Yr wythnos nesaf byddwn yn croesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a gynhelir yn Llanymddyfri o 29 Mai tan 3 Mehefin. Yr Eisteddfod yw'r ŵyl ieuenctid Gymraeg flynyddol o lenyddiaeth, cerddoriaeth a chelfyddydau perfformio a drefnir gan Urdd Gobaith Cymru.
Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn falch iawn o barhau â'n partneriaeth gyda'r Urdd a'u Heisteddfod Genedlaethol. Eleni byddwn yn cefnogi cyflwyno parth llesiant newydd ar y Maes, o'r enw Nant Caredig.
Wedi'i gyhoeddi yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, rhannodd yr Urdd fanylion am yr hyn fydd yn digwydd yn y parth llesiant.
Bydd Nant Caredig yn cynnig lle tawel i unigolion niwroamrywiol neu unrhyw un arall sydd angen lle tawel i ymlacio, i ffwrdd o brysurdeb a bwrlwm y Maes. Yn ystod yr wythnos, bydd gweithdai lles fel gweithgareddau cyfannol ac ioga.
Dywedodd Ollie John, Rheolwr Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru:
"Mae'r digwyddiad eleni yn dilyn y neges heddwch ac ewyllys da diweddar gan yr Urdd, a oedd yn canolbwyntio ar wrth-hiliaeth. Rydym wir yn gwerthfawrogi ein partneriaeth â'r Urdd, a'r gwaith gwych y maent yn ei wneud.
"Rwy'n gobeithio y bydd pawb sy'n mynychu yn cael amser gwych yn Llanymddyfri, a manteisiwch hefyd ar y cyfle i ymweld â Nant Caredig."
Rydym hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth Dr Rhys Bevan Jones, a fydd yn arddangos ei waith celf, tra hefyd yn cefnogi trafodaeth banel gyda'r elusen iechyd meddwl Meddwl.
Byddwn yn rhannu diweddariadau, straeon a lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn annog pob aelod i ddysgu mwy am waith yr Urdd a mwynhau dathliadau eleni.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y digwyddiad.
For further information, please contact:
- Email: wales@rcpsych.ac.uk
- Twitter: RCPsychWales