Safonau ac achredu
Nid yn unig y mae ein safonau'n pennu'r lefel ofynnol o ofal y dylai gwasanaethau ei gynnig, ond maent yn cynnig dyhead am wasanaethau a'r cyfle i ddangos rhagoriaeth.
Yng Nghymru, yr ydym yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau i weithredu'r safonau hyn, ac i ddarparu gofal o safon well i unigolion. Mae hyn yn cynnwys gwaith Canolfan Gwella Ansawdd y Coleg, a'r Ganolfan Genedlaethol Cydweithredu ar gyfer Iechyd Meddwl (NCCMH), gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth gyferbyn.
Yn ogystal, rydym wedi tynnu sylw at brosiectau rydym wedi'u cymeradwyo gyda sefydliadau partner gan ein bod yn credu bod ganddynt werth gwirioneddol o ran gwella'r modd y caiff gwasanaethau eu darparu yng Nghymru.
Ein cymeradwyaethau
![Senedd Senedd](/images/default-source/members-images/members-landing-images/members_banner.jpg?sfvrsn=cdd02d39_2)
I gael rhagor o wybodaeth
Cysylltwch ag Ollie John i gael rhagor o wybodaeth am ein safonau, ein hachrediad neu brosiectau cymeradwy yng Nghymru
Cysylltwch â ni