Sylwi ar feddyliau ac argyhoeddiadau di-fudd. Cadw cofnod a rhoi cynnig ar ffyrdd mwy defnyddiol a realistig o feddwl ac ymateb.Llawer o broblemau iechyd meddwl (e.e. iselder, gorbryder)
 
Therapi ymddygiad (ee amlygiad graddedig)Newid ymddygiad di-fudd, fel osgoi, gwirio neu geisio sicrwydd. Yn raddol wynebu sefyllfaoedd, meddyliau neu atgofion rydych chi wedi bod yn eu hosgoi.Ffobiâu, pryder, OCD, PTSD
Ysgogi ymddygiad
 
Bod yn fwy gweithgar a chymryd rhan mewn bywyd trwy wneud pethau sy'n rhoi ymdeimlad o bleser neu gyflawniad. Cadw dyddiadur a neilltuo amser ar gyfer gweithgareddau cadarnhaol.
 
Iselder, hwyliau isel
Therapi datrys problemauAdnabod y broblem, dod o hyd i ffyrdd o'i datrys, dewis un ateb a'i roi ar waith.
 
Anawsterau ymarferol (e.e. swydd, arian)
Cyfweld ysgogolEdrych ar fanteision ac anfanteision arferiad. Gosod nodau ar gyfer newid.
 
Defnydd o alcohol
Ymwybyddiaeth ofalgarTalu sylw i'ch meddyliau a beth sydd o'ch cwmpas yn y presennol heb ymateb iddyn nhw.
 
Iselder rheolaidd, straen, pryder
Therapi meddwl tosturiolBod yn fwy caredig ac yn llai beirniadol ohonoch chi'ch hun ac eraill, er mwyn eich helpu i deimlo'n fwy diogel a bodlon.Cywilydd, dicter, iselder, hunan-barch isel, trawma
 
Therapi derbyn ac ymrwymiad (ACT)Derbyn meddyliau a theimladau annymunol yn hytrach na’u hymladd neu dorri’ch calon.
 
Salwch corfforol, poen, pryder, iselder
 
Therapi ymddygiad dialectegol (DBT)Rheoli teimladau cryf a newidiadau sydyn mewn hwyliau er mwyn goresgyn anawsterau perthynas. Cyfuniad o CBT unigol â therapi grŵpAnhwylder personoliaeth emosiynol ansefydlog neu ffiniol, hunan-niweidio rheolaidd
 
Therapi dadansoddol gwybyddol
 
Deall pethau o'r gorffennol sy'n achosi anawsterau presennol a dod o hyd i ffyrdd newydd o ymdopi. Cyfuniad o CBT â therapi dadansoddol.
 
Anorecsia nerfosa, personoliaeth ffiniol

 

Nid ateb sydyn yw CBT, ac nid oes sicrwydd y bydd yn gweithio i bawb. Gall neilltuo'r amser a'r ymdrech sydd eu hangen ymddangos yn anodd os ydych chi'n profi iechyd meddwl gwael.

Siaradwch â'ch therapydd os bydd unrhyw un o'r tasgau'n ymddangos yn rhy anodd neu os nad yw'n ymddangos ei fod yn gweithio. Ni fydd yn gofyn ichi wneud pethau dydych chi ddim eisiau eu gwneud. Bydd therapydd da yn rheoli cyflymder eich sesiynau ac yn gweithio gyda chi i benderfynu beth i'w wneud yn eich sesiynau, gan ganiatáu i chi reoli beth sy'n digwydd.

Gall cefnogaeth gan eich teulu neu ofalwyr fod yn ddefnyddiol iawn. Er enghraifft, gallant eich helpu i wynebu eich ofnau, datblygu strwythur i'ch diwrnod neu fynd allan yn amlach.

Nid yw CBT yn addas i bawb, a gall mathau eraill o driniaethau neu feddyginiaethau weithio yn lle neu ochr yn ochr â CBT. Mae'r rhain yn cynnwys mathau eraill o driniaethau siarad, neu feddyginiaethau fel cyffuriau gwrth-iselder. Ar gyfer iselder difrifol, dylid defnyddio CBT gyda chyffuriau gwrth-iselder. Pan fyddwch chi'n isel iawn, efallai y byddwch chi'n ei chael hi'n anodd newid y ffordd rydych chi'n meddwl nes bod meddyginiaeth wedi dechrau gwneud i chi deimlo'n well.

Cofiwch, gallwch chi bob amser roi cynnig ar CBT yn y dyfodol os nad ydych chi eisiau gwneud hynny ar hyn o bryd. Gallech hefyd ddarllen am CBT cyn penderfynu ei wneud, neu gael mynediad ato eich hun (gweler yr adran gwybodaeth bellach isod).

Mae iselder a phryder yn annymunol. Gallant effeithio'n ddifrifol ar eich gallu i weithio a mwynhau bywyd. Ar ôl cwrs CBT, mae eich symptomau ac ansawdd eich bywyd yn debygol o wella. Gall hyn eich helpu i deimlo'n well a gwella'ch gallu i weithredu gartref ac yn y gwaith.
Un o fanteision CBT yw eich bod yn gallu parhau i ymarfer a datblygu eich sgiliau ar ôl i'r sesiynau ddod i ben. Mae hyn yn ei gwneud hi’n llai tebygol y bydd eich symptomau neu broblemau yn dychwelyd. Os byddan nhw'n dychwelyd, dylai'r sgiliau a ddysgoch wrth wneud CBT ei gwneud yn haws i chi eu rheoli. Os oes angen, gallwch gael cwrs ‘gloywi’ o CBT.

Mae CBT ar gael ar y GIG. Efallai y bydd eich meddyg teulu yn eich cyfeirio at rywun sydd wedi’i hyfforddi mewn CBT os ydych chi:

  • yn wynebu heriau o ran eich iechyd meddwl, neu
  • wedi cael diagnosis o salwch meddwl a allai elwa o CBT.

Gallai hyn fod yn ymarferydd CBT, seicolegydd, nyrs iechyd meddwl neu seiciatrydd.

Os ydych chi'n meddwl y byddech chi'n elwa o gael CBT, gallwch hefyd gyfeirio eich hun at wasanaeth therapïau seicolegol y GIG. Gallwch wneud hyn heb atgyfeiriad gan feddyg teulu trwy'r rhaglen Gwella Mynediad at Therapïau Seicolegol (IAPT).

Os hoffech chi wneud hynny, ac os ydych chi'n gallu fforddio gwneud hynny, gallwch dalu i gael CBT yn breifat. Mae costau'n amrywio, ond yn aml maent rhwng £40 a £100 y sesiwn. Mae rhai gwasanaethau therapi preifat yn cynnig cyfraddau gostyngol i bobl sydd ar incwm is.

Isod mae rhestr o wefannau defnyddiol i'ch helpu i ddod o hyd i therapydd CBT:

Mae yna gamsyniadau am CBT a sut mae'n gweithio. Isod mae rhai mythau a ffeithiau am CBT:

MythFfaith
Nid yw CBT yn ddim mwy na meddwl yn gadarnhaolGall dysgu ffyrdd mwy defnyddiol a realistig o feddwl gael effaith gadarnhaol ar sut rydych chi'n byw eich bywyd.
 
Nid yw CBT yn delio â’r broblem ‘go iawn’Mae yna broblemau neu heriau bob amser mewn bywyd, a bydd rhai ohonyn nhw tu hwnt i’n rheolaeth. Gall CBT ddarparu'r offer sydd eu hangen arnoch chi i ddelio'n fwy effeithiol â phroblemau.
 
Mae CBT yn gyflym ac yn hawdd i'w wneudMae angen amser ac ymarfer arnoch chi i newid hen arferion, ond ar ôl i chi eu dysgu gallant aros gyda chi am amser hir.
 
Mae CBT yn defnyddio technegau ond yn anwybyddu'r person
 
Arnoch chi mae'r sylw a chi sydd mewn rheolaeth, a bydd CBT yn canolbwyntio ar y pethau y mae angen help arnoch chi i ddelio â nhw.
 
Ni fydd CBT yn gweithio i miRydych chi'n fwy tebygol o weld manteision CBT os ydych chi'n ymrwymo iddo ac yn credu y gall weithio i chi.
 
Ateb tymor byr yw CBTGall CBT helpu i newid sut rydych chi'n byw eich bywyd yn y tymor hir.
 

 

Get Self Help - Gwybodaeth hunangymorth CBT, adnoddau a thaflenni gwaith therapi am ddim.

Gwybodaeth iechyd meddwl y GIG - Gwybodaeth am ddim ac A i Y ar gyflyrau iechyd meddwl a chorfforol, gwasanaethau’r GIG a phwy i gysylltu â nhw mewn argyfwng.

Sefydliadau

British Association for Behavioural and Cognitive Psychotherapies - Mae'n darparu gwybodaeth am CBT a rhestr o therapyddion CBT achrededig.

Anxiety UK - Mae'n darparu gwybodaeth a chymorth i bobl yn y DU sy'n delio â chyflwr gorbryder, gan gynnwys straen a phanig.
Ffôn: 03444 775 774
E-bost: support@anxietyuk.org.uk 

Depression UK - Mae'n cynnig cyfeillgarwch, cefnogaeth a gwybodaeth i bobl ag iselder. Mae’n cynnwys grwpiau hunangymorth, cysylltiadau Facebook a ffrindiau ar-lein.

Darllen pellach

Reading Well Scheme (Llyfrau ar Bresgripsiwn) – Mae’r cynllun hwn, sy’n cael ei gymeradwyo gan weithwyr proffesiynol, yn eich helpu i reoli eich lles gan ddefnyddio darllen hunangymorth. Mae'r llyfrau i gyd yn cael eu dewis a'u hargymell gan arbenigwyr iechyd a phobl sy'n byw gyda'r cyflyrau dan sylw. Cânt eu disgrifio ar-lein, ac maent ar gael am ddim mewn llyfrgelloedd cyhoeddus. Mae pum rhestr o lyfrau: iechyd meddwl oedolion, plant, pobl ifanc, cyflyrau hirdymor (corfforol) a dementia.

Adnoddau CBT ar-lein

Beating the Blues – Cwrs CBT hunangymorth ar gyfer iselder a phryder. Gall eich meddyg ragnodi mynediad am ddim at y cwrs.

Living Life to the Full – Cwrs sgiliau bywyd ar-lein am ddim i bobl sy'n profi gofid, iselder neu bryder.

Headspace – Ap ymwybyddiaeth ofalgar gydag ymarferion rhagarweiniol am ddim.

Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PEEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.

Awdur arbenigol: Dr Paul Blenkiron

Mae ffynonellau llawn ar gyfer yr adnodd hwn ar gael ar gais.

Cyhoeddwyd: Mawrth 2022

Adolygiad i ddod: Mawrth 2025

© Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

This translation was produced by CLEAR Global (Apr 2023)

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry