Awtistiaeth ac iechyd meddwl

Autism and mental health

Below is a Welsh translation of our information resource on autism and mental health. You can also view our other Welsh translations.

Ymwadiad

Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae’r adnodd hwn yn edrych ar awtistiaeth ac iechyd meddwl. Mae’n esbonio beth yw awtistiaeth, sut mae diagnosis yn cael ei wneud a pha gymorth sydd ar gael i bobl awtistig. Mae hefyd yn edrych ar y math o ofal y mae gan bobl awtistig sydd â phroblemau iechyd meddwl yr hawl i’w gael.

Mae’r adnodd hwn wedi’i anelu at oedolion awtistig a’u teuluoedd a’u gofalwyr, ond gallai hefyd fod yn ddefnyddiol i bobl ifanc.

Mae awtistiaeth yn ddiagnosis a roddir i bobl sydd â gwahaniaethau gydol oes o ran:

  • sut y maen nhw’n cyfathrebu ac yn rhyngweithio ag eraill
  • eu hymddygiadau a’u diddordebau.

Efallai y byddwch yn clywed awtistiaeth yn cael ei ddisgrifio fel cyflwr neu ‘anhwylder niwroddatblygiadol’. Dyma’r term a ddefnyddir yn y meini prawf sydd yn helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wneud diagnosis o awtistiaeth.

Mae cyflyrau niwroddatblygiadol yn rhywbeth y cewch eich geni â nhw, ac maen nhw’n golygu eich bod yn profi'r byd yn wahanol i bobl eraill.

Awtistiaeth ac anableddau deallusol

Bydd y wybodaeth hon yn fwyaf defnyddiol i bobl awtistig sydd heb anabledd deallusol (a elwir hefyd yn anabledd dysgu). Mae pobl awtistig sydd ag anableddau deallusol yn grŵp unigryw a phwysig sydd angen gwybodaeth a chefnogaeth penodol. 

Mae’r geiriau a ddefnyddir i ddisgrifio awtistiaeth wedi newid llawer dros y blynyddoedd, ac mae'n debyg y byddant yn parhau i newid gyda threigl amser. Dylai eich clinigydd fod yn hapus i ddefnyddio’r termau sydd orau gennych chi.

Ymysg y termau a ddefnyddiwyd yn y gorffennol i ddisgrifio awtistiaeth oedd syndrom Asperger ac awtistiaeth gweithredu lefel uchel. Os cawsoch chi ddiagnosis lle y defnyddiwyd un o'r termau hyn, mae'r diagnosis hwnnw'n parhau i fod yn ddilys.

Yn yr adnodd hwn, byddwn yn defnyddio’r gair awtistiaeth, a’r ymadrodd ‘pobl awtistig’. Dyma’r termau sy’n cael eu ffafrio gan fwyafrif y gymuned awtistig yn y DU. Fodd bynnag, mae’n well gan rhai pobl dermau eraill.

Anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ASD) neu gyflwr sbectrwm awtistiaeth (ASC)

ASD yw'r diagnosis y byddwch chi'n debygol o'i gael gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol os byddwch chi'n cael diagnosis heddiw. Defnyddir y gair ‘sbectrwm’ i ddangos bod profiadau ac anghenion pobl awtistig ar sbectrwm eang. Mae’r term ASC yn cael ei ffafrio weithiau oherwydd efallai bod cynodiadau negyddol i’r gair ‘anhwylder’.

Niwroamrywiaeth

Mae niwroamrywiaeth yn ffordd o ddeall awtistiaeth a chyflyrau ac anableddau niwroddatblygiadol eraill. Syniad niwroamrywiaeth yw bod pob bod dynol yn profi’r byd yn wahanol.

Defnyddir y gair ‘niwrowahanol’ i ddisgrifio pobl y mae eu hymennydd yn gweithio yn wahanol iawn i’r boblogaeth gyffredinol.

Os hoffech chi ddarllen mwy am y geiriau a ddefnyddir i ddisgrifio awtistiaeth, ewch i wefan Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth

Os ydych chi’n awtistig, bydd gennych chi rai neu bob un o’r nodweddion canlynol.

Cyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol

Efallai y bydd gwahaniaethau yn y ffordd rydych chi’n:

  • deall cyfathrebu cymdeithasol ag eraill
  • defnyddio cyfathrebu dieiriau megis mynegiant yr wyneb ac ystumiau.
  • deall a defnyddio iaith mewn sefyllfaoedd cymdeithasol
  • dechrau a chynnal sgyrsiau
  • cymdeithasu ag eraill
  • deall a phrofi emosiynau ynoch chi eich hun ac mewn eraill
  • rhannu diddordebau ag eraill
  • gwneud ffrindiau a chynnal cyfeillgarwch.

Ymddygiad, diddordebau a gweithgareddau

Efallai y bydd gwahaniaethau yn y ffordd rydych chi’n:

  • Addasu i brofiadau newydd neu ddigwyddiadau annisgwyl. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n teimlo’n ofidus iawn os bydd cynllun yn cael ei newid.
  • Datblygu a chadw at eich trefn arferol. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi wneud yr union daith i'r siopau neu fwyta ar yr union amser bob dydd.
  • Cadw at reolau. Er enghraifft, os bydd rhywun yn dweud wrthych chi sut i wneud tasg yn y gwaith ac yna'n gofyn i chi ei gwneud mewn ffordd wahanol, efallai y bydd hyn yn peri dryswch a rhwystredigaeth i chi.

Efallai y byddwch chi hefyd yn:

  • Dilyn defodau, megis gwneud tasgau mewn trefn benodol.
  • Gwneud symudiadau ailadroddus (a elwir ambell waith yn ‘stimio’) neu’n symud mewn ffyrdd penodol. Er enghraifft, siglo, cerdded ar flaenau'ch traed, a symud eich dwylo neu fysedd, eistedd neu sefyll mewn ffyrdd penodol.
  • Cael diddordebau arbennig. Er enghraifft, efallai y bydd gennych chi ddiddordeb mawr mewn rhaglen deledu, cyfnod o hanes, neu fath o wrthrych penodol.
  • Profi sensitifrwydd uchel i oleuadau, gweadau, arogleuon neu flasau. Efallai y bydd y pethau hyn yn peri gofid i chi, neu’n eich gwneud chi’n anghyfforddus. Neu efallai y byddant yn gysur mawr i chi.

Mae gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn defnyddio’r nodweddion hyn pan fyddant yn gwneud diagnosis o awtistiaeth, i edrych am dystiolaeth o wahaniaethau rhwng y person y maent yn ei asesu a’r boblogaeth gyffredinol.

Mae'r nodweddion hyn yn canolbwyntio ar bethau nad yw pobl awtistig yn gallu eu gwneud, neu'n cael trafferth eu gwneud.

Gall pa mor anodd y mae’r nodweddion hyn yn gwneud eich bywyd ddibynnu’n fawr ar:

  • eich amgylchedd
  • y ddealltwriaeth a’r gefnogaeth a gewch chi gan y bobl o’ch cwmpas.

Gall y ffordd y mae pobl yn ystyried eu nodweddion awtistig amrywio’n fawr hefyd. Mae rhai pobl yn meddwl am awtistiaeth yn nhermau cryfderau neu wahaniaethau, tra bod eraill yn meddwl am awtistiaeth fel anabledd. Mae llawer yn meddwl am awtistiaeth fel cyfuniad o’r rhain. Mae'r holl safbwyntiau hyn yn ddilys, ac mae'n debyg y bydd sut rydych chi'n gweld awtistiaeth yn unigryw i chi.

Onid oes gan bawb rai o’r nodweddion hyn?

Mae llawer o bobl yn profi rhai o’r pethau a ddisgrifir uchod o bryd i’w gilydd. Fodd bynnag, mewn awtistiaeth bydd y nodweddion hyn yn fwy amlwg i chi neu i eraill. I gael diagnosis o awtistiaeth, mae angen i’r nodweddion hyn hefyd gael effaith sylweddol ar eich bywyd bob dydd, er enghraifft ar eich:

  • bywyd personol, teuluol a chymdeithasol
  • addysg neu waith
  • iechyd corfforol ac iechyd meddwl.

Nid yw cael un neu hyd yn oed nifer o’r nodweddion hyn yn golygu o reidrwydd bod rhywun yn awtistig. Mae nifer o nodweddion awtistiaeth yn bodoli mewn pobl sydd ddim yn awtistig, neu mewn pobl sydd â chyflyrau eraill.

Pam y gallai awtistiaeth fethu â chael ei diagnosio neu gael ei chamddiagnosio?

Mae’n bosibl methu sylwi ar awtistiaeth mewn pobl sydd:

  • yn fyddar
  • yn ddall
  • ag anableddau deallusol
  • â chyflyrau iechyd meddwl
  • yn hŷn
  • yn ferched neu’n fenywod.

Gall nodweddion awtistig hefyd gael eu mynegi mewn ffordd wahanol a bod yn llai amlwg mewn pobl sydd:

  • mewn rhai gyrfaoedd, megis y fyddin lle mae rheolau'n llym ac yn gorfod cael eu dilyn yn ofalus
  • yn rhan o grŵp neu sefydliad crefyddol, sydd â defodau neu arferion penodol
  • yn rhan o deulu lle mae aelodau eraill o’r teulu yn awtistig neu â nodweddion awtistig
  • yn dod o ddiwylliant neu wlad gwahanol i’r un lle maen nhw’n byw, neu mewn pobl sy’n siarad iaith wahanol i iaith y wlad lle maen nhw’n byw.

Camddiagnosis

Yn anffodus, mae’n eithaf cyffredin i bobl awtistig gael camddiagnosis. Gallai hyn olygu cael gwybod bod gennych chi gyflwr gwahanol, er mai awtistiaeth sydd gennych chi mewn gwirionedd. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n cael gwybod bod gennych chi gyflwr iechyd meddwl fel gorbryder neu iselder ac yna’n darganfod yn ddiweddarach eich bod yn awtistig.

Os byddwch chi’n cael camddiagnosis, efallai y byddwch chi’n:

  • teimlo’n ddryslyd, yn teimlo eich bod yn cael eich camddeall neu nad yw pobl yn gwrando arnoch chi
  • cael y feddyginiaeth neu’r driniaeth anghywir
  • cael trafferth i gael y diagnosis cywir.

Gall yr holl bethau hyn gael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl a’ch iechyd corfforol.

Mae llawer o bobl awtistig yn gweld eu nodweddion awtistig fel cryfderau. Er enghraifft, gall pobl awtistig fod yn fwy uniongyrchol a gonest, sydd yn arddull cyfathrebu y mae llawer o bobl yn ei ffafrio. Gall pobl awtistig hefyd fod ag ymdeimlad cryfach o gyfiawnder a theyrngarwch, sy’n gallu eu helpu i ffurfio a chynnal perthnasoedd hirhoedlog.

Gall pobl awtistig sydd â diddordebau arbennig cryf fod yn hynod wybodus a chael eu hysgogi gan bynciau sy'n bwysig iddyn nhw. Mae pobl awtistig yn gallu bod yn brydlon iawn, cadw’n agos at reolau, canolbwyntio ar fanylder ac ymdrechu i gael perffeithrwydd. Gall y nodweddion hyn olygu eu bod yn rhagori mewn pethau sydd angen gallu i ganolbwyntio ac ymroddiad.

Yn ogystal, mae gan lawer o bobl awtistig safbwyntiau unigryw ar y byd sydd yn eu helpu i fynd i’r afael â heriau mewn ffyrdd gwreiddiol. Lle caiff cryfderau pobl awtistig eu hannog a’u cefnogi, maent yn gallu cael cyfeillgarwch, perthnasoedd a gyrfaoedd cryf a boddhaus.

Os byddwch chi’n cael diagnosis o awtistiaeth, efallai y bydd eich adroddiad yn cyfeirio at lefelau. Er enghraifft, lefel 1, 2 neu 3. Efallai y bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn defnyddio'r lefelau hyn i ddynodi lefel y cymorth y mae'n meddwl y gallai fod ei angen arnoch chi ar yr adeg y cewch eich asesu.

Fodd bynnag, gall hyn fod yn rhy syml oherwydd bod anghenion cymorth yn newid yn aml. Gallant gynyddu neu leihau o ddydd i ddydd, gydag oedran, ac mewn amgylcheddau gwahanol.

Gall fod yn fwy defnyddiol meddwl am awtistiaeth fel hyn:

Diagram showing two different autistic people and how their traits and needs in different areas can differ.

Yn yr enghraifft hon, mae dau berson awtistig. Mae’r pigau yn cynrychioli pa mor sylweddol yw nodweddion pob person ym mhob maes, neu lefel y cymorth sydd ei angen arno yn y maes hwnnw. Er enghraifft:

  • Mae gan y person ar y chwith bigyn ‘gwahaniaethau cymdeithasol’ mwy, felly efallai bod angen mwy o gefnogaeth gymdeithasol arno.
  • Mae gan y person ar y dde bigyn ‘sensitifrwydd synhwyraidd’ llai, felly efallai fod llai o wahaniaethau yn y ffordd y mae’n profi synhwyrau fel blas ac arogl.

Gall rhai o’r pigau hyn gynyddu a lleihau ar adegau gwahanol ac mewn amgylcheddau gwahanol.

Mae gan rai pobl awtistig gyflyrau neu ymddygiadau sy’n cyd-ddigwydd a all gael effaith ar lefel y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Anableddau deallusol.
  • Gwahaniaethau cyfathrebu. Er enghraifft, ‘cyfathrebu dieiriau’ neu gyfathrebu ‘heb siarad’.
  • Ymddygiadau sy’n herio, megis ymddygiad ymosodol a hunan-niweidio.

Y peth pwysicaf yw y dylai pobl awtistig gael:

  • y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt
  • yn y meysydd lle mae ei hangen arnynt
  • pan mae ei hangen arnynt.
“Un o’r pethau gwaethaf dw i wedi’i gael yw ‘dwyt ti ddim yn ymddangos yn awtistig’. Mae’n bychanu’r ymdrech dw i’n ei gwneud, oherwydd mae’n ymddangos fel, dw i wedi trio, a nawr dw i’n cael fy niystyru.” Matthew

Fel arfer, caiff awtistiaeth ei sylwi gyntaf yn ystod plentyndod cynnar, ond weithiau nid yw'n cael ei sylwi tan yn ddiweddarach mewn bywyd.

Os ydych chi’n awtistig, efallai bod eich rhieni neu’ch gofalwyr wedi sylwi bod gennych rai nodweddion awtistig pan oeddech chi’n blentyn. Fodd bynnag, efallai na fyddai’r nodweddion hyn wedi bod yn amlwg i eraill nac wedi achosi unrhyw heriau i chi tan eich bod yn hŷn. Dyma un o’r rhesymau pam nad yw rhai pobl awtistig yn cael diagnosis nes eu bod yn oedolion.

Mae mwy o oedolion yn cael diagnosis nawr nag yn y gorffennol. Gallai hyn fod oherwydd:

  • gwell dealltwriaeth o awtistiaeth mewn oedolion ac awtistiaeth mewn merched
  • cynnydd yn nifer y clinigau asesu oedolion sydd ar gael.

Mae pobl dros 40 oed yn llawer llai tebygol o fod wedi cael diagnosis o awtistiaeth. Mae’n debyg mai’r rheswm am hyn yw bod awtistiaeth wedi cael ei gweld fel cyflwr ‘plentyndod’ tan yn ddiweddar.

Awtistiaeth mewn pobl hŷn

Efallai bod pobl hŷn sy’n awtistig wedi gweithio’n galed i reoli unrhyw her. Neu efallai eu bod wedi cael cefnogaeth gan ffrindiau a theulu. Oherwydd hyn, mae'n bosibl nad oedd neb wedi diagnosio na sylwi ar eu hawtistiaeth am amser hir. Fodd bynnag, gallai’r bobl hyn wynebu heriau yn ymwneud â’u hawtistiaeth wrth iddynt fynd yn hŷn.

Os ydych chi’n profi heriau sy’n gysylltiedig ag awtistiaeth, mae’n bwysig eich bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, waeth beth yw eich oedran. Nid yw byth yn rhy hwyr i wneud cais am asesiad awtistiaeth os nad ydych chi’n cael digon o gefnogaeth a dealltwriaeth.

Dydyn ni ddim yn gwybod yn union beth sy’n achosi awtistiaeth. Ymhen amser mae’n debyg y byddwn ni’n dysgu mwy am awtistiaeth a pham ei bod yn digwydd. Mae’n ymddangos y gallai ffactorau genetig ac amgylcheddol gyfuno i wneud rhywun yn fwy tebygol o fod yn awtistig.

Rydych chi’n fwy tebygol o fod yn awtistig os:

  • oes gennych chi frawd neu chwaer neu riant sy’n awtistig
  • oes gennych chi rai gwahaniaethau genetig
  • wnaethoch chi brofi gwahaniaethau pan oeddech chi'n datblygu yn y groth. Er enghraifft, llai o gyflenwad gwaed o’r brych.

Dangoswyd bod y pethau hyn yn gysylltiedig â thebygolrwydd cynyddol y bydd person yn awtistig. Nid yw hyn yn golygu mai'r pethau hyn yn bendant yw'r rheswm bod rhywun yn awtistig.

Beth sydd ddim yn achosi awtistiaeth?

Mae nifer o gredoau anghywir a pheryglus am beth sy’n achosi awtistiaeth. Nid yw gwaith ymchwil wedi dangos unrhyw dystiolaeth bod y ffactorau canlynol yn gysylltiedig ag awtistiaeth:

  • brechlynnau
  • deiet
  • dull magu plant.

Amcangyfrifir bod o leiaf 1 o bob 100 o bobl yn awtistig. Mae rhai astudiaethau’n amcangyfrif bod y nifer hwn yn uwch.

Mae diagnosis o awtistiaeth yn fwy cyffredin ymysg dynion a bechgyn nag ymysg menywod a merched. Mae’n debygol bod awtistiaeth yn cael ei thanddiognosio ymysg menywod a merched. Mae hyn yn golygu bod mwy o fenywod a merched yn awtistig nag yr ydym yn sylweddoli. Mae pobl awtistig hefyd yn fwy tebygol na’r boblogaeth gyffredinol o fod yn drawsryweddol neu’n anneuaidd.

Mae nifer y bobl sy’n cael diagnosis o awtistiaeth yn cynyddu, yn enwedig ymhlith menywod. Mae hyn yn debygol o fod oherwydd gwell ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth cyhoeddus o awtistiaeth, sydd wedi arwain at fwy o bobl yn gwneud cais am asesiad awtistiaeth.

A yw cyflyrau eraill yn fwy cyffredin ymysg pobl awtistig?

Mae pobl awtistig yn fwy tebygol o fod â chyflyrau eraill megis:

  • ADHD
  • anableddau deallusol
  • anawsterau dysgu fel dyslecsia
  • ticiau
  • anhwylder cydsymud datblygiadol
  • epilepsi
  • gorsymudedd y cymalau a syndromau Ehlers-Danlos.

Nid oes un prawf unigol sy’n gallu diagnosio awtistiaeth. Fodd bynnag, mae yna gwestiynau y gall gweithiwr gofal iechyd proffesiynol eu gofyn i ddeall a yw rhywun yn awtistig ai peidio.

Siarad â’ch meddyg teulu

Os ydych chi’n meddwl eich bod yn awtistig, dylech siarad â’ch meddyg teulu neu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol arall. Dylent ofyn cwestiynau i chi er mwyn deall a yw'n bosibl eich bod yn awtistig ac a fyddech chi'n elwa o gael asesiad awtistiaeth.

Dylid ystyried asesiad awtistiaeth os ydych chi’n profi heriau sylweddol gydag un neu fwy o’r canlynol, a bod yr heriau hyn wedi bod yn mynd ymlaen ers amser maith:

  • rhyngweithio cymdeithasol
  • cyfathrebu cymdeithasol
  • ymddygiadau anhyblyg ac ailadroddus, gwrthwynebu newid neu ddiddordebau cyfyngedig

ac os ydych chi wedi profi un neu fwy o’r canlynol:

  • heriau o ran dechrau ac aros mewn cyflogaeth neu addysg
  • heriau o ran dechrau a chynnal perthnasoedd
  • cyswllt blaenorol neu gyfredol â gwasanaethau iechyd meddwl, neu wasanaethau anabledd dysgu
  • cyflwr niwroddatblygiadol neu salwch meddwl, ar hyn o bryd neu yn y gorffennol.

Efallai y gofynnir i chi lenwi holiadur sgrinio, megis y Cyniferydd Awtistiaeth (Autism Quotient - AQ). Nid yw cael sgôr uchel ar yr AQ o reidrwydd yn golygu eich bod chi’n awtistig. Gallech hefyd gael sgôr AQ uchel os oes gennych chi gyflwr niwroddatblygiadol arall neu gyflwr iechyd meddwl.

Cael asesiad awtistiaeth

Os yw eich meddyg teulu yn teimlo y byddech chi’n elwa o gael asesiad awtistiaeth, yna dylai eich cyfeirio am asesiad. Mae amseroedd aros ar gyfer asesiadau awtistiaeth yn amrywio ar draws y DU, ond mewn rhai mannau gall fod yn 12 mis neu fwy. Mewn rhai achosion, gall gymryd hyd at ychydig flynyddoedd.

Mae rhai pobl yn dewis mynd am asesiad awtistiaeth preifat. Fodd bynnag, nid yw asesiadau awtistiaeth preifat bob amser yn cael eu derbyn gan wasanaethau gofal iechyd a chymdeithasol. Am y rheswm hwn, cyn cael asesiad gan ddarparwr arall, dylech sicrhau y bydd eich gwasanaethau lleol yn ei dderbyn.

Pwy fydd yn gwneud fy asesiad?

Gallai asesiad awtistiaeth gynnwys amrywiaeth o weithwyr proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi mewn gwahanol feysydd. Maen nhw’n gallu cydweithio i ddeall os ydych chi’n awtistig. Bydd y math o weithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’ch asesiad yn dibynnu arnoch chi a’ch anghenion unigol.

Gall eich asesiad awtistiaeth gael ei gynnal gan dîm asesu awtistiaeth, neu dîm clinigol arall.

Mewn rhai achosion, bydd eich asesiad awtistiaeth yn cael ei wneud gan un clinigydd unigol. Fel arfer seiciatrydd neu seicolegydd clinigol fydd hwn.

Beth ddylai digwydd yn ystod asesiad awtistiaeth?

Efallai y bydd eich asesiad yn cynnwys eich teulu, ffrindiau neu ofalwyr os allai hyn helpu’r person sy’n eich asesu i ddeall mwy am eich bywyd.

Yn ystod asesiad, efallai y gofynnir i chi, eich teulu, ffrindiau neu ofalwyr:

  • A oes gennych chi unrhyw rai o’r nodweddion awtistiaeth a ddisgrifir ar ddechrau’r adnodd hwn.
  • A oedd gennych chi unrhyw rai o’r nodweddion hyn fel plentyn, fel oedolyn neu’r ddau.
  • Eich hanes datblygiadol. Er enghraifft, pryd ddysgoch chi siarad neu gerdded.
  • Unrhyw heriau sydd gennych chi ar hyn o bryd, neu a oedd gennych chi yn y gorffennol, a allai beri risg i chi. Er enghraifft, hunan-niweidio, camddefnyddio sylweddau neu ymddygiad ymosodol.
  • Pa mor dda rydych chi’n gweithredu mewn sefyllfaoedd gwahanol. Er enghraifft, yn y cartref, mewn addysg neu yn y gwaith.
  • Unrhyw gyflyrau corfforol neu seicolegol a allai fod gennych chi, neu a oedd gennych chi yn y gorffennol.
  • Unrhyw gyflyrau niwroddatblygiadol a allai fod gennych chi, megis ADHD.
  • Unrhyw sensitifrwydd synhwyraidd sydd gennych chi.

Dylai asesiad hefyd ddefnyddio unrhyw ddogfennaeth a allai helpu i gael gwell dealltwriaeth o’ch profiadau. Er enghraifft, hen adroddiadau ysgol.

Dylai eich asesiad gael ei addasu i gwrdd ag unrhyw anghenion cyfathrebu neu hygyrchedd sydd gennych chi. Er enghraifft, os oes angen dehonglydd iaith arwyddion arnoch, gallwch ofyn am y gwasanaeth hwn a dylid ei ddarparu i chi.

Beth ddylai ddigwydd ar ôl asesiad awtistiaeth?

Pan fydd eich asesiad wedi dod i ben dylech gael adroddiad sydd yn nodi:

  • a ydych chi’n awtistig ai peidio
  • y math o gymorth y gallai fod ei angen arnoch
  • eich cryfderau.

Yna dylid cynnig apwyntiad arall i chi fel y gallwch siarad â rhywun am eich diagnosis.

Mae nifer o ganlyniadau posibl yn deillio o asesiad awtistiaeth, gan gynnwys:

  • Diagnosis o awtistiaeth.
  • Cael gwybod bod gennych chi nodweddion awtistig ond nad ydych chi wedi cyrraedd y ‘trothwy’ ar gyfer diagnosis o awtistiaeth.
  • Cael diagnosis gwahanol, neu gael eich atgyfeirio ar gyfer asesiadau neu gymorth ar wahân.

A oes angen diagnosis o awtistiaeth arna i?

Mae cael diagnosis o awtistiaeth yn un ffordd i gael y gofal a’r cymorth cywir i chi. Os ydych chi'n awtistig ac yn wynebu heriau yn eich bywyd, gall diagnosis adnabod yr heriau hyn ac awgrymu gwahanol fathau o gymorth a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Fodd bynnag, nid yw diagnosis o awtistiaeth yn angenrheidiol. Efallai y byddwch chi’n penderfynu nad oes angen diagnosis arnoch os:

  • dydych chi ddim yn wynebu unrhyw heriau sylweddol yn eich bywyd
  • ydych chi wedi gweithio allan ffyrdd o gynnal eich hun
  • ydych chi eisoes yn cael y math o gymorth sydd ei angen arnoch.

Mae’n bwysig nodi hefyd nad yw diagnosis yn angenrheidiol er mwyn gwneud cais am fudd-daliadau, er y gall fod yn ddefnyddiol.

Os ydych chi’n awtistig ac yn wynebu heriau, efallai y byddech yn elwa o gael cymorth mewn rhai meysydd o'ch bywyd.

Yn dilyn diagnosis

Os ydych chi wedi cael diagnosis o awtistiaeth, efallai y cynigir rhai o’r pethau canlynol i chi. Bydd y rhain yn arbennig o ddefnyddiol i chi os oes gennych unrhyw ddulliau ymdopi a allai eich rhoi mewn perygl, megis hunan-niweidio. Yn anffodus, er y byddai llawer o bobl yn elwa ar gymorth yn dilyn diagnosis, nid yw hyn yn digwydd yn aml.

Cynllun gofal. Dylai hwn gael ei ddatblygu gyda chi, ac ystyried eich anghenion ac unrhyw newidiadau i'ch amgylchedd a allai eich helpu. Os yw’n briodol, efallai y bydd eich cynllun gofal hefyd yn edrych ar anghenion eich teulu, partner, neu ofalwr.

Pasbort iechyd. Gall hwn eich helpu i gyfleu eich anghenion i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae llawer o wahanol fathau o basbortau iechyd, ond dyma enghraifft gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth.

Cynllun diogelwch, os ydych chi mewn perygl o niweidio eich hun neu bobl eraill yn ddifrifol, neu os ydych chi mewn perygl o gael eich ecsbloetio neu eich cam-drin. Byddai hwn yn cwmpasu:

  • Pethau y gallwch chi eu gwneud i leihau’r risg hon.
  • Sut y gallai fod angen cynnwys gwahanol wasanaethau yn eich gofal.
  • Cyngor i'ch ffrindiau, teulu a gofalwyr ar eu rôl nhw wrth ddarparu cefnogaeth i chi.
  • Newidiadau i’ch amgylchedd a all helpu.

Mathau eraill o gymorth

Yn dibynnu ar y cymorth sydd ei angen arnoch, lle rydych chi’n byw a’r gwasanaethau sydd ar gael yn eich ardal, efallai y byddwch chi’n gallu cael help gyda:

  • sgiliau bywyd
  • rhyngweithio cymdeithasol a bod yn ynysig
  • cyflogaeth
  • risg o erledigaeth
  • dicter ac ymddygiad ymosodol.

Yn anffodus, mewn sawl rhan o’r DU nid yw’r gwasanaethau hyn ar gael, neu dim ond yn breifat y gellir cael mynediad atyn nhw. Os yw eich anghenion cymorth yn uchel iawn, efallai y byddwch yn gallu cael cymorth drwy'r gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Addasiadau rhesymol

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i gyflogwyr, colegau a phrifysgolion wneud ‘addasiadau rhesymol’. Mae'r rhain yn newidiadau sy'n helpu i sicrhau nad yw pobl ag anableddau yn cael eu rhoi o dan anfantais sylweddol. Mae hyn yn cynnwys pobl awtistig.

Diffinnir hyn gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yng Ngogledd Iwerddon. Mae rhagor o wybodaeth am anabledd a'r gyfraith ar gael ar wefan y llywodraeth.

Gellir gwneud addasiadau rhesymol yn eich gweithle, mewn lleoliadau addysg ac mewn apwyntiadau ysbyty neu apwyntiadau gofal iechyd. Efallai y bydd rhai yn fach, er enghraifft:

  • Gofyn i’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ostwng y goleuadau yn ystod apwyntiad.
  • Dweud wrth eich gwaith y byddwch chi’n bwyta cinio ar yr un amser bob dydd, a gofyn i’ch cydweithwyr beidio â threfnu cyfarfodydd yn ystod yr amser hwnnw.
  • Gwrando ar gerddoriaeth yn ystod triniaeth yn yr ysbyty.

Neu gallent fod yn fwy sylweddol, er enghraifft:

  • Gofyn i’ch gwaith i addasu eich oriau i gyd-fynd â’ch trefn arferol.
  • Cael mwy o amser yn ystod arholiadau, neu gael gwneud eich arholiadau mewn ystafell breifat.
  • Gweithio o gartref, os yw hyn yn bosibl yn eich swydd.

I weithio allan pa addasiadau rhesymol sydd eu hangen arnoch, dechreuwch drwy feddwl am:

  • y pethau sy’n anodd i chi
  • y sefyllfaoedd lle rydych chi’n eu cael nhw’n anodd.

Beth os caiff fy nghais am addasiad rhesymol ei wrthod?

Mae addasiadau rhesymol yn ofyniad cyfreithiol. Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod y gall pobl wynebu problemau o hyd wrth ofyn amdanynt.

Mae gan yr elusen anabledd Scope dudalen fanwl ar addasiadau rhesymol yn y gweithle. Mae’r wybodaeth hon yn edrych ar sut i ofyn am addasiadau rhesymol, a beth i’w wneud os caiff eich cais ei wrthod.

Mynediad at Waith

Mae Mynediad at Waith yn wasanaeth a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Gall roi cymorth ymarferol ac ariannol i bobl anabl, ac mae ar gael i bobl sydd yn:

  • gyflogedig
  • hunangyflogedig
  • neu’n chwilio am waith.

Mae ar gael i bobl sydd angen cymorth sy’n mynd y tu hwnt i’r addasiadau rhesymol a ddisgrifir uchod. Er enghraifft, gallai Mynediad at Waith helpu eich cyflogwr i dalu am hyfforddwr swydd neu hyfforddiant ychwanegol i chi.

Os yw eich cyflogwr yn ei chael hi'n anodd gwneud y mathau o addasiadau sydd eu hangen arnoch chi, siaradwch â nhw am Fynediad at Waith. Darllenwch am gymhwysedd a'r broses ymgeisio ar wefan Llywodraeth y DU.

Cofiwch, nid oes angen i chi fod wedi cael diagnosis o awtistiaeth er mwyn cael mynediad at addasiadau rhesymol neu Fynediad at Waith.

Mae bron pob problem iechyd meddwl a salwch meddwl yn fwy cyffredin ymhlith pobl awtistig nag yn y boblogaeth gyffredinol. Mewn gwirionedd, mae rhwng 3 a 5 o bob 100 o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yn awtistig. Ac mae tua 1 o bob 10 o bobl sy’n cael eu derbyn i wardiau cleifion mewnol seiciatrig yn awtistig.

Mae ychydig o resymau gwahanol am hyn, gan gynnwys:

  • Diffyg cymorth priodol – Gall peidio â chael cymorth a gofal amserol neu briodol arwain at iechyd meddwl gwael. Dros amser gall hyn beri i rywun ddatblygu salwch meddwl. Weithiau pan fydd pobl awtistig yn cael cymorth, nid yw hwn wedi’i addasu i’w hanghenion ac nid yw’n cydnabod sut mae iechyd meddwl ac awtistiaeth yn gweithio gyda’i gilydd. Gall hyn hefyd olygu nad yw’r triniaethau hyn mor effeithiol ag y dylent fod, a gallant fod yn wrthgynhyrchiol.
  • Amgylchedd anaddas – Nid yw ein cymdeithas a’n diwylliant bob amser yn darparu ar gyfer pobl awtistig. I rai pobl awtistig, gall ymdrin â’r amgylchedd hwn fod yn andros o anodd, a gall hefyd arwain at iechyd meddwl gwael.
  • Triniaeth wael - Mae pobl awtistig hefyd yn fwy tebygol o ddioddef bwlio neu erledigaeth. Gall hyn, wrth gwrs, gael effaith negyddol ar eu hunan-barch a’u hymdeimlad o hunaniaeth.

Os ydych chi’n awtistig ac yn profi problem iechyd meddwl, dylech gael cynnig yr un triniaethau â phobl eraill. Fodd bynnag, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi bod eich triniaethau yn cael eu haddasu i’ch anghenion.

Ni ddylai’r triniaethau a gynigir i chi achosi gofid i chi nac effeithio’n negyddol ar eich lles. Os bydd hyn yn digwydd, rhowch wybod i’r person sy’n eich trin. Dylai weithio gyda chi i addasu’r driniaeth ar gyfer eich anghenion.

Ni ddylid byth wrthod mynediad i chi at wasanaethau iechyd meddwl oherwydd eich bod yn awtistig. Ni ddylai neb ychwaith ddweud bod yn rhaid i chi gael diagnosis o awtistiaeth cyn y gallwch gael cymorth neu driniaeth ar gyfer problem iechyd meddwl.

Rydym wedi cynnwys rhestr o awgrymiadau ar gyfer gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ar sut i addasu triniaethau ar gyfer pobl awtistig. Mae hon ar gael o dan y pennawd ‘gwybodaeth i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol’ yn yr adnodd hwn.

Gall fod rhai gwahaniaethau yn y ffordd y mae cyflyrau iechyd meddwl neu salwch meddwl yn ymddangos mewn pobl awtistig. Gall fod yn ddefnyddiol i bobl awtistig, eu ffrindiau, a’u teulu i wybod hyn, fel nad yw arwyddion o salwch meddwl yn cael eu methu. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol fel nad yw nodweddion awtistig yn cael eu camgymryd am arwyddion salwch meddwl.

Anhwylderau gorbryder

Mae anhwylderau gorbryder yn cynnwys anhwylder gorbryder cyffredinol, anhwylder panig ac anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD).

Mae rhai o arwyddion anhwylderau gorbryder yn gallu bod yn fwy cyffredin ymysg pobl awtistig nag ymysg pobl sydd ddim yn awtistig. Er enghraifft, os ydych chi’n awtistig efallai y byddwch chi’n fwy tebygol o:

  • fod â rwtîn cadarn, sefydlog
  • ymddwyn mewn ffyrdd a allai ymddangos yn obsesiynol neu’n gymhellol i eraill
  • teimlo’n fwy pryderus wrth wynebu newid.

Efallai mai rhan arferol o'ch personoliaeth yw'r pethau hyn. Fodd bynnag, os ydych chi’n profi’r pethau hyn yn fwy nag arfer, neu’n teimlo’n fwyfwy gofidus, siaradwch â’ch meddyg teulu.

Iselder

Gall pobl awtistig fod yn fwy tebygol o ymddwyn mewn ffyrdd sy’n ymddangos fel arwyddion o iselder i bobl eraill. Er enghraifft, os yw'n well gennych chi dreulio llawer o'ch amser ar eich pen eich hun, gallai'r bobl o'ch cwmpas gael yr argraff eich bod yn unig neu'n isel eich ysbryd.

Os ydych chi’n awtistig a’ch bod chi neu rywun arall yn sylwi:

  • eich bod chi’n fwyfwy encilgar ac ynysig
  • bod gennych chi lai o ddiddordeb mewn rhyngweithio ag eraill
  • bod eich patrymau bwyta a chysgu yn newid
  • eich bod chi’n fwyfwy sensitif i’ch amgylchedd (sŵn, pobl neu leoedd)
  • eich bod chi’n siarad llai, neu ddim yn siarad o gwbl pan fyddwch chi fel arfer yn gwneud hynny
  • eich bod chi’n ailadrodd defodau yn fwy nag arfer, neu ddim yn cyflawni defodau rydych chi fel arfer yn eu dilyn yn rheolaidd

gall y rhain fod yn arwyddion o iselder. Dylech siarad â rhywun rydych chi’n ei adnabod neu â’ch meddyg teulu os ydych chi’n meddwl eich bod yn profi iselder.

Hunanladdiad

Mae’r risg o hunanladdiad yn llawer uwch ymysg pobl sydd â diagnosis awtistiaeth nag yn y boblogaeth gyffredinol. Mae’n risg arbennig i bobl sydd ag anghenion cymorth heb eu diwallu, sy’n ynysig neu’n ddi-waith, neu sy’n byw ag iselder.

Dylech siarad â’ch meddyg teulu neu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol arall ar frys os ydych chi’n:

  • hunan-niweidio
  • meddwl am hunan-niweidio yn fwy nag arfer
  • gwneud cynlluniau i ladd eich hun
  • ei chael hi’n anodd gwthio’r meddyliau hyn draw.

Os ydych chi wedi brifo eich hun yn ddifrifol neu’n teimlo eich bod chi am ladd eich hun, ffoniwch 999 ar unwaith neu ewch i’ch adran damweiniau ac achosion brys (A&E) leol.

Anhwylderau bwyta

Bydd gan lawer o bobl awtistig batrymau bwyta gwahanol, fel:

  • amseroedd bwyd sefydlog iawn
  • bwyta ryseitiau penodol neu frandiau penodol o fwyd yn unig
  • bod yn ofalus iawn am rinweddau synhwyraidd bwyd, megis edrychiad, lliw neu ansawdd.

Fodd bynnag, os yw eich patrymau bwyta yn achosi i chi:

  • golli pwysau neu ennill llawer o bwysau
  • dioddef o ddiffyg maeth
  • teimlo’n ofidus

gallai hyn olygu bod gennych chi anhwylder bwyta.

Mae anhwylderau bwyta yn cynnwys anorecsia a bwlimia, anhwylder gorfwyta mewn pyliau a chyflwr a elwir yn anhwylder osgoi/cyfyngu cymeriant bwyd (ARFID).

Os ydych chi’n poeni am eich arferion bwyta, neu’n meddwl efallai bod gennych chi anhwylder bwyta, siaradwch â’ch meddyg teulu.

Anhwylder personoliaeth

Gellir rhoi diagnosis o anhwylder personoliaeth i bobl sy’n ei chael hi’n anodd rheoli eu hemosiynau a’u teimladau, a’u perthynas â phobl eraill.

Mae’r berthynas rhwng anhwylder personoliaeth a chyflyrau niwroddatblygiadol yn gymhleth.  Weithiau mae pobl awtistig yn cael camddiagnosis o anhwylder personoliaeth. Mae hyn oherwydd bod y ddau ddiagnosis yn rhannu nodweddion tebyg. Dylai gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ystyried hyn wrth wneud diagnosis o awtistiaeth neu ddiagnosis o anhwylder personoliaeth. Bydd rhai pobl yn cael diagnosis o anhwylder personoliaeth ac awtistiaeth.

Seicosis

Mae seicosis yn cyfeirio at pan fydd meddyliau a theimladau rhywun mor gythryblus fel eu bod yn colli cyswllt â realiti.

Yn anffodus, gall seicosis gael ei golli mewn pobl awtistig, ac weithiau mae awtistiaeth yn cael ei gamgymryd am seicosis. Mae hyn oherwydd y gall rhai o nodweddion awtistiaeth gael eu camgymryd am symptomau seicosis, a’r ffordd arall. Er enghraifft, os oes gan berson awtistig gredoau cryf iawn am rywbeth, gallai hyn gael ei gymysgu â’r lledrithiau sy’n bodoli mewn seicosis. Mae lledrithiau yn gredoau sydd gan bobl â seicosis; maen nhw’n real iawn iddyn nhw, ond nid ydynt yn cael eu rhannu gan unrhyw un arall.

Mae’n bwysig bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn deall ei bod yn bosibl cymysgu rhwng y cyflyrau hyn, a bod y ddau yn gallu digwydd ar yr un pryd. Gall deall hyn helpu i sicrhau bod pobl awtistig, a phobl sy’n profi seicosis, yn cael diagnosis a chymorth cywir.

Gorflinder awtistig

‘Gorflinder’ yw pan fydd pobl awtistig wedi ymlâdd yn gorfforol ac yn feddyliol, ac yn cael trafferth gweithredu.

Nid diagnosis yw gorflinder, ond caiff y term ei ddefnyddio gan bobl awtistig i ddisgrifio eu profiadau. Os bydd pobl awtistig yn profi gorflinder yn gyson, gall hyn gael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl.

Beth sydd yn achosi gorflinder awtistig?

Credir bod gorflinder awtistig yn digwydd pan fydd pobl awtistig yn gorfod treulio llawer o amser mewn sefyllfaoedd:

  • sydd ddim yn addas ar eu cyfer
  • lle mae disgwyl iddyn nhw guddio, neu ‘fasgio’, eu nodweddion awtistig.

Mae’r profiadau hyn yn gallu rhoi llawer iawn o straen ar bobl awtistig. Gall hyn achosi iddyn nhw brofi gorflinder.

Sut y gellir osgoi gorflinder awtistig?

Mae gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth restr ddefnyddiol o bethau sy’n gallu helpu i leddfu neu osgoi gorflinder awtistig. Cafodd y rhestr hon ei chreu gyda chefnogaeth pobl awtistig:

  • Cael eich derbyn a chael cefnogaeth gan bobl eraill
  • Peidio â chael eich annog na’ch gorfodi i guddio nodweddion awtistig.
  • Cefnogaeth ffurfiol, fel y mathau o gymorth a drafodwyd yn gynharach yn yr adnodd hwn.
  • Lleihau disgwyliadau neu straen diangen.
  • Gosod ffiniau iach gydag eraill a byw bywyd iach. Gall hyn olygu sicrhau eich bod yn cael digon o gwsg, yn bwyta’n dda ac yn gwneud ymarfer corff yn rheolaidd.
  • Dysgu sut i adnabod pryd y gallai gorflinder ddigwydd cyn iddo ddigwydd.

Mae’n bwysig nad yw gorflinder yn cael ei drin fel argyfwng iechyd meddwl. Y rheswm am hyn yw bod angen trin gorflinder a phroblemau iechyd meddwl eraill megis gorbryder ac iselder mewn ffordd wahanol.

Cael eich derbyn i ysbyty seiciatrig

Os ydych chi’n profi problemau iechyd meddwl difrifol iawn, efallai y cewch eich derbyn i ysbyty seiciatrig. Gall cael eich derbyn i ysbyty seiciatrig achosi mwy o straen i bobl awtistig oherwydd ffactorau fel:

  • Bod i ffwrdd o amgylchedd arferol eich cartref.
  • Ysgogiad synhwyraidd ar ward yr ysbyty. Er enghraifft, sŵn gan gleifion eraill a goleuadau llachar.
  • Methu â dilyn eich trefn arferol.
  • Gorfod rhyngweithio â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol anghyfarwydd.

Os byddwch yn cael eich derbyn i ysbyty seiciatrig, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi i gael aelod o’r teulu neu eiriolwr y gallwch ymddiried ynddo i’ch cefnogi. Gall llenwi ‘pasbort gofal iechyd’ helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddeall eich anghenion yn well. 

Dyma bethau y gall ffrindiau, teulu a gofalwyr eu gwneud i helpu i gefnogi’r bobl awtistig yn eu bywydau.

Darganfod bod rhywun yn awtistig

Weithiau bydd ffrindiau a theulu yn sylwi y gallai rhywun fod yn awtistig cyn iddo neu iddi sylwi ar hynny ei hun. I bobl awtistig, mae eu profiadau yn arferol iddyn nhw, ac weithiau gall gymryd rhywun o’r tu allan i sylwi.

Ar y llaw arall, efallai mai dim ond ar ôl i rywun rydych chi'n ei adnabod ddarganfod ei fod yn awtistig y byddwch chi’n dod i wybod hynny. Gallwch wneud gwahaniaeth enfawr drwy ymateb yn barchus ac yn feddylgar pan fydd rhywun yn dweud wrthych chi ei fod yn awtistig. Dyma bethau y gallwch chi eu dweud:

  • Diolch am ddweud wrtha i – Dangoswch i'r person eich bod yn gwerthfawrogi ei fod yn rhannu'r rhan bwysig hon o'i hun â chi.
  • Wyt ti eisiau dweud mwy wrtha i? – Efallai y bydd y person rydych chi’n ei adnabod eisiau siarad â chi am unrhyw heriau y mae wedi bod yn eu hwynebu, a beth y mae am ei wneud nesaf. Gall gofyn a yw am ddweud mwy wrthych chi sicrhau mai ar delerau'r person awtistig y mae gwybodaeth yn cael ei rhannu.
  • Sut alla i dy gefnogi? – Gall fod yn demtasiwn i ofyn llawer o gwestiynau, neu i wneud llawer o awgrymiadau. Yn hytrach na rhagdybio beth sydd ei angen ar y person rydych chi’n ei adnabod, gofynnwch iddo neu iddi sut y gallwch chi ei helpu. Os nad yw'n siŵr, gallai gofyn pa bethau y mae'n eu cael yn anodd helpu'r ddau ohonoch i adnabod lle byddai eich cymorth fwyaf buddiol.
  • Rydw i yma os wyt ti angen siarad Anogwch y person rydych chi’n ei adnabod i ddod yn ôl atoch chi os bydd eisiau siarad ymhellach. Gall hyn ei helpu i wybod bod y cyfle ar gael bob amser.

Dysgu

Mae awtistiaeth yn aml yn cael ei chamddeall. Os nad ydych chi wedi cyfarfod person awtistig o’r blaen efallai bod gennych chi syniadau am awtistiaeth sy’n anghywir neu wedi dyddio.

Neu, os ydych chi eisoes wedi cyfarfod person awtistig, efallai y byddwch chi'n disgwyl i bobl awtistig eraill y byddwch chi'n eu cyfarfod yn y dyfodol ymddwyn mewn ffyrdd tebyg. Ymadrodd a ddefnyddir weithiau yw ‘os ydych chi wedi cyfarfod un person awtistig, dim ond un person awtistig ydych chi wedi ei gyfarfod'.

Pan fyddwch chi’n ceisio dysgu mwy am awtistiaeth, canolbwyntiwch ar wybodaeth sydd:

  • yn ddibynadwy
  • yn seiliedig ar dystiolaeth
  • yn ddiweddar
  • wedi’i chynhyrchu gan neu gyda phobl awtistig

Weithiau, y peth mwyaf defnyddiol y gallwch chi ei wneud yw holi’r person rydych chi’n ei adnabod am ei brofiadau ei hun o awtistiaeth.

Dyma bethau y gall gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol eu gwneud i gefnogi pobl awtistig yn well. Awgrymwyd y pethau hyn gan y seiciatryddion a’r bobl awtistig a helpodd i ysgrifennu'r adnodd hwn.

  • Terminoleg – Parchwch yr iaith y mae pobl awtistig yn ei defnyddio i ddisgrifio eu profiadau. Er enghraifft, os yw rhywun yn disgrifio’i hun fel ‘bod yn awtistig’ neu ‘bod ag ASD’, gallwch adlewyrchu’r iaith hon.
  • Cyfathrebu – Mae pobl awtistig a phobl sydd ddim yn awtistig yn aml yn cyfathrebu ac yn prosesu gwybodaeth mewn ffyrdd gwahanol. Gall hyn ei gwneud yn heriol i feddygon gyfathrebu’n effeithiol â’u cleifion a deall eu hanghenion. Trwy gofio y gallai heriau cyfathrebu godi, ac ymdrin yn feddylgar â'ch cleifion bob tro, gallwch helpu i osgoi camddealltwriaeth a gwella gofal.
  • Mynediad at wasanaethau – Mae gan bobl awtistig hawl i gael mynediad at wasanaethau. Ni ddylai bod yn awtistig byth fod yn rheswm i beidio â rhoi’r cymorth sydd ei angen ar rywun.
  • Adroddiadau – Byddwch yn ymwybodol o sut rydych chi’n ysgrifennu adroddiadau, a chofiwch efallai y bydd y person yn eu darllen. Defnyddiwch iaith glir a pharchus.
  • Amser prosesu – Rhowch amser i’r person rydych chi’n gweithio gydag ef neu hi gael mynediad at wybodaeth a’i phrosesu. Rhowch gyfleoedd iddo neu iddi ofyn cwestiynau dilynol.
  • Addasiadau rhesymol – Gall fod yn anodd dod o hyd i amser i wneud addasiadau rhesymol mwy sylweddol. Fodd bynnag, mae nifer o addasiadau yn fychan, yn rhad ac am ddim, ac yn gyflym i’w gwneud. Er enghraifft, gofyn a ellir gwneud unrhyw newidiadau i’r gofod rydych chi ynddo er mwyn gwneud y person yn fwy cyfforddus. Gallai hyn fod mor syml â:
    • symud cadeiriau
    • cau’r llenni
    • cau’r drws i leihau sŵn
    • diffodd goleuadau sy’n fwy disglair.
  • Rhagnodi meddyginiaeth – Mae pobl awtistig yn aml yn fwy tebygol o brofi sgil-effeithiau a achosir gan feddyginiaeth seiciatrig. Mae’n well ‘dechrau’n isel a mynd yn araf’ gyda dosau meddyginiaeth. 
  • Gofal sy’n Ystyriol o Drawma – Cofiwch fod pobl awtistig yn fwy tebygol o fod wedi dioddef bwlio neu erledigaeth. Efallai eu bod hefyd wedi cael profiadau anodd iawn o ran gofal iechyd a gofal cymdeithasol, wedi cael camddiagnosis, neu heb gael y cymorth yr oedd ei angen arnynt. Holwch a oes gan eich Ymddiriedolaeth bolisi gofal sy’n ystyriol o drawma.

Addasu triniaethau

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) wedi awgrymu rhai ffyrdd y gall gweithiwr gofal iechyd proffesiynol addasu triniaethau ar gyfer pobl awtistig:

  • Creu dull mwy strwythuredig o ddarparu therapi. Er enghraifft, cael agenda wedi’i chynllunio ar gyfer pob sesiwn ac egluro nodau’r driniaeth yn glir.
  • Cynnig gwybodaeth ysgrifenedig a gweledol, yn ogystal â gwybodaeth lafar.
  • Canolbwyntio ar newid ymddygiad yn hytrach na meddwl. Er enghraifft, annog gweithgareddau dyddiol ymarferol a all wella hwyliau’r person, fel mynd am dro bob dydd.
  • Osgoi defnyddio trosiadau, iaith amwys neu sefyllfaoedd damcaniaethol. Caiff y rhain eu defnyddio yn aml mewn therapi i helpu i egluro cysyniadau, ond efallai na fyddant yn ddefnyddiol i bobl awtistig.
  • Cynnwys teulu, ffrindiau neu ofalwyr mewn therapi, os byddai’n helpu eich claf i gael y gorau o’i driniaeth.
  • Cynnig seibiannau rheolaidd.
  • Ymgorffori diddordebau arbennig mewn therapi. Er enghraifft, os oes gan eich claf ddiddordeb mawr mewn rhaglen deledu, gellid defnyddio llinellau stori o'r rhaglen honno i archwilio syniadau yn ystod therapi.

Adnoddau ar gyfer gweithwyr proffesiynol

Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PEEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (Royal College of Psychiatrists). Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.

Arbenigwyr clinigol: Dr Conor Davidson, Dr Alison Lennox, Dr Miriam Isaac a Dr Sana Fatima

Arbenigwyr trwy brofiad: Verity Westgate a Matthew Riley

Mae ffynonellau llawn ar gael ar gais.

This translation was produced by CLEAR Global (Oct 2024)

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry