Isotretinoin ac iechyd meddwl 

Isotretinoin and mental health

Below is a Welsh translation of our information resource on isotretinoin and mental health. You can also view our other Welsh translations.

Ymwadiad

Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae'r wybodaeth hon ar gyfer pobl sy'n ystyried cymryd y cyffur isotretinoin ar gyfer acne. Mae isotretinoin hefyd yn cael ei adnabod wrth yr enwau brand Roaccutane neu Accutane.

Mae’r wybodaeth hon yn edrych ar isotretinoin a newidiadau mewn hwyliau. Mae’n egluro rhai o’r problemau iechyd meddwl y mae pobl wedi’u nodi wrth gymryd isotretinoin, ac ar ôl stopio cymryd isotretinoin. Mae hefyd yn edrych ar ba mor aml mae’r problemau hyn wedi’u nodi, a beth i’w wneud os fyddwch chi’n eu profi.

Sefydlwyd y Gweithgor Arbenigwyr Isotretinoin yn ddiweddar gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). Mae’r grŵp hwn wedi gwneud argymhellion i ‘gryfhau diogelwch triniaeth isotretinoin,’ gan gynnwys y canlynol:

  • Rhybuddion newydd ynglŷn â risg trafferthion rhywiol, a chyngor i weithwyr iechyd proffesiynol i fonitro eu cleifion am drafferthion rhywiol
  • Gofynion monitro cyson ar gyfer sgil-effeithiau seiciatryddol a rhywiol posibl
  • Yr amod bod yn rhaid i ddau ragnodydd gytuno ymlaen llaw bod acne’r person yn ddifrifol, ac na fu unrhyw driniaeth arall yn effeithiol, er mwyn rhagnodi isotretinoin ar gyfer pobl o dan 18 oed.

Nid yw'r argymhellion hyn wedi'u cyflwyno eto. Bydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a Chymdeithas Dermatolegwyr Prydain yn ystyried unrhyw newidiadau y gellid eu gwneud i sut y caiff isotretinoin ei rhagnodi yn y dyfodol a diweddaru’r wybodaeth hon yn ôl yr angen.

Mae isotretinoin yn perthyn i grŵp o gyffuriau a elwir yn retinoidau. Mae’n driniaeth hynod o effeithiol ar gyfer y canlynol:

  • acne difrifol sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau a thriniaethau lleol (meddyginiaethau a roddir yn uniongyrchol ar y croen)
  • acne sy’n peri risg o achosi creithiau parhaol.

Daw isotretinoin ar ffurf capsiwl, ac fe'i cymerir unwaith neu ddwywaith y dydd.

Yn y DU, dim ond gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd ag arbenigedd mewn defnyddio retinoidau, neu o dan eu goruchwyliaeth, y gall isotretinoin gael ei ragnodi. Os caiff isotretinoin ei ragnodi i chi, dylech gael gwybod am unrhyw risgiau posibl a chael eich monitro gan eich doctor.

Mae cysylltiad rhwng isotretinoin a fitamin A. Gall dosau uchel o fitamin A achosi problemau fel:

  • iselder
  • blinder
  • anniddigrwydd
  • newidiadau mewn personoliaeth.

O’r herwydd, mynegwyd pryderon y gallai isotretinoin achosi rhai o’r problemau hyn.

Yn yr adnodd hwn rydym wedi ceisio cyflwyno’r ymchwil sydd ar gael ar newidiadau mewn hwyliau ac isotretinoin. Gobeithiwn y bydd y wybodaeth hon yn eich helpu i wneud penderfyniadau ynglŷn â’ch triniaeth. Fodd bynnag, dylai unrhyw benderfyniadau a wnewch fod yn seiliedig ar drafodaethau â’ch meddyg, a’ch amgylchiadau personol chi.

Cymeradwywyd Isotretinoin gyntaf ar gyfer trin acne yn y 1980au. Mae miliynau o bobl ledled y byd wedi defnyddio isotretinoin i drin acne heb unrhyw broblemau.

Fodd bynnag, dros y blynyddoedd mae rhai pobl wedi adrodd am newidiadau mewn hwyliau wrth gymryd isotretinoin. Mae hyn yn awgrymu efallai fod cysylltiad rhwng isotretinoin a phroblemau iechyd meddwl, ond ni wyddys i sicrwydd a yw hyn yn wir.

Ni ddangosodd astudiaethau diweddar o niferoedd mawr o bobl o wahanol oedrannau a oedd yn cymryd isotretinoin bod cynnydd mewn iselder neu hunanladdiad. Astudiwyd hyn trwy gymharu'r bobl hyn â:

  • y boblogaeth gyffredinol a
  • phobl ag acne a gafodd eu trin gyda gwrthfiotigau.

Mewn gwirionedd, mae adroddiadau o hunanladdiad yn fwy cyffredin ymysg pobl ag acne sy'n cael eu trin gyda gwrthfiotigau, nag mewn pobl sy'n cael eu trin gydag isotretinoin.

Nid yw union amlder problemau iechyd meddwl ymysg pobl sy'n cymryd isotretinoin yn hysbys.

Mae’r tebygolrwydd y bydd rhywun sy’n cymryd isotretinoin yn profi newidiadau mewn hwyliau yn isel iawn. Gallai rhwng 1 o bob 1,000 ac 1 o bob 10,000 o bobl sy’n cymryd isotretinoin brofi newidiadau bach yn eu lles meddyliol, gan gynnwys:

  • bod yn ddagreuol
  • hwyliau isel
  • gorbryder
  • aflonyddwch.

Mae’r tebygolrwydd y bydd rhywun sy’n cymryd isotretinoin yn profi newidiadau mwy difrifol mewn hwyliau ac ymddygiad hefyd yn isel iawn. Gallai llai nag un o bob 10,000 o bobl sy’n cymryd isotretinoin:

  • brofi iselder
  • ymddwyn yn anarferol
  • dangos arwyddion o salwch seicotig megis colli cyswllt â realiti neu glywed lleisiau
  • cael meddyliau hunanladdol
  • achosi niwed i’w hunain neu geisio cyflawni hunanladdiad
  • marw trwy hunanladdiad.

Mae’r teimladau a’r newidiadau ymddygiad hyn wedi cael eu hadrodd mewn pobl sydd wedi profi problemau iechyd meddwl yn y gorffennol, ac mewn pobl sydd heb brofi problemau iechyd meddwl. Maent wedi digwydd wrth i bobl gymryd isotretinoin, ac ar ôl iddynt stopio ei gymryd.

Mae rhai pobl wedi adrodd iddynt brofi iselder wrth gymryd isotretinoin. Mewn rhai achosion, canfu'r bobl hyn fod eu hiselder wedi gwella pan gafodd yr isotretinoin ei stopio, a'i fod wedi dychwelyd pan gafodd y cyffur ei ailgyflwyno. Byddai hyn yn awgrymu fod yr iselder wedi datblygu oherwydd yr isotretinoin. Mewn achosion eraill, canfu'r bobl hyn nad oedd eu hiselder wedi dychwelyd pan gafodd isotretinoin ei ailgyflwyno.

Mae’n bwysig deall bod iselder yn salwch cyffredin. O ganlyniad, mae'n anodd dweud a yw pobl sy'n cymryd isotretinoin sy'n datblygu iselder yn gwneud hynny oherwydd eu bod yn cymryd isotretinoin, neu a yw hyn yn gyd-ddigwyddiad.

Gwyddom fod pobl gydag acne yn fwy tebygol o brofi gorbryder ac iselder na phobl heb acne. Mae hyn yn wir p'un a ydynt yn cymryd isotretinoin ai peidio. Un o’r prif resymau am hyn yw bod acne a chreithiau acne yn effeithio ar hunan-barch a hunanhyder. Gall hyn arwain at hwyliau isel, yn enwedig mewn pobl iau.

Mae sawl astudiaeth wedi dangos bod isotretinoin yn gallu gwella newidiadau negyddol mewn hwyliau a achosir gan acne. Lle mae isotretinoin yn helpu gwella acne, gall hyn gael effaith gadarnhaol ar hunan-barch a hunanhyder unigolyn.

Mae’r wefan Skin Support yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i bobl y mae eu problemau croen yn effeithio ar eu hiechyd meddwl.

Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod pobl sydd â hanes o iselder yn wynebu risg uwch o brofi newidiadau mewn hwyliau wrth gymryd isotretinoin.

Fodd bynnag, er y gall pobl sydd wedi dioddef o iselder yn y gorffennol gael eu trin ag isotretinoin, dylid gwneud hyn yn ofalus.

Os ydych chi wedi dioddef o iselder ac yn penderfynu cymryd isotretinoin, mae eich dermatolegydd yn debygol o ddechrau’r driniaeth â dos isel a'i gynyddu'n araf yn ôl yr angen. Bydd yn gwirio’n aml sut rydych chi’n teimlo.

Mae adroddiadau bod cyflwr pobl ag anhwylder deubegwn yn gwaethygu wrth gymryd isotretinoin. Os ydych chi’n dioddef o anhwylder deubegynol, efallai y cewch eich cynghori i beidio â chymryd isotretinoin.

Edrychodd astudiaeth ddiweddar ar bobl a geisiodd hunanladdiad tra’u bod yn cymryd isotretinoin. Dangosodd eu bod yn fwy tebygol o fod â ffactorau risg megis hanes personol neu deuluol o salwch meddyliol. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd gwybod ai isotretinoin oedd achos uniongyrchol y broblem.

Dywedwch wrth yr unigolyn sy’n eich trin os ydych chi neu unrhyw un yn eich teulu wedi dioddef unrhyw broblemau iechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys:

  • iselder
  • anhwylder deubegynol
  • anhwylderau bwyta
  • gorbryder
  • hunan-niweidio.

Dylech hefyd roi gwybod iddo neu iddi os ydych dan ofal gweithiwr neu dîm iechyd meddwl.

Gall yr unigolyn sy’n rhagnodi isotretinoin i chi ofyn i chi lenwi holiadur iechyd meddwl.

Os ydych chi wedi profi problemau iechyd meddwl yn y gorffennol, efallai y bydd yr unigolyn sy'n rhagnodi isotretinoin i chi yn gofyn i chi weld eich meddyg teulu. Trwy sicrhau bod eich meddyg teulu yn gwybod eich bod yn ystyried cymryd isotretinoin, gall wneud y canlynol:

  • eich helpu i benderfynu a yw’n ddiogel i chi gymryd isotretinoin
  • eich helpu i fonitro eich hwyliau yn ystod y driniaeth
  • eich helpu i gael unrhyw driniaeth a chymorth arall y gallai fod eu hangen arnoch.
  • Siaradwch ag unrhyw un sy’n ymwneud â’ch gofal - os ydych dan ofal gweithiwr neu dim iechyd meddwl, dylech roi gwybod iddynt eich bod yn dechrau triniaeth isotretinoin.
  • Byddwch yn ymwybodol o unrhyw symptomau - Byddwch yn ymwybodol o symptomau iselder a restrir isod. Os ydych yn profi unrhyw newid mewn meddyliau, teimladau neu ymddygiadau, siaradwch â’r bobl sy’n eich trin.
  • Siaradwch â’ch teulu a ffrindiau - Gall fod yn ddefnyddiol dweud wrth eich teulu a ffrindiau eich bod yn cymryd isotretinoin a bod newidiadau mewn hwyliau yn un o’r sgil-effeithiau posibl. Gofynnwch iddynt i roi gwybod i chi os byddant yn sylwi ar unrhyw newidiadau yn eich iechyd meddwl fel y gallwch adrodd hynny i’r gweithwyr proffesiynol sy’n gofalu amdanoch chi.

Os byddwch chi neu unrhyw un sy’n eich adnabod yn credu bod eich hwyliau neu ymddygiad yn newid a’ch bod chi’n dangos unrhyw arwyddion o salwch meddyliol:

  • rhowch y gorau i gymryd y feddyginiaeth ar unwaith
  • rhowch wybod i’ch meddyg teulu a’ch tîm dermatoleg
  • os ydych chi dan ofal gwasanaeth iechyd meddwl, rhowch wybod iddyn nhw hefyd.

Mae rhai pobl yn dewis ailddechrau cymryd isotretinoin ar ôl i’w hwyliau wella neu os yw eu symptomau iselder yn ysgafn. Fel arfer, byddent yn cymryd dos is wrth ailddechrau cymryd isotretinoin.

Os byddwch yn dechrau cymryd isotretinoin eto, efallai y bydd eich dermatolegydd neu feddyg teulu yn eich cyfeirio at weithiwr iechyd meddwl proffesiynol. Efallai y cynigir cyffuriau gwrth-iselder neu therapi seicolegol i chi os ydych yn ailddechrau cymryd isotretinoin, gan y gall y rhain eich atal rhag mynd yn isel eto.

Rydyn ni gyd yn teimlo’n drist a’n bod wedi cael llond bol ar adegau. Gydag iselder nid yw’r teimladau hyn yn diflannu ar ôl ychydig ddyddiau; yn hytrach maent yn parhau ac yn amharu ar fywyd. Os ydych chi'n isel eich ysbryd, efallai y byddwch chi'n profi symptomau fel:

  • teimlo’n anhapus
  • colli diddordeb mewn bywyd
  • methu mwynhau unrhyw beth
  • cael trafferth canolbwyntio
  • ei chael hi’n fwy anodd ymdopi â heriau
  • colli hyder ac osgoi sefyllfaoedd cymdeithasol
  • teimlo’n orbryderus ac ar bigau’r drain
  • teimlo’n bigog
  • cysgu gormod neu ddim o gwbl
  • newidiadau yn eich chwant bwyd a’ch pwysau
  • teimlo’n ddiwerth ac yn ddiobaith
  • meddwl am hunanladdiad.

Dysgwch fwy am iselder mewn oedolion ac iselder mewn plant a phobl ifanc.

Os ydych chi’n teimlo eich bod mewn perygl o niweidio’ch hun, ffoniwch 999 neu ewch i’r adran damweiniau ac achosion brys agosaf.

Os nad ydych mewn argyfwng ond bod angen cymorth arnoch, ffoniwch GIG 111.

Os ydych dan ofal gwasanaeth iechyd meddwl lleol, gallwch hefyd gysylltu â’ch llinell gymorth leol os ydych yn gwybod y rhif. Gall GIG 111 hefyd eich rhoi mewn cysylltiad â nhw.

Gallwch hefyd gysylltu â’r Samariaid, sefydliad cenedlaethol sy’n cefnogi pobl mewn trallod neu sy’n teimlo’n hunanladdol ac angen rhywun i siarad â nhw.

Llinell gymorth: Rhadffôn 116 123. Llinell Gymraeg: 0808 164 0123 (7pm – 11pm bob nos)
Gwefan:  www.samaritans.org

Sefydliadau eraill a all helpu os ydych chi'n cael meddyliau am hunan-niweidio:

Mae gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion adnoddau gwybodaeth ar wahanol afiechydon meddwl a thriniaethau:

Gwybodaeth i bobl ifanc

Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PEEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.

Mae'r wybodaeth hon wedi'i haddasu o adnodd a ysgrifennwyd gan Dr Harsha Makena a Dr Jim Bolton o Wasanaeth Seiciatreg Cyswllt Ysbyty St Helier, gyda chymorth gan yr Adran Dermatoleg.

Cafodd ei hatgynhyrchu gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion a  Chymdeithas Dermatolegwyr Prydain gyda chaniatâd caredig Dr Makena a Dr Bolton.

Mae ffynonellau llawn ar gael ar gais.

This translation was produced by CLEAR Global (Oct 2023)

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry