Nifer y bobl sy'n manteisio ar swyddi hyfforddi seiciatrig yng Nghymru ar eu lefel uchaf erioed am flynyddoedd dilynol

Newyddion Cymru
19 October 2020

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae AaGIC wedi sefydlu nifer o fentrau i hyrwyddo Cymru fel dewis gwych i'w hyfforddi a'u gweithio, gan gynnwys cyflwyno pecynnau cymell sy'n cynnwys cyllid ar gyfer un o arholiadau'r Coleg Brenhinol, cynyddu cyfleoedd a phroffil arbenigeddau anodd eu llenwi drwy brofiadau blasu lefel Sylfaen a hyrwyddo arbenigeddau'n rheolaidd mewn digwyddiadau Gyrfaoedd ar gyfer Hyfforddeion Sefydledig a myfyrwyr Meddygol.

Adlewyrchir llwyddiant y mentrau hyn yn y gyfradd lenwi o 100 y cant o swyddi hyfforddiant seiciatrig yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol, gyda nifer y lleoedd hyfforddi arbenigol a gynigir yn cynyddu o 21 yn 2019 i 27 yn 2020.

Mae hyn yn cymharu â chyfradd lenwi o 33 y cant yn unig yn 2017, pan mai dim ond un o bob tair swydd a lenwyd gyda 18 o leoedd ar gael a chwech yn derbyn.

Yn 2018, roedd 22 o leoedd ar gael gyda dim ond 13 o feddygon iau yn derbyn – cyfradd lenwi o 59 y cant.

Mae'r ffigurau'n dangos gwelliant sylweddol dros y 4 blynedd diwethaf, gan amlygu'r diddordeb cynyddol mewn hyfforddiant seiciatrig yng Nghymru.

Dywedodd Dr Maria Atkins, cadeirydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru:

"Mae bod yn seiciatrydd yn yrfa werthfawr iawn ac mae hyn yn newyddion cyffrous i gleifion yn ogystal â'r arbenigedd.

"Mae seiciatreg yn ddewis gyrfa gwych, sy'n delio â bywyd go iawn. Yng Nghymru rydym yn arwain y byd mewn sawl agwedd ar iechyd meddwl, felly mae ein hyfforddeion yn cael cyfle i ddod yn rhan o rywfaint o ymchwil arloesol.

"Mae cynlluniau fel ymgyrch Dewis Seiciatreg y Coleg ledled y DU wedi helpu'n aruthrol yn ogystal â rhaglen #HyfforddiGweithioByw Llywodraeth Cymru.

"Ond rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon. Bydd angen seiciatryddion ar bobl bob amser, mae'n yrfa ddiddorol iawn ac mae angen i ni wneud popeth o'n gallu i barhau i'w hyrwyddo fel dewis gyrfa ardderchog i bob meddyg iau."

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu'r gweithlu sydd ei angen i ddarparu system iechyd a gwasanaethau cymdeithasol fodern, gynaliadwy fel y'i nodir yn Cymru Iachach. Rydym yn parhau i gefnogi'r gwaith o ehangu lleoedd hyfforddi meddygon teulu yng Nghymru a thrwy ein hymgyrchoedd marchnata rydym bellach wedi ennill enw da fel lle rhagorol i weithwyr meddygol proffesiynol Hyfforddi, Gweithio a Byw."

Ar ôl ysgol feddygol, mae hyfforddeion yn dilyn rhaglen hyfforddiant sylfaen dwy flynedd i bontio'r bwlch rhwng yr ysgol feddygol a hyfforddiant arbenigol pellach. Ar ôl Ysgol Sylfaen, mae meddygon iau yn dewis dilyn naill ai meddygaeth Gyffredinol neu Arbenigol.

Y rhaglen hyfforddi seiciatreg arbenigol chwe blynedd yw'r cam olaf yn y daith i fod yn seiciatrydd ymgynghorol – y meddyg uchaf sy'n arbenigo ym maes iechyd meddwl.

For further information, please contact: