Iselder mewn oedolion hŷn

Depression in older adults

Below is a Welsh translation of our information resource on depression in older adults. You can also view our other Welsh translations.

Ymwadiad

Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae'r wybodaeth hon wedi'i hysgrifennu ar gyfer oedolion hŷn sy'n dioddef, neu'n meddwl efallai eu bod yn dioddef, o iselder, a'r bobl sy'n gofalu amdanynt.

Mae’n trafod:

  • yr heriau y gall oedolion hŷn sydd ag iselder eu hwynebu
  • sut y gall arwyddion iselder fod yn wahanol mewn oedolion hŷn
  • rhwystrau rhag cael mynediad at ofal
  • sut i gael rhagor o wybodaeth a chymorth.

Yn yr adnodd hwn, pan fyddwn yn dweud ‘oedolion hŷn’ rydym yn cyfeirio at bobl dros 65 oed. Fodd bynnag, gwyddom na fydd y wybodaeth hon yn berthnasol i bawb sydd dros 65 oed.

Mae Iselder yn salwch meddwl sy'n effeithio ar y ffordd rydych chi'n meddwl ac yn teimlo. Mae'n eithaf cyffredin, ac yn effeithio ar bobl o bob oed. Mae tua 3 o bob 100 o bobl yn Lloegr yn cael diagnosis o iselder bob wythnos.


Nid dim ond teimlo'n drist yw iselder. Os ydych chi'n dioddef o iselder, efallai y byddwch chi'n:

  • teimlo'n anhapus, yn ddiobaith neu'n teimlo nad yw bywyd yn werth ei fyw
  • teimlo'n bryderus neu'n ofidus
  • cael trafferth gwneud pethau
  • cael trafferth canolbwyntio neu gofio pethau
  • colli diddordeb yn y pethau yr oeddech chi'n arfer eu mwynhau.

Yn eich corff efallai y byddwch chi'n:

  • teimlo'n flinedig neu'n aflonydd
  • cael trafferth cysgu neu'n cysgu gormod
  • cael problemau iechyd corfforol megis cur pen/pen tost neu boen yn y stumog
  • colli diddordeb mewn rhyw
  • bwyta mwy neu lai na fel arfer.

Efallai y bydd pobl eraill yn sylwi eich bod chi'n:

  • ymddangos yn fwy tawel, gofidus, anniddig neu drist na fel arfer
  • cael trafferth canolbwyntio
  • cysgu mwy neu lai na fel arfer
  • cwyno am boenau cyffredinol
  • rhoi'r gorau i ofalu amdanoch chi'ch hun neu'ch cartref
  • ymddangos yn fwy ynysig neu unig.

Gall iselder fod yn ysgafn, yn gymedrol neu'n ddifrifol, ac yn dibynnu ar ddifrifoldeb eich iselder efallai y byddwch chi'n profi symptomau gwahanol. Efallai na fydd yn amlwg yn syth eich bod chi neu rywun arall yn dioddef o iselder. Mae rhagor o wybodaeth am iselder ar gael yn ein hadnodd gwybodaeth.

Mae'r rhan fwyaf ohonon ni'n profi rhai o'r teimladau hyn o bryd i'w gilydd. Fodd bynnag, mae’n bwysig gofyn am help os:

  • ydych chi'n profi llawer o'r teimladau hyn
  • bydd y teimladau'n parhau am fwy nag ychydig wythnosau
  • bydd y teimladau'n dechrau effeithio ar lawer o agweddau o'ch bywyd
  • ydych chi'n teimlo nad yw bywyd yn werth ei fyw.

Nid yw iselder yn beth newydd. Fodd bynnag, yn y gorffennol nid oedd siarad yn agored am iechyd meddwl a salwch meddwl yn cael ei annog. Roedd yna hefyd lawer o gamsyniadau a stereoteipiau yn ymwneud ag iselder a'r bobl oedd yn dioddef ohono. Roedd rhai o'r geiriau a ddefnyddiwyd i ddisgrifio iselder yn creu stigma ac yn angharedig.

Dros y blynyddoedd, rydym wedi dysgu mwy am pam mae iselder yn digwydd a sut orau i'w drin. Tra bod stigma ynghylch iselder a mathau eraill o salwch meddwl yn dal i fodoli, mae pethau’n llawer gwell nag yr oedden nhw. Bellach mae llawer o gymorth ar gael i bobl o bob oed sydd ag iselder.

Mae yna lawer o resymau pam mae pobl yn datblygu iselder, er enghraifft profiadau anodd mewn bywyd, problemau iechyd corfforol a ffactorau genetig. Mae rhagor o wybodaeth am achosion iselder ar gael yn ein hadnodd iselder.

Mae rhai pethau hefyd sydd efallai'n gwneud pobl hŷn yn fwy tebygol o ddatblygu iselder. Mae’r rhain yn cynnwys:

Problemau iechyd corfforol

Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o gael diagnosis o un neu fwy o gyflyrau iechyd hirdymor. Mae ymchwil wedi dangos y gall hyn wneud pobl yn fwy tebygol o ddatblygu iselder.

Dementia

Mae dementia yn gyflwr sy’n effeithio ar eich cof, eich iaith a'ch ymddygiad, ac yn effeithio ar bobl hŷn yn bennaf. Amcangyfrifir bod tua 3 o bob 10 o bobl sy’n byw gyda dementia yn dioddef o iselder.

Clefyd Parkinson

Mae clefyd Parkinson yn gyflwr sy'n effeithio ar sut mae'ch ymennydd yn gweithio. Mae’n achosi symptomau fel ysgwyd, symudiad araf a chyhyrau anystwyth, ac mae’n fwyaf cyffredin ymhlith pobl dros 50 oed. Mae teimladau o iselder yn gyffredin mewn pobl sydd â chlefyd Parkinson.

Unigrwydd

Mae unigrwydd yn fwy cyffredin ymhlith pobl sydd wedi colli cymar, sydd â phroblemau iechyd neu sy’n byw ar eu pen eu hunain. Fodd bynnag, gall pobl sy’n cael cymorth gan ffrindiau a theulu hefyd brofi unigrwydd. Er nad yw bod yn unig yr un fath â bod yn isel eich ysbryd, mae pobl hŷn sy’n profi unigrwydd hefyd yn fwy tebygol o brofi iselder.

Galar

Pan fydd rhywun yr ydych yn gofalu amdano yn marw, mae teimlo galar yn normal, yn enwedig os oedd y person a fu farw yn agos iawn atoch chi. Mae’n debyg na fyddwch chi byth yn ‘dod dros’ marwolaeth rhywun sy'n annwyl i chi yn llwyr. Fodd bynnag, os bydd eich galar yn parhau i deimlo'n ddwys am amser hir, neu'n teimlo fel ei fod yn gwaethygu, efallai y bydd angen cymorth proffesiynol arnoch chi.

Pan fydd rhywun yn marw, mae cael trafferth cysgu, neu golli eich archwaeth bwyd hefyd yn gyffredin. Gall newidiadau i'ch cwsg a'ch deiet hefyd gael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl.

Iselder fasgwlaidd

Gall cyflyrau sy'n effeithio ar gylchrediad gwaed i'r ymennydd wneud rhywun yn fwy tebygol o ddatblygu iselder. Mae'r rhain yn cynnwys clefyd y galon, strôc, a phwysedd gwaed neu golesterol uchel.

Defnydd o alcohol

Mae alcohol yn effeithio ar gemeg yr ymennydd, gan gynyddu'r risg o ddatblygu iselder. Os ydych chi eisoes yn dioddef o iselder, gall alcohol waethygu hyn.

Symud i gartref gofal

Mae iselder yn fwy cyffredin ymhlith pobl sy'n byw mewn cartref gofal nag mewn pobl sydd ddim mewn cartref. Gallai hyn fod oherwydd bod pobl sy’n byw mewn cartref gofal yn fwy tebygol o fod yn profi rhai o’r ffactorau yr ydym wedi eu trafod eisoes. Efallai hefyd bod hyn oherwydd y gall pobl sy'n byw mewn cartref gofal golli eu harferion cyfarwydd arferol a'u hamgylcheddau cefnogol.

Mae iselder yn gallu cael ei drin. Mae llawer o wahanol fathau o gymorth ar gael, ac mae ymchwil wedi dangos y gall y rhain fod yn effeithiol iawn.

Y peth cyntaf y dylech ei wneud os ydych chi’n meddwl eich bod yn dioddef o iselder yw siarad â'ch meddyg teulu. Bydd yn gofyn cwestiynau i chi am sut rydych chi wedi bod yn teimlo a beth sy'n digwydd yn eich bywyd. Efallai y bydd yn defnyddio holiadur i asesu a oes iselder arnoch chi a pha mor ddifrifol yw'r iselder.

Unwaith y byddwch wedi trafod beth sy'n digwydd, gall eich meddyg teulu eich cefnogi i gael yr help sydd ei angen arnoch.

Helpu eich hun

Os yw eich iselder yn ysgafn neu os mai dyma'r tro cyntaf i chi brofi iselder, efallai y bydd eich meddyg teulu yn argymell eich bod yn gwneud rhai pethau i gynnal eich hun.

Mae’r GIG yn awgrymu 5 cam y gallwch chi eu cymryd i wella’ch iechyd meddwl a’ch lles. Dyma’r rhestr:

  1. Cysylltu â phobl eraill – Gallai hyn fod yn ffrind neu aelod o'r teulu, arweinydd crefyddol, neu unrhyw berson rydych chi'n ei adnabod ac rydych chi'n ymddiried ynddo ac yn ei barchu. Yn aml pan fyddwn ni’n siarad ag eraill am sut rydyn ni’n teimlo rydyn ni’n darganfod eu bod nhw wedi cael profiadau tebyg, ac nad ydyn ni ddim mor ynysig ag yr oedden ni’n meddwl.
  2. Gweithgarwch corfforol – Gall hyn fod yn unrhyw beth o fynd am dro bob dydd o amgylch eich parc lleol i ymuno â dosbarth dawns. Mae cadw’n heini, cwtogi ar alcohol, rhoi’r gorau i ysmygu, bwyta’n iach a chysgu’n dda yn llesol i bawb, ond gall fod yn arbennig o ddefnyddiol os ydych chi’n profi iselder.
  3. Dysgu sgiliau newydd – Gallech roi cynnig ar goginio pryd newydd, ysgwyddo cyfrifoldebau newydd, neu gofrestru ar gyfer cwrs yn eich ardal leol. Gall hyn eich helpu i wella eich hunanhyder a chysylltu â phobl eraill.
  4. Rhoi i eraill – Gallai hyn olygu rhoi o’ch amser drwy wirfoddoli yn eich cymuned leol, defnyddio’ch sgiliau i helpu cymydog neu ffrind gyda thasg, neu ddweud wrth ffrind beth rydych chi'n ei werthfawrogi amdano neu amdani.
  5. Talu sylw – Gelwir hyn hefyd yn ymwybyddiaeth ofalgar, techneg sy'n ymwneud â thalu sylw i chi'ch hun a'r byd o'ch cwmpas. Gall hyn eich helpu i deimlo mwy o gysylltiad â'ch amgylchedd, a lleihau effaith llethol eich meddyliau a'ch teimladau. Mae llawer o ddulliau gwahanol o ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar.

Gallwch ddysgu mwy am y camau hyn i wella eich lles meddyliol ar wefan y GIG.

Presgripsiynu cymdeithasol

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn helpu i gysylltu pobl â gwasanaethau cymunedol a grwpiau lleol er mwyn cynnal eu hiechyd meddwl a chorfforol.

Gall eich meddyg teulu eich cyfeirio at ‘weithiwr cyswllt’ a fydd yn gallu eich helpu i ddod o hyd i weithgareddau a allai fod o ddiddordeb i chi. Gallwch gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn ochr yn ochr â chael triniaethau eraill fel meddyginiaeth neu therapïau siarad.

Mae rhagor o wybodaeth am bresgripsiynu cymdeithasol ar ein gwefan.

Therapïau seicolegol

Os ydych chi wedi ceisio helpu eich hun ac yn dal i gael trafferth, neu os yw eich iselder yn gymedrol neu'n ddifrifol, efallai y bydd eich meddyg teulu yn awgrymu therapi seicolegol.

Mae therapi seicolegol, neu therapi siarad, yn driniaeth lle fyddwch chi'n siarad â gweithiwr proffesiynol, a elwir yn therapydd, am sut rydych chi'n teimlo. Mae llawer o wahanol fathau o therapïau seicolegol, ac maen nhw'n gweithio mewn gwahanol ffyrdd. Bydd y math o therapi a gynigir i chi yn dibynnu ar eich anghenion a'ch amgylchiadau bywyd penodol chi.

Mae gwybodaeth am y gwahanol fathau o therapïau seicolegol ar gael ar ein gwefan.

I ddechrau, efallai y bydd siarad â rhywun dieithr am eich bywyd yn teimlo’n anghyfforddus, ond cofiwch:

  • Mae’r sesiynau hyn yn gyfrinachol. Ni fydd eich therapydd yn rhannu unrhyw wybodaeth â’ch ffrindiau neu deulu oni bai eich bod yn rhoi caniatâd iddo neu iddi wneud hynny. Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu â rhywun arall. Gallwch ddysgu mwy am hyn yn ein hadnodd gofalu am rywun sydd â salwch meddwl.
  • Ni fydd eich therapydd yn eich beirniadu ac ni fydd unrhyw beth rydych chi'n ei ddweud yn destun sioc iddo neu iddi. Mae gwrando'n ystyriol yn rhan o waith y therapydd.
  • Dangoswyd bod therapïau seicolegol yn effeithiol, ac os byddwch chi'n rhoi cyfle iddyn nhw rydych chi'n fwy tebygol o wella.

Mae ymchwil yn awgrymu bod oedolion hŷn sydd ag iselder hyd yn oed yn fwy tebygol o elwa o gael therapïau seicolegol na phobl iau, felly mae’n bwysig eu bod yn cael eu cynnig iddyn nhw. Os ydych chi'n teimlo y byddech chi'n elwa o gael therapi seicolegol, siaradwch â'ch meddyg teulu. Mae rhagor o wybodaeth am y therapïau sydd ar gael i drin iselder yn ein hadnodd iselder.

Cyffuriau gwrth-iselder

Mae cyffuriau gwrth-iselder yn feddyginiaethau sy'n gallu helpu i wella symptomau iselder. Fel arfer byddwch yn eu cymryd ar ffurf tabled unwaith y dydd. Efallai y bydd eich meddyg teulu yn rhagnodi cyffur gwrth-iselder i chi ar yr un pryd â therapi seicolegol.

Mae llawer o wahanol fathau o gyffuriau gwrth-iselder, a bydd eich meddyg teulu yn siarad â chi er mwyn penderfynu pa fath o gyffur gwrth-iselder allai weithio i chi. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i chi gymryd mwy nag un feddyginiaeth. Fel arfer, bydd yn cymryd wythnos neu bythefnos cyn i chi ddechrau teimlo effeithiau llesol cyffur gwrth-iselder.

Wrth gymryd meddyginiaethau, efallai y bydd angen i berson hŷn ddechrau ar ddos is na rhywun iau, a chynyddu'r dos yn araf.

A yw pobl sydd â dementia yn gallu cymryd cyffuriau gwrth-iselder?

Nid oes unrhyw reswm meddygol pam na all pobl sydd â dementia gymryd cyffuriau gwrth-iselder.

Fodd bynnag, mae ymchwil wedi canfod bod cyffuriau gwrth-iselder yn llai effeithiol mewn pobl sydd â dementia nag mewn pobl heb ddementia. Ni ddylid cynnig cyffuriau gwrth-iselder i reoli iselder ysgafn i gymedrol i bobl sydd â dementia oni bai eu bod wedi dioddef o iselder yn y gorffennol.

A yw cyffuriau gwrth-iselder yn achosi sgil-effeithiau?

Fel unrhyw feddyginiaeth, gall cyffuriau gwrth-iselder achosi sgil-effeithiau. Gall y rhain effeithio ar rai pobl yn fwy nag eraill, a gall y mathau o sgil-effeithiau rydych chi'n eu profi ddibynnu ar y math o gyffur gwrth-iselder rydych chi'n ei gymryd.

Dylai'r person sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth siarad â chi am unrhyw sgil-effeithiau posibl. Gofynnwch i'r person sy'n rhagnodi neu i'ch fferyllydd am wybodaeth ysgrifenedig ar sgil-effeithiau a darllenwch y wybodaeth hon yn ofalus.

Roedd rhai cyffuriau gwrth-iselder a ddefnyddiwyd yn y gorffennol yn achosi mwy o sgil-effeithiau na meddyginiaethau mwy diweddar. Os ydych chi wedi cael cyffuriau gwrth-iselder yn y gorffennol, efallai nad fyddwch chi'n cael yr un rhai y dyddiau hyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich meddyg os ydych chi wedi cymryd cyffuriau gwrth-iselder o'r blaen.

Beth os fydda’ i’n cael sgil-effeithiau annymunol?

Os yw cyffuriau gwrth-iselder yn achosi sgil-effeithiau annymunol i chi neu os nad ydyn nhw'n gweithio i chi, siaradwch â'ch meddyg teulu.

Fel arfer, ni ddylech roi'r gorau i gymryd unrhyw feddyginiaeth heb siarad yn gyntaf â'r person a'u rhagnododd nhw. Fodd bynnag, os byddwch chi'n dechrau cael teimladau hunanladdol, neu unrhyw sgil-effeithiau difrifol eraill, dylech roi’r gorau i gymryd y cyffur gwrth-iselder a chael help ar frys. Gallwch wneud hyn trwy gysylltu â'r person a ragnododd y cyffuriau neu â'ch meddyg teulu.

Os ydych chi’n teimlo eich bod mewn perygl, ffoniwch 999 neu ewch i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E).

Mae rhagor o wybodaeth am gyffuriau gwrth-iselder a sgil-effeithiau ar gael ar ein gwefan. Mae gennym hefyd wybodaeth am roi'r gorau i gymryd cyffuriau gwrth-iselder.

Beth os ydw i'n cymryd meddyginiaethau eraill?

Os ydych chi'n cymryd meddyginiaethau eraill, neu os oes gennych chi broblemau iechyd eraill, efallai na fyddwch chi'n gallu cymryd rhai cyffuriau gwrth-iselder. Neu efallai y bydd angen i'ch meddyg eich monitro'n fwy agos na fel arfer. Dywedwch wrth eich meddyg am unrhyw feddyginiaeth arall yr ydych yn ei chymryd.

Dydw i ddim yn siŵr a yw cyffuriau gwrth-iselder yn addas i mi

Gall dechrau cymryd cyffuriau gwrth-iselder deimlo fel cam mawr. Efallai eich bod yn ansicr ai hwn yw’r penderfyniad iawn i chi.

Gall fod yn ddefnyddiol meddwl am gyffuriau gwrth-iselder yn yr un ffordd ag unrhyw feddyginiaeth arall. Er enghraifft, pe bai gennych broblem calon a bod eich meddyg wedi rhoi meddyginiaeth i chi ar gyfer hynny, mae'n debyg na fyddech chi'n oedi cyn ei chymryd.

Gall dysgu mwy am gyffuriau gwrth-iselder eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus.

Cyffuriau gwrth-seicotig

Weithiau rhoddir cyffuriau gwrth-seicotig i bobl sy'n profi seicosis ac iselder, neu bobl sy'n profi lefelau uchel o bryder.

Pan roddir cyffuriau gwrth-seicotig i chi, bydd eich meddyg yn siarad â chi am y risgiau cynyddol o syrthio, problemau calon a phroblemau cylchrediad y gwaed. Os ydych chi'n cymryd cyffuriau gwrth-seicotig, dylid adolygu hyn yn rheolaidd.

Cefnogaeth ymarferol

Efallai bod eich iechyd meddwl yn gysylltiedig â phethau eraill yn eich bywyd, hyd yn oed os nad yw’r pethau hynny’n ymddangos yn gysylltiedig. Gall problemau gydag arian, tai, gofal, gwaith ac ymddeoliad gael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl. Gallai gweithio i ddatrys y rhain fod yn gam pwysig wrth drin eich iselder.

Mae llawer o wybodaeth ar ddiwedd yr adnodd hwn a all eich helpu i gael cymorth gyda gwahanol feysydd o'ch bywyd.

Triniaeth bellach

Os yw eich iselder yn ddifrifol iawn, efallai y cewch eich cyfeirio at wasanaeth neu dîm iechyd meddwl arbenigol. Efallai y bydd angen i chi dreulio amser yn yr ysbyty os oes angen llawer o driniaeth a chymorth arnoch chi, neu os ydych chi’n peri risg i chi'ch hun neu i rywun arall. Efallai y caiff meddyginiaeth arall ei chynnig i chi yn lle neu yn ogystal â chyffuriau gwrth-iselder.

Weithiau, pan fydd rhywun yn sâl iawn a thriniaethau eraill heb weithio, efallai y bydd therapi electrogynhyrfol (ECT) yn cael ei ystyried. Bydd triniaeth ECT yn digwydd o dan anesthetig cyffredinol a bydd eich ymennydd yn cael ei ysgogi â churiadau trydanol byr tra byddwch chi'n cysgu. Dangoswyd bod ECT yn llwyddiannus wrth drin achosion difrifol o iselder.

Mae gwasanaethau iechyd meddwl oedolion hŷn yn ystyried anghenion unigryw pobl hŷn, ac yn darparu gofal priodol iddynt.

Pan fydd pobl yn heneiddio, mae newidiadau'n digwydd yn eu bywydau y mae'n rhaid eu hystyried os oes ganddyn nhw salwch meddwl. Efallai y bydd pobl hŷn yn profi:

  • nifer o broblemau iechyd
  • eiddilwch, sy'n golygu ei bod y fwy anodd iddyn nhw ddod dros salwch neu anafiadau
  • profedigaethau a cholledion eraill.

Os oes gan oedolyn hŷn gyflyrau eraill fel dementia, efallai y bydd y rhain yn cael eu drysu â phryder neu iselder. Mae gan wasanaethau iechyd meddwl oedolion hŷn yr arbenigedd i ystyried hyn wrth wneud diagnosis o iselder.

Mae gan wasanaethau iechyd meddwl oedolion hŷn hefyd y cyfleusterau i helpu pobl sydd angen cymorth gyda symudedd.

Pryd mae angen gwasanaethau iechyd meddwl oedolion hŷn?

Dylai’r penderfyniad i'ch cyfeirio chi at wasanaethau iechyd meddwl oedolion hŷn fod yn seiliedig ar eich anghenion unigol, ac nid eich oedran yn unig. Dylid ystyried y pethau canlynol:

  • y mathau o wasanaethau sydd ar gael yn lleol
  • cyflyrau iechyd eraill sydd gennych chi
  • eich lefel o eiddilwch.

Os byddwch chi'n symud o wasanaeth iechyd meddwl i oedolion i wasanaeth ar gyfer pobl hŷn, dylai’r bobl sydd wedi bod yn eich trin sicrhau bod y gwasanaeth newydd yn deall eich anghenion, megis:

  • hanes eich triniaeth
  • eich dewisiadau
  • y systemau cymorth sydd ar gael i chi
  • eich hanes personol.

Mae gan bobl mewn cartrefi gofal hawl i gael cymorth iechyd meddwl yn union fel pawb arall. Os ydych chi mewn cartref gofal, mae hyn yn golygu:

  • y dylid darparu gweithgareddau sy'n hybu eich iechyd corfforol a meddyliol
  • y dylai staff y cartref gofal gael eu hyfforddi i wybod a ydych chi efallai yn profi problem iechyd meddwl
  • y dylai unrhyw broblemau iechyd meddwl a nodir gael eu cofnodi yn eich cynllun gofal personol.

Mae iselder yn fwy cyffredin ymysg pobl sydd mewn cartrefi gofal. Os ydych chi'n dioddef o iselder a'ch bod mewn cartref gofal, mae'n bwysig eich bod yn cael y gofal o safon uchel y mae gennych chi hawl iddo. Dylid adolygu eich meddyginiaeth yn rheolaidd, a dylid ystyried unrhyw sgil-effeithiau yn ofalus.

Sut alla i gael gofal iechyd meddwl mewn cartref gofal?

Trwy feddyg teulu

Os ydych chi’n byw mewn cartref gofal, dylech fod wedi'ch cofrestru â meddyg teulu. Mae gennych chi'r hawl i ddewis practis meddyg teulu. Efallai y byddwch chi'n dewis aros gyda’ch practis blaenorol neu symud i bractis sy’n gysylltiedig â’ch cartref gofal.

Os ydych chi mewn cartref gofal ac yn profi problem iechyd meddwl, dylech siarad â'ch meddyg teulu. Dylai eich meddyg teulu weithio i ddiystyru problemau iechyd corfforol eraill a all gael effaith negyddol ar eich hwyliau.

Trwy staff cartref gofal

Weithiau mae staff cartrefi gofal yn cael eu hyfforddi i ddarparu cymorth seicolegol fel cwnsela. Os yw staff cartref gofal yn teimlo bod angen cymorth dwysach arnoch chi neu fod gennych salwch meddwl, gallwch chi neu'ch gofalwr siarad â'ch meddyg teulu, a fydd yn gallu eich cyfeirio chi at dîm cyswllt cartref gofal penodedig.

Mae timau cyswllt cartrefi gofal ar gael yn y rhan fwyaf o gartrefi gofal, a byddant yn gallu darparu therapïau seicolegol fel therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) neu therapi seicodynamig.

Mae'r elusen Age UK yn darparu gwybodaeth am gartrefi gofal, ac mae gan yr elusen Carers Trust wybodaeth ddefnyddiol ar ofalu am rywun sydd mewn cartref gofal.

Mae rhai pethau yn gallu ei gwneud yn fwy heriol i bobl hŷn gael cymorth ar gyfer iselder.

Problemau iechyd eraill

Os oes gennych chi broblem iechyd arall, efallai y bydd yn anodd i chi neu eich meddyg benderfynu a ydych chi hefyd yn dioddef o iselder.

Gall iselder weithiau gael ei ddrysu â phroblemau iechyd meddwl neu gorfforol eraill. Er enghraifft, gall problemau cof sy'n gysylltiedig ag iselder gael eu camgymryd am ddementia, neu fel arall.

Gall iselder hefyd ei gwneud hi'n anodd i chi gymryd meddyginiaethau neu fynd i apwyntiadau. O ganlyniad, gallai eich iechyd corfforol waethygu, a gallai hynny wneud eich iselder yn waeth.

Stereoteipiau

Yn anffodus, mae rhai pobl yn ffurfio stereoteipiau niweidiol ynghylch pobl hŷn. Er enghraifft, mae rhai pobl yn meddwl ei bod hi’n normal i bobl hŷn deimlo’n flinedig drwy'r amser, neu fod unigrwydd yn rhan normal o fynd yn hŷn.

Gallai pobl sy’n arddel y stereoteipiau hyn fod yn llai tebygol o sylweddoli bod person hŷn y maen nhw'n ei adnabod yn isel ei ysbryd. Nid yw teimladau o iselder yn rhan normal o heneiddio, ac rydych chi'n haeddu cael cymorth a chefnogaeth beth bynnag yw eich oedran.

“Flynyddoedd lawer yn ôl, cafodd y term pensiynwr ei newid i berson hŷn fel ffordd o geisio newid y label. Ond y gwir amdani yw mai nad mater o newid labeli ydi o. Mae'n fater o drin pobl yr un fath.” - Bernie

Stigma

Yn y gorffennol, roedd salwch meddwl a’r bobl oedd yn dioddef ohonyn nhw’n cael eu trin yn wahanol iawn i sut y maen nhw'n cael eu trin rŵan. Os clywsoch chi bethau negyddol yn y gorffennol am bobl oedd ag iselder, efallai y byddwch chi'n ei chael hi'n anodd ceisio cymorth ar gyfer iselder nawr. Mae’n bwysig cofio bod iselder yn gyffredin, ei bod yn bosibl ei drin a’ch bod chi'n haeddu cymorth. Mae pob math o bobl yn cael iselder, ac nid yw'n adlewyrchiad o bwy ydych chi fel person.

Gweld iselder fel rhan o fywyd

Os ydych chi wedi arfer â theimlo'n isel eich ysbryd, efallai na fyddwch chi'n meddwl bod unrhyw bwynt cael help. Er y gall deimlo'n anodd, y cynharaf y byddwch chi'n gofyn am help y cynharaf y gallwch chi ddechrau gwella.

Rhwystrau technolegol

Mae rhai apwyntiadau meddyg teulu bellach yn cael eu cynnal dros y ffôn neu ar-lein. I rai pobl hŷn gall technoleg ddigidol ymddangos yn fwy heriol i’w defnyddio, neu mae’n well ganddyn nhw wneud pethau’n bersonol. Gall hefyd fod yn anodd siarad am bethau sensitif dros y ffôn neu ar-lein.

Gall hefyd fod yn anodd i feddygon ddweud a yw rhywun yn dioddef o iselder trwy alwad ffôn. Efallai y bydd angen apwyntiad wyneb yn wyneb i sylwi ar hyn.

Gall fod yn anodd gwybod sut i helpu person hŷn yr ydych yn ei adnabod sydd ag iselder. Dyma rai pethau y gallwch chi eu hystyried wrth gefnogi person hŷn sydd ag iselder:

Cyfathrebu'n sensitif

Gall fod yn anodd gwybod beth i'w ddweud wrth rywun sy'n profi iselder. Weithiau, y peth pwysicaf y gallwch chi ei wneud yw gwrando ac annog rhywun i gael help.

Dylech geisio osgoi dweud pethau a allai ennyn ymateb negyddol. Er enghraifft, dweud wrth rywun y byddan nhw’n ‘dod drosto’ neu ddweud fod pobl eraill yn ei chael hi’n waeth na nhw. Gall hyn ei gwneud yn fwy anodd i'r person geisio cymorth.

Cofio’r unigolyn

Nid yw’r holl bethau sy’n gwneud rhywun yn unigryw, fel eu profiadau bywyd, eu gwerthoedd a’u diddordebau, yn diflannu wrth iddyn nhw heneiddio. Drwy weld y person rydych yn ei adnabod fel unigolyn, byddwch yn gallu ei gefnogi’n well.

Annog annibyniaeth

Er y gallai fod angen cymorth ar rai pobl hŷn gyda rhai pethau, fel cael mynediad at wasanaethau neu reoli eu gofal, mae’n bwysig meddwl sut y gall y person rydych chi’n ei adnabod barhau i fod yn annibynnol. Gweithiwch gyda nhw i ddeall sut y gall y ddau ohonoch chi fod yn rhan o'u gofal a'u helpu i wneud pethau drostynt eu hunain.

Ystyried gwahaniaethau diwylliannol

Mae yna bethau i'w hystyried os yw'r person rydych chi'n ei adnabod wedi'i fagu neu wedi treulio amser mewn gwlad arall, neu'n siarad iaith wahanol.

  • Rhwystrau cyfathrebu – Os nad yw’r person rydych chi’n ei adnabod yn siarad Saesneg, neu os nad dyna’r iaith y mae’n fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio, efallai y bydd yn cael trafferth cyfathrebu â gweithwyr iechyd proffesiynol. Dylid cynnig cyfieithydd proffesiynol os byddai hynny'n ei helpu i gyfleu ei anghenion yn gliriach. Dylid caniatáu mwy o amser mewn apwyntiadau i hyn ddigwydd.
  • Stigma – Mae gan wahanol ddiwylliannau a chenedlaethau agweddau gwahanol at salwch meddwl. Os yw'r person rydych chi'n ei adnabod wedi'i fagu mewn man neu amser lle roedd stigma yn bodoli ynghylch salwch meddwl, efallai y bydd yn ei chael hi'n anodd gofyn am help. Gall seico-addysg, lle mae rhywun yn dysgu am ei salwch meddwl, fod o gymorth. Efallai y byddai hefyd yn elwa o gael cefnogaeth arweinydd ffydd neu grŵp cymunedol.
  • Cefnogaeth gan gymheiriaid – Gall pawb elwa o siarad â phobl sydd â phrofiadau diwylliannol tebyg iddyn nhw. Efallai bod grwpiau yn eich ardal chi lle gall y person rydych chi'n ei adnabod gyfarfod pobl o'r un ethnigrwydd neu gefndir diwylliannol. Mae gwefan Mind yn cynnwys rhagor o wybodaeth am gymorth gan gymheiriaid yn eich ardal chi a'r mathau o wasanaethau y maent yn eu cynnig.
  • Heriau cael mynediad at gofnodion – Os yw’r person rydych chi’n ei adnabod wedi byw mewn gwlad arall ac wedi cael gofal yno, gallai fod yn anodd cael gafael ar ei gofnodion.

Gofalwr yw rhywun sy'n gofalu am berson arall oherwydd ei fod yn ei chael hi'n anodd gofalu amdano’i hun. Gall gofalwyr gynnig cymorth ymarferol, emosiynol ac ariannol, a gallant ymwneud â gofal meddygol y person y maen nhw’n gofalu amdano.

Mae bod yn ofalwr yn gallu bod yn heriol iawn, ac fel gofalwr efallai y byddwch chi’n profi emosiynau gwahanol ac anghyson, fel dicter, euogrwydd, pryder neu dristwch.

Mae bod yn ofalwr yn gallu rhoi boddhad hefyd. Mae gan lawer o ofalwyr berthynas agos iawn â'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw, ac maen nhw'n dysgu sgiliau ymarferol ac emosiynol pwysig. Beth bynnag yw eich profiadau a'ch teimladau, maen nhw 'n ddilys.

Fel gofalwr, mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i gefnogi’r person rydych chi’n gofalu amdano, gan gynnwys:

  • ei annog i gael cymorth pan fydd ei angen
  • gweithio gyda'ch gilydd i ddeall i ba raddau y mae o eisiau i chi fod yn rhan o'u gofal
  • ffurfio perthynas gadarnhaol gyda'r bobl sy'n darparu ei ofal meddygol
  • gwneud cynllun ar gyfer beth i'w wneud mewn argyfwng.

Mae yna hefyd bethau y gallwch chi eu gwneud i gynnal eich hun, gan gynnwys:

  • rhannu eich straen a'ch pryderon â ffrind neu aelod o'r teulu rydych chi'n ymddiried ynddo
  • gofalu am eich iechyd corfforol a meddyliol chi – mae hyn yr un mor bwysig â gofalu am y person rydych yn gofalu amdano, a gall fod o fudd i’r ddau ohonoch chi
  • cael seibiant gyda chymorth ffrindiau neu wasanaeth gofalu proffesiynol
  • cael mynediad at gymorth fel asesiadau gofalwyr ac addasiadau yn y gweithle
  • cyfarfod gofalwyr eraill i gael cymorth
  • cynllunio ar gyfer y dyfodol
  • gwneud cais am y budd-daliadau y mae gennych chi hawl iddynt.

Mae’n bwysig cofio nad eich cyfrifoldeb chi yw ‘trwsio’ y person rydych chi’n gofalu amdano

Mae rhagor o wybodaeth am fod yn ofalwr yn ein hadnodd gofalu am rywun ag afiechyd meddwl.

Fel gofalwr mae angen i mi gynllunio, mae popeth yn gysylltiedig. Nid dim ond am yr ychydig wythnosau nesaf, ond am y blynyddoedd nesaf.” Sofija

Gwybodaeth am iselder

Gwybodaeth i ofalwyr

Gwybodaeth bellach i bobl hŷn

Canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ar iselder

Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PEEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.

Awduron arbenigol: Dr Manoj Rajagopal, Dr Kapila Sachdev a Dr Qutub Jamali

Diolch i’r bobl sydd â phrofiad o fyw gydag iselder a helpodd i ddatblygu'r adnodd hwn: Bernie, Philip a Sofija Opacic. Mae rhai o’u profiadau wedi’u cynnwys yn yr adnodd hwn ar ffurf dyfyniadau.

Mae ffynonellau llawn ar gael ar gais.

This translation was produced by CLEAR Global (Sep 2023)
Read more to receive further information regarding a career in psychiatry