COVID-19: Gofalu am eich iechyd meddwl – i bobl ifanc a'u rhieni a'u gofalwyr
Ymwadiad: Mae'r adnodd hwn yn darparu gwybodaeth, nid cyngor. Darllenwch yr ymwadiad llawn ar ddiwedd yr adnodd hwn.
Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y byddwch yn teimlo'n eithaf pryderus am sut y bydd pandemig COVID-19 yn effeithio arnoch chi, yn ogystal â bywydau eich ffrindiau, teulu neu bobl eraill rydych chi'n eu hadnabod. Mae'n gwbl normal cael y teimladau hyn. Ond os byddwch yn gweld bod y teimladau hyn yn gwneud i chi deimlo'n ofidus neu eich bod yn poeni'n rheolaidd, yna mae'n bwysig eich bod yn siarad â rhywun. Mae llawer o gefnogaeth ar gael i helpu pobl ifanc i ymdopi.
Cadw trefn
Mae'n bwysig ceisio creu trefn i chi'ch hun tra byddwch gartref a chadw ato gymaint ag y gallwch. Dylai eich arferion fod yn wahanol ar gyfer dyddiau'r wythnos a phenwythnosau, a gallent gynnwys pethau fel yr ysgol neu amser astudio, ymarfer corff, dal i fyny â ffrindiau, neu wneud pethau eraill yr ydych yn eu hoffi megis celf neu wylio'r teledu. Gall gosod trefn ddyddiol helpu i roi strwythur a chydbwysedd i'ch diwrnod.
Canolbwyntiwch ar wneud gweithgareddau rydych chi'n eu mwynhau
Canolbwyntiwch ar wneud gweithgareddau rydych chi'n eu mwynhau ac yn gwneud i chi deimlo'n ddigynnwrf, gan wneud yn siŵr eich bod yn ffitio rhai o'r rhain i mewn i'ch arferion dyddiol. ' Dewch o hyd i weithgaredd ymlacio, fel ioga, gwrando ar gerddoriaeth, neu gelf. Efallai yr hoffech chi hyd yn oed feddwl am ddysgu rhywbeth newydd – Mae llawer o gyfleoedd ar-lein i ddysgu pethau newydd.
Gofalu amdanoch chi eich hun
Ceisiwch fwyta diet cytbwys, cadw at batrwm cysgu rheolaidd (codi a mynd i gysgu yr un pryd bob dydd), a chael ymarfer corff yn rheolaidd, gan gynnwys mynd allan unwaith y dydd i gael awyr iach.
Cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â ffrindiau a theulu, drwy negeseuon, galwadau fideo neu alwadau ffôn. Gallwch fod yn greadigol gydag eraill trwy wneud pethau fel cwisiau, coginio neu waith celf. Mae hon yn ffordd dda o ddal i fyny â phobl nad ydych yn eu gweld mor aml, ac i gyrraedd y rhai y credwch eu bod yn teimlo'n unig neu'n byw ar eich pen eich hun, fel teidiau a neiniau neu gymdogion hŷn.
Defnydd cadarnhaol o gyfryngau cymdeithasol
Gall cyfryngau cymdeithasol fod yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad yn ystod pandemig COVID-19, ond os byddwch yn gweld bod rhywfaint o'r hyn a welwch neu a ddarllenwch yn eich cael i lawr, yna efallai y bydd angen i chi newid yr hyn rydych yn ei wneud. Dewch o hyd i safleoedd a chymunedau ar-lein sy'n gwneud i chi deimlo'n well a rhannu eich diddordebau. Mae gan y coleg fwy o awgrymiadau ar sut i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg yn ddiogel (PDF).
Gael help
Mae practisau meddygon teulu a gwasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS), yn parhau i weithio, er eu bod yn gwneud llawer o'u gwaith drwy ymgynghori dros y ffôn neu o bell. Os oes angen i chi siarad â rhywun, ceisiwch gysylltu â'ch gweithiwr iechyd proffesiynol arferol os oes gennych un. Mae meddygon teulu a gwasanaethau iechyd meddwl yn dal ar agor, ond bydd rhai pethau'n cymryd ychydig yn hwy nag arfer.
Os ydych angen cymorth mwy brys:
- Ffoniwch eich meddyg teulu i gael apwyntiad brys (gellir gwneud hyn dros y ffôn neu drwy fideo)
- Galwch NHS111 am gyngor
- Ffoniwch eich llinell argyfwng leol
- Ffoniwch 999 neu ewch i'ch A&E agosaf (adran damweiniau ac achosion brys) os oes angen cymorth meddygol arnoch
Gall fod yn anodd addasu i fethu â mynd allan gymaint ag y dymunwch wrth ynysu eich cartref. Ond efallai y byddwch yn dal i allu cymryd rhan mewn fersiynau ar-lein neu ddigidol o rai o'r gweithgareddau y byddech yn eu gwneud fel arfer. Chwilio ar-lein, neu ofyn i ffrindiau, cyd-ddisgyblion neu gyd-ddysgwyr am rai syniadau. Efallai y byddwch hefyd yn dod o hyd i sefydliadau neu grwpiau lleol sy'n cynnig gweithgareddau ar-lein i bobl ifanc y gallwch ymuno â nhw.
Os ydych yn hunanynysu a bod arnoch angen mynediad at fwyd ar frys, efallai y bydd eich tîm iechyd meddwl yn fwy defnyddiol wrth drefnu hyn. Os nad yw hyn yn bosibl, mae cymorth ar gael yn awr gan gynghorau lleol, yn ogystal â chyd-grwpiau cymorth COVID sy'n gallu helpu i gynnal negeseuon, cynlluniau cyfeillio neu ddarparu cyngor mewn taflenni i hysbysu pobl am y grwpiau hyn a'r hyn y gallant ei gynnig.
- Childline: Ffoniwch 0800 1111 (am ddim)
- Samaritans: Ffoniwch 0808 164 0123 (am ddim)
- The Mix: 0808 808 4994 – Os ydych chi eisiau cael gwybod mwy neu siarad am yr heriau rydych chi'n eu hwynebu, o iechyd meddwl i arian, i gyffuriau.
- Young Minds
- MIND: Useful contacts for young people
- The Children's Society
- Anna Freud: Cefnogaeth yn ystod yr achos o coronafeirws
- MIND: Coronafeirws a'ch lles (i bobl ifanc)
- MindEd for families: Gwybodaeth am iechyd meddwl pobl ifanc
- NSPCC: Cyngor a chefnogaeth i rieni a gofalwyr
- Royal College of Psychiatrists: Gwybodaeth am iechyd meddwl i bobl ifanc
- Young Minds: Cefnogi eich plentyn yn ystod pandemig coronafeirws
Mae'r adnodd hwn yn darparu gwybodaeth, nid cyngor.
Darperir y cynnwys yn yr adnodd hwn ar gyfer gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni fwriedir iddo fod yn gyfystyr â chanllawiau y dylech ddibynnu arnynt. Felly, rhaid i chi gael y cyngor proffesiynol neu arbenigol perthnasol cyn cymryd unrhyw gamau ar sail y wybodaeth yn yr adnodd hwn neu beidio â gwneud hynny.
Os oes gennych gwestiynau am unrhyw fater meddygol, dylech gysylltu â'ch meddyg neu ddarparwr gofal iechyd proffesiynol arall yn ddi-oed.
Os ydych yn credu eich bod yn profi unrhyw gyflwr meddygol, dylech geisio sylw meddygol ar unwaith gan feddyg neu ddarparwr gofal iechyd proffesiynol arall.
Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i gasglu gwybodaeth gywir yn ein hadnoddau ac i ddiweddaru'r wybodaeth yn ein hadnoddau, nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau na gwarantau, boed yn ddatganedig neu'n ymhlyg, fod y cynnwys yn yr adnodd hwn yn gywir, yn gyflawn neu'n gyfredol.
© Ebrill 2020 Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru
Disclaimer
This leaflet provides information, not advice.
The content in this leaflet is provided for general information only. It is not intended to, and does not, mount to advice which you should rely on. It is not in any way an alternative to specific advice.
You must therefore obtain the relevant professional or specialist advice before taking, or refraining from, any action based on the information in this leaflet.
If you have questions about any medical matter, you should consult your doctor or other professional healthcare provider without delay.
If you think you are experiencing any medical condition you should seek immediate medical attention from a doctor or other professional healthcare provider.
Although we make reasonable efforts to compile accurate information in our leaflets and to update the information in our leaflets, we make no representations, warranties or guarantees, whether express or implied, that the content in this leaflet is accurate, complete or up to date.