COVID-19: Aros yn iach a monitro iechyd yn y cartref
Ymwadiad: Mae'r adnodd hwn yn darparu gwybodaeth, nid cyngor. Darllenwch yr ymwadiad llawn ar ddiwedd yr adnodd hwn.
Ar hyn o bryd mae angen i ni aros gartref gymaint â phosibl i atal lledaeniad COVID-19. Ond gallwn wneud pethau i sicrhau ein bod yn cadw'n iach ac yn monitro ein hiechyd ein hunain ac iechyd pobl eraill yn y cartref.
Mae'n bwysig parhau i gymryd y meddyginiaethau a ragnodir ar eich cyfer, cael digon o gwsg, bwyta diet cytbwys a chael ymarfer corff yn rheolaidd bob dydd. Mae'r holl bethau hyn yn dda i'ch iechyd corfforol a meddyliol. Gall gosod trefn ddyddiol hefyd roi rhywfaint o dawelwch meddwl i chi gan ei fod yn darparu strwythur ar gyfer eich diwrnod.
Ar hyn o bryd, efallai eich bod yn gweld llai o bobl yn bersonol nag yr ydych wedi arfer â nhw. Felly, mae cadw mewn cysylltiad â phobl dros y ffôn neu'r rhyngrwyd yn arbennig o bwysig. Nid yn unig y gall helpu gyda'ch hwyliau, mae'n ffordd bwysig o gael cymorth emosiynol yn ystod cyfnodau o straen cynyddol, megis os ydych yn poeni am rywun annwyl yn yr ysbyty neu gartref gofal, neu yn ystod profedigaeth.
Os ydych eisoes yng ngofal tîm iechyd meddwl, bydd rhan o'ch cynllun gofal yn cynnwys nodi arwyddion cynnar eich bod yn dioddef o salwch meddwl. Gan fod timau iechyd meddwl bellach yn defnyddio ymgynghoriadau o bell, yn hytrach na'ch gweld chi'n bersonol, mae'n ddefnyddiol i chi dalu sylw agosach fyth i unrhyw arwyddion eich bod yn mynd yn sâl.
Mae cadw dyddiadur o'ch hwyliau, eich archwaeth a'ch cwsg bob dydd yn ffordd dda o wneud hyn. Gall hyn eich helpu chi a'ch gweithiwr iechyd i fonitro unrhyw newidiadau o ran sut rydych yn teimlo dros amser a chydnabod patrymau. Efallai y bydd yr offeryn hunanasesu hwn o gymorth i chi hefyd.
Cadwch mewn cysylltiad â'ch meddygfa os oes gennych gyflwr iechyd sy'n gofyn am fonitro gwaed yn rheolaidd (er enghraifft, diabetes neu bwysedd gwaed uchel) neu os oes angen profion gwaed arnoch i fonitro eich iechyd corfforol mewn rhyw ffordd.
Mae'r rhan fwyaf o feddygfeydd meddygon teulu wedi cynnig archwiliadau iechyd blynyddol yn y gorffennol, yn enwedig ar gyfer cyflyrau fel arthritis, pwysedd gwaed uchel, diabetes neu os ydych yn dueddol o dorri asgwrn a chodymau. Gellir cynnig y rhain bellach drwy ymgynghori o bell-cysylltwch â'ch meddyg teulu i weld a yw'n dal i allu cynnig hyn.
Mae'n bosibl y bydd gan rywun sy'n byw gyda dementia lai o ymwelwyr neu'n mynd y tu allan lawer llai na'r arfer. Gall y newid hwn mewn trefn fod yn gythryblus iddynt. Gallen nhw fynd ymlaen i ddatblygu ymddygiad mwy heriol sy'n gofyn am fonitro.
Efallai y bydd angen mwy o help arnoch i fonitro eu gweithredoedd, fel mynd allan o'r tŷ heb bwrpas neu ddisgyn. Gellir sefydlu dyfeisiau, o'r enw teleofal, i alw am help os oes problem gartref.
Efallai y byddwch yn ei chael hi'n anodd aros gartref y rhan fwyaf o'r amser. Felly mae'n bwysig treulio amser yn gwneud y pethau rydych chi'n eu mwynhau. Efallai y byddwch yn gallu cymryd rhan mewn fersiynau ar-lein o rai o'ch gweithgareddau dewisol ac mae hwn yn gyfle i gael gwybod mwy drwy chwilio ar-lein.
Gall cymdeithasu, defnyddio galwadau ffôn a fideo, yn ogystal â chyfryngau cymdeithasol, eich rhwystro rhag teimlo'n ddiflas, yn unig neu'n ynysig. Efallai y bydd gennych sefydliadau lleol a all gynnig cyfeillio'r ffôn neu grwpiau ffydd lleol y gallwch ymuno â nhw ar-lein.
Os ydych yn hunanynysu a bod arnoch angen mynediad brys i fwyd, efallai y bydd eich tîm iechyd meddwl yn gallu trefnu hyn. Os nad yw hyn yn bosibl, mae cymorth bellach ar gael gan gynghorau lleol, yn ogystal â grwpiau cyd-gymorth COVID sy'n gallu helpu i redeg, cyfeillio neu roi cyngor mewn taflenni i roi gwybod i bobl am y grwpiau a'r hyn y gallant ei gynnig.
Wrth i chi dreulio mwy o amser gartref, efallai y byddwch yn sylwi eich hun yn ysmygu neu'n yfed mwy nag o'r blaen. Efallai eich bod yn teimlo'n ddiflas, dan straen neu'n teimlo wedi'ch torri i ffwrdd oddi wrth eich teulu a'ch ffrindiau. '
Os ydych chi'n smygu, efallai y byddwch am ddefnyddio hwn fel cyfle i roi'r gorau i smygu.
I gadw cofnod o faint rydych yn yfed, gallwch ddefnyddio offer rhyngweithiol i wirio eich yfed a chael gwybod sut y gallai hyn effeithio arnoch chi, a sut y gallwch dorri i lawr.
Mae'n hawdd teimlo'n bryderus a gorlethu pan fyddwch yn clywed llawer o newyddion annifyr yn rheolaidd. Felly, mae'n bwysig nad ydych yn parhau i edrych ar y newyddion a chyfryngau eraill i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Yn hytrach, ceisiwch gadw trefn
ddyddiol, cynnal ffordd iach o fyw a chanolbwyntio ar y gweithgareddau rydych chi'n eu mwynhau, ble gallwch chi.
Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi osod eich hun ddwy neu dair gwaith yn ystod y dydd i ddal i fyny gyda'r newyddion, gan geisio eich gorau i beidio ag ymgysylltu ag ef am weddill y dydd.
Os oes angen help arnoch mewn argyfwng ar gyfer problem iechyd meddwl, os ydych mewn argyfwng ac eisoes o dan dîm iechyd meddwl, byddwch wedi cael manylion cyswllt ar gyfer hyn. Mae'r GIG hefyd yn darparu canllawiau pellach ar ddelio ag argyfwng iechyd meddwl.
Mae'r adnodd hwn yn darparu gwybodaeth, nid cyngor.
Darperir y cynnwys yn yr adnodd hwn ar gyfer gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni fwriedir iddo fod yn gyfystyr â chanllawiau y dylech ddibynnu arnynt. Felly, rhaid i chi gael y cyngor proffesiynol neu arbenigol perthnasol cyn cymryd unrhyw gamau
ar sail y wybodaeth yn yr adnodd hwn neu beidio â gwneud hynny.
Os oes gennych gwestiynau am unrhyw fater meddygol, dylech gysylltu â'ch meddyg neu ddarparwr gofal iechyd proffesiynol arall yn ddi-oed.
Os ydych yn credu eich bod yn profi unrhyw gyflwr meddygol, dylech geisio sylw meddygol ar unwaith gan feddyg neu ddarparwr gofal iechyd proffesiynol arall.
Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i gasglu gwybodaeth gywir yn ein hadnoddau ac i ddiweddaru'r wybodaeth yn ein hadnoddau, nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau na gwarantau, boed yn ddatganedig neu'n ymhlyg, fod y cynnwys yn yr adnodd hwn yn gywir,
yn gyflawn neu'n gyfredol.
© Ebrill 2020 Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru
Disclaimer
This leaflet provides information, not advice.
The content in this leaflet is provided for general information only. It is not intended to, and does not, mount to advice which you should rely on. It is not in any way an alternative to specific advice.
You must therefore obtain the relevant professional or specialist advice before taking, or refraining from, any action based on the information in this leaflet.
If you have questions about any medical matter, you should consult your doctor or other professional healthcare provider without delay.
If you think you are experiencing any medical condition you should seek immediate medical attention from a doctor or other professional healthcare provider.
Although we make reasonable efforts to compile accurate information in our leaflets and to update the information in our leaflets, we make no representations, warranties or guarantees, whether express or implied, that the content in this leaflet is accurate, complete or up to date.