COVID-19: gwybodaeth i seiciatryddion yng Nghymru

Archwiliwch ein canllawiau a'n gwybodaeth ddiweddaraf ar gyfer seiciatryddion sy'n gweithio yng Nghymru.

Sut i ddefnyddio ein canllawiau

Rydym wedi creu canolfan sy'n esblygu'n gyflym o wybodaeth COVID-19 a gynlluniwyd ar gyfer clinigwyr.  Mae'r canllawiau hyn wedi'u hysgrifennu o safbwynt eang y DU a byddant, ar y cyfan, yn berthnasol ledled y DU, ac mae'r Coleg yn gofyn i'w aelodau yng Nghymru gadw at y canllawiau hyn lle y bo'n bosibl.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys cyfeiriadau at adnoddau allweddol Cymru, canllawiau allanol a rhestr termau, i gefnogi canllawiau'r DU.

Canllawiau i glinigwyr

Mae graddau effaith COVID-19 yn amhosibl eu rhagweld yn gywir a rhagwelir y bydd y sefyllfa'n esblygu'n gyflym. Byddwn yn parhau i ddiweddaru ac ychwanegu at y tudalennau hyn dros yr wythnosau nesaf. Gallwch hefyd gyfeirio at y canllawiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar COVID-19 a rheolaeth glinigol ar faterion iechyd meddwl a ddatblygwyd gan Lab Seiciatreg Precision Rhydychen (OxPPL). 

  • Gwasanaethau cymunedol a chleifion mewnol
  • Ymgysylltu â chleifion
  • Gweithlu
  • Lles a chymorth
  • Cyfreithiol
  • Digidol
  • Ystyriaethau moesegol
  • Adnoddau rhyngwladol
  • Ail-gyflwyno gwasanaethau o fewn gwasanaethau iechyd a gofal - atal a rheoli heintiau

Canllawiau Penodol i Gymru

Er y dylai canllawiau'r DU fod yn berthnasol i ymarferwyr ledled y DU a bod o ddefnydd iddynt, gweler isod eithriadau ac ystyriaethau sy'n benodol i system gofal iechyd Cymru. Caiff hyn ei ddiweddaru'n rheolaidd.