Anhwylder gorfwyta mewn pyliau
Binge eating disorder
Below is a Welsh translation of our information resource on binge eating disorder. You can also view our other Welsh translations.
Ymwadiad
Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae pobl sydd ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau yn bwyta llawer iawn o fwyd dro ar ôl tro ac yn teimlo allan o reolaeth ac yn ofidus.
Mae’r wybodaeth hon yn trafod beth yw anhwylder gorfwyta mewn pyliau, pam ei fod yn digwydd a sut y mae’n cael ei drin. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut i gefnogi rhywun rydych chi'n ei adnabod sydd ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau, a sut orau y gall gweithwyr meddygol proffesiynol gefnogi eu cleifion.
Mae gorfwyta mewn pyliau yn disgrifio patrwm bwyta, lle mae rhywun:
- yn bwyta llawer iawn o fwyd - gall hyn fod cymaint neu lawer yn fwy nag y gallai un person ei fwyta mewn diwrnod
- heb stopio, dros gyfnod sy’n amrywio o hanner awr i ychydig oriau
- ac yn teimlo allan o reolaeth ac yn ofidus.
Mae gorfwyta yn wahanol i fwyta dogn mawr o fwyd, gorfwyta'n fwriadol ar adegau, neu fwyta pan fyddwch chi'n teimlo'n drist. Mae llawer ohonon ni'n bwyta pan nad oes chwant bwyd arnon ni, neu'n bwyta llawer iawn o fwyd o dro i dro.
Bydd pobl sy’n gorfwyta mewn pyliau yn aml yn teimlo cywilydd ac euogrwydd, ac felly maen nhw'n aml yn gwneud hynny’n gyfrinachol. Gall hyn ei gwneud yn anodd iddyn nhw geisio cymorth yn gynnar.
Byddai gorfwyta mewn pyliau yn cael ei ystyried yn anhwylder gorfwyta mewn pyliau pan fydd yn:
- digwydd sawl gwaith yr wythnos, dros gyfnod o ychydig fisoedd
- gwneud i chi deimlo'n ofidus ac allan o reolaeth
- cael effaith negyddol ar ansawdd eich bywyd.
Bydd rhai pobl yn cael pwl o orfwyta unwaith neu ddwywaith yr wythnos, tra bydd eraill yn gorfwyta sawl gwaith y dydd.
Os yw rhywun wedi profi ymddygiadau gorfwyta o leiaf unwaith yr wythnos am dri mis, byddai hynny'n cael ei ystyried yn anhwylder gorfwyta mewn pyliau.
Mae anhwylder gorfwyta mewn pyliau yn cynnwys cylch o gyfyngu ar fwyta.
Yn y cylch hwn, rydych chi'n ceisio rheoli beth rydych chi'n ei fwyta trwy fynd ar ddeiet, ymprydio neu gyfyngu mewn rhyw ffordd arall ar beth rydych chi'n ei fwyta.
Fodd bynnag, mae cyfyngu ar beth rydych chi'n ei fwyta yn arbennig o anodd, oherwydd mae'n eich gwneud chi'n llwglyd. Mae'n debyg y byddwch chi'n ei chael hi'n anodd iawn parhau i gyfyngu ar fwyta, ac efallai y byddwch chi'n colli rheolaeth ac yn bwyta llawer iawn o fwyd i fodloni'ch chwant bwyd. Unwaith y bydd hyn wedi digwydd, byddwch yn ceisio cyfyngu eto i ‘wneud iawn’ am orfwyta. Yna mae'r cylch hwn yn ailadrodd ei hun.
Yn wahanol i anhwylderau bwyta eraill fel anorecsia nerfosa neu bwlimia nerfosa, ni fydd pobl ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau o reidrwydd yn ‘gwneud iawn’ am eu gorfwyta mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, trwy:
- gael gwared â’r bwyd (chwydu'n fwriadol)
- ymprydio (peidio â bwyta neu fwyta ychydig iawn)
- gwneud llawer o ymarfer corff
Mae’n bosibl i bobl ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau fod wedi profi anhwylderau bwyta eraill. Fodd bynnag, nid yw’n bosibl cael diagnosis o anhwylder gorfwyta mewn pyliau ac anhwylder bwyta arall ar yr un pryd.
Mewn gwirionedd, mae anhwylder gorfwyta mewn pyliau yn fwy cyffredin nag anhwylderau bwyta eraill, fel anorecsia nerfosa neu bwlimia nerfosa, sydd efallai'n fwy cyfarwydd.
Amcangyfrifir bod anhwylder gorfwyta mewn pyliau yn effeithio ar rhwng 1 a 2 o bob 100 o ferched, a llai nag 1 o bob 100 o ddynion.
Yn y DU, amcangyfrifir bod tua 1 o bob 25 o bobl yn profi symptomau anhwylder gorfwyta mewn pyliau. Mewn pobl sydd â mynegai màs y corff (BMI) o dros 30 sy'n ceisio ymyriadau colli pwysau, mae 3 o bob 10 yn profi pyliau sylweddol o orfwyta.
Gall pobl ag anhwylder gorfwyta fod o unrhyw bwysau neu faint, ac o unrhyw gefndir. Nid oes un edrychiad penodol sy'n nodweddiadol o rywun sydd ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau.
Nid oes un rheswm pam y bydd rhywun yn datblygu anhwylder bwyta. Fel gydag anhwylderau bwyta eraill, mae llawer o bethau gwahanol a all ddigwydd a rhyngweithio i achosi i rywun ddatblygu anhwylder gorfwyta mewn pyliau.
Mae rhai achosion posibl yn cynnwys:
- dysmorffia'r corff - lle mae rhywun yn pryderu am ei gorff, neu rannau penodol ohono
- profi cam-drin corfforol neu rywiol yn ystod plentyndod
- hanes teuluol o anhwylderau bwyta.
Mae pethau eraill a all arwain at anhwylder gorfwyta yn cynnwys:
Stigma pwysau
Stigma pwysau yw pan fydd pobl yn profi gwahaniaethu gan gymdeithas oherwydd eu pwysau neu eu maint. Nid oes rhaid i chi fod o bwysau neu faint penodol i brofi stigma pwysau, ond po fwyaf y mae rhywun yn ei bwyso, y mwyaf tebygol yw hi y bydd yn profi stigma pwysau.
Mae ymchwil yn dangos y gall stigma pwysau gael effeithiau negyddol ar iechyd corfforol a meddyliol. Mae pobl sy'n profi stigma pwysau yn fwy tebygol o fod â phatrymau bwyta sydd ddim yn iach, fel gorfwyta mewn pyliau.
Gall stigma pwysau hefyd beri i bobl beidio â cheisio gofal meddygol. Mae'n bwysig i weithwyr meddygol proffesiynol weithio i leihau effaith stigma pwysau wrth drin cleifion. Ar ddiwedd yr adnodd hwn rydym wedi cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer gweithwyr meddygol proffesiynol sy'n trin pobl ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau.
Meddyginiaethau
Mae pobl sydd ag anhwylder gorfwyta yn aml yn profi gorbryder, iselder, neu salwch meddwl arall hefyd.
Gall rhai meddyginiaethau a ragnodir i bobl sydd â salwch meddwl achosi newidiadau mewn archwaeth. Gall hyn beri i bobl ddatblygu ymddygiadau sy'n gysylltiedig â gorfwyta mewn pyliau.
Os ydych chi'n credu efallai bod meddyginiaeth yr ydych chi'n ei chymryd yn effeithio ar eich ymddygiad bwyta neu’ch pwysau, siaradwch â'ch meddyg. Efallai y bydd yn gallu rhagnodi cyffur gwahanol i chi.
Newidiadau hormonaidd
Gall newidiadau hormonaidd sy'n gysylltiedig â rhai cyflyrau iechyd corfforol, fel syndrom ofari polysystig (PCOS) neu ddiabetes, hefyd arwain at ymddygiadau bwyta sy'n andwyol.
Mae pobl sy'n byw gydag anhwylder gorfwyta mewn pyliau yn aml yn teimlo euogrwydd neu gywilydd a all ei gwneud hi'n anodd siarad am y cyflwr neu geisio cymorth. Mae llawer o bobl yn cadw eu gorfwyta yn gyfrinach.
Wrth orfwyta mewn pyliau, bydd rhai pobl yn teimlo wedi eu neilltuo oddi wrth beth maen nhw'n ei wneud, neu'n anghofio eu bod wedi'i wneud. Gelwir hyn yn ddatgysylltiad ac mae'n rhywbeth y mae ein hymennydd yn ei wneud i'n helpu ni i ymdopi â straen.
Fel gydag anhwylderau bwyta eraill, ni all pobl sydd ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau ddewis peidio â chael pyliau o orfwyta, a bydd angen cymorth arnynt i wella.
“Mi fydda i’n mynd o gwmpas yr archfarchnad ac yn codi’r holl bethau dw i’n mynd i'w gorfwyta. Yna, cyn gynted ag y bydda i'n cerdded allan o'r siop dw i'n meddwl, pam 'nes i brynu hyn i gyd? Dw i jyst eisiau ei daflu i’r bin. Dw i jyst eisiau ei gymryd o'n ôl. Ond mae’n rhaid i mi ei fwyta.” - Hannah
Cyflyrau iechyd meddwl
Yn aml mae gan bobl sydd ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau gyflyrau iechyd meddwl eraill. Mae un astudiaeth o bobl sydd ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau yn dangos y bydd gan:
- 7 o bob 10 anhwylder hwyliau fel iselder neu anhwylder deubegynol hefyd
- 7 o bob 10 anhwylder defnyddio sylweddau hefyd
- 6 o bob 10 anhwylder gorbryder hefyd
- 3 o bob 10 anhwylder straen wedi trawma (PTSD) hefyd
Yn yr un astudiaeth, roedd hyd at 2 o bob 10 o bobl a oedd yn byw ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau wedi ceisio lladd eu hunain.
Mae anhwylderau bwyta hefyd yn fwy cyffredin mewn pobl sydd ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD).
Pam mae hyn yn digwydd?
Mae bob amser yn anodd gwybod pam mae un cyflwr yn digwydd ar yr un pryd ag un arall. Er enghraifft, efallai bod pobl sydd ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau yn fwy tebygol o fod â'r cyflyrau eraill hyn, neu efallai bod dioddef o anhwylder gorfwyta mewn pyliau yn arwain at ddatblygu cyflwr arall.
Rydyn ni'n gwybod bod y cywilydd a’r stigma sy’n gysylltiedig â gorfwyta mewn pyliau ac ennill pwysau yn gallu cael effaith negyddol ar hunan-barch, ac y gall hyn arwain at ddatblygu salwch meddwl.
Mae’n bwysig iawn bod pobl sydd ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau yn cael y cymorth y maen nhw'n ei haeddu, a bod yr heriau y maen nhw'n eu hwynebu’n cael eu cymryd o ddifrif.
Problemau iechyd corfforol
Mae pobl sydd ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau yn fwy tebygol o ennill pwysau. Weithiau gall hyn arwain at ddatblygu pwysedd gwaed uchel, neu gyflyrau fel diabetes math 2, sy'n gallu bod yn ddifrifol iawn. Dyma reswm arall pam ei bod yn bwysig cael cymorth yn gynnar os ydych chi'n dioddef o anhwylder gorfwyta mewn pyliau.
Mae’n bosibl trin anhwylder gorfwyta mewn pyliau. Mae'n bwysig bod pobl sydd ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau yn ceisio cymorth ac yn cael y gefnogaeth gywir.
Os ydych chi'n profi ymddygiadau sy'n gysylltiedig â gorfwyta mewn pyliau, ac yn meddwl bod anhwylder gorfwyta mewn pyliau arnoch chi, siaradwch â'ch meddyg teulu. Efallai y bydd yn eich cyfeirio at wasanaeth anhwylderau bwyta, neu'n awgrymu rhai pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu'ch hun.
Isod mae rhestr o'r triniaethau y dylech chi eu cael os oes anhwylder gorfwyta mewn pyliau arnoch chi.
Hunangymorth dan arweiniad
Fel cam cyntaf, efallai y bydd eich meddyg teulu yn argymell eich bod yn rhoi cynnig ar raglen hunangymorth dan arweiniad sydd wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer pobl ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau. Dylech gael deunyddiau sy'n defnyddio egwyddorion therapi ymddygiad gwybyddol (CBT), fel y gallwch wedyn eu hymarfer ar eich pen eich hun.
Dylech gael cymorth gan eich meddyg i ddilyn y rhaglen hon.
CBT mewn grŵp ar gyfer anhwylderau bwyta
Os nad ydych chi'n dymuno defnyddio hunangymorth dan arweiniad, neu os ydych chi wedi rhoi cynnig ar hunangymorth dan arweiniad ond nad yw wedi gweithio ar ôl 4 wythnos, dylid cynnig CBT mewn grŵp i chi. Bydd hwn yn benodol ar gyfer trin anhwylderau bwyta, a therapydd seicolegol hyfforddedig fydd yn rhedeg y sesiynau.
Beth sy'n digwydd mewn CBT grŵp?
Mewn CBT grŵp ar gyfer anhwylderau bwyta, byddwch yn gweithio i:
- ddeall eich ymddygiadau bwyta
- adnabod unrhyw broblemau rydych chi'n eu cael
- penderfynu ar eich amcanion ar gyfer triniaeth.
Byddwch hefyd yn dod i adnabod:
- beth sy'n arwain at orfwyta mewn pyliau
- argyhoeddiadau negyddol a allai fod gennych am eich corff a sut i herio'r rhain
- y mathau o bethau a allai achosi i chi orfwyta mewn pyliau
- sut y gallwch chi osgoi cael cyfnod arall o salwch.
Mae therapi grŵp yn ddefnyddiol i rai pobl, gan ei fod yn caniatáu iddyn nhw ddysgu gan bobl eraill, a thrafod pynciau heriol mewn lleoliad cefnogol. Nid yw rhai pobl yn hoffi therapi grŵp neu maen nhw’n teimlo nad yw'n ddefnyddiol iddyn nhw, ac mae’n well gan rai pobl gael cymorth ar eu pen eu hunain. Siaradwch â'ch meddyg neu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol arall i benderfynu ar yr opsiwn gorau i chi.
Pa mor hir mae'n para?
Bydd CBT grŵp ar gyfer anhwylderau bwyta fel arfer yn digwydd mewn sesiynau 90 munud bob wythnos. Bydd y sesiynau hyn fel arfer yn para am gyfnod o 16 wythnos.
CBT unigol ar gyfer anhwylderau bwyta
Os nad yw therapi grŵp yn gweithio i chi, neu os nad yw ar gael yn eich ardal chi, efallai y cewch gynnig CBT unigol.
Sut mae'n gweithio?
Mewn CBT unigol byddwch yn dechrau trwy drafod yr heriau yr ydych chi'n eu hwynebu, a sut mae beth rydych chi'n ei fwyta a sut rydych chi'n teimlo yn berthnasol i'ch gorfwyta.
Wrth gael CBT, byddwch yn monitro beth rydych chi'n ei fwyta a phryd y byddwch chi'n cael pyliau o orfwyta. Dylid gwneud hyn mewn ffordd gadarnhaol, ac ni ddylai fod yn ffordd o ddwyn cywilydd arnoch chi'ch hun am orfwyta neu orfwyta mewn pyliau. Byddwch hefyd yn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau delwedd corff a allai fod yn achosi pryder i chi.
Pa mor hir mae'n para?
Bydd CBT unigol ar gyfer anhwylderau bwyta fel arfer yn digwydd dros gyfnod o 16 i 20 sesiwn o awr yr un.
A oes meddyginiaeth ar gyfer trin anhwylder gorfwyta mewn pyliau?
Nid oes unrhyw feddyginiaethau a argymhellir ar gyfer trin anhwylder gorfwyta mewn pyliau. Fodd bynnag, os ydych chi'n profi problemau iechyd meddwl neu gorfforol eraill a allai fod yn cyfrannu at eich anhwylder gorfwyta mewn pyliau, efallai y cewch chi bresgripsiwn am feddyginiaeth. Er enghraifft, os ydych chi’n dioddef o iselder, efallai y cewch gynnig cyffuriau gwrth-iselder. Dylid cynnig y rhain ochr yn ochr â therapi.
Os oes gennych chi gyflwr iechyd arall, dylai gweithwyr meddygol proffesiynol weithio gyda'i gilydd i ddeall sut orau i drin y ddau beth, a'r effaith y gallai'r triniaethau hyn ei chael ar ei gilydd. Er enghraifft, os oes diabetes arnoch chi bydd angen i’r bobl sy’n eich trin ystyried sut y gallwch chi reoli eich diabetes mewn ffordd sydd ddim yn cael effaith negyddol ar eich anhwylder gorfwyta mewn pyliau.
Nid colli pwysau yw nod y driniaeth ar gyfer anhwylder gorfwyta mewn pyliau. Dros amser, dylai triniaeth ar gyfer anhwylder gorfwyta mewn pyliau eich helpu i ddatblygu patrwm bwyta gwell. Dylai hyn helpu i sefydlogi'ch pwysau.
Gall colli pwysau fod yn nod pwysig i rai pobl. Fodd bynnag, mae'n bwysig i chi ganolbwyntio ar drin eich anhwylder gorfwyta mewn pyliau yn gyntaf.
Ni fydd colli pwysau yn gwneud i anhwylder gorfwyta ddiflannu, gan nad yw'r cyflwr yn cael ei achosi gan fod o bwysau penodol.
Os ydych chi'n dioddef o anhwylder gorfwyta mewn pyliau, mae'n bwysig ceisio cymorth proffesiynol fel y gallwch gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Fodd bynnag, mae yna hefyd bethau y gallwch chi eu gwneud i gynnal eich hun:
Byddwch yn garedig wrthych chi'ch hun pan fyddwch chi'n cael pyliau o orfwyta
Os ydych chi wedi cael pwl o orfwyta, gall fod yn hawdd meddwl eich bod wedi dadwneud eich gwaith caled. Mae pawb yn gwneud camgymeriadau o dro i dro. Nid yw hwn yn gam yn ôl, ac mae'n bwysig bod yn garedig wrthych chi'ch hun.
Osgoi deietau cyfyngol
Bydd unrhyw fath o ddeiet cyfyngol yn debygol o arwain at orfwyta mewn pyliau, gan ei fod yn achosi'r cylch yr ydym wedi siarad amdano o'r blaen, lle'r ydych chi'n cyfyngu ar beth rydych chi’n ei fwyta, yn teimlo'n llwglyd, yn colli rheolaeth ac yn gorfwyta mewn pyliau.
Cadw dyddiadur bwyd
Mewn dyddiadur bwyd byddwch yn monitro faint rydych chi’n ei fwyta a phryd. Efallai eich bod wedi cadw dyddiadur bwyd yn y gorffennol, ond mewn anhwylder gorfwyta mewn pyliau ni ddylid defnyddio’r dyddiadur hwn fel ffordd o gosbi eich hun, nac i gyfyngu ar beth rydych chi'n ei fwyta.
Gall cadw dyddiadur bwyd eich helpu i ddeall:
- yr adegau pan fyddwch chi’n fwy tebygol o gael pyliau o orfwyta
- achosion gorfwyta mewn pyliau, megis digwyddiadau llawn straen neu emosiynau anodd.
Gall dyddiadur bwyd eich helpu i sylwi ar y patrwm o gyfyngu, colli rheolaeth a phyliau o orfwyta a drafodwyd gennym ar ddechrau'r adnodd hwn. Trwy sylwi ar y patrwm hwn, gallwch gymryd camau i dorri'r cylch.
Pan fyddwch chi'n cadw dyddiadur bwyd, byddwch yn garedig wrthych chi'ch hun. Gall fod yn ddefnyddiol cael cymorth wrth ddechrau dyddiadur bwyd, fel ei fod yn cael ei wneud yn y ffordd gywir.
Dilyn patrwm bwyta iach
Mae patrwm bwyta iach yn golygu:
- bwyta’n rheolaidd
- peidio â hepgor prydau bwyd
- bwyta nes eich bod yn llawn.
Hyd yn oed os ydych chi wedi cael pwl o orfwyta, dylech ddal i fwyta fel arfer. Er enghraifft, os ydych chi wedi gorfwyta yn y prynhawn, rydych chi'n dal i haeddu bwyta swper fel arfer. Gall gwneud hyn eich helpu i fynd yn ôl yn fuan i batrwm iach o fwyta.
Mae pethau eraill a allai fod o gymorth yn cynnwys:
- cynllunio eich prydau bwyd a’ch byrbrydau ar gyfer y diwrnod, yn enwedig os ydych chi’n fwy tebygol o gael pyliau o orfwyta ar rai adegau o'r dydd
- peidio â mynd i siopa pan fyddwch chi eisiau bwyd.
Defnyddio technegau tynnu sylw
I rai pobl mae rhai adegau o'r dydd, neu rai gweithgareddau, yn gallu achosi pyliau o orfwyta. Gallech chi feddwl am y rhain fel ‘adegau o risg’.
Efallai y bydd defnyddio technegau tynnu sylw yn eich helpu i ddod drwy'r adegau hyn. Er enghraifft, gallai mynd am dro, neu gyfarfod ffrind eich helpu i osgoi gorfwyta.
Y peth pwysicaf i'w wneud os bydd rhywun wedi dweud wrthych chi ei fod yn dioddef o anhwylder gorfwyta mewn pyliau yw gofyn beth fyddai'n ei helpu.
Unwaith y byddwch wedi gwneud hynny, mae yna bethau eraill y gallech chi roi cynnig arnyn nhw i helpu’r person i deimlo ei fod yn cael ei gefnogi:
Ymateb gyda thosturi a dealltwriaeth
Os bydd rhywun yn dweud wrthych chi fod ganddo anhwylder gorfwyta, mae'n bwysig ymateb gyda thosturi a dealltwriaeth. Mae'n debyg y bydd yn teimlo cywilydd neu euogrwydd, ac efallai mai chi yw'r person cyntaf y mae wedi dweud wrtho.
Meddwl am eich iaith
Gall fod yn hawdd siarad am fwyd, deiet neu bwysau yn eich bywyd bob dydd heb sylweddoli eich bod yn gwneud hynny. Mae rhai pynciau neu ffyrdd o siarad yn gallu achosi gofid i bobl sydd yn cael, neu sydd wedi cael, problemau gyda bwyd, pwysau neu ddeiet.
Dyma rai pethau i geisio eu hosgoi:
- Iaith ffwrdd-â-hi yn ymwneud â deiet - “Dw i'n cael diwrnod twyllo” neu “Dw i am fynd heb ginio gan ein bod ni'n mynd am swper ymhellach ymlaen”.
- Disgrifio bwydydd fel rhai da neu ddrwg - “Dw i'n mynd i fod yn ddrwg a chael darn o gacen” neu “Dw i'n bwyta'n iach yr wythnos yma”.
- Sôn am golli neu ennill pwysau - “Dw i'n colli pwysau ar gyfer yr haf” neu “'Nes i fagu cymaint o bwysau dros y Nadolig”.
Osgoi gwneud sylwadau am golli neu ennill pwysau
Os bydd rhywun yn dioddef o anhwylder bwyta, gall ennill neu golli pwysau fod yn bwnc cymhleth. Oni bai bod rhywun yn gofyn i chi, mae bob amser yn well osgoi gwneud sylwadau ar bwysau rhywun, hyd yn oed os mai bod yn garedig yw’r bwriad.
Er enghraifft, yn lle dweud “rwyt ti'n edrych yn grêt rŵan dy fod ti wedi colli pwysau” fe allech chi ddweud “rwyt ti'n edrych yn grêt” a dim mwy.
Neu yn lle dweud “mae’n grêt gweld dy fod ti wedi colli pwysau” fe allech chi ddweud “mae’n grêt gweld dy fod ti'n edrych mor hapus”.
Mae gan Beat, yr elusen anhwylderau bwyta, erthygl ddefnyddiol sy'n trafod 10 Peth Defnyddiol i'w Dweud wrth Rywun sydd ag Anhwylder Bwyta.
Deall bwydydd sy'n arwain at orfwyta
Efallai y bydd y person rydych chi'n ei adnabod yn fwy tebygol o orfwyta rhai bwydydd. Weithiau disgrifir y rhain fel ‘bwydydd sy'n sbarduno gorfwyta’ oherwydd eu bod yn gallu sbarduno, neu achosi, ymddygiadau gorfwyta.
Gallech helpu drwy:
- beidio â chadw'r bwydydd hyn yn y tŷ os ydych chi'n byw gyda'r person
- peidio â dod â'r bwydydd hyn i'r swyddfa
- peidio â rhoi'r bwydydd hyn yn anrhegion.
Fodd bynnag, nid eich cyfrifoldeb chi yw cuddio bwyd rhag rhywun na chyfyngu ar eu mynediad ato.
Annog ymddygiadau cadarnhaol
Gallwch annog y person rydych chi'n ei adnabod i gael perthynas iach â bwyd. Gallai hyn fod drwy goginio ar ei gyfer neu gydag ef, neu drwy fwyta prydau gyda'ch gilydd. Gwnewch yn siŵr bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd y mae'r person yn gyfforddus ag ef.
Bod yn amyneddgar
Yn olaf, cofiwch nad yw gwella o anhwylder bwyta yn broses gyflym. Mae anhwylder gorfwyta mewn pyliau yn gyflwr sy'n gallu gwella neu waethygu dros amser. Gall unigolyn wynebu anawsterau wrth weithio tuag at wella. Gall gymryd amser hir i unigolyn ddatblygu perthynas gadarnhaol â bwyd, ac efallai y bydd adegau pan fydd yn gorfwyta eto.
Gallwch gymell y person drwy ei atgoffa nad yw pwl neu byliau o orfwyta yn golygu ei fod wedi dadwneud ei holl waith da. Bob tro y bydd yn llithro'n ôl, bydd yn dysgu mwy am y cyflwr ac am ei hun.
Efallai mai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yw'r bobl gyntaf y mae unigolyn wedi siarad â nhw am orfwyta. Gall sut rydych chi'n ymdrin â pherson sy'n ceisio cymorth gael effaith hynod gadarnhaol ar ei iechyd emosiynol a chorfforol, a sut mae'n rheoli ei anhwylder gorfwyta mewn pyliau.
Dyma rai ffyrdd y gallwch chi gynnig y cymorth gorau posibl:
Osgoi ymddygiad sy’n creu stigma
Mae anhwylder gorfwyta mewn pyliau yn salwch meddwl, ac fel unrhyw salwch meddwl arall, dylid ei drin mewn ffordd sydd ddim yn creu stigma.
Cofiwch y gall pobl sydd ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau fod â llawer o deimladau negyddol tuag at eu hunain. Gall estyn allan a gofyn am help wneud i bobl deimlo'n fregus iawn. Cydnabyddwch y cryfder y mae wedi'i gymryd iddyn nhw rannu eu profiadau.
Peidio ag annog deiet cyfyngol
Os yw’n ymddangos bod rhywun yn profi anhwylder bwyta o unrhyw fath, dylid ei atgyfeirio am gymorth anhwylder bwyta cyn ei atgyfeirio i raglen rheoli pwysau, waeth beth fo'i bwysau.
Mae deietau cyfyngol yn debygol o arwain at byliau pellach o orfwyta mewn rhywun ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau, felly mae'n bwysig peidio ag argymell hyn i rywun sy'n ceisio cymorth ar gyfer yr ymddygiadau hyn.
Mae ymchwil wedi dangos nad yw deietau cyfyngol yn gynaliadwy, gan nad yw'n bosibl cynnal y pwysau a gollwyd pan ddaw’r deiet i ben. Mae'n fwy defnyddiol i chi helpu pobl ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau i gynnal eu pwysau.
Sgrinio am gyflyrau sy'n cydfodoli
Mae’n bwysig sgrinio am unrhyw salwch meddwl sy’n cydfodoli, fel gorbryder, iselder, PTSD neu hunan-niweidio, neu gyflyrau niwroddatblygiadol fel ADHD neu awtistiaeth.
Dylech hefyd sgrinio am broblemau iechyd corfforol sy'n cydfodoli, fel diabetes a gorbwysedd, gan ofalu eich bod yn gwneud hynny mewn modd sensitif sydd ddim yn atgyfnerthu stigma pwysau.
Defnyddio dull sy'n seiliedig ar drawma
Mae’n bosibl bod pobl sydd ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau wedi profi trawma sylweddol, a allai fod wedi cyfrannu at ddatblygu’r anhwylder yn y lle cyntaf. Mae’n bosibl na fydden nhw wedi datgelu hyn i neb o’r blaen.
Gallwch helpu drwy ddarparu man agored ac anfeirniadol i drafod profiadau o drawma, neu drwy awgrymu trefnu ail apwyntiad i drafod eu profiadau yn fwy manwl.
Atgyfeirio at wasanaethau anhwylderau bwyta os oes angen
Ymgysylltwch â'ch uned anhwylderau bwyta leol i ddarganfod beth yw eu meini prawf ar gyfer atgyfeirio, a pha driniaethau sydd ar gael. Bydd hyn yn eich helpu i reoli disgwyliadau eich claf mewn modd priodol.
Cadwch olwg am fwyta datgysylltiol a chyfnodau o ddatgysylltu. Gall y rhain wneud anhwylder gorfwyta mewn pyliau yn fwy anodd ei drin ac maent yn golygu bod yr unigolyn yn fwy tebygol o fod angen cymorth gan wasanaethau anhwylderau bwyta.
Cyfeirio at adnoddau hunangymorth
Cyfeiriwch at adnoddau hunangymorth dibynadwy. Ystyriwch weld y claf eto ar ôl ei gyfeirio at adnoddau hunangymorth, yn enwedig os yw wedi datgelu trawma.
Llyfrau
- Overcoming Binge Eating, Christopher Fairburn – Mae'r llyfr hwn yn cynnig gwybodaeth a chanllawiau hunangymorth i bobl sy'n cael trafferth gyda bwyta sydd allan o reolaeth.
- The compassionate-mind guide to ending overeating: using compassion-focused therapy to overcome bingeing and disordered eating, Ken Goss - Mae’r llyfr hwn yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad ar ddeall ymddygiadau gorfwyta, ac ymdrin â straen, hunanfeirniadaeth a chywilydd.
Anhwylder gorfwyta mewn pyliau
- Binge eating disorder, NHS – Gwybodaeth gan y GIG am anhwylder gorfwyta mewn pyliau
- Binge eating disorder, Beat – Gwybodaeth gan yr elusen Beat am anhwylder gorfwyta mewn pyliau
Canllawiau
- Eating disorders: recognition and treatment, information for the public, NICE – Yn y canllaw hwn gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) gallwch weld y gofal y dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ei ddarparu i bobl sydd ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau.
Cymorth lleol
Mae Beat hefyd yn cynnig cymorth i bobl sy’n cael eu heffeithio gan anhwylderau bwyta ledled y DU. Chwiliwch am wasanaethau cymorth anhwylderau bwyta yn eich ardal, neu cysylltwch â Llinell Gymorth Beat
Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PEEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.
Awduron arbenigol: Dr Samantha Scholtz a Dr Lucy Tweedlie
Diolch yn arbennig i’r bobl sydd â phrofiad o fyw gydag anhwylder gorfwyta mewn pyliau a gyfrannodd at yr adnodd hwn: Hannah Moore a James Downs
This translation was produced by CLEAR Global (Nov 2023)