Ymchwilwyr y DU yn arloesi ffordd rithwir newydd o drin PTSD

Cymru
16 June 2022

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi arloesi o ran math newydd o driniaeth rithwir i bobl ag anhwylder straen wedi trawma (PTSD).

Mewn treial clinigol ar raddfa fawr, canfu'r tîm ymchwil fod sesiynau therapi ar-lein dan arweiniad ar gyfer pobl â PTSD ysgafn i gymedrol yr un mor effeithiol â thriniaethau wyneb yn wyneb.

Mae'r tîm yn dweud bod y canlyniadau, a gyhoeddwyd heddiw yn y British Medical Journal, yn golygu y dylai'r GIG ystyried y math hwn o therapi yn driniaeth rheng flaen i bobl sydd â'r cyflwr.

“Mae ein hymchwil wedi arloesi o ran math newydd o driniaeth ar gyfer PTSD, a gallai chwyldroi’r ffordd y mae’r GIG yn trin y cyflwr gwanychol hwn yn y dyfodol,” meddai'r Athro Jonathan Bisson o Ganolfan Genedlaethol Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd.

Dywedodd Sarah, a gymerodd ran mewn treial blaenorol ac sydd bellach yn ymchwilydd ac yn gyd-awdur yr astudiaeth hon, y gallai helpu llawer o bobl.

“Ar ôl imi dioddef o PTSD, roedd yr hunangymorth dan arweiniad wedi fy helpu i adfer y bywyd roedd gen i gynt,” meddai.

'Rhestrau aros hir i gael cymorth'

Amcangyfrifir bod gan tua 4% o oedolion yn y DU PTSD, sef cyflwr cyffredin a all ddatblygu ar ôl profi digwyddiadau trawmatig. Mae'r symptomau'n cynnwys ail-fyw'r trawma, osgoi’r hyn sy’n atgoffa rhywun ohono a bod ar bigau drain o hyd a theimlo gofid ac ing. Gall hyn oll effeithio ar fywyd bob dydd a gall bara am flynyddoedd lawer.

Therapi seicolegol sy’n canolbwyntio ar y digwyddiad trawmatig yw'r driniaeth o ddewis ond gellir bod ar restrau aros am dros flwyddyn a phrin yw nifer y therapyddion hyfforddedig sy’n trin cleifion.

Cynhaliodd y tîm ymchwil hap-dreial rheoledig mawr o therapi ymddygiadol gwybyddol ar y rhyngrwyd (CBT) a oedd yn cynnwys 196 o oedolion o bob cwr o'r DU a gafodd ddiagnosis o PTSD ysgafn i gymedrol. Cafodd hanner ohonyn nhw therapi dan arweiniad ar y we drwy ap a ddyfeisiwyd gan Brifysgol Caerdydd o'r enw Spring. Roedd hyn yn cynnwys rhaglen wyth cam gydag arweiniad a chefnogaeth gan therapydd, a chafodd yr hanner arall 12 sesiwn therapi wyneb yn wyneb.

Mesurwyd eu cynnydd ar ôl 16 a 52 wythnos, gan gynnwys difrifoldeb symptomau eu PTSD, eu hiselder a’u gorbryder, y defnydd o alcohol a’r effaith ar sut roedden nhw’n ymdopi â’u bywyd beunyddiol. Ar ben hynny ac yn rhan o'r gwerthusiad, cyfwelwyd yn fanwl â phedwar ar bymtheg o’r bobl a gymerodd ran a 10 therapydd am eu profiadau o'r driniaeth newydd.

Daeth i'r amlwg yn yr hap-dreial nad oedd PTSD gan dros 80% o'r bobl yn y ddau grŵp a gafodd eu cyfweld ar ôl 16 wythnos.

“Canfu treial RAPID i asesu rhaglen Spring fod CBT dan arweiniad ar y rhyngrwyd yn glinigol effeithiol, yn rhatach, yn hyblyg a’r un mor effeithiol â thriniaethau wyneb yn wyneb,” meddai'r Athro Bisson.
“Dylai'r canlyniadau gynnig rhagor o opsiynau o ran triniaeth i bobl â PTSD yn ogystal â gwella’r gofal a gânt.”

'Roedd y rhaglen yno pan oeddwn ei hangen'

Dywedodd *Sarah, mam 46 oed o dde Cymru sy’n rheolwr cyfathrebu, fod rhaglen Prifysgol Caerdydd yn hollbwysig o ran trin y cyflwr.

“Fe wnaeth fy PTSD wneud imi deimlo'n rhyfedd iawn ac mewn penbleth gyson. Pan oeddwn i gartref, roeddwn i eisiau bod allan a phan oeddwn i allan, roeddwn i eisiau bod gartref. Doeddwn i ddim yn gallu bod mewn un lle am hir. Doeddwn i ddim yn gallu cysgu ac yn teimlo'n bryderus ac yn cynhyrfu, ac am ryw dri neu bedwar mis gwaethygodd hyn yn raddol”, meddai.
“Es i at y meddyg teulu, ac awgrymodd ei bod yn bosibl bod gen i PTSD. Bryd hynny, roeddwn i'n meddwl ei fod yn fwy cysylltiedig â chyn-filwyr milwrol - ond po fwyaf y buon ni’n siarad po fwyaf y sylweddolais i fod y diagnosis yn gywir. Cefais i fy rhoi ar restr aros hir iawn i weld cwnselydd ond tra fy mod i’n aros ffoniodd nyrs iechyd meddwl a ddywedodd wrtha i fod treial yn digwydd ym Mhrifysgol Caerdydd.
“O fewn ychydig ddyddiau roeddwn i'n rhan o'r treial a oedd yn asesu rhaglen hunangymorth dan arweiniad ar-lein newydd o'r enw Spring. Roedd yn wirioneddol wych. Mam oeddwn i a newydd ddechrau swydd felly doeddwn i ddim yn gallu cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith neu fod yn sâl - ond roeddwn i'n gallu ymuno â'r rhaglen ar unrhyw adeg pan oeddwn i'n teimlo mod i’n gallu ymdopi â gwneud hynny. Roeddwn i’n teimlo bod y rhaglen yno pan oedd ei hangen arna i fwyaf, ond bob wythnos roeddwn i hefyd yn cysylltu â therapydd felly doeddwn i byth yn teimlo ar fy mhen fy hun. Doedd hi ddim yn rhwydd ac roedd yn rhaid imi ddal ati a dyfalbarhau - ond roeddwn i eisiau adfer y bywyd oedd gyda fi gynt.
“Y cam olaf yn y rhaglen oedd ysgrifennu hanes personol a manwl iawn o’r digwyddiadau trawmatig ac yna eu darllen drosodd a thro hyd nes i’r cyfan fynd yn llai sensitif o lawer. Roedd fel pe bai ei ysgrifennu i lawr yn peri iddo ddiflannu o fy mhen. Roeddwn i'n teimlo cymaint yn well mewn cyfnod cymharol fyr o amser.”

Sarah oedd arweinydd cynnwys y cyhoedd ar y treial hwn ac yn un o’r awduron a enwir ar y papur gwyddonol. Ei rôl yw cynnig barn bersonol ar PTSD yn y broses ymchwil ac mae hi hefyd wedi sefydlu grŵp ar gyfer cleifion.

“Mae ymwybyddiaeth o PTSD yn tyfu drwy'r amser – ac mae pobl yn sylweddoli y gall llawer o brofiadau gwahanol ei achosi. Rwy hefyd yn credu bod defnyddio technoleg ym maes gofal iechyd yn fwy perthnasol nawr nag erioed mewn pandemig. Mae gan yr ymchwil newydd hon y potensial i helpu llawer iawn o bobl. Mae'n wirioneddol anhygoel,” ychwanegodd.

Cynhaliwyd yr astudiaeth rhwng 2017 a 2021 a recriwtiwyd y sawl a gymerodd ran o wasanaethau'r GIG yn Lloegr (Coventry, Swydd Warwick, Manceinion Fwyaf, Llundain a de-orllewin Swydd Efrog), yr Alban (Lothian) a Chymru (Caerdydd, Gwent, Morgannwg Ganol, a Bro Morgannwg).

Ariannwyd yr astudiaeth gan raglen Asesu Technoleg Iechyd Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol y DU dros Ymchwil Iechyd. Cafodd costau'r GIG yn yr astudiaeth eu hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Bellach, mae'r tîm ymchwil yn gweithio gyda'r GIG i ledaenu a rhoi CBT dan arweiniad ar y rhyngrwyd ar waith yn effeithiol ar raddfa, a hynny er mwyn manteisio i’r eithaf ar ei effaith.


For further information, please contact: