Alcohol, iechyd meddwl a’r ymennydd

Alcohol, mental health and the brain

Below is a Welsh translation of our information resource on alcohol, mental health and the brain. You can also view our other Welsh translations.

Ymwadiad

Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae’r adnodd hwn yn edrych ar alcohol a sut y gall effeithio ar eich ymennydd a’ch iechyd meddwl. Mae wedi'i anelu at oedolion sydd eisiau dysgu mwy am alcohol, sy'n ddibynnol ar alcohol neu sy'n adnabod rhywun sy’n ddibynnol arno.

Mae’r wybodaeth hon yn trafod:

  • Beth yw alcohol
  • Sut y mae’n effeithio ar yr ymennydd
  • Sut y mae’n effeithio ar iechyd meddwl
  • Dibyniaeth ar alcohol
  • Niwed i’r ymennydd sy’n gysylltiedig ag alcohol
  • Sut i gyfrifo faint rydych chi'n ei yfed
  • Sut i gael help os ydych chi’n yfed gormod

Mae alcohol (a elwir hefyd yn ‘ethanol’ neu ‘alcohol ethyl’) yn sylwedd sy’n gallu mynd i mewn i bob organ yn y corff wedi iddo gael ei amsugno i’r llif gwaed.

Gelwir diodydd sy'n cynnwys alcohol yn ddiodydd alcoholaidd. Mae llawer o wahanol fathau o ddiodydd alcoholaidd. Maent yn cael eu cynhyrchu mewn gwahanol ffyrdd ac yn cynnwys amrywiaeth o gynhwysion eraill. Fodd bynnag, maen nhw fel arfer yn perthyn i’r categorïau canlynol:

  • cwrw a seidr
  • gwin
  • gwirodydd (fel fodca, jin neu wisgi)

Mae ‘cryfder’ alcohol yn amrywio rhwng gwahanol ddiodydd alcoholaidd. Mae hyn yn golygu bod rhai diodydd alcoholaidd yn cael mwy o effaith ar y corff nag eraill.

Mae’n gyfreithlon i oedolion dros 18 oed brynu ac yfed alcohol yn y DU. Yn gyffredinol, mae’n anghyfreithlon i bobl ifanc o dan 18 oed yfed neu brynu alcohol. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfreithiau sy’n ymwneud ag alcohol ar gael ar wefan y llywodraeth.

Pam mae pobl yn yfed alcohol?

Mewn astudiaeth o bobl yn Lloegr yn 2021, dywedodd ychydig llai na hanner y bobl a holwyd eu bod yn yfed alcohol o leiaf unwaith yr wythnos.

Mae pobl yn yfed alcohol am lawer o resymau gwahanol. Mae rhai pobl yn yfed alcohol am hwyl, neu i ymlacio. Mae pobl eraill yn yfed alcohol i'w helpu i ddelio ag anawsterau yn eu bywydau.

Mae alcohol yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Mae rhai pobl yn gallu yfed alcohol yn achlysurol a mwynhau gwneud hynny, ac nid yw’n cael effaith negyddol arnyn nhw. Mae pobl eraill yn ei chael hi'n anodd peidio ag yfed gormod, neu'n gwneud pethau y maen nhw'n eu difaru pan maen nhw'n yfed.

Mae rhai pobl yn dewis peidio ag yfed alcohol o gwbl. Gall hyn fod am lawer o resymau gwahanol, gan gynnwys:

  • dydyn nhw ddim yn hoffi teimlo'n feddw
  • dydyn nhw ddim yn hoffi'r blas
  • mae'n gwneud iddyn nhw deimlo'n gyfoglyd neu'n gysglyd iawn
  • i gefnogi eu hiechyd
  • am resymau crefyddol

Ac mae rhai pobl yn dewis peidio ag yfed.

Mae dwy ffordd i ddweud pa mor gryf yw diodydd alcoholaidd:

  • Unedau – Datblygwyd unedau i’w gwneud yn haws i bobl gyfrifo faint y maen nhw’n ei yfed. Mae unedau'n cael eu mesur yn wahanol mewn gwahanol wledydd. Yn y DU mae un uned yn 10ml (neu 8g) o alcohol pur.
  • Alcohol yn ôl cyfaint, neu ABV – Mae hyn yn golygu faint o alcohol pur sydd mewn diod alcoholaidd.

Enghraifft

Mae gennych chi botel 750ml neu 75cl o win. Mae'r label yn dangos ABV o 12%, sy'n golygu bod y botel yn cynnwys 12% o alcohol pur. Mae’r botel hon yn cynnwys 9 uned.

Mewn cymhariaeth, bydd potel 100ml neu 10cl o fodca fel arfer ag ABV o 40%, sy'n golygu y bydd yn cynnwys 40 uned. Gallwch weld tabl sy’n dangos yr unedau a’r ABV mewn gwahanol ddiodydd alcoholaidd yn y canllaw i unedau alcohol ar ddiwedd yr adnodd hwn.

An image showing the volume, alcohol percentage and units of wine and vodka in Welsh.

Nid oes lefel ‘ddiogel’ o alcohol i'w yfed, gan fod cyrff pawb yn gweithio’n wahanol. Ni allwch chi byth wybod yn union sut y bydd alcohol yn effeithio arnoch chi.

Cynghorir oedolion sy'n yfed alcohol i leihau’r risgiau o niwed trwy yfed dim mwy nag 14 uned o alcohol dros gyfnod o wythnos. Mae hyn yn cyfateb i:

  • 5 peint o gwrw ag ABV o lai na 3% neu
  • 10 gwydraid bach (125ml) o win 12%.

Dylai’r unedau hyn gael eu gwasgaru dros yr wythnos, gyda dyddiau rhyngddynt pan dydych chi ddim yn yfed.

Dylai pawb geisio osgoi ‘goryfed mewn pyliau’. Mae hyn yn golygu yfed mwy nag 8 uned mewn un diwrnod i ddynion, a mwy na 6 uned mewn un diwrnod i ferched.

Sut alla i osgoi yfed gormod?

Os ydych chi’n meddwl efallai eich bod yn dechrau yfed gormod, ac yn dymuno cael mwy o reolaeth dros faint rydych chi’n ei yfed:

  • Gosodwch dargedau i chi'ch hun i leihau faint rydych chi'n ei yfed dros amser.
  • Ceisiwch osgoi treulio amser gyda phobl neu mewn amgylcheddau sy'n eich cymell i yfed mwy.
  • Yfwch ddiodydd cryfder is, fel cwrw neu winoedd alcohol isel neu heb alcohol.
  • Meddyliwch am weithgareddau sydd ddim yn cynnwys yfed alcohol.
  • Cynhwyswch eich partner neu ffrind yn y broses. Gallwch gytuno ar nod gyda’ch gilydd ac olrhain eich cynnydd gan ddefnyddio’r dyddiadur alcohol sydd ar ddiwedd yr adnodd hwn.
  • Siaradwch â'ch meddyg teulu. I lawer o bobl mae'r cam syml hwn yn eu helpu i gwtogi ar eu hyfed.

Wrth osod nodau ar gyfer rheoli eich yfed, ceisiwch eu gwneud yn benodol, yn hawdd eu mesur, yn gyraeddadwy, yn realistig, a gosodwch amserlen i chi'ch hun ar gyfer eu cyrraedd. Drwy wneud hyn byddwch yn fwy tebygol o gyflawni eich nodau.

A yw alcohol yn effeithio’n wahanol ar bobl hŷn?

Wrth i ni heneiddio, mae ein cyrff yn newid ac yn dadelfennu alcohol yn arafach. Gall hyn wneud pobl hŷn yn fwy sensitif i effeithiau alcohol.

Mae rhai pethau yn gallu gwneud yfed alcohol yn fwy peryglus mewn pobl hŷn, gan gynnwys:

  • Problemau iechyd – Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o fod â phroblemau iechyd eraill. Gall hyn eu gwneud yn fwy agored i effeithiau alcohol.
  • Risg o syrthio – Fel arfer, wrth i ni fynd yn hŷn, mae ein hamseroedd ymateb a’n cydbwysedd yn dirywio. Gall alcohol eich gwneud yn fwy simsan ar eich traed, ac felly efallai y bydd pobl hŷn yn fwy tebygol o syrthio pan fyddan nhw’n yfed.
  • Meddyginiaethau – Mae rhai meddyginiaethau a ddefnyddir yn fwy cyffredin gan bobl hŷn yn gallu rhyngweithio ag alcohol a bod yn beryglus. Er enghraifft, os ydych chi’n yfed alcohol ac yn cymryd meddyginiaethau i deneuo eich gwaed, gall hyn gynyddu eich risg o waedu os byddwch yn cael anaf. Ac os byddwch chi'n yfed alcohol tra rydych chi'n cymryd rhai gwrthfiotigau, gall hyn wneud i chi deimlo'n sâl iawn.
  • Anghofrwydd – Weithiau wrth i bobl fynd yn fwy anghofus, neu ddatblygu dementia, maen nhw’n anghofio faint o alcohol y maen nhw’n ei yfed. Os bydd hyn yn digwydd i chi, efallai y byddwch chi’n yfed mwy heb sylweddoli hynny.

Mae dewis yfed alcohol ai peidio yn benderfyniad personol. Bydd yn dibynnu ar lawer o ffactorau gwahanol. Os ydych chi'n poeni bod alcohol yn effeithio ar eich iechyd, neu y gallai ryngweithio â'ch meddyginiaeth, siaradwch â'ch meddyg teulu.

Mae alcohol yn effeithio ar sut y mae cemegion yn yr ymennydd, a elwir yn ‘niwrodrosglwyddyddion’, yn gweithio. Y prif niwrodrosglwyddyddion y mae alcohol yn effeithio arnynt yw GABA a glwtamad. Mae'r rhain yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol.

  • Mae GABA yn ‘tawelu’ yr ymennydd a’r corff. Mae alcohol yn cynyddu effaith GABA, felly ar lefelau isel gall alcohol wneud i chi deimlo'n dawelach, neu'n llai pryderus.
  • Mae glwtamad yn ‘ysgogi’ yr ymennydd a’r corff. Mae alcohol yn lleihau effaith glwtamad, felly gall yfed alcohol wneud i chi deimlo'n llai effro.
Gall alcohol hefyd leihau ein gallu i amsugno fitaminau a maetholion hanfodol eraill, fel thiamin a magnesiwm, sydd eu hangen er mwyn i’n hymennydd weithio'n iawn.

Gall yfed alcohol gael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl mewn gwahanol ffyrdd:

  • Os ydych chi'n yfed llawer, neu'n yfed bob dydd, gall hyn gael effaith negyddol ar eich hwyliau dros amser. Mae rhagor o wybodaeth am hyn i’w chael ymhellach ymlaen yn yr adnodd hwn.
  • Os ydych chi'n cael problemau iechyd meddwl, neu wedi cael diagnosis o salwch meddwl, gall yfed alcohol wneud hyn yn llawer gwaeth. Gall yfed alcohol hefyd gynyddu eich risg o hunan-niweidio a hunanladdiad.
  • Os oes gennych chi broblem iechyd meddwl sy'n bodoli eisoes, efallai y byddwch chi'n yfed alcohol i geisio teimlo'n well. Fodd bynnag, gall hyn gael yr effaith groes.

Pam mae alcohol yn effeithio ar iechyd meddwl?

Mae nifer o resymau pam y gall yfed alcohol gael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl, gan gynnwys:

  • Cemeg yr ymennydd - Mae alcohol yn effeithio ar gemeg yr ymennydd, gan gynyddu'r risg o iselder, anhwylder panig ac ymddygiad byrbwyll.
  • Pen mawr - Os byddwch chi’n cael pen mawr (hangover), gall wneud i chi deimlo'n sâl, yn bryderus ac yn ofidus. Os bydd hyn yn digwydd drwy'r amser, gall gael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl.
  • Heriau bywyd - Os byddwch yn datblygu problem ag alcohol, gall eich bywyd fynd yn fwy anodd. Gall yfed effeithio ar eich perthnasoedd, gwaith, cyfeillgarwch neu fywyd rhywiol.

A fydd fy iechyd meddwl yn gwella os bydda i’n rhoi'r gorau i yfed neu'n yfed llai?

Yn gyffredinol, gall yfed llai neu roi’r gorau i yfed gael effaith gadarnhaol ar eich iechyd meddwl. Os yw yfed wedi bod yn gwneud i chi deimlo'n ddrwg, ar ôl ychydig wythnosau o beidio ag yfed efallai y byddwch chi’n dechrau teimlo'n well yn gorfforol ac yn feddyliol. Fodd bynnag, mae’r berthynas rhwng alcohol ac iechyd meddwl yn gymhleth, yn enwedig i bobl sydd wedi profi trawma ac sydd angen cymorth i ddelio â heriau isorweddol fel y gallant roi’r gorau i ddefnyddio alcohol.

Os ydych chi wedi cael trafferth rhoi'r gorau i ddefnyddio alcohol, neu os yw alcohol yn gwaethygu eich iechyd meddwl, siaradwch â'ch meddyg teulu. Efallai bod rheswm arall pam eich bod yn profi problemau iechyd meddwl, ac efallai y bydd angen mwy o help arnoch chi. Er enghraifft, trwy therapi seicolegol neu feddyginiaeth.

A alla i yfed alcohol os oes gen i salwch meddwl ar hyn o bryd?

Os oes gennych chi salwch meddwl neu os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl a dydych chi ddim yn yfed alcohol ar hyn o bryd, y peth gorau i’w wneud yw peidio â dechrau. Os oes gennych chi salwch meddwl gall yfed alcohol gael effaith negyddol ar eich hwyliau ac efallai waethygu eich problemau. Gall hefyd ymyrryd â rhai meddyginiaethau.

Os oes gennych chi broblem iechyd meddwl eisoes, neu os ydych chi wedi cael diagnosis o salwch meddwl, siaradwch â'ch meddyg teulu am yr effaith y gallai yfed alcohol ei chael arnoch chi. Os ydych chi’n cymryd rhai meddyginiaethau penodol, efallai y bydd eich meddyg teulu yn eich cynghori i beidio ag yfed alcohol.

Gall alcohol gael effeithiau cadarnhaol. Ar lefelau isel, gall wneud i chi deimlo’n:

  • hapus
  • tawel
  • siaradus
  • hyderus.

Gall alcohol hefyd gael effeithiau sy’n achosi embaras neu a allai fod yn beryglus, gan gynnwys gwneud i chi:

  • deimlo'n gysglyd
  • mynd yn drwsgl
  • siarad yn aneglur.

Po fwyaf o alcohol y byddwch chi’n ei yfed, y mwyaf y gall effeithio ar eich hunanreolaeth a'ch crebwyll. Gallai hyn olygu eich bod yn:

  • gwneud pethau na fyddech chi’n eu gwneud fel arfer
  • dweud pethau na fyddech chi’n eu dweud fel arfer
  • gwneud pethau peryglus neu fyrbwyll
  • anghofio beth wnaethoch chi pan oeddech chi’n yfed alcohol
  • cael pen mawr drannoeth.

Mae alcohol yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Mae rhai pobl yn canfod bod y pethau hyn yn digwydd hyd yn oed pan dydyn nhw ddim yn yfed yn aml neu’n yfed llawer iawn.

Pen mawr

Mae pen mawr yn digwydd pan fyddwch chi wedi bod yn yfed ac yna’n rhoi’r gorau iddi, ac mae lefel yr alcohol yn eich corff yn gostwng. Mae hyn yn digwydd ychydig oriau ar ôl i chi roi'r gorau i yfed, ond efallai na fyddwch chi’n sylwi arno nes i chi ddeffro/dihuno. Os fyddwch chi’n dioddef o ben mawr, efallai:

  • y bydd eich pen yn brifo
  • y byddwch chi’n teimlo’n sâl
  • y byddwch chi'n cael trafferth cysgu
  • y byddwch chi'n teimlo'n bigog ac yn bryderus.

Mae’r teimladau hyn yn cael eu hachosi gan alcohol a’r cemegion eraill mewn diodydd alcoholaidd sy’n gwneud i chi ddadhydradu ac yn achosi i lefel y siwgr yn eich gwaed ostwng.

Nid oes unrhyw ffordd i gael gwared ar ben mawr yn llwyr. Fodd bynnag, dylech yfed dŵr ac osgoi yfed alcohol eto nes bod eich corff wedi cael amser i wella'n iawn.

Os nad ydych chi'n cael pen mawr pan fyddwch chi'n yfed, nid yw hyn o reidrwydd yn beth da. Gall peidio â chael pen mawr fod yn arwydd bod eich corff wedi dod i arfer â’r ffaith eich bod yn yfed llawer, a gallai olygu eich bod wedi dod yn ddibynnol ar alcohol.

Blacowts

Mae blacowt yn digwydd pan fyddwch chi'n yfed llawer mewn cyfnod byr, ac yn methu cofio beth ddigwyddodd tra roeddech chi wedi meddwi. Efallai na fyddwch chi'n cofio beth wnaethoch chi ei ddweud neu ei wneud, neu hyd yn oed lle roeddech chi. Yn ystod blacowt efallai y byddwch chi’n gwneud pethau y byddwch chi’n eu difaru yn ddiweddarach, yn cael eich hun mewn sefyllfaoedd peryglus, neu’n mynd i berygl o gael eich niweidio gan bobl eraill.

Mae blacowt yn digwydd oherwydd bod yr alcohol wedi rhwystro eich ymennydd rhag ffurfio atgofion newydd. Mae blacowt yn rhybudd eich bod yn yfed gormod. Mae hefyd yn arwydd cynnar bod alcohol yn niweidio'ch ymennydd ac y gallech chi fod yn ddibynnol ar alcohol.

Gwenwyn alcohol

Mae gwenwyn alcohol yn digwydd pan fyddwch chi'n yfed cymaint nes bod lefel yr alcohol yn eich corff yn peri perygl i chi. Gall gwenwyn alcohol arafu eich anadlu, achosi i chi fynd yn anymwybodol neu gael ffit, a gall fod yn angheuol.

Mae rhestr o arwyddion eich bod chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod efallai’n dioddef o wenwyn alcohol ar gael ar wefan y GIG.

Os ydych chi'n meddwl eich bod chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn dioddef o wenwyn alcohol, ffoniwch 999 ar unwaith.

Alcohol a’r corff

Os ydych chi'n yfed llawer o alcohol neu'n yfed yn aml am amser hir, rydych chi'n wynebu risg uwch o:

  • anaf corfforol
  • pwysedd gwaed uchel
  • methiant y galon
  • strôc
  • llid y pancreas - pan fydd y pancreas yn mynd yn llidiog ac yn cael ei niweidio
  • clefyd yr iau/afu – mae clefyd yr iau/afu sy’n gysylltiedig ag alcohol yn digwydd fesul cam. Gall arwain at niweidio a chreithio'r iau/afu yn barhaol
  • canserau, gan gynnwys canser yr iau/afu, y geg, y pen a'r gwddf, y fron a'r coluddyn
  • problemau rhywiol fel analluedd neu ddod i uchafbwynt yn gynnar
  • anffrwythlondeb
  • niwed i’r ymennydd – gweler yr adran ar niwed i’r ymennydd sy’n gysylltiedig ag alcohol ymhellach ymlaen yn yr adnodd hwn

Dibyniaeth ar alcohol

Mae dibyniaeth ar alcohol hefyd yn cael ei alw’n gaethiwed i alcohol, neu’n alcoholiaeth. Weithiau cyfeirir at fod yn ddibynnol ar alcohol fel bod ‘yn alcoholig’. Mae rhai pobl yn meddwl bod rhai o'r termau hyn yn creu stigma.

Mae tua 1 o bob 100 o oedolion yn y DU yn ddibynnol ar alcohol. Os ydych chi’n ddibynnol ar alcohol, efallai y byddwch chi’n:

  • teimlo awydd cryf i yfed alcohol
  • ei chael hi'n anodd rheoli faint rydych chi'n ei yfed
  • parhau i yfed hyd yn oed os yw'n cael effaith negyddol ar eich bywyd.

Does dim rhaid i chi yfed swm penodol o alcohol nac yfed drwy'r amser i fod yn ddibynnol ar alcohol.

Bydd rhai pobl sy’n ddibynnol ar alcohol yn cael symptomau corfforol hefyd gan gynnwys:

  • Dod yn oddefgar o alcohol - Os ydych chi'n yfed llawer o alcohol yn rheolaidd, dros amser bydd eich ymennydd yn ymateb llai i'w effeithiau cadarnhaol. Bydd angen i chi yfed mwy o alcohol neu alcohol cryfach i gael yr un effeithiau ag yr oeddech chi’n arfer eu cael. Mae hyn yn golygu eich bod wedi dod yn ‘oddefgar’ o alcohol.
  • Symptomau diddyfnu – Os ydych chi’n ddibynnol ar alcohol, bydd hyn yn newid y cydbwysedd rhwng niwrodrosglwyddyddion GABA a glwtamad yn eich ymennydd. Mae hyn yn golygu y bydd eich ymennydd yn gorymateb os byddwch chi'n rhoi’r gorau i yfed neu'n lleihau eich yfed yn sydyn. Gall hyn eich gwneud yn bryderus, yn bigog, yn grynedig ac yn chwyslyd. Symptomau diddyfnu yw’r enw am y symptomau hyn. 

Mae syndrom diddyfnu o alcohol yn digwydd pan fydd rhywun yn rhoi'r gorau i yfed alcohol yn dilyn cyfnod maith o yfed llawer.

Fel arfer mae'n dechrau o fewn diwrnod neu ddau o roi'r gorau i yfed, ac yn para hyd at dri diwrnod.

Bydd pobl sydd â syndrom diddyfnu o alcohol yn profi rhai o'r symptomau corfforol canlynol:

  • crynu
  • teimlo’n gyfoglyd
  • trafferth cysgu
  • calon yn rasio
  • pwysedd gwaed uchel
  • ffitiau

A rhai o’r symptomau meddyliol canlynol:

  • ofn
  • iselder
  • aflonyddwch
  • rhithweledigaethau (gweld, teimlo neu glywed pethau sydd ddim yno)

Mae syndrom diddyfnu o alcohol yn gyflwr meddygol difrifol. Os ydych chi’n profi unrhyw un o'r symptomau uchod, dylech ofyn am help gan eich meddyg teulu neu gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.

Sut mae trin syndrom diddyfnu o alcohol?

Bydd sut y caiff syndrom diddyfnu o alcohol ei drin yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw’r cyflwr. Bydd rhai pobl yn gallu rhoi'r gorau i yfed heb driniaeth feddygol. Fodd bynnag, bydd angen triniaeth a chymorth proffesiynol ar eraill os yw eu symptomau diddyfnu yn gymedrol neu'n ddifrifol.

Gellir trin syndrom diddyfnu o alcohol gyda chyffur a elwir yn bensodiasepin. Os byddwch yn dioddef syndrom diddyfnu o alcohol, byddwch yn cael cwrs o bensodiasepinau am nifer o ddyddiau, neu hyd nes y bydd eich symptomau diddyfnu wedi peidio.

Yna dylai eich dos o bensodiasepin gael ei leihau yn araf cyn cael ei atal yn gyfan gwbl. Mae hyn oherwydd bod bensodiasepinau yn gaethiwus os byddant yn cael eu cymryd am amser hir.

Bydd angen i rai pobl fynd i'r ysbyty i gael triniaeth am syndrom diddyfnu o alcohol.

Mae deliriwm tremens (a elwir hefyd yn DTs) yn gymhlethdod difrifol a pheryglus o ddiddyfnu o alcohol. Mae ‘deliriwm’ yn disgrifio cyflwr o ddryswch, sy’n aml yn cynnwys rhithweledigaethau a rhithdybiau. Mae ‘tremens’ yn disgrifio’r cryndod sy’n digwydd pan fydd rhywun yn rhoi’r gorau i alcohol.

Mae deliriwm tremens yn argyfwng meddygol. Mae risg bob amser y gall rhywun sydd â deliriwm tremens farw. Dylai pobl sydd â deliriwm tremens gael eu derbyn i'r ysbyty i gael cymorth meddygol ar unwaith.

Beth yw symptomau deliriwm tremens?

Os oes deliriwm tremens arnoch chi byddwch yn profi rhai o symptomau syndrom diddyfnu o alcohol, ac yn:

  • cael trafferth deall beth sy'n digwydd o'ch cwmpas
  • methu â gwybod lle rydych chi, pam rydych chi yno na faint o'r gloch yw hi
  • gweld neu glywed pethau sydd ddim yno, ee anifeiliaid bach neu bryfed, synau neu leisiau
  • teimlo eich bod mewn perygl
  • teimlo'n ofnus neu ymddwyn yn ymosodol

Mae deliriwm tremens yn beryglus iawn, a gall achosi:

  • dadhydradu
  • anghydbwysedd cemegol
  • straen ar y galon
  • ymwrthedd is i heintiau.

Sut mae trin deliriwm tremens?

Os oes deliriwm tremens arnoch chi, mae angen i chi gael eich derbyn i'r ysbyty. Yno, byddwch yn cael cynnig triniaeth i leihau difrifoldeb y broses o ddiddyfnu o alcohol. Fel arfer, bensodiasepin fydd hwn.

Mae rhithweledigaethau alcoholaidd yn cyfeirio at glywed synau, lleisiau neu gerddoriaeth pan dydych chi ddim yn feddw neu heb roi'r gorau i yfed yn sydyn. Gall hyn ddigwydd os ydych chi’n yfed yn rheolaidd ac yn dod i ddibynnu ar alcohol. Mae hyn yn wahanol i ddeliriwm tremens. Gall rhithweledigaethau alcoholaidd barhau hyd yn oed ar ôl i chi roi'r gorau i yfed.

Mae yfed llawer bob dydd am amser hir yn gallu achosi niwed i’r ymennydd sy’n gysylltiedig ag alcohol (ARBD).

Mae astudiaethau'n awgrymu y gallai cymaint â 3 o bob 10 o bobl sy'n ddibynnol ar alcohol fod ag ARBD.

Mae newidiadau i'ch cof a'ch meddwl sy'n gysylltiedig ag ARBD yn fwyaf tebygol o ddigwydd mewn:

  • merched sy’n yfed mwy na 50 uned o alcohol yr wythnos dros gyfnod o bum mlynedd neu fwy
  • dynion sy’n yfed mwy na 60 uned o alcohol yr wythnos dros gyfnod o bum mlynedd neu fwy.

Mae ARBD yn effeithio amlaf ar bobl yn eu 50au, ond gall ddigwydd ar unrhyw oedran. Mae merched sy’n yfed yn drwm yn dueddol o gael problemau cofio a meddwl yn gynharach na dynion.

Sut mae alcohol yn achosi niwed i’r ymennydd?

Mae yfed llawer o alcohol am amser hir yn achosi nifer o bethau sy’n gallu arwain at niwed i’r ymennydd, gan gynnwys:

  • Niwed i gelloedd nerfol – Mae hyn yn arwain at broblemau gyda’r cof a newidiadau mewn ymddygiad.
  • Diffyg fitaminau - Mae alcohol yn ei gwneud hi'n anoddach i'ch corff amsugno fitamin B1 a maetholion eraill. Heb ddigon o fitamin B1 gall celloedd eich ymennydd gael eu niweidio. Os ydych chi'n yfed llawer o alcohol, efallai y byddwch chi hefyd yn anghofio bwyta'n iawn, a gall hynny achosi diffygion maeth pellach.
  • Cyflenwad gwaed i'r ymennydd - Os ydych chi'n yfed llawer o alcohol, byddwch yn wynebu risg uwch o gael strôc, a all niweidio'r cyflenwad gwaed i'ch ymennydd.
  • Anafiadau i’r pen - Os ydych chi’n yfed llawer o alcohol, rydych chi’n fwy tebygol o ddioddef anafiadau i’r pen. Gall y rhain achosi niwed uniongyrchol i’r ymennydd.
  • Niwed i’r serebela - Dyma’r rhan o’r ymennydd sy’n gyfrifol am gydbwysedd a cherdded, a gall y defnydd o alcohol effeithio’n ddifrifol arno, a chynyddu’r risg o syrthio.
  • Crebachu’r ymennydd - Mae ein hymennydd yn tueddu i fynd yn llai, neu grebachu, wrth i ni heneiddio. Fodd bynnag, mae ymchwil wedi dangos y gall yfed llawer o alcohol gynyddu'r crebachu hwn.

Sut alla i ddweud bod alcohol yn niweidio fy ymennydd?

Os yw eich ymennydd yn cael ei niweidio gan alcohol, efallai y byddwch chi’n sylwi eich bod yn:

  • mynd yn bigog
  • yn cael problemau canolbwyntio, a bod eich sylw’n cael ei dynnu gan bethau o'ch cwmpas neu'ch meddyliau eich hun
  • rhoi'r gorau i ofalu amdanoch chi'ch hun
  • methu cofio cyfnodau cyfan o amser na beth wnaethoch chi
  • colli swildod a dechrau:
    • dweud pethau amhriodol, ee ypsetio neu fygwth pobl eraill
    • ymddwyn mewn modd camdriniol, yn gorfforol, emosiynol neu'n rhywiol, tuag at bobl eraill.

Mae’r newidiadau hyn yn cael eu hachosi gan effaith alcohol ar flaen yr ymennydd, sy'n rheoli ymddygiad a rhyngweithio cymdeithasol.

Pa fathau o ARBD sydd yna?

Mae yna wahanol fathau o ARBD, gan gynnwys:

  • Enseffalopathi Wernicke
  • Syndrom Korsakoff
  • Dementia sy’n gysylltiedig ag alcohol

Mae enseffalopathi Wernicke yn datblygu pan fydd eich corff yn rhedeg allan o fitamin B1. Os ydych chi’n dioddef o enseffalopathi Wernicke, gallai un neu fwy o’r tri pheth canlynol ddigwydd yn sydyn:

  • byddwch yn mynd yn ddryslyd ac yn ffwndrus, ee ddim yn gwybod lle rydych chi na faint o’r gloch yw hi
  • byddwch yn mynd yn simsan ar eich traed
  • bydd eich llygaid yn symud yn gyflym o ochr i ochr (‘nystagmus’ yw’r enw am hyn)

O'r tri pheth hyn, dim ond arwyddion o ddryswch fydd gan y rhan fwyaf o bobl (80%).

Mae enseffalopathi Wernicke yn peryglu bywyd, ond mae’n bosibl ei drin os byddwch chi’n cael cymorth yn gyflym. Defnyddir chwistrelliadau o fitamin B1 i drin enseffalopathi Wernicke. Bydd y rhain fel arfer yn cael eu rhoi drwy ‘ddiferwr’ yn yr ysbyty, neu drwy bigiad gartref.

Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn dangos arwyddion o enseffalopathi Wernicke, ffoniwch 999 ar unwaith.

Mae enseffalopathi Wernicke yn para am nifer o ddyddiau. Yn anffodus, mae'n bosibl peidio â sylwi arno neu ei gamgymryd am feddwdod. Os na chaiff y cyflwr ei drin, gall rhywun sydd ag enseffalopathi Wernicke ddatblygu problemau cof parhaol. Syndrom Korsakoff yw’r enw am y problemau hyn.

Mae syndrom Korsakoff yn datblygu pan fydd enseffalopathi Wernicke yn cael ei adael heb ei drin. Os ydych chi wedi datblygu syndrom Korsakoff, efallai y byddwch yn dangos arwyddion o niwed i'r ymennydd, megis:

  • newidiadau mewn personoliaeth
  • methu cofio pethau sydd wedi digwydd yn ddiweddar. Mae’n bosibl y byddwch chi’n dal i fedru darllen, ysgrifennu a chanolbwyntio.
  • anhawster dysgu pethau newydd
  • colli atgofion o bethau a ddigwyddodd yn yr amser cyn i'r salwch ddechrau
  • ‘chwedleua’ (confabulation) – mae hyn yn cyfeirio at geisio llenwi bwlch yn eich cof â gwybodaeth anghywir. Er enghraifft, trwy ddefnyddio hen atgof yn y lle anghywir. Ni fyddwch yn ymwybodol eich bod yn gwneud hyn, er y gallai pobl eraill sylwi arno.

Mae dementia yn derm cyffredinol ar gyfer problemau cof a newidiadau mewn meddwl a phersonoliaeth sy'n gwaethygu dros amser. Mae dementia yn fwy cyffredin ymhlith pobl hŷn.

Mae alcohol yn gallu achosi dementia gan ei fod yn achosi niwed i gelloedd yr ymennydd. Mae dementia sy’n gysylltiedig ag alcohol yn achosi problemau o ran:

  • y cof
  • datrys problemau
  • newidiadau mewn personoliaeth.

Yn wahanol i fathau eraill o ddementia, os oes dementia sy’n gysylltiedig ag alcohol arnoch chi ni fyddwch yn colli eich sgiliau iaith. Fodd bynnag, gall hyn ei gwneud yn fwy anodd i bobl eraill sylwi eich bod wedi datblygu dementia sy’n gysylltiedig ag alcohol. Gellir camgymryd symptomau dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol am fod wedi meddwi. Er enghraifft, os yw'n ymddangos bod gennych chi lai o gymhelliant, neu os ydych chi'n ymddwyn yn amhriodol.

Mae'r rhan fwyaf o fathau o ddementia yn gwaethygu dros amser. Fodd bynnag, os bydd rhywun sydd â dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol yn rhoi'r gorau i yfed, efallai y bydd eu problemau'n peidio â gwaethygu, ac o bosibl yn gwella.

Os oes gennych chi ARBD ysgafn, bydd eich cof a sgiliau meddwl eraill yn aml yn gwella'n sylweddol ar ôl i chi roi'r gorau i yfed, er y gall hyn gymryd peth amser.

Os oes gennych chi ARBD mwy difrifol, yn enwedig syndrom Korsakoff, efallai y bydd yn gwella dros gyfnod o ddwy neu dair blynedd ar ôl i chi roi’r gorau i yfed. Fodd bynnag, bydd rhai pobl yn cael eu gadael â phroblemau difrifol a bydd angen gofal hirdymor arnyn nhw.

Ar gyfer pobl sydd ag ARBD ac sy’n rhoi’r gorau i yfed, amcangyfrifir:

  • y bydd un o bob pedwar yn gwella’n llwyr
  • y bydd dau o bob pedwar yn gwella rhywfaint, ond yn parhau i gael rhai problemau
  • y bydd un o bob pedwar yn parhau i gael problemau difrifol.

Po hynaf yw’r unigolyn, y lleiaf tebygol yw hi y bydd yn gwella.

Os oes gennych chi ARBD sydd yn effeithio ar eich gallu i weithredu, efallai y byddwch chi’n gallu hawlio budd-daliadau neu fathau eraill o gymorth. Mae rhagor o wybodaeth am fudd-daliadau, cymorth ariannol a chyngor ar ddyledion ar gael ar ein gwefan.

Os ydych chi’n poeni eich bod yn yfed gormod, ac eisiau cymorth i roi’r gorau i yfed neu i yfed yn ddiogel, siaradwch â’ch meddyg teulu. Dylai eich holi am:

  • faint yr ydych chi’n ei yfed
  • pa mor aml yr ydych chi’n yfed
  • eich hanes o ddefnyddio alcohol
  • unrhyw anhwylderau defnyddio sylweddau eraill a allai fod gennych
  • unrhyw broblemau iechyd meddwl neu gorfforol eraill a allai fod gennych.

Bydd hyn yn ei helpu i ddeall pa fath o gymorth sydd ei angen arnoch chi.

Gallwch hefyd atgyfeirio eich hun at wasanaeth alcohol lleol, heb atgyfeiriad gan feddyg teulu. Gallwch ddefnyddio gwefan Frank i ddod o hyd i wasanaethau yn eich ardal chi.

Hunangymorth

Mae rhai pobl yn gallu lleihau faint y maen nhw’n ei yfed neu roi'r gorau i yfed heb gymorth proffesiynol.

Y dyddiau hyn mae yna adnoddau ardderchog ar gael ar-lein i’ch helpu i weithio allan pa fath o gefnogaeth sydd orau i chi. Dylai eich meddyg teulu hefyd fedru dweud wrthych chi am unrhyw sefydliadau neu grwpiau cymorth lleol sy’n gallu eich cefnogi wrth i chi roi'r gorau i yfed neu leihau faint rydych chi’n ei yfed.

Os ydych chi'n ddibynnol ar alcohol ac yn ei chael hi'n anodd rhoi'r gorau i yfed ar eich pen eich hun, efallai y cewch gynnig cymorth pellach. Er enghraifft, cael eich cyfeirio at wasanaeth caethiwed cymunedol.

Therapïau seicolegol

Efallai y cewch gynnig therapi seicolegol fel:

  • therapi ymddygiad gwybyddol (CBT)
  • therapi ymddygiad a rhwydwaith cymdeithasol
  • math arall o therapi ymddygiad.

Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall pam rydych chi’n yfed, a sut y mae yfed yn effeithio ar eich ymddygiad a’ch bywyd cymdeithasol.

Meddyginiaethau

Diddyfnu gyda chymorth meddygol

Os yw eich dibyniaeth ar alcohol yn fwy difrifol, efallai y bydd angen help arnoch i roi'r gorau i yfed yn ddiogel. Dylai gwasanaethau cymorth alcohol eich asesu i weld a ydych chi’n gallu rhoi’r gorau i yfed gartref, neu a ddylech chi fynd i ganolfan driniaeth alcohol arbenigol.

Meddyginiaeth atal atglafychu

Mae meddyginiaethau sy’n gallu eich helpu i osgoi dechrau yfed eto yn cynnwys:

  • Acamprosate - Mae hwn yn gyffur sy’n helpu i leihau'r awydd am alcohol. Gallwch gael acamprosate unwaith y byddwch wedi rhoi'r gorau i yfed, ac efallai y byddwch yn ei gymryd am hyd at 6 mis.
  • Naltrexone - Mae hwn yn gyffur a ddefnyddir i atal effeithiau alcohol er mwyn cymell pobl i beidio ag yfed. Efallai y byddwch chi’n cymryd hwn am hyd at 6 mis neu fwy.
  • Disulfiram - Efallai y cewch gynnig hwn os ydych chi wedi rhoi cynnig ar acamprosate a naltrexone ac nad yw’r rhain wedi gweithio, neu os nad ydych chi’n gallu cymryd y cyffuriau hyn am ryw reswm.

Adsefydlu preswyl

Efallai y cewch gynnig lle mewn uned adsefydlu breswyl os ydych chi hefyd yn profi:

  • problemau iechyd corfforol
  • problemau iechyd meddwl
  • problemau cymdeithasol, megis materion yn ymwneud â llety neu arian.

Dylai hyn fod am uchafswm o dri mis. Bydd cael cynnig adsefydlu preswyl hefyd yn dibynnu ar y gwasanaethau sydd ar gael yn eich ardal chi.

A yw rhoi’r gorau i yfed yn sydyn yn beryglus?

Os yw yfed alcohol yn effeithio ar eich iechyd corfforol neu feddyliol, efallai y byddwch am leihau eich yfed yn gyflym neu roi'r gorau i yfed yn gyfan gwbl. Fodd bynnag, gall hyn fod yn beryglus iawn os ydych chi'n yfed llawer bob dydd, neu wedi bod yn yfed ers amser maith.

Gall rhoi’r gorau i yfed yn sydyn arwain at:

  • symptomau diddyfnu o alcohol
  • ffitiau epileptig - bydd y rhain fel arfer yn digwydd o fewn 48 awr i roi’r gorau i yfed. Maen nhw fel arfer yn digwydd ar ôl i chi brofi symptomau diddyfnu.
  • datblygu cymhlethdodau difrifol yn deillio o ddiddyfnu o alcohol. Er enghraifft, DTs, enseffalopathi Wernicke neu syndrom Korsakoff.

Mae’n bwysig lleihau eich yfed yn araf. Mae hefyd yn fwyaf diogel gwneud hyn gyda chymorth, yn enwedig os ydych chi wedi bod yn yfed llawer ers amser maith.

Mae alcohol yn gaethiwus ac mae rhoi’r gorau iddo yn gallu bod yn anodd. Os ydych chi’n adnabod rhywun sy’n dibynnu ar alcohol ac yn ceisio rhoi cymorth iddyn nhw, ystyriwch y camau canlynol:

  • Dysgu mwy - Gall deall beth yw dibyniaeth ar alcohol a sut y mae'n gweithio eich helpu i ddeall yn well y person rydych chi'n ei adnabod a beth rydych chi'ch dau yn mynd drwyddo.
  • Gosod disgwyliadau - Mae’n gyffredin i rywun roi’r gorau i yfed am amser hir, ond yna dechrau eto. Er y gall hyn deimlo fel cam yn ôl, cofiwch nad yw hyn yn golygu ei fod ef neu hi, na chi, wedi ‘methu’. Nid yw ychwaith yn golygu na fydd yn gallu rhoi’r gorau iddi eto yn y dyfodol.
  • Deall beth sydd o fewn eich gallu a beth sydd ddim - Mae’n rhaid i’r person rydych chi’n ei adnabod fod eisiau stopio neu leihau ei yfed, a dim ond hyn a hyn y gallwch chi ei wneud i’w helpu i wneud y dewis hwnnw. Gall fod yn anodd os ydych chi'n gwybod bod rhywun yn brifo eu hun neu eraill drwy yfed. Dewch o hyd i rywun y gallwch chi siarad â nhw yn gyfrinachol am eich teimladau.
  • Mynnu cefnogaeth i chi'ch hun - Os ydych chi'n adnabod rhywun sy'n ddibynnol ar alcohol, gall eich meddyg teulu eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau lleol a all helpu. Mae rhai sefydliadau neu grwpiau ar gael i gefnogi teuluoedd a ffrindiau yn benodol.
  • Cadw’n ddiogel - Os yw yfed unigolyn arall yn eich rhoi chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod mewn perygl, siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo. Ffoniwch 999 os ydych chi mewn perygl uniongyrchol.

Gwybodaeth am alcohol

Cyngor ar alcohol, GIG - Gwybodaeth am alcohol, cyfrifo unedau, calorïau ac awgrymiadau ar dorri lawr.

Gwasanaethau cymorth alcohol
Defnyddiwch y gwefannau canlynol i ddod o hyd i wasanaethau cymorth alcohol yn eich ardal chi:

Alcohol Change UK - Mae Alcohol Change UK yn elusen alcohol flaenllaw yn y DU. Cafodd ei ffurfio o ganlyniad i uno Alcohol Concern ac Alcohol Research UK. Mae’n cynnig gwybodaeth am alcohol a rheoli’ch yfed.

Gwybodaeth am ddibyniaeth ar alcohol

Alcohol-use disorders: diagnosis, assessment and management of harmful drinking (high-risk drinking) and alcohol dependence, NICE - Mae'r wybodaeth hon gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal wedi'i hysgrifennu ar gyfer y cyhoedd fel y gall pobl sy'n ddibynnol ar alcohol ddeall pa ofal y mae ganddyn nhw hawl iddo.

SMART Recovery - Mae SMART Recovery yn elusen sy’n cynnig rhwydwaith cenedlaethol o gyfarfodydd cydgymorth a rhaglenni hyfforddi ar-lein i helpu pobl i ymatal rhag ymddygiadau caethiwus.

Alcoholics Anonymous (AA) - Mae AA yn grŵp hunangymorth sy’n ceisio cefnogi pobl i wella o ddibyniaeth ar alcohol. Mae’n cynnig cyfarfodydd ledled y DU a thramor.

With You - Mae With You, Addaction gynt, yn elusen sy’n cefnogi pobl sydd ag anhwylderau defnyddio alcohol neu sylweddau. Mae’n cynnig gwybodaeth, gwasanaethau yn Lloegr a’r Alban, a gwasanaeth cymorth ar-lein.

Nacoa – Mae Nacoa yn elusen sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bawb sy’n cael eu heffeithio gan arferion yfed rhiant.

Gwybodaeth ar gyfer ffrindiau, teulu a gofalwyr

Mae Alcohol Change UK yn darparu rhestr o wasanaethau cymorth i ffrindiau a theulu.

Gwybodaeth am ARBD

Adnoddau trais yn y cartref

Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn dioddef trais domestig o ganlyniad i ddefnydd alcohol rhywun, neu os ydych chi’n meddwl bod eich yfed chi yn achosi i chi ymddwyn mewn modd camdriniol, mae’r adnoddau canlynol yn ddefnyddiol:

  • Cam-drin Domestig: sut i gael help, Gov.uk – Mae’r wefan hon yn cynnig adnoddau defnyddiol i bobl sy’n profi trais domestig ledled y DU.
  • Respect Phoneline – Mae Respect yn elusen ar gyfer pobl sy'n meddwl efallai eu bod yn ymddwyn mewn modd camdriniol ac sydd eisiau cael cymorth.
  • Rhoi gwybod am gam-drin plant, NSPCC – Os ydych chi’n pryderu bod plentyn yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, gall yr NSPCC roi cyngor i chi.

Cwrw, seidr ac alcopops

 Cryfder (ABV)Hanner peintPeintPotel/can (330ml)Potel/can (500ml)
Cwrw, lager neu seidr cryfder isel3-4%1 uned2 uned1.5 uned2 uned
Cwrw, lager neu seidr cryfder arferol4-5%1.5 uned3 uned1.7 uned2.5 uned
Cwrw, lager neu seidr cryf iawn7.5-9%2.5 uned5 uned3 uned4.5 uned
Alcopops5%--1.7 uned-

Gwin a gwirodydd

 Cryfder (ABV)Sengl (25ml)Dwbl (50ml)Gwydr gwin bach (125ml)Gwydr gwin mawr (250ml)Potel (750ml)
Gwin12-14%--1.5 - 1.8 uned3 - 3.5 uned9 - 10.5 uned
Gwinoedd cadarn (sieri, martini, port)15-20%-1 uned--14 uned
Gwirodydd (wisgi, fodca, jin)40%1 uned2 uned--30 uned

Mae’r rhan fwyaf ohonon ni yn amcangyfrif yn rhy isel faint rydyn ni'n ei yfed. I weld beth sy'n digwydd mewn gwirionedd, cadwch ddyddiadur o faint rydych chi'n ei yfed dros gyfnod o wythnos.

Gall hyn roi syniad cliriach i chi o faint rydych chi’n ei yfed. Gall hefyd helpu i amlygu unrhyw sefyllfaoedd peryglus – amseroedd, lleoedd a phobl sy’n achosi i chi yfed mwy.

DiwrnodFaint?Pryd?Ble?Gyda phwy?UnedauCyfanswm
Dydd Llun      
Dydd Mawrth      
Dydd Mercher      
Dydd Iau      
Dydd Gwener      
Dydd Sadwrn      
Dydd Sul      
Cyfanswm am yr wythnos      

Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PEEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.

Awduron arbenigol: Dr Jim Bolton, Dr Tony Rao, Yr Athro Wendy Burn a’r Athro Julia Sinclair

Gyda diolch arbennig i Ms Diane Goslar, defnyddiwr gwasanaeth a helpodd i ddatblygu'r adnodd hwn.

Mae ffynonellau llawn ar gael ar gais.

This translation was produced by CLEAR Global (Feb 2024)

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry