Cyffuriau gwrth-iselder

Antidepressants

Below is a Welsh translation of our information resource on antidepressants. You can also view our other Welsh translations.

Ymwadiad

Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae'r wybodaeth hon ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am gyffuriau gwrth-iselder. Mae’n disgrifio sut y maen nhw'n gweithio, pam eu bod yn cael eu rhagnodi, eu heffeithiau a'u sgil-effeithiau, a thriniaethau eraill.

Mae cyffuriau gwrth-iselder yn feddyginiaethau sy’n gallu helpu i leddfu symptomau iselder, anhwylderau gorbryder a rhai cyflyrau eraill. Cawsant eu datblygu gyntaf yn y 1950au ac maent wedi cael eu defnyddio'n rheolaidd ers hynny. Mae pum prif gategori:

  • SSRIs (Atalyddion Aildderbyn Serotonin Dethol)
  • SNRIs (Atalyddion Aildderbyn Serotonin a Noradrenalin)
  • NASSAs (Noradrenalin a Chyffuriau Gwrth-iselder Serotoninergig Penodol)
  • Cyffuriau trichylchol
  • MAOIs (Atalyddion Ocsidas Monoamin).

Mae categorïau eraill o gyffuriau gwrth-iselder sy'n cael eu rhagnodi'n llai aml heddiw:

  • Cyffuriau tetragylchol
  • SARIs (gwrthweithydd ac atalyddion aildderbyn serotonin)
  • NDRIs (atalyddion aildderbyn norepineffrin-dopamin).

Mae'r adnodd hwn yn canolbwyntio ar sut mae cyffuriau gwrth-iselder yn cael eu defnyddio i drin symptomau iselder. Fodd bynnag, bydd llawer o'r wybodaeth yn yr adnodd hwn yn ddefnyddiol i bobl sy'n cymryd cyffuriau gwrth-iselder ar gyfer cyflyrau eraill.

I gael gwybodaeth am sut i roi'r gorau i gymryd cyffuriau gwrth-iselder yn ddiogel, edrychwch ar ein hadnodd Rhoi'r gorau i gymryd cyffuriau gwrth-iselder.

Fel gyda llawer o fathau eraill o feddyginiaethau a thriniaethau, nid ydym yn gwybod i sicrwydd sut mae cyffuriau gwrth-iselder yn gweithio. Rydym yn gwybod eu bod yn effeithio ar weithrediad rhai cemegion yn ein hymennydd. Gelwir y rhain yn niwrodrosglwyddyddion, ac maent yn trosglwyddo signalau o un gell yn yr ymennydd i un arall. Serotonin a noradrenalin yw'r niwrodrosglwyddyddion sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan gyffuriau gwrth-iselder.

Fodd bynnag, mae ymchwil yn awgrymu bod cyffuriau gwrth-iselder yn gweithio ar yr ymennydd mewn llawer o ffyrdd sy'n mynd y tu hwnt i adweithiau cemegol syml. Mae’r ymchwil hwn yn awgrymu eu bod yn:

  • dylanwadu ar sut mae'r corff yn ymateb i straen
  • lleddfu ein meddyliau negyddol
  • atal neu hyd yn oed wrthdroi difrod i gelloedd yr ymennydd.

Fel arfer ni ddylid rhagnodi cyffuriau gwrth-iselder ar gyfer iselder ysgafn. Fodd bynnag, maent yn cael eu hargymell ar gyfer oedolion sydd â salwch iselder cymedrol i ddifrifol. Dyma pan fydd iselder yn lleihau ansawdd bywyd rhywun yn sylweddol ac yn cael effaith ar eu bywyd o ddydd i ddydd. Gellir defnyddio cyffuriau gwrth-iselder ar eu pen eu hunain neu ynghyd â seicotherapïau.

Ni ddylid eu defnyddio fel arfer ar gyfer plant a phobl ifanc, oni bai bod eu hiselder:

  • heb ymateb i driniaethau eraill
  • neu yn arbennig o ddifrifol.

Gellir rhagnodi cyffuriau gwrth-iselder ar gyfer rhai cyflyrau eraill hefyd, gan gynnwys:

Dylai eich meddyg egluro pam ei fod yn awgrymu eich bod yn cymryd cyffur gwrth-iselder. Dylai hefyd egluro’r manteision a’r risgiau posibl o gymryd cyffur gwrth-iselder

Mae ymchwil yn dangos bod cyffuriau gwrth-iselder yn helpu i leihau symptomau iselder cymedrol a difrifol mewn oedolion. Ond mae gwahanol bobl yn cael profiadau gwahanol iawn gyda'r meddyginiaethau hyn.

Bydd rhai pobl yn gwella dros amser heb gyffuriau gwrth-iselder. Fodd bynnag, yn gyffredinol mae pobl yn gweld gwelliant yn eu symptomau ac yn ansawdd eu bywyd ar ôl defnyddio cyffuriau gwrth-iselder. Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd eu hiselder yn fwy difrifol. Mae rhai pobl yn gweld bod cyffuriau gwrth-iselder yn lleihau symptomau eu hiselder ond eu bod yn achosi sgil-effeithiau heriol. Mae eraill yn gweld nad yw cyffuriau gwrth-iselder yn gweithio iddyn nhw.

Os bydd eich meddyg yn rhagnodi cyffur gwrth-iselder, dylai roi adolygiad i chi tua phythefnos ar ôl i chi ddechrau eu cymryd er mwyn monitro:

  • sut rydych chi'n teimlo
  • a ydych chi’n profi sgil-effeithiau
  • ac a oes angen i chi barhau i gymryd y cyffur gwrth-iselder.

Nid yw cyffuriau gwrth-iselder yn gallu cael gwared ar y ffactorau allanol a allai fod wedi arwain at ddatblygu iselder. Er enghraifft, os ydych chi dan lawer o straen yn y gwaith neu wedi cael profedigaeth, ni fydd cyffuriau gwrth-iselder, wrth gwrs, yn gallu cael gwared ar y pethau hyn. Fodd bynnag, gallant helpu i reoli symptomau iselder a'i gwneud yn haws delio â'r ffactorau allanol hyn. Dyma un o'r rhesymau pam y cânt eu defnyddio'n aml ynghyd â seicotherapïau.

Gall pob meddyginiaeth achosi sgil-effeithiau. Dylai eich meddyg drafod y rhain â chi cyn i chi gytuno i ddechrau defnyddio cyffuriau gwrth-iselder. Dylech ddweud wrth eich meddyg am unrhyw gyflyrau meddygol sydd gennych chi neu a fu gennych chi yn y gorffennol. Gall hyn effeithio ar y math o gyffur gwrth-iselder y mae’n ei argymell i chi.

Isod mae rhai sgil-effeithiau y gallech chi eu profi gyda'r gwahanol fathau o gyffuriau gwrth-iselder. Bydd y taflenni a ddaw gyda'r feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd yn cynnwys manylion llawn am y rhain.

Er y gallai'r rhestr o sgil-effeithiau beri pryder, bydd y rhain yn ysgafn i'r rhan fwyaf o bobl. Byddant hefyd fel arfer yn diflannu dros ychydig wythnosau wrth i'ch corff ddod i arfer â'r feddyginiaeth.

SSRIs a SNRIs

  • teimlo'n aflonydd, yn sigledig neu'n bryderus. Yn aml, dyma pam mae pobl yn rhoi’r gorau i gymryd eu cyffur gwrth-iselder, yn enwedig os nad ydynt wedi cael eu rhybuddio am hyn. Fodd bynnag, mae'r sgil-effaith hwn fel arfer yn lleihau ychydig wythnosau ar ôl dechrau cymryd y cyffur gwrth-iselder.
  • teimlo'n gyfoglyd neu gyfogi
  • diffyg traul neu boenau yn y stumog
  • dolur rhydd neu rwymedd
  • colli awydd bwyd
  • pendro
  • golwg aneglur
  • ceg sych
  • chwysu
  • trafferth cysgu (anhunedd), neu deimlo'n gysglyd iawn
  • cur pen/pen tost
  • ysfa rywiol isel
  • anawsterau cael orgasm wrth gael rhyw neu fastyrbio
  • mewn dynion, anhawster cael neu gynnal codiad (trafferthion ymgodol).

Yn anaml, gall pobl brofi sgil-effeithiau rhywiol mwy parhaus ar ôl iddynt roi'r gorau i gymryd SSRIs. Mae rhai pobl wedi defnyddio'r term 'trafferthion rhywiol ôl-SSRI' (PSSD) i ddisgrifio'r symptomau hyn. I'r bobl hyn, gall PSSD gael effaith sylweddol a gofidus ar eu bywydau.

Mae angen mwy o ymchwil i ddeall pam mae hyn yn digwydd a pha mor gyffredin ydyw. Mae’n bwysig bod pobl sy’n profi sgil-effeithiau rhywiol parhaus yn cael cymorth priodol ac amserol.

NASSAs

Mae sgil-effeithiau NASSAs yn debyg iawn i rai SSRIs. Gallant wneud i chi deimlo'n gysglyd, ac arwain at ennill pwysau, ond maent yn achosi llai o broblemau rhywiol. 

Cyffuriau trichylchol

Yn aml, gall y rhain achosi:

  • ceg sych
  • golwg ychydig yn aneglur
  • rhwymedd
  • problemau wrth basio wrin
  • syrthni
  • pendro
  • ennill pwysau
  • chwysu gormodol (yn enwedig yn ystod y nos)
  • problemau rhythm y galon, fel crychguriadau amlwg neu guriad calon cyflym (tacycardia).

Fel gyda SSRIs/SNRIs, bydd y sgil-effeithiau hyn fel arfer yn ysgafn ac yn diflannu dros ychydig wythnosau.

MAOIs

Mae MAOIs yn ddosbarth o gyffuriau gwrth-iselder sy'n cael eu rhagnodi'n llai cyffredin. Maen nhw’n tueddu i gael eu defnyddio gan arbenigwyr yn unig. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod angen i bobl sy'n eu cymryd ddilyn deiet caeth sy'n osgoi bwydydd sy'n uchel mewn Tyramine (asid amino). Os na chaiff y deiet hwn ei ddilyn, mae risg o ddatblygu pwysedd gwaed peryglus o uchel. Yn gyffredinol, mae MAOIs yn cael eu goddef yn dda. Gallant fod yn effeithiol mewn rhai sefyllfaoedd lle nad yw cyffuriau gwrth-iselder eraill wedi gweithio neu pan fyddant yn achosi sgil-effeithiau annymunol. 

Os ydych chi'n defnyddio unrhyw fath o gyffur gwrth-iselder ac yn profi sgil-effeithiau sy'n para mwy nag ychydig wythnosau neu'n dod yn annioddefol, siaradwch â'ch meddyg. Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi ddweud wrth eich ffrindiau neu deulu eich bod yn dechrau cymryd cyffuriau gwrth-iselder. Gall hyn eu helpu i'ch cefnogi os ydych chi'n profi sgil-effeithiau.

I gael gwybodaeth lawn am y cyffur gwrth-iselder rydych chi’n ei gymryd, gan gynnwys sgil-effeithiau, ewch i'r Compendiwm Meddyginiaethau Electronig (EMC). Teipiwch enw'r feddyginiaeth yn y blwch chwilio ar frig y dudalen. Dylech hefyd gael copi papur o'r wybodaeth hon pan fyddwch yn cael eich meddyginiaeth. Os na fyddwch chi'n cael copi, gofynnwch i'ch fferyllydd roi un i chi. 

Gall iselder achosi i chi deimlo'n hunanladdol. Mae rhai pobl hefyd yn profi mwy o feddyliau hunanladdol pan fyddant yn dechrau cymryd cyffuriau gwrth-iselder. Gall y risg y bydd hyn yn digwydd fod yn uwch mewn plant a phobl ifanc. Oherwydd hyn, os rhoddir cyffuriau gwrth-iselder ar bresgripsiwn iddynt, dylent gael eu monitro'n agos am feddyliau hunanladdol gan y meddyg sy'n rhagnodi neu gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.

Mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i'ch meddyg ar unwaith os byddwch chi'n profi meddyliau neu deimladau hunanladdol. Efallai y bydd yn awgrymu eich bod chi'n rhoi'r gorau i gymryd eich cyffur gwrth-iselder.

Os ydych chi’n teimlo eich bod mewn perygl o niweidio’ch hun, ffoniwch 999 neu ewch i’r adran damweiniau ac achosion brys agosaf.

Os dydych chi ddim mewn argyfwng ond bod angen cymorth arnoch, ffoniwch GIG 111.

Mae rhai cyffuriau gwrth-iselder yn eich gwneud chi’n gysglyd ac yn arafu eich adweithiau, felly ni allwch eu cymryd os ydych chi’n gyrru neu'n gweithredu peiriannau. Dylech ymgynghori â'ch meddyg ac edrych ar y daflen sy'n dod gyda'r feddyginiaeth i fod yn siŵr.

Os yw eich cyflwr neu feddyginiaeth yn effeithio ar eich gallu i yrru, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

Gall fod yn anodd i rai pobl roi'r gorau i gymryd cyffuriau gwrth-iselder, tra bod pobl eraill yn gallu rhoi'r gorau iddi yn gymharol hawdd.

Ni ddylid byth roi’r gorau i gymryd cyffuriau gwrth-iselder yn syth. Rydym wedi datblygu adnodd gwybodaeth ar wahân ar roi'r gorau i gymryd cyffuriau gwrth-iselder sy'n edrych yn fanwl ar y maes hwn. Mae'n rhoi cyngor ar sut i roi'r gorau iddi yn raddol.

Mae symptomau diddyfnu fel arfer yn ymddangos o fewn dyddiau i roi’r gorau i gymryd y cyffur gwrth-iselder ac maen nhw’n cynnwys:

  • cur pen/pen tost
  • penysgafnder
  • cyfog
  • trafferth cysgu
  • breuddwydion byw neu frawychus
  • teimladau tebyg i sioc drydanol (a elwir hefyd yn 'zaps')
  • newidiadau sydyn mewn hwyliau, gan gynnwys pryder ac anniddigrwydd.

Os bydd yr iselder yn dod yn ôl ymhen wythnosau neu fisoedd, mae hyn yn fwyaf tebygol oherwydd bod y cyflwr gwreiddiol yn dod yn ôl yn hytrach na symptomau diddyfnu.

Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn ein hadnodd gwybodaeth ar roi'r gorau i gymryd cyffuriau gwrth-iselder.

Mae rhai pobl yn profi symptomau diddyfnu annymunol pan fyddant yn rhoi'r gorau i ddefnyddio cyffuriau gwrth-iselder. Yn y rhan fwyaf o bobl, gellir lleihau'r symptomau diddyfnu hyn trwy leihau dos y cyffur gwrth-iselder yn araf dros gyfnod o ychydig wythnosau. Er efallai y bydd angen i rai pobl ailddechrau ei gymryd a lleihau’r dos yn fwy araf fyth.

Efallai y byddwch chi'n teimlo eich bod yn gaeth i'r cyffur gwrth-iselder os nad ydych chi'n gallu rhoi'r gorau i'w gymryd pan fyddwch chi'n dymuno gwneud hynny. Nid yw hyn yn union yr un fath â bod yn ‘gaeth’.

Yn gyffredinol, mae caethiwed yn golygu eich bod chi'n:

  • teimlo awydd neu ysfa i ddefnyddio sylwedd
  • colli rheolaeth dros eich defnydd o'r sylwedd
  • profi pleser, neu ‘hwyliau uchel’ pan fyddwch chi’n ei ddefnyddio.

Gall caethiwed ddigwydd gyda sylweddau fel alcohol, nicotin a bensodiasepinau.

Gyda chyffuriau gwrth-iselder, gall fod yn anodd rhoi'r gorau i'w cymryd, ond mae'n fwy cywir dweud mai dibyniaeth gorfforol yw hyn.

Mae’r term ‘dibyniaeth gorfforol’ yn cael ei ddrysu â chaethiwed. Mae dibyniaeth gorfforol yn golygu bod eich corff wedi addasu i bresenoldeb sylwedd neu feddyginiaeth.

Mae hyn yn achosi goddefiad ac effeithiau diddyfnu oherwydd bod y corff yn ‘colli'r’ cyffur pan fydd wedi mynd. Nid oes angen i gyffur achosi ‘hwyliau uchel’ i arwain at ddibyniaeth.

Dyma restr o'r cyffuriau gwrth-iselder a ddefnyddir yn gyffredin, eu henwau masnachu yn y DU, a'r 'grŵp' y maent yn perthyn iddo.

Meddyginiaeth

Enw masnachu

Grŵp

Amitriptyline Tryptizol Trichylchol
Agomelatine Valdoxan Eraill*
Bupropion Zyban NDRI
Citalopram Cipramil SSRI
Clomipramine Anafranil Trichylchol
Desipramine Norpramin Trichylchol
Desvenlafaxine Pristiq SNRI
Dosulepin Prothiaden Trichylchol
Doxepin Sinequan Trichylchol
Duloxetine Cymbalta, Yentreve SNRI
Escitalopram Cipralex SSRI
Fluoxetine Prozac SSRI
Fluvoxamine Faverin SSRI
Imipramine Tofranil Trichylchol
Isocarboxazid Marplan MAOI
Lofepramine Gamanil Trichylchol
Mianserin Tolvon Tetragylchol
Milnacipran Ixel a Savella SNRI
Mirtazapine Zispin NASSA
Moclobemide Manerix MAOI
Nefazodone Serzone SARI
Nortriptyline Allegron Trichylchol
Paroxetine Seroxat SSRI
Phenelzine Nardil MAOI
Reboxetine Edronax SNRI
Sertraline Lustral SSRI
Tranylcypromine Parnate MAOI
Trazodone Molipaxin Cysylltiedig â chyffuriau trichylchol
Trimipramine Surmontil Trichylchol
Venlafaxine Efexor SNRI
Vilazodone Viibryd SSRI
Vortioxetine Brintellix SSRI

*Mae'r cyffur gwrth-iselder hwn yn rheoleiddio serotonin ond mewn ffordd wahanol o'i gymharu â chyffuriau gwrth-iselder clasurol. Mae hefyd yn gweithredu ar melatonin, sef hormon sy'n gysylltiedig â chwsg.

Nid yw hon yn rhestr gyflawn o'r holl gyffuriau gwrth-iselder. Mae cyffuriau eraill a ddefnyddir weithiau mewn lleoliadau arbenigol.

Mae llawer o bobl yn gorfod cymryd meddyginiaethau ar gyfer problemau iechyd corfforol neu feddyliol cyn, yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd. Mae rhai meddyginiaethau wedi cael eu defnyddio yn ystod beichiogrwydd ers blynyddoedd lawer. Mae'n hysbys bod eraill yn beryglus yn ystod beichiogrwydd (er enghraifft sodium valproate).

Nid yw penderfyniadau ynghylch a ddylid parhau, newid neu roi'r gorau i gymryd cyffuriau gwrth-iselder yn ystod beichiogrwydd neu wrth fwydo ar y fron yn syml nac yn hawdd. Mae llawer o ffactorau i'w hystyried, gan gynnwys:

  • y feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd
  • eich hanes personol o ran salwch
  • eich ymateb i driniaeth
  • eich barn chi.

Mae angen pwyso a mesur unrhyw risgiau o gymryd meddyginiaeth, gan gynnwys cyffuriau gwrth-iselder, yn ystod beichiogrwydd yn erbyn y risg o fynd yn sâl heb driniaeth. Bydd angen i chi gael trafodaeth ofalus â'ch meddyg teulu neu seiciatrydd. 

Mae astudiaethau ymchwil wedi edrych ar filoedd lawer o fenywod sydd wedi cymryd cyffuriau gwrth-iselder yn ystod beichiogrwydd. Nid yw'r astudiaethau hyn bob amser yn hawdd i'w dehongli, gan fod llawer o ffactorau'n effeithio ar ganlyniadau i fabanod. Gall eich meddyg teulu neu seiciatrydd eich helpu i ddeall beth mae'r ymchwil cyfredol yn ei ddweud am wahanol feddyginiaethau yn eich sefyllfa bersonol.

Mae llawer o fenywod yn cymryd cyffuriau gwrth-iselder yn ystod beichiogrwydd. Mae mwy o wybodaeth am y cyffuriau gwrth-iselder a ddefnyddir yn fwy cyffredin, fel SSRIs, a'u defnydd yn ystod beichiogrwydd. Mae llawer llai o wybodaeth am gyffuriau gwrth-iselder mwy newydd, fel vortioxetine. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am gyffuriau gwrth-iselder unigol ar wefan Bumps (y defnydd gorau o feddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd).

Os nad ydych chi’n feichiog eto

Os yw’n bosibl, dylech siarad â'ch meddyg cyn beichiogi. Fodd bynnag, mae beichiogrwydd yn aml heb ei gynllunio ac efallai y bydd yn rhaid i chi wneud penderfyniadau am feddyginiaeth pan fyddwch chi eisoes yn feichiog.

Os ydych chi eisoes yn feichiog

Os ydych chi eisoes yn feichiog, dylech weld eich meddyg cyn gynted â phosibl. Mae'n bwysig iawn nad ydych chi’n rhoi'r gorau i'ch meddyginiaeth yn sydyn, oni bai bod eich meddyg yn dweud wrthych chi am wneud hynny. Gall rhoi’r gorau i gyffuriau gwrth-iselder yn sydyn arwain at bwl arall o broblemau iechyd meddwl. Gall hefyd achosi sgil-effeithiau annymunol. Mae angen i chi feddwl am ddifrifoldeb eich salwch blaenorol cyn penderfynu a yw'n ddiogel rhoi'r gorau i gymryd meddyginiaeth. Mae llawer o fenywod yn cael ail bwl o salwch ar ôl rhoi'r gorau i gymryd meddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein taflen ar iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd.

Mae pa mor hir y byddwch chi'n cymryd cyffur gwrth-iselder yn dibynnu ar pam y cafodd ei ragnodi i chi, ac a ydych chi wedi gorfod cymryd cyffuriau gwrth-iselder o'r blaen.

Os mai dyma'r tro cyntaf neu'r ail dro i chi gymryd cyffuriau gwrth-iselder, mae'n well parhau i'w cymryd am o leiaf chwe mis ar ôl i chi deimlo'n well. Os byddwch chi’n rhoi'r gorau i'r feddyginiaeth cyn hynny, mae symptomau iselder yn fwy tebygol o ddod yn ôl. Os ydych chi wedi cael llawer o byliau o iselder o'r blaen, efallai y bydd angen i chi eu cymryd am fwy o amser. Fodd bynnag, dylid cael trafodaeth gyson â'ch meddyg ynghylch pryd a sut i roi’r gorau iddynt.

Mae'n werth meddwl beth allai fod wedi cyfrannu at eich gwneud chi'n sâl. Weithiau, mae problemau iechyd meddwl fel iselder yn digwydd, a does dim rheswm amlwg pam. Fodd bynnag, efallai bod pethau yn eich bywyd a oedd yn anodd ac wedi cyfrannu at eich gwneud yn sâl. Er enghraifft, straen ariannol, unigrwydd neu golli swydd. Weithiau nid yw’n bosibl osgoi straen. Fodd bynnag, efallai bod pethau y gallwch chi eu gwneud fel ei bod yn llai tebygol y byddwch chi'n mynd yn sâl eto yn y dyfodol. 

Weithiau daw iselder yn ôl, hyd yn oed os ydych chi wedi gwneud popeth o fewn eich gallu i gadw'n iach. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y bydd angen i chi:

  • ddechrau cymryd cyffuriau gwrth-iselder eto ar ôl ymgynghori â'ch meddyg teulu
  • newid eich cyffur gwrth-iselder
  • neu roi cynnig ar fath arall o driniaeth fel therapïau siarad.

Mae angen i rai pobl gymryd cyffuriau gwrth-iselder am amser hir er mwyn cadw'n iach. Gall hyn eich gwneud yn rhwystredig os oeddech chi'n gobeithio gallu rhoi'r gorau i gymryd eich cyffur gwrth-iselder. Mae'n bwysig cofio efallai y byddwch chi’n gallu rhoi'r gorau i gymryd cyffuriau gwrth-iselder eto yn y dyfodol. Nid yw hyn yn golygu eich bod wedi 'methu'.

Mae'n anodd dweud. Mae'n dibynnu pam y cawsant eu rhagnodi, pa mor ddrwg yw eich iselder ac ers faint o amser rydych chi wedi bod yn dioddef ohono. Weithiau mae iselder yn gwella heb unrhyw driniaeth, neu gyda thriniaethau eraill fel therapïau siarad.

Gall cyffuriau gwrth-iselder ei gwneud hi'n haws i chi ymgymryd â thriniaethau eraill fel therapi siarad. Gall hefyd wneud therapi siarad yn fwy effeithiol.

Dylai eich meddyg drafod hyn â chi cyn rhagnodi cyffuriau gwrth-iselder i chi. Dylai wneud yn siŵr eich bod yn deall yn llawn fanteision a risgiau cymryd a pheidio â chymryd cyffuriau gwrth-iselder.

Dyma rai pethau defnyddiol i chi eu gwybod os ydych chi'n cymryd cyffuriau gwrth-iselder:

  • Os ydych chi'n cael trafferth gyda'r cyffur gwrth-iselder rydych chi'n ei gymryd, siaradwch â'ch meddyg. Dylai eich helpu i ddod o hyd i fath o feddyginiaeth neu ddos ​​sy'n gweithio i chi heb achosi sgil-effeithiau sy'n anodd eu rheoli. Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar nifer o gyffuriau gwrth-iselder, efallai y bydd am edrych ar ddewisiadau eraill.
  • Ceisiwch beidio â digalonni os byddwch chi’n cael sgil-effeithiau. Gall y rhain fod yn annymunol, a gellir deall bod pobl weithiau'n rhoi'r gorau i gymryd eu cyffur gwrth-iselder oherwydd hynny. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o sgil-effeithiau yn diflannu mewn ychydig wythnosau. Os gallwch chi, ceisiwch aros am y cyfnod hwn o amser cyn rhoi’r gorau i’w cymryd. Fodd bynnag, os yw'r sgil-effeithiau yn annioddefol neu os ydych chi’n teimlo'n hunanladdol, siaradwch â'ch meddyg ar unwaith.
  • Ceisiwch beidio â cholli dos, oherwydd gallai hyn achosi i chi ddatblygu symptomau diddyfnu. Os byddwch chi’n colli dos, cymerwch eich dos nesaf fel arfer. Peidiwch â 'gwneud iawn' am y dos a gollwyd trwy gymryd mwy nag arfer.
  • Profiad y rhan fwyaf o bobl yw bod cyffuriau gwrth-iselder yn cymryd 1-2 wythnos i ddechrau gweithio. I rai pobl mae'n cymryd hyd at 6 wythnos iddynt ddechrau teimlo'r effaith yn llawn. Hyd yn oed os nad ydych chi'n teimlo manteision eich cyffur gwrth-iselder eto, ceisiwch barhau i'w gymryd am rai wythnosau cyn rhoi'r gorau iddi. Efallai y byddwch chi’n gweld fod pethau'n gwella.
  • Siaradwch â'ch meddyg ynghylch yfed alcohol. Nid yw'r rhan fwyaf o gyffuriau gwrth-iselder yn adweithio ag alcohol. Fodd bynnag, os byddwch chi'n yfed alcohol tra'ch bod chi'n eu cymryd, gall rhai cyffuriau gwrth-iselder eich gwneud chi'n sâl neu'n gysglyd, neu gynyddu effeithiau alcohol.
  • Os ydych chi'n meddwl bod cyffuriau gwrth-iselder yn cael effaith negyddol ar eich iechyd corfforol neu feddyliol, siaradwch â'ch meddyg.
  • Gall cyffuriau gwrth-iselder ryngweithio â rhai bwydydd a meddyginiaethau. Er enghraifft, gall grawnffrwyth ryngweithio â'r cyffur gwrth-iselder sertraline. Dylech ofyn i'ch meddyg neu fferyllydd a yw eich cyffur gwrth-iselder yn rhyngweithio ag unrhyw fwydydd neu feddyginiaethau, a darllen y wybodaeth a ddaw gyda'ch presgripsiwn yn ofalus. Os byddwch chi'n dechrau meddyginiaeth newydd, gwiriwch y wybodaeth sy'n dod gyda’r feddyginiaeth hon er mwyn sicrhau nad yw'n rhyngweithio â'ch cyffur gwrth-iselder.

Therapïau siarad (therapïau seicolegol)

Mae nifer o therapïau siarad yn ddefnyddiol ar gyfer iselder. Mae'r rhain yn aml yn cael eu hargymell fel opsiwn cyntaf, neu’n cael eu defnyddio ar y cyd â chyffuriau gwrth-iselder.

  • Cwnsela – Gall cwnsela fod yn ddefnyddiol ar gyfer iselder ysgafn, a gall eich helpu i ddatblygu technegau datrys problemau. Gall cwnsela helpu pan fydd yr iselder wedi'i achosi gan anawsterau yn eich bywyd.
  • Therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) – Gall CBT helpu i wella eich cyflwr meddwl trwy eich dysgu i adnabod y cysylltiadau rhwng eich meddyliau, eich gweithredoedd a’ch teimladau. Yn wahanol i therapïau seicolegol eraill, mae'n canolbwyntio llai ar eich gorffennol a mwy ar beth sy'n digwydd yn eich presennol.

I gael gwybodaeth am y rhain a mathau eraill o seicotherapi, gweler ein gwybodaeth ar:

Meddyginiaethau llysieuol

Daw meddyginiaethau llysieuol o blanhigion ac ni chânt eu rhagnodi gan y GIG yn y DU.

Dangoswyd bod rhai meddyginiaethau llysieuol yn cael effeithiau cadarnhaol ar bobl sydd ag iselder. Hypericum yw enw un o'r rhain ac mae’n cael ei wneud o berlysieuyn o'r enw eurinllys (St John's Wort). Gan mai triniaeth lysieuol yw hon, mae llai o ymchwil ar gael ac mae llai o reolau ynghylch sut y caiff ei gwerthu. Gall faint y gallwch ei gael amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi'n ei brynu.

Gall eurinllys fod yn beryglus os caiff ei gymryd gyda chyffuriau gwrth-iselder SSRI a meddyginiaethau eraill. Gall hefyd ymyrryd â meddyginiaethau eraill fel y bilsen atal cenhedlu. Os ydych chi'n ystyried cymryd unrhyw feddyginiaethau llysieuol, siaradwch â'ch meddyg yn gyntaf.

Lles cyffredinol

Mae'n bwysig meddwl am eich lles cyffredinol. Mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i wneud i chi deimlo'n well, fel eich bod yn llai tebygol o fynd yn isel eich ysbryd eto. Gall y rhain gynnwys:

  • dod o hyd i rywun y gallwch chi siarad ag ef neu hi
  • cadw'n actif yn gorfforol
  • yfed llai o alcohol a pheidio â chymryd cyffuriau hamdden
  • bwyta'n dda, er enghraifft bwyta mwy o bysgod, ffrwythau a llysiau
  • defnyddio technegau hunangymorth i'ch helpu i ymlacio
  • dod o hyd i ffyrdd o ddatrys unrhyw broblemau ymarferol sydd wedi achosi'r iselder
  • cymorth gan gymheiriaid – efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi gyfarfod pobl sy’n cael problemau tebyg i chi. Siaradwch â'ch meddyg teulu am grwpiau cymorth gan gymheiriaid a allai fod yn addas i chi.

Am awgrymiadau ar hunangymorth, gweler ein taflen ar iselder.

Presgripsiynu neu ragnodi cymdeithasol

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn helpu i gysylltu pobl â gwasanaethau cymunedol a grwpiau lleol. Gall hyn helpu i gefnogi eu hiechyd meddwl a chorfforol.

Er enghraifft, os ydych chi’n mwynhau garddio, gallai presgripsiynu cymdeithasol ganiatáu i chi ddod i gysylltiad â grŵp garddio wythnosol yn eich ardal chi. Byddwch yn gallu cyfarfod pobl eraill a threulio amser gyda'ch gilydd yn gwneud rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau.

Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn ein hadnodd presgripsiynu cymdeithasol.

Golau

Mae rhai pobl yn sylwi bod y tymhorau yn effeithio ar eu hwyliau. Gelwir hyn yn anhwylder affeithiol tymhorol (SAD). Os byddwch chi’n mynd yn isel eich ysbryd bob gaeaf ond yn gwella pan fydd y dyddiau'n ymestyn, efallai y byddai blwch golau yn ddefnyddiol. Ffynhonnell o olau llachar yw hwn sy’n cael ei ddefnyddio am amser penodol bob dydd ac a allai helpu i wneud iawn am y diffyg golau yn y gaeaf. Siaradwch â'ch meddyg os ydych chi'n meddwl efallai eich bod yn dioddef o anhwylder SAD.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am gyffuriau gwrth-iselder, edrychwch ar ffynonellau gwybodaeth eraill yma, neu siaradwch â'ch meddyg.

Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PEEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (Royal College of Psychiatrists). Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.

Prif awdur: Yr Athro Wendy Burn

Adolygiad arbenigol: Pwyllgor Seicoffarmacoleg Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (Royal College of Psychiatrists)

Arbenigwyr trwy brofiad: Fiona Rajé a Victoria Bridgland

Mae ffynonellau llawn ar gael ar gais.

Cyhoeddwyd: Chwefror 2025

Adolygiad i ddod: Chwefror 2028

© Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (Royal College of Psychiatrists)

This translation was produced by CLEAR Global (Feb 2025)

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry