Therapi electrogynhyrfol (ECT)

Electroconvulsive therapy (ECT)

Below is a Welsh translation of our information resource on electroconvulsive therapy (ECT). You can also view our other Welsh translations.

Ymwadiad

Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae ECT yn driniaeth effeithiol ar gyfer rhai mathau o salwch meddwl difrifol. Fel arfer caiff ei ystyried pan nad yw opsiynau triniaeth eraill, fel seicotherapi neu feddyginiaeth, wedi bod yn llwyddiannus neu pan fydd rhywun yn sâl iawn ac angen triniaeth frys.

Rhoddir ECT fel cwrs o driniaethau, fel arfer ddwywaith yr wythnos am 3-8 wythnos. Os byddwch chi’n cael ECT, bydd yn digwydd o dan anesthetig cyffredinol. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n cysgu yn ystod y driniaeth.

Tra byddwch chi'n cysgu, bydd eich ymennydd yn cael ei ysgogi â churiadau trydanol byr. Mae hyn yn achosi ffit sy'n para llai na dau funud. Yn ogystal ag anesthetig, byddwch yn cael ymlaciwr cyhyrau sy'n lleihau faint mae eich corff yn symud yn ystod y ffit.

Ar gyfer pa gyflyrau y gellir defnyddio ECT?

Defnyddir ECT gan amlaf i drin iselder difrifol sydd heb ymateb i driniaethau eraill. Fe'i defnyddir hefyd i drin catatonia, cyflwr anghyffredin lle gall claf roi'r gorau i siarad, bwyta neu symud. Yn achlysurol, fe'i defnyddir i drin pobl yn y cyfnod manig o anhwylder deubegynol neu pan fydd gan bobl symptomau cymysg o fania ac iselder.

Ni chynghorir ECT ar gyfer trin anhwylderau gorbryder na'r rhan fwyaf o gyflyrau seiciatrig eraill. Yn y tymor canolig, gall ECT helpu symptomau sgitsoffrenia sydd heb wella gyda meddyginiaeth. Fodd bynnag, mae'r buddion hirdymor, sy'n gofyn am ECT estynedig, yn llai clir. Am y rheswm hwn, nid yw'n cael ei ddefnyddio'n aml yn y DU.

Pryd efallai fyddai eich meddyg yn awgrymu ECT?

Bydd ECT fel arfer yn cael ei awgrymu:

  • os yw eich cyflwr yn peryglu bywyd ac mae angen i chi wella'n gyflym er mwyn achub eich bywyd
  • os yw eich cyflwr yn achosi dioddefaint aruthrol i chi
  • os nad yw eich cyflwr wedi ymateb i driniaethau eraill, fel meddyginiaeth a therapi seicolegol
  • os yw eich cyflwr wedi ymateb yn dda i ECT yn y gorffennol.

Pa mor effeithiol yw ECT?

Mae meddygon sy'n rhoi triniaeth ECT yn dweud bod y rhan fwyaf o bobl yn gweld gwelliant yn eu symptomau. Yn 2018-2019, roedd 68% o’r bobl a oedd wedi cael triniaeth ECT “wedi gwella’n arw” neu “wedi gwella’n aruthrol” ar ddiwedd y driniaeth (1,361 o gyrsiau o ECT allan o gyfanswm o 2,004). Dywedwyd bod rhai o'r bobl hyn heb ddangos unrhyw newid yn eu cyflwr ac i nifer fach iawn o bobl (1%) dywedwyd bod eu cyflwr yn waeth.

Trin iselder

Mae corff mawr o dystiolaeth yn dangos bod ECT yn fwy llwyddiannus wrth drin yr achosion mwyaf difrifol o iselder nag unrhyw driniaethau eraill y mae wedi'i gymharu â nhw. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cyffuriau gwrth-iselder
  • plasebos - lle mae rhywun yn cael sylwedd neu driniaeth sydd ddim yn cael unrhyw effaith gorfforol er mwyn profi effeithiolrwydd triniaethau newydd
  • triniaethau niwrofodiwleiddio fel Ysgogiad Magnetig Trawsgreuanol (rTMS).

Mae'r risg o hunanladdiad yn is mewn pobl sy'n cael ECT na mewn pobl debyg sydd ddim yn cael ECT.

Cadw'n iach

Gall ECT helpu pobl sy'n sâl iawn i wella'n ddigon da i fedru cael mathau eraill o driniaethau. Gall hyn eu helpu i gadw'n iach yn hirach.

Mae ymchwil yn awgrymu bod pobl sydd ag iselder difrifol sydd ddim wedi gwella gyda meddyginiaeth yn llawer mwy tebygol o wella a chadw'n iach yn hirach os byddan nhw'n cael ECT.

O'r bobl sy'n gwella ar ôl cael ECT, bydd eu hanner yn aros yn iach am o leiaf blwyddyn. Mae hyn yn fwy tebygol os byddan nhw'n cael triniaeth fel cyffuriau gwrth-iselder neu lithiwm ar ôl gorffen y driniaeth ECT.

Mewn cymhariaeth, i bobl sydd ag iselder difrifol sydd heb wella ar ôl rhoi cynnig ar ddau gyffur gwrth-iselder gwahanol, dim ond 5% yw'r siawns o wella ac aros yn iach am o leiaf blwyddyn os rhoddir trydydd cyffur gwrth-iselder iddyn nhw.

Sut mae ECT yn gweithio?

Mae effeithiau ECT yn cynyddu'n raddol gyda phob triniaeth. Mae ECT yn achosi i rai cemegion yn yr ymennydd gael eu rhyddhau, ac mae'n ymddangos bod y rhain yn ysgogi twf rhai ardaloedd yn yr ymennydd sy'n tueddu i grebachu gydag iselder.

Mae'n ymddangos bod ECT hefyd yn newid sut mae rhannau o'r ymennydd sy'n ymwneud ag emosiynau yn rhyngweithio â'i gilydd. Mae ymchwil yn mynd yn ei flaen yn y maes hwn i'n helpu ni i ddeall mwy am sut mae ECT yn gweithio.

A oes yna gwahanol fathau o ECT?

Mae ECT wedi newid a datblygu dros y blynyddoedd. Er enghraifft, mae faint o drydan a'r math o drydan a ddefnyddir wedi newid. Mae hyn wedi lleihau'r siawns o ddioddef sgil-effeithiau.

Mae dwy ffordd o roi ECT: ECT dwyochrog ac ECT unochrog. Bydd eich meddyg yn gallu egluro mwy a helpu i'ch cynghori ar ba fath o ECT fyddai'n fwyaf addas i chi.

Gydag ECT dwyochrog mae'r curiadau trydanol ysgogol yn mynd ar draws eich pen, o'r naill ochr i'r llall. Gydag ECT unochrog, maent yn mynd rhwng ochr dde eich pen a thop eich pen. Gall ECT dwyochrog weithio'n gyflymach, tra bod ECT unochrog yn cael llai o effaith ar y cof. Mae rhagor o wybodaeth am sgil-effeithiau yn ddiweddarach yn yr adnodd hwn.

A ellir defnyddio ECT ar gyfer plant neu bobl ifanc?

Ni ddefnyddir therapi electrogynhyrfol mewn plant dan 11 oed. Anaml y bydd plant rhwng 11 a 18 oed yn datblygu'r math o salwch meddwl sy'n ymateb yn dda i ECT, ond i nifer fach sy'n gwneud hynny, gall ECT fod o gymorth. Mae angen ail farn ffurfiol, annibynnol cyn y gellir rhoi'r driniaeth.

Rhoddir therapi electrogynhyrfol yn yr ysbyty ac fel arfer mae’n digwydd mewn cyfres o ystafelloedd a elwir yn ‘uned ECT’. O bryd i'w gilydd, os nad yw hwn ar gael neu os oes gennych chi broblemau iechyd corfforol sylweddol, efallai y bydd triniaeth yn digwydd mewn ysbyty arall gyda mwy o gymorth meddygol, neu mewn ystafell lawdriniaeth.

Mae rhai pobl sy'n cael ECT yn gleifion mewnol yn yr ysbyty, tra bydd eraill yn cael ECT fel cleifion dydd. Os ydych chi'n glaf dydd, bydd yn rhaid i oedolyn cyfrifol, penodol fod yn gwmni i chi wrth fynd i'r ystafell ECT a phan fyddwch chi'n gadael.

Dylai'r uned ECT gynnwys ystafell lle gallwch chi aros, ystafell ar gyfer cael eich triniaeth, ac ystafell lle gallwch chi wella'n iawn cyn gadael.

Bydd staff cymwys yn gofalu amdanoch chi drwy'r amser y byddwch chi yno. Gallant helpu i ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon posibl fydd gennych chi cyn cael y driniaeth. Byddant hefyd yn eich helpu yn ystod y broses o ddeffro/dihuno o'r anesthetig ac yn yr amser yn syth ar ôl y driniaeth.

Paratoi ar gyfer ECT

Yn y dyddiau cyn dechrau eich cwrs o driniaethau ECT, bydd eich meddyg yn trefnu profion i sicrhau ei bod yn ddiogel i chi gael anesthetig cyffredinol. Gall y rhain gynnwys cofnod o guriad eich calon (ECG) a phrofion gwaed.

Ni ddylech fwyta nac yfed unrhyw beth am o leiaf 6 awr cyn cael triniaeth ECT, er efallai y cewch chi yfed ychydig o ddŵr hyd at 2 awr ymlaen llaw. Mae hyn er mwyn sicrhau ei bod yn ddiogel i chi gael yr anesthetig.

Os byddech fel arfer yn cymryd meddyginiaeth yn ystod y cyfnod hwn, gofynnwch i'r tîm ECT am gyngor ynghylch ei chymryd ai peidio.

Beth sy'n digwydd ar ddiwrnod eich triniaeth ECT?

  • Os ydych chi'n glaf mewnol, bydd aelod o staff yn dod gyda chi i'r ystafell ECT. Bydd yn gwybod am eich salwch ac yn gallu egluro beth sy'n digwydd. Mae llawer o ystafelloedd ECT yn hapus i aelodau'r teulu aros yn yr ystafell aros tra byddwch chi'n cael eich triniaeth.
  • Bydd aelod o staff yr uned ECT yn eich cyfarfod ac yn gwneud profion corfforol arferol (os na fydd hynny wedi digwydd eisoes).
  • Byddwch yn cael eich holi cyn pob triniaeth am eich cof a pha mor dda ydyw.
  • Os ydych chi'n cael ECT yn wirfoddol bydd staff yn gwirio eich bod yn dal yn fodlon ei gael, ac yn holi a oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach.
  • Pan fyddwch chi'n barod, bydd staff yr uned ECT yn mynd â chi i'r ardal driniaeth.
  • Bydd y staff yn cysylltu offer monitro i’ch corff i fesur cyfradd curiad eich calon, eich pwysedd gwaed, eich lefelau ocsigen a thonnau'r ymennydd.
  • Byddwch yn cael ocsigen i'w anadlu trwy fwgwd. Bydd yr anesthetydd yn rhoi anesthetig i chi drwy bigiad i gefn eich llaw.

Beth sy'n digwydd tra byddwch chi'n cysgu?

  • Tra byddwch chi'n cysgu, bydd yr anesthetydd yn rhoi ymlaciwr cyhyrau i chi a bydd gard ceg yn cael ei roi yn eich ceg i warchod eich dannedd.
  • Bydd dwy ddisg metel yn cael eu gosod ar eich pen. Mewn ECT dwyochrog, mae un yn mynd ar bob ochr i'ch pen, tra mewn ECT unochrog mae'r ddau yn mynd ar yr un ochr i'ch pen.
  • Bydd y peiriant ECT yn darparu cyfres o guriadau trydanol byr, am dri i wyth eiliad. Bydd hyn yn arwain at ffit wedi'i reoli sy'n para am 40 eiliad ar gyfartaledd, ond sy'n gallu para hyd at 120 eiliad. Bydd eich corff yn mynd yn stiff ac yn gwingo - bydd hyn yn effeithio ar eich dwylo, eich traed a'ch wyneb, fel arfer. Mae'r ymlaciwr cyhyrau yn lleihau faint mae eich corff yn symud.
  • Mae dos y curiadau trydan a roddir yn dibynnu ar faint sydd ei angen i achosi ffit. Bydd eich ymateb yn cael ei fonitro, a'r dos yn cael ei addasu yn ôl yr angen.

Beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n deffro/dihuno?

  • Bydd effaith yr ymlaciwr cyhyrau yn diflannu o fewn ychydig funudau. Wrth i chi ddechrau deffro/dihuno, bydd staff yn mynd â chi i'r ystafell adfer. Yma, bydd nyrs brofiadol yn gofalu amdanoch chi nes eich bod yn gwbl effro.
  • Bydd y nyrs yn mesur eich pwysedd gwaed ac yn gofyn cwestiynau syml i weld pa mor effro ydych chi. Bydd dyfais fonitro fach ar eich bys i fesur yr ocsigen yn eich gwaed. Efallai y byddwch chi'n deffro/dihuno gyda mwgwd ocsigen ar eich wyneb. Gall gymryd amser i ddeffro/dihuno'n llwyr ac, i ddechrau, efallai na fyddwch chi'n gwybod lle rydych chi. Ar ôl tua hanner awr, dylai'r effeithiau hyn ddiflannu a bydd gofyn i chi ateb ychydig o gwestiynau syml i wirio hynny.
  • Mae gan y rhan fwyaf o ystafelloedd ECT ail ardal lle gallwch chi eistedd a chael paned neu luniaeth ysgafn arall. Byddwch yn gadael yr uned ECT pan fydd eich cyflwr corfforol yn sefydlog, a phan fyddwch chi'n teimlo'n barod i wneud hynny.
  • Mae'r broses gyfan fel arfer yn cymryd tuag awr.

Yn ystod y 24 awr ar ôl pob triniaeth, ni ddylech yfed alcohol na llofnodi unrhyw ddogfennau cyfreithiol.

Dylech gael oedolyn cyfrifol gyda chi am 24 awr.

Pa mor aml a sawl gwaith y rhoddir triniaeth ECT?

Rhoddir therapi electrogynhyrfol fel arfer ddwywaith yr wythnos, gydag ychydig ddyddiau rhwng pob triniaeth. Gall gymryd nifer o sesiynau cyn i chi sylwi ar welliant.

Nid yw'n bosibl rhagweld, ymlaen llaw, faint o driniaethau y bydd eu hangen arnoch. Ar gyfartaledd, byddwch yn cael 9 neu 10 triniaeth mewn cwrs, er bod cael mwy o sesiynau yn gyffredin.

Os na fyddwch chi wedi gwella o gwbl ar ôl 6 thriniaeth, bydd eich cynllun triniaeth yn cael ei adolygu gyda'ch meddyg i drafod p'un ai i barhau â’r driniaeth neu i newid y math o ECT.

Bydd eich tîm meddygol yn adolygu eich cynnydd ac unrhyw sgil-effeithiau, fel arfer bob wythnos. Byddwch yn cael eich holi am eich cof a bydd eich cof yn cael ei brofi'n rheolaidd.

Fel arfer bydd y driniaeth ECT yn cael ei stopio yn fuan ar ôl i chi wella'n llwyr, neu os byddwch chi’n dweud nad ydych chi am barhau â’r driniaeth a'ch bod chi’n ddigon iach i ddeall y penderfyniad hwn.

Beth sy'n digwydd ar ôl cwrs o ECT?

Mae ECT yn un rhan o wella. Dylai hefyd eich helpu i ddechrau neu ailddechrau triniaethau neu fathau eraill o gymorth.

Byddwch fel arfer yn parhau â meddyginiaeth neu'n dechrau meddyginiaeth ar ôl ECT. Bydd hyn yn helpu i gynnal y gwelliannau a gawsoch o'ch triniaeth ECT.

Weithiau gellir parhau â thriniaeth ECT i'ch rhwystro rhag mynd yn sâl eto. Mae hyn yn arbennig o wir os ydych chi wedi ailwaelu o'r blaen ar ôl cwrs o ECT. Gelwir hyn yn ECT ‘estynedig' neu ECT 'cynnal a chadw’, ac fe’i rhoddir yn llai aml, er enghraifft bob 2-4 wythnos.

Gall therapïau siarad fel CBT a chwnsela eich helpu i ddeall y rhesymau pam y daethoch chi'n sâl ac i ddatblygu ffyrdd o aros yn iach. Gall newidiadau yn eich ffordd o fyw o ddydd i ddydd fod yn ddefnyddiol hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, bwyta’n dda, datblygu patrwm cwsg rheolaidd, a defnyddio technegau fel ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrdod.

Bydd y clinig ECT neu'r seiciatrydd a drefnodd y driniaeth yn cysylltu â chi i holi sut mae eich cof 2 fis ar ôl eich triniaeth ddiwethaf. Os fyddwch chi'n cael problemau gyda'ch cof gallwch ofyn am gael eich cyfeirio at niwroseicolegydd neu at wasanaeth asesu cof am brofion manwl.

Fel gydag unrhyw driniaeth, mae ECT yn gallu achosi sgil-effeithiau.

Mae sgil-effeithiau fel arfer yn ysgafn ac yn para am amser byr ond weithiau gallant fod yn fwy difrifol a gallant bara am gyfnod hir.

Mae'r risg o sgil-effeithiau yn cynyddu ychydig os oes angen dosau uwch o guriadau ysgogol, os ydych chi'n ferch, neu os ydych chi'n oedrannus.

Os byddwch chi'n profi sgil-effeithiau yn ystod cwrs o ECT, gellir addasu'r driniaeth.

Sgil-effeithiau tymor byr

Yn syth ar ôl ECT, efallai y byddwch chi'n profi:

  • cur pen/pen tost
  • poen yn y cyhyrau a/neu'r ên
  • blinder tra bod effeithiau'r anesthetig yn diflannu
  • dryswch, yn enwedig os ydych chi'n oedrannus (mae hyn fel arfer yn diflannu ar ôl 30 munud)
  • salwch neu gyfog.

Bydd nyrs gyda chi tra byddwch chi'n deffro/dihuno ar ôl ECT. Gall hefyd roi cyffur lladd poen syml, fel paracetamol, i chi.

Gall hyd at 40% o gleifion gael problemau cof dros dro tra byddant yn cael ECT. Er enghraifft, efallai y byddant yn anghofio sgyrsiau ag ymwelwyr yn ystod y cyfnod hwn.

Fodd bynnag, cyn cael ECT mae tua un o bob pump (17%) o bobl yn dweud bod eu cof eisoes yn ddigon drwg i achosi problemau. Mae'n anodd gwahanu effeithiau therapi electrogynhyrfol ar y cof oddi wrth yr effeithiau ar y cof a achosir gan y salwch sy'n cael ei drin gan ECT.

I'r rhan fwyaf o bobl, mae anawsterau cof yn clirio o fewn dau fis i'r driniaeth ddiwethaf ac nid ydynt yn achosi problemau na thrallod.

Mae risg i bob triniaeth feddygol. Os bydd yr anesthetydd yn ystyried nad yw hi'n ddiogel i chi gael anesthetig, ni fyddwch yn gallu cael ECT.

Mae pobl sydd wedi cael eu derbyn i'r ysbyty oherwydd iselder yn llai tebygol o farw ar ôl cael ECT nag os nad ydyn nhw'n cael ECT. Gallai hyn fod oherwydd bod ECT yn helpu pobl i wella, neu oherwydd bod pobl sy'n cael ECT yn cael sylw meddygol agos.

Yn anaml iawn, gall ECT achosi ffit sy'n para am gyfnod estynedig. Byddai hyn yn cael ei drin ar unwaith gan y staff meddygol a fyddai'n bresennol.

Sgil-effeithiau tymor hir

Mae ystod y sgil-effeithiau hirdymor yn destun dadleuol.

Nid yw ymchwil wyddonol drylwyr wedi canfod unrhyw dystiolaeth o niwed corfforol i'r ymennydd mewn cleifion sydd wedi cael ECT. Nid oes risg uwch o epilepsi, strôc neu ddementia ar ôl therapi electrogynhyrfol.

Sgil-effaith hirdymor mwyaf difrifol ECT yw'r posibilrwydd y gallech chi anghofio digwyddiadau o'ch gorffennol. Mae nifer fach o gleifion yn profi bylchau yn eu cof am bethau a ddigwyddodd yn eu bywyd cyn iddyn nhw gael ECT. Mae hyn yn tueddu i effeithio ar atgofion o bethau a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod o iselder, neu ychydig cyn iddo ddechrau. Weithiau mae'r atgofion hyn yn dychwelyd yn llawn neu'n rhannol, ond weithiau gall y bylchau hyn fod yn barhaol. Mae ymchwil diweddar yn awgrymu bod 7% o bobl sy'n cael ECT unochrog yn parhau i gael problemau cof 12 mis ar ôl cael ECT.

Beth all ddigwydd os nad ydych chi'n cael ECT?

Bydd angen i chi a'ch meddyg bwyso a mesur y risg y byddwch chi'n profi sgil-effeithiau wrth gael ECT a'r risg o beidio â chael ECT. Gall peidio â chael ECT olygu eich bod yn fwy tebygol o:

  • brofi salwch meddwl sy'n parhau am amser hir ac yn eich anablu
  • wynebu salwch corfforol difrifol (ac efallai marwolaeth) o ganlyniad i beidio â bwyta nac yfed
  • wynebu risg uwch o farw trwy hunanladdiad.

Gyrru ac ECT

Os ydych chi'n ddigon sâl i fod angen ECT ni ddylech fod yn gyrru. Mae’r DVLA yn cynghori na ddylech chi yrru yn ystod cwrs o ECT. Ar ôl i chi orffen y cwrs, efallai y bydd yn rhaid i chi aros am ychydig o amser cyn cael dechrau gyrru eto. Y DVLA, gyda chyngor gan eich meddyg, fydd yn gwneud y penderfyniad hwn.

Os byddwch chi'n cael ECT estynedig neu ECT cynnal a chadw i helpu i'ch cadw'n iach byddwch fel arfer yn cael parhau i yrru. Fodd bynnag, ni ddylech yrru, reidio beic na gweithredu peiriannau trwm am o leiaf 48 awr ar ôl pob triniaeth ECT.

Cydsynio i gael ECT

Fel unrhyw driniaeth sylweddol mewn meddygaeth neu lawdriniaeth, gofynnir i chi am eich cydsyniad, neu ganiatâd, i gael ECT. Bydd y driniaeth ECT, y rhesymau dros ei gwneud a'r manteision a'r sgil-effeithiau posibl yn cael eu hegluro i chi.

Os byddwch chi'n penderfynu bwrw ymlaen, byddwch yn cael ffurflen ganiatâd i'w llofnodi. Mae'n gofnod eich bod wedi cael eglurhad o beth yw ECT, eich bod yn deall beth sy'n mynd i ddigwydd, a'ch bod yn rhoi eich caniatâd i gael y driniaeth. Oni bai ei fod yn argyfwng byddwch yn cael o leiaf 24 awr i feddwl am hyn ac i'w drafod gyda'ch perthnasau, ffrindiau neu gynghorwyr.

Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd, hyd yn oed ychydig cyn y driniaeth gyntaf. Dylech gael gwybodaeth sy'n egluro'ch hawliau ynghylch cydsynio i gael triniaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am gydsynio i gael ECT ar wefan y Comisiwn Ansawdd y Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC).

A yw'n bosibl gwneud eich dymuniadau ynghylch cael ECT yn hysbys ymlaen llaw?

Os oes gennych chi deimladau o blaid neu yn erbyn therapi electrogynhyrfol dylech ddweud wrth y meddygon a'r nyrsys sy'n gofalu amdanoch chi. Dylech hefyd ddweud wrth ffrindiau, teulu neu unrhyw un arall fyddai'n gallu eich cefnogi neu siarad ar eich rhan. Rhaid i feddygon gadw'r safbwyntiau hyn mewn cof pan fyddant yn ystyried ai cael ECT sydd orau i chi ai peidio.

Os, pan fyddwch chi'n iach, rydych chi'n siŵr na fyddech chi eisiau cael ECT pe baech chi'n mynd yn sâl eto, yna efallai yr hoffech chi wneud cofnod ysgrifenedig o'ch dymuniadau. Gelwir hwn yn ‘benderfyniad ymlaen llaw’ yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, neu’n ‘ddatganiad ymlaen llaw’ yn yr Alban. Dylid dilyn y dymuniadau hyn ac eithrio o dan amgylchiadau penodol iawn. Mae hwn yn bwnc cymhleth a thu hwnt i derfynau'r adnodd hwn.

Profiad rhai pobl sydd eisoes wedi cael eu trin yn llwyddiannus ag ECT yw bod y driniaeth mor ddefnyddiol nes eu bod wedi cofnodi ymlaen llaw eu bod am gael ECT os byddan nhw'n mynd yn sâl eto, hyd yn oed os ydyn nhw'n dweud ar y pryd nad ydyn nhw ei eisiau.

A ellir rhoi ECT i chi heb eich caniatâd?

Os yw unigolyn yn meddu ar y ‘gallu’ i benderfynu p’un ai i gael ECT ai peidio, ni ellir ei roi heb eu caniatâd gwybodus llawn.

Mae rhai pobl yn mynd mor sâl fel 'nad ydyn nhw'n gallu' gwneud penderfyniadau ynghylch triniaeth ECT. Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw'n gallu deall yn iawn natur, pwrpas nac effeithiau'r driniaeth, cofio'r wybodaeth hon, na phwyso a mesur y manteision a'r anfanteision o gael therapi electrogynhyrfol.

Mae yna gyfreithiau yn y DU sy'n caniatáu i feddygon wneud penderfyniadau ynghylch rhoi triniaeth ECT i bobl yn y sefyllfa hon. Ynghlwm â'r rhain mae mesurau diogelu cyfreithiol i sicrhau na fydd triniaeth yn cael ei rhoi oni bai ei bod yn gwbl angenrheidiol.

Mae hyn yn wir am tua hanner y bobl sy'n cael triniaeth ECT. Mae pobl sy'n cael ECT fel hyn yn gwneud cystal â'r rhai sydd wedi gallu rhoi caniatâd.

Pan fydd rhywun yn gwella ac yn ‘adennill gallu’ mae'n rhaid ceisio eu caniatâd eto.

Mae rhagor o wybodaeth am gydsynio ac ECT ar gael ar wefan y CQC.

Mae'r Gwasanaeth Achredu Gwasanaeth Achredu ECT (ECTAS)ECT (ECTAS) yn rhwydwaith gwirfoddol o wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sy'n hyrwyddo arfer gorau mewn triniaeth ECT. Mae'r rhwydwaith yn helpu i wella ansawdd gofal trwy gefnogi clinigau ECT fel eu bod yn bodloni set o safonau y cytunwyd arnyn nhw, megis safonau diogelwch a chyfreithiol.

Mae Rhwydwaith Achredu ECT yr Rhwydwaith Achredu ECT yr Alban (SEAN) (SEAN) yn cyflawni swyddogaeth debyg ac yn cynnwys pob gwasanaeth ECT yn yr Alban.

Nid ECTAS a SEAN yw rheolyddion statudol gwasanaethau ECT. Mae hyn yn gyfrifoldeb i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, i'r Comisiwn Ansawdd Gofal yn Lloegr, Healthcare Improvement Scotland yn yr Alban a'r Awdurdod Rheoleiddio a Gwella Ansawdd yng Ngogledd Iwerddon.

Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PEEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.

Adolygiad arbenigol a chyfranwyr

  • Pwyllgor ar ECT a Thriniaethau Cysylltiedig
  • Gwasanaeth Achredu Therapi Electrogynhyrfol (ECTAS)
  • Rhwydwaith Achredu ECT yr Alban (SEAN)
  • Yr Athro Wendy Burn, Cyn-lywydd Uniongyrchol a Chadeirydd PEEB.

Diwygiwyd y wybodaeth hon ym mis Mawrth 2022.

This translation was produced by CLEAR Global (Jun 2023)

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry