COVID-19: Cymorth i gleifion a gofalwyr
Gwybodaeth am sut mae pandemig COVID-19 yn effeithio arnoch chi a'ch gofal.
Mae gwasanaethau iechyd yn dal i redeg
Y peth cyntaf y mae angen i chi ei wybod yw bod gwasanaethau gofal iechyd yn dal i redeg ac ar gael i chi os oes eu hangen arnoch. Mae'n bwysig eich bod yn:
- Ceisiwch gymorth meddygol brys os credwch fod gennych symptomau difrifol neu risg bywyd. Gwnewch hyn p'un a ydych yn credu bod eich symptomau yn gysylltiedig â COVID-19 ai peidio. (Gallwch gael help drwy eich meddyg teulu, GIG 111, 999 neu adran damweiniau ac achosion brys eich ysbyty lleol,)
- Gofyn am gyngor meddygol ar gyfer unrhyw symptomau sy'n peri pryder, boed yn rhai newydd neu'n ailddigwydd.
Parhewch gydag unrhyw driniaethau meddygol rydych yn eu derbyn a mynd i unrhyw apwyntiadau ysbyty neu feddyg teulu yn ôl y gofyn.
Gallai cael help meddygol olygu gadael eich cartref a gallai hyn wneud i chi ofidio. Ond os na fyddwch chi'n gofyn am help lle mae ei angen arnoch chi, efallai y byddwch chi'n peryglu eich iechyd a hyd yn oed eich bywyd.
Iechyd meddwl a COVID-19
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn derbyn triniaeth neu'n cymryd meddyginiaeth er mwyn helpu i reoli problem iechyd meddwl, rydym wedi creu'r adnoddau hyn i'ch cefnogi yn ystod pandemig COVID-19:
- Meddyginiaeth: Ewch â'ch presgripsiwn, cymerwch eich meddyginiaeth a mynd i apwyntiadau meddyginiaeth yn ystod y pandemig.
- Ymgynghoriadau o bell: Mae ymgynghoriadau iechyd meddwl bellach yn cael eu cynnal dros y ffôn neu ar-lein oherwydd mesurau ymbellhau cymdeithasol.
- Mynd i'r ysbyty ar gyfer iechyd corfforol: Beth i'w wneud os ydych chi neu rywun rydych yn gofalu amdano angen mynd i'r ysbyty oherwydd salwch neu anaf corfforol.
- Cadw'n iach a monitro iechyd yn y cartref: Cynghorion ar ffyrdd o gadw'n iach a monitro ein hiechyd ein hunain ac iechyd pobl eraill tra'n aros gartref.
- Alcohol: Sut i reoli eich cymeriant alcohol yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys gwybodaeth i'r rhai sydd â hanes o fod yn gaeth i alcohol.
- Anhwylderau bwyta: Gwybodaeth i bobl ag anhwylder bwyta yn ystod y pandemig.
Cymorth i bobl sy'n dioddef pryder yn ystod y pandemig
Rydym wedi creu adnoddau i'ch helpu os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, yn dioddef mwy o bryder o ganlyniad i'r pandemig.
Mae ein hadnoddau yn cynnwys gwybodaeth i oedolion, pobl ifanc a rhieni.