Ein gwerthoedd
Mae ein gwerthoedd yn sail i bopeth a wnawn, a'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan ein staff a'n Haelodau sy'n ymwneud â gwaith Coleg.
- Dewrder
- Arloesi
- Parch
- Gweithio
- Dysgu
- Rhagoriaeth
Mae gwybodaeth ychwanegol ac ymddygiadau cysylltiedig ar gael.
Gwerthoedd craidd ar gyfer seiciatryddion
Yn ogystal, rydym wedi datblygu set o werthoedd craidd ar gyfer seiciatryddion. Dylai'r fframwaith gwerthoedd gyfrannu at lunio ymarfer clinigol, polisi a chynllunio ym maes gofal iechyd meddwl. Mae'n cynnwys cleifion o bob ystod oedran a phob arbenigedd ym maes seiciatreg.
Gellir ei ddefnyddio fel teclyn hyfforddi, pwynt cyfeirio ac offeryn mesur ar gyfer gwerthuso arfer. Mae'n sail i'r berthynas therapiwtig rhwng y claf a'r meddyg, sydd yn ei dro yn dylanwadu ar ansawdd yr adferiad.
'Yn wahanol i foeseg, sy'n ceisio pennu 'canlyniadau cywir', mae'r arfer sy'n seiliedig ar werthoedd yn dibynnu ar 'broses dda', yn arbennig, sgiliau clinigol da, fel sail ar gyfer gwneud penderfyniadau cytbwys lle mae gwerthoedd yn gwrthdaro.' (Fulford, 2011)
Mae'r gwerthoedd craidd yn destun diwygiadau yn y dyfodol a gallant weithredu ar y cyd â chod moeseg y Coleg Brenhinol Seiciatryddion mewn ymarfer clinigol.
Fe'u datblygwyd gan y Coleg Cymraeg, dan arweiniad yr Athro Keith Lloyd, seiciatrydd ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Ms Veryan Richards, cynrychiolydd cleifion y Coleg Cymraeg ac mewn ymgynghoriad â'r Pwyllgor Gweithredol ac aelodaeth.