ADHD mewn oedolion

Attention deficit hyperactivity disorder (ADHD)

Below is a Welsh translation of our information resource on attention deficit hyperactivity disorder (ADHD). You can also view our other Welsh translations.

Ymwadiad

Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Rhoddir diagnosis o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) i bobl sydd yn wynebu heriau o ran:

  • diffyg sylw - cael trafferth canolbwyntio
  • gorfywiogrwydd - yn teimlo’n aflonydd ac yn cael trafferth eistedd yn llonydd
  • byrbwylltra - siarad neu ddweud pethau heb feddwl yn gyntaf am y canlyniadau.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn wynebu’r heriau hyn ar ryw adeg yn eu bywydau, neu mewn rhai sefyllfaoedd penodol. Er enghraifft, os yw rhywun wedi cael noson wael o gwsg, efallai y bydd yn ei chael yn anodd canolbwyntio'r diwrnod canlynol.

Fodd bynnag, i bobl ag ADHD, mae’r heriau hyn fel arfer yn dechrau yn ystod plentyndod ac i’r rhan fwyaf o bobl maent yn parhau wrth iddynt fynd yn hŷn, er y gallant newid neu wella. Bydd yr heriau hyn hefyd yn effeithio ar nifer o agweddau ar fywyd yr unigolyn.

“I mi, mae darllen llyfr yn gallu teimlo fel bod ar garwsél gyda’r llyfr yn nwylo rhywun yn y dorf. Mae tasgau'n gallu teimlo fel taith mewn car lle mae’r fersiwn diamynedd ohono i yn rheoli’r pedalau, a’r fersiwn chwilfrydig ohono i yn dal y llyw.” Person ag ADHD

Mae ADHD yn ‘anhwylder niwroddatblygiadol’. Mae'r rhain yn anhwylderau sydd yn gallu effeithio ar lawer o wahanol swyddogaethau'r ymennydd, gan gynnwys dysgu, cyfathrebu, symudiad, emosiynau a sylw.

Mae anhwylderau niwroddatblygiadol yn dechrau yn ystod plentyndod ac i nifer o bobl maent yn gyflyrau gydol oes. Mae hyn yn golygu nad yw’n bosibl iddynt ‘wella’. Yn hytrach, gall bobl ag anhwylderau niwroddatblygiadol elwa ar gefnogaeth a newidiadau i’w hamgylchedd.

Mae pobl ag un anhwylder niwroddatblygiadol yn fwy tebygol o fod ag un arall, megis:

  • anhwylder sbectrwm awtistiaeth
  • trafferthion cydsymud
  • anhwylderau lleferydd, iaith a chyfathrebu
  • Syndrom Tourette
  • dyslecsia
  • dyscalcwlia.

Os nad yw ADHD yn cael ei adnabod neu ei drin yn iawn, gall hyn effeithio'n negyddol ar les meddyliol a chorfforol yr unigolyn.

Mae pobl ag ADHD yn aml yn cael diagnosis o gyflyrau iechyd meddwl a chorfforol eraill. Gall hyn ei gwneud hi’n anodd adnabod ADHD isorweddol.

 

Mae ADHD yn effeithio ar tua 3 neu 4 o bob 100 oedolyn. Gall bobl ag ADHD fod o unrhyw gefndir, ond mae ADHD yn fwy cyffredin mewn pobl sydd:

  • â brawd neu chwaer neu aelod agos o’r teulu ag ADHD
  • ag epilepsi
  • â chyflyrau niwroddatblygiadol eraill, anableddau dysgu neu anawsterau dysgu
  • â salwch meddwl
  • â hanes o gamddefnyddio alcohol neu gyffuriau
  • wedi dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol
  • ag anaf caffaeledig i'r ymennydd
  • wedi bod mewn gofal

Neu bobl:

  • a aned yn gynamserol
  • sydd wedi cael diagnosis o ‘anhwylder herio gwrthryfelgar’ neu ‘anhwylder ymddygiad’ yn ystod plentyndod
  • y credir eu bod wedi cael salwch meddwl fel gorbryder neu iselder yn ystod plentyndod.

Mae diagnosis o ADHD yn fwy tebygol mewn bechgyn na merched. Fodd bynnag, mewn oedolion mae diagnosis o ADHD yn fwy cyfartal rhwng dynion a merched. Gallai hyn fod oherwydd, fel plant, mae bechgyn yn fwy tebygol o ddangos symptomau gorfywiogrwydd a byrbwylltra, sydd yn fwy amlwg.

O ran diagnosis, mae merched o bob oed yn fwy tebygol o:

  • fod ag ADHD sydd heb ei ddiagnosio
  • beidio â chael eu cyfeirio ar gyfer asesiad ADHD
  • gael diagnosis anghywir o gyflwr iechyd meddwl neu niwroddatblygiadol arall.

Mae rhestr isod o symptomau craidd ADHD. Er mwyn i rywun gael diagnosis o ADHD, mae’n rhaid i’r symptomau hyn achosi anawsterau sylweddol mewn o leiaf ddwy agwedd o fywyd bob dydd. Er enghraifft, cartref, addysg neu gyflogaeth, perthnasoedd a llety.

Mae nifer o brofiadau eraill a adroddir gan bobl ag ADHD sydd ddim wedi’u rhestru yma. Rydym wedi cynnwys enghreifftiau sy’n trin ystod eang o oedrannau, o bobl ifanc sy’n dal mewn addysg, i bobl sydd yn gweithio.

Diffyg sylw
  • Diffyg sylw i fanylion
  • Gwneud camgymeriadau yn yr ysgol neu yn y gwaith, neu mewn gweithgareddau eraill
  • Cael trafferth canolbwyntio ar dasgau neu weithgareddau
  • Cael trafferth gwrando pan fydd rhywun yn siarad â nhw’n uniongyrchol
  • Ddim yn dilyn cyfarwyddiadau, a methu cwblhau gwaith, tasgau neu ddyletswyddau eraill
  • Cael trafferth trefnu tasgau a gweithgareddau
  • Osgoi neu beidio â hoffi tasgau sydd yn mynnu ymdrech feddyliol dros gyfnod hir (megis gwaith ysgol, gwaith cartref neu waith tŷ)
  • Colli pethau pwysig (e.e. deunyddiau ysgol, pensiliau, llyfrau, offer, waledau, allweddau, gwaith papur, sbectol, ffônau symudol)
  • Cael anhawster i gadw ffocws
  • Bod yn anghofus
Gorfywiogrwydd a byrbwylltra
  •  Bod yn aflonydd neu dapio dwylo neu draed, gwingo ar gadair
  • Codi o’ch sedd mewn sefyllfaoedd lle y disgwylir i bobl aros ar eu heistedd
  • Teimlo’n aflonydd a bod yn llawn egni
  • Cael trafferth chwarae neu gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden yn dawel
  • Siarad gormod
  • Bloeddio ateb cyn i gwestiwn gael ei gwblhau
  • Cael trafferth aros eich tro
  • Torri ar draws neu darfu ar eraill

Nid fydd pob un o’r symptomau hyn yn amlwg i bobl eraill. Yn aml, bydd pobl ag ADHD yn datblygu ffyrdd i guddio eu symptomau, ac mae gwneud hyn yn gallu bod yn flinderus iawn ac effeithio’n negyddol ar eu hiechyd meddwl.

Cryfderau ADHD

Gall fod yn ddefnyddiol meddwl am ADHD fel ‘gwahaniaeth’ ac nid fel diffyg neu anhwylder. Mae rhai pobl yn gweld agweddau ar eu ADHD fel cryfderau mewn rhai sefyllfaoedd neu amgylcheddau:

  • Ffocysu manwl - Mae rhai pobl ag ADHD yn ffeindio eu bod nhw’n gallu ffocysu’n fanwl ar eu diddordebau. Gall hyn olygu eu bod yn wybodus iawn am rai pynciau, neu'n gynhyrchiol iawn pan fyddant yn teimlo'n frwdfrydig ac yn angerddol dros rywbeth.
  • Ymateb i argyfwng - Mae pobl eraill ag ADHD yn canfod eu bod yn perfformio'n well mewn argyfwng pan fo'r sefyllfa'n mynnu eu sylw llawn.
  • Creadigrwydd - Mae tuedd i golli ffocws yn gallu golygu fod rhywun ag ADHD yn chwilio am ddulliau amgen a chreadigol i ddatrys problemau.

Mae rhai pobl ag ADHD yn gallu defnyddio’r nodweddion hyn er mantais iddynt. Efallai y bydd angen strwythurau cefnogol ar bobl eraill er mwyn adeiladu ar y cryfderau hyn.

“Roeddwn wedi cael llond bol o bobl yn dweud wrtha i fy mod i’n aflonyddgar, yn anghwrtais a fy mod i’n torri a’r draws bobl o hyd. Ond nid fy mod i’n awyddus. Fy mod i’n frwdfrydig. Fy mod i wedi cynhyrfu. Rydw i’n cofio un athrawes wych yn fy ysgol uwchradd, byddai’n dweud wrtha i ‘rydw i wrth fy modd gyda dy eiddgarwch di, ond dal arni am bum munud'. Roedd hynny'n gwneud i mi deimlo’n dda.” Hameed

Efallai y bydd teulu a ffrindiau yn sylwi ar arwyddion o ADHD mewn rhywun maent yn ei adnabod. Mae gan y Canadian ADHD Resource Alliance (CADDRA) restr ddefnyddiol a allai ddangos bod gan rywun yr ydych yn ei adnabod ADHD, ond heb gael cymorth:

  • Cael trafferth cynllunio. Er enghraifft, rheoli amser yn wael, colli apwyntiadau, prosiectau yn aml yn hwyr a heb eu gorffen
  • Gwaith neu berfformiad academaidd anghyson
  • Problemau rheoli dicter
  • Problemau teuluol neu briodasol
  • Diffyg trefn arferol. Er enghraifft, patrwm cysgu gwael
  • Cael trafferth rheoli arian
  • Ymddygiadau caethiwus megis camddefnyddio sylweddau, siopa neu gamblo’n gymhellol
  • Damweiniau cyson naill ai oherwydd byrbwylltra neu ddiffyg sylw
  • Problemau gyrru, megis cael tocynnau goryrru, damweiniau difrifol, neu golli trwydded yrru
  • Gorfod lleihau baich gwaith, neu gael trafferth cwblhau traethodau mewn addysg
  • Hunan-barch isel neu dangyflawni cronig.

Mae pobl sydd â pherthynas uniongyrchol ag ADHD yn fwy tebygol o fod ag ADHD eu hunain.

“Rydw i’n dathlu fy ymennydd cymaint ag yr ydw i'n cael trafferth ag o. I mi, mae’r cydbwysedd yma’n bwysig. Mae hynny wedi cymryd blynyddoedd, ond bellach gallaf adnabod cryfderau sydd gen i oherwydd fy nodweddion niwrolegol i. Rydw i’n gwrthod cael fy niffinio yn ôl ‘diffygion’. Mae fy ngwahaniaeth i yn brofiad personol i mi.” Clare

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae gwasanaethau ADHD ar draws y DG wedi gweld cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau. Mae llawer o resymau posibl am hyn, gan gynnwys:

  • ymwybyddiaeth ehangach o ADHD ymysg y cyhoedd ac arbenigwyr gofal iechyd
  • y pandemig Cofid-19, sydd wedi arwain at newidiadau mewn amgylcheddau addysg a gwaith. Efallai bod hyn wedi gwneud ymddygiadau ADHD yn fwy amlwg.

Mae’r ffaith bod mwy o bobl yn cael eu cyfeirio ar gyfer asesiadau ADHD yn beth cadarnhaol, oherwydd mae'n golygu y gall y rhai sydd ag ADHD gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae’r rhai sy’n darganfod nad oes ganddynt ADHD, ond sydd ag anghenion cymorth cysylltiedig, hefyd yn gallu cael cymorth.

Mae rhai pobl yn dweud yn anghywir fod ADHD yn ‘ffasiynol’ neu’n ‘ffug’. Mewn gwirionedd, mae’r disgrifiad cyntaf gan feddyg o gyflwr tebyg i ADHD yn dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif. Mae enw’r cyflwr wedi newid dros amser ond disgrifir yr un heriau ag yr ydym yn eu hadnabod fel ADHD heddiw.

Mae cytundeb ymysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwyddonwyr ledled y byd bod ADHD yn ddiagnosis dilys. Mae canllawiau clir yn disgrifio sut mae diagnosis ADHD yn cael ei wneud, a sut y dylai gael ei asesu, ei gefnogi a’i drin.

Mewn plant

Mae ADHD yn gallu ymddangos pan fo plentyn yn ifanc, ac yn aml caiff ei sylwi gyntaf pan fydd y plentyn yn yr ysgol. Fodd bynnag, efallai na fydd rhai pobl yn wynebu heriau nes eu bod yn oedolion, neu efallai na fydd yr heriau hyn yn cael eu sylwi nes eu bod yn llawer hŷn.

Er bod pobl ag ADHD yn rhannu symptomau ‘nodweddiadol’ cyffredin, mae ADHD yn gallu ymddangos yn wahanol o berson i berson. Mae sut mae ADHD yn ymddangos mewn unigolyn yn dibynnu ar y canlynol:

  • cefndir
  • personoliaeth
  • sut mae’n ymdopi o fewn ei amgylchedd
  • lefel a strwythur cymorth
  • profiadau positif a negyddol bywyd
  • cyfnod mewn bywyd.

Mae symptomau gorfywiogrwydd a byrbwylltra yn debygol o fod yn fwy cyffredin yn ystod plentyndod a dod yn llai o her i rai pobl dros amser. Mae symptomau diffyg sylw fel arfer yn dod yn fwy o her i bobl yn eu harddegau ac i oedolion.

Dod i oed

Fel arfer, wrth i bobl ifanc ddod i oed, maent yn wynebu mwy o heriau ac yn cael llai o gymorth. Er enghraifft, os bydd rhywun wedi byw gartref ac wedi cael llawer o gymorth, efallai na fydd yr ADHD yn achosi problemau nes iddo adael cartref.

Mae oedolion ifanc ag ADHD yn aml yn wynebu heriau newydd megis:

  • gwaith neu addysg
  • byw’n annibynnol
  • perthnasoedd
  • arian.

Mewn oedolion

Trwy gydol bywyd, gall heriau newydd megis dod yn rhiant gynyddu ymhellach lefelau straen cyffredinol yr unigolyn. Mae hyn yn golygu y gall ADHD achosi mwy o heriau wrth iddo fynd yn hŷn.

Wrth i lefel gyffredinol disgwyliadau a straen gynyddu, mae pobl ag ADHD yn fwy tebygol o gael trafferth cadw i fyny. Pan fydd hyn yn digwydd, gallant fynd i deimlo eu bod wedi'u llethu ac yn sâl. Mae’n bosibl osgoi hyn drwy gael cymorth priodol. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran sy’n ymwneud â chymorth yn ddiweddarach yn yr adnodd hwn.

“Dywedodd fy meddyg teulu wrtha i ddoe...ac mae hi wedi fy nghyfeirio i at rywun i gael cadarnhau hyn. Ar hyn o bryd, rydw i’n prosesu sut rydw i’n teimlo am hyn. Rydw i’n 38 - trwy gydol fy mywyd does neb wedi sylwi arno. Cyn hyn, doeddwn i byth yn gallu egluro sut roeddwn i’n teimlo.” Rachael

I'r rhan fwyaf o bobl ag ADHD, mae'r cyflwr yn cael ei achosi gan gyfuniad o ffactorau genetig ac amgylcheddol.

  • Geneteg - Yn gyffredinol, mae'r ffactorau genetig sy'n arwain at ddatblygu ADHD yn cynnwys llawer o wahaniaethau genetig bach yn hytrach nag un genyn unigol.
  • Ffactorau amgylcheddol – gall ffactorau amgylcheddol gynnwys pethau fel:
    • anawsterau pan oeddech chi yn y groth
    • cymhlethdodau geni
    • dod i gysylltiad â thocsinau
    • diffygion maethol
    • anaf i'r ymennydd.

Mae astudiaethau wedi dangos bod y ffactorau genetig ac amgylcheddol sy'n arwain at ADHD hefyd i'w cael mewn cyflyrau iechyd meddwl a chorfforol cyffredin eraill.

Mae ymchwil wedi dangos bod cyflyrau iechyd meddwl a chorfforol eraill yn fwy cyffredin ymhlith pobl ag ADHD. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gorbryder
  • iselder
  • anhwylder deubegynol
  • anhwylderau defnyddio sylweddau
  • gordewdra
  • bwyta di-drefn
  • alergeddau
  • asthma
  • anhwylderau cysgu
  • diabetes
  • anhwylderau awto-imiwn, e.e. arthritis, soriasis
  • gorsymudedd y cymalau.

Os ydych chi'n meddwl bod gennych ADHD a'i fod yn cael effaith negyddol ar eich bywyd, siaradwch â'ch meddyg teulu, a fydd yn gallu eich cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol i chi. Yn aml, Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol neu Wasanaeth Niwroddatblygiadol arbenigol yw hwn.

Yn anffodus, rydym yn gwybod bod rhai pobl yn cael trafferth cael eu hatgyfeirio am asesiad ADHD. Gallai hyn fod oherwydd diffyg gwybodaeth am ADHD mewn oedolion, neu oherwydd credir mai rhywbeth arall sy'n achosi eu heriau. Er enghraifft, mae rhai pobl yn cael diagnosis o broblem iechyd meddwl fel gorbryder, iselder neu anhwylder defnyddio sylweddau, pan fydd hyn ond yn egluro rhan o'u hanawsterau. Pan fydd hyn yn digwydd, mae'n bosibl methu â sylwi ar ADHD isorweddol.

Gwyddom hefyd y gall rhestrau aros am asesiadau fod yn hir iawn, sy’n golygu bod yn rhaid i rai pobl aros am amser hir i gael diagnosis. Gall pa mor hir y bydd yn rhaid i chi aros ddibynnu ar ble rydych chi'n byw.

Efallai eich bod chi wedi defnyddio holiadur neu gwis i ganfod a oes gennych ADHD. Gall holiaduron helpu gyda’r broses asesu ond dim ond â’r canlynol y gellir gwneud diagnosis cywir o ADHD:

  • cyfweliad cynhwysfawr
  • asesiad wedi'i seilio ar ymgynghoriad

Mae NICE (y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal) wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer gwneud diagnosis o ADHD. Lle bynnag rydych chi yn y wlad, dylai eich asesiad ddilyn y canllawiau hyn.

Byddai adroddiad asesu trylwyr yn cynnwys, o leiaf, bob un o’r canlynol:

  • rôl, cymwysterau, a phrofiad y person sy'n eich asesu
  • trafodaeth am eich symptomau ADHD ac a yw'r rhain yn bodloni'r meini prawf ar gyfer diagnosis. Fel arfer, cefnogir hyn gan offer asesu strwythuredig a holiaduron
  • adolygiad llawn o'ch iechyd meddwl
  • gwybodaeth am eich plentyndod, datblygiad, addysg, a'ch gallu i weithredu mewn sefyllfaoedd bywyd bob dydd
  • adolygu unrhyw broblemau iechyd corfforol
  • gwybodaeth amdanoch chi gan bobl eraill sy'n eich adnabod, yn enwedig sut oeddech chi fel plentyn, os yw hynny ar gael.

Asesiadau preifat

Yn ogystal â gwasanaethau'r GIG, mae llawer o ddarparwyr sy'n cynnig asesiadau ADHD yn breifat.

Os byddwch chi'n cael asesiad yn rhywle arall, bydd gwasanaethau arbenigol y GIG ar gyfer ADHD Oedolion yn gwirio bod eich adroddiad yn cynnwys yr holl fanylion uchod cyn eich derbyn i wasanaeth y GIG. Mae hyn oherwydd bod yn rhaid i staff sy'n rhagnodi meddyginiaeth ADHD sicrhau bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd ei hangen i ragnodi'n ddiogel, ac ar gyfer y cyflwr cywir.

Am y rheswm hwn, cyn cael asesiad gan ddarparwr arall, dylech sicrhau y bydd eich gwasanaeth GIG lleol chi yn ei dderbyn.

Ar ôl cael diagnosis o ADHD, efallai y byddwch chi'n mynd trwy gyfnod addasu. Efallai y byddwch chi'n profi emosiynau gwahanol, gan gynnwys:

  • Rhyddhad o gael eglurhad am rai o'ch anawsterau, a darganfod nad ydych chi ddim ar eich pen eich hun. Efallai y byddwch chi hefyd yn teimlo rhyddhad o wybod nad ydych chi ddim yn ‘ddiog’, ‘yn anfodlon’, yn ‘ddi-drefn’ nac yn unrhyw labeli eraill a allai fod wedi cael eu defnyddio i'ch disgrifio chi yn y gorffennol.
  • Rhwystredigaeth ynghylch y ffaith nad oedd diagnosis o'r cyflwr wedi'i wneud yn gynt ac nad oedd wedi cael ei drin. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn teimlo dicter tuag at eich rhieni, neu ddarparwyr addysg ac iechyd am beidio â sylwi ar y cyflwr ynghynt.
  • Tristwch dros gyfleoedd a gollwyd a'r effaith y mae ADHD heb ei drin wedi'i gael ar eich bywyd, a bywydau'r bobl rydych chi'n eu hadnabod.

Os ydych chi wedi cael diagnosis o ADHD, gallai'r diagnosis hwn ddod yn rhan bwysig o'r ffordd rydych chi'n gweld eich hun. Gall fod yn anodd dod o hyd i'r cydbwysedd cywir rhwng:

  • gweld eich hun fel rhywun y mae ADHD yn effeithio ar ei fywyd mewn nifer o ffyrdd
  • peidio â gweld ADHD fel y peth pwysicaf amdanoch chi.

Gall ymagwedd sy'n canolbwyntio ar atebion, sy'n edrych ar beth sy'n anodd yn eich bywyd, a beth y gellir ei wneud i wneud pethau'n llai anodd, helpu gyda'r cydbwysedd hwn.

“Rydw i'n teimlo'n emosiynol iawn ar hyn o bryd. Mae'n drueni na sylwodd neb arno'n gynt. Dim ond ar ôl gwrando ar brofiad byw yn hytrach na stereoteipio negyddol wnes i ei ystyried.” - Rachael

 

Ar ôl cael diagnosis

Os ydych chi wedi cael diagnosis o ADHD, dylai'r person a wnaeth yr asesiad siarad â chi am:

  • sut mae ADHD yn effeithio arnoch chi
  • eich nodau
  • pethau sydd wedi bod o gymorth i chi yn y gorffennol
  • unrhyw gyflyrau eraill sydd gennych chi, ac a allent effeithio ar eich ADHD.

Dylai hefyd eich cyfeirio at unrhyw wasanaethau neu wybodaeth a allai fod o gymorth.

Cyn dechrau triniaeth feddygol

Cyn dechrau triniaeth, dylai’r person a wnaeth yr asesiad siarad â chi am:

  • addasiadau amgylcheddol yn y cartref, yn y gwaith ac mewn addysg
  • newidiadau defnyddiol o ran ffordd o fyw
  • manteision a sgil-effeithiau triniaeth
  • eich dewisiadau ar gyfer triniaeth
  • unrhyw bryderon sydd gennych.

Un o'r pethau sy'n gallu gwneud y gwahaniaeth mwyaf yw bod yng nghwmni pobl sy'n deall ADHD, a bod mewn amgylcheddau sy'n dod â'r gorau allan ynoch chi. Gallai hyn olygu cael cynnig addasiadau rhesymol yn y gwaith, neu Therapydd Galwedigaethol yn eich helpu i ddatblygu trefn lwyddiannus yn y cartref.

Caiff y pethau hyn eu trafod yn fanylach isod, ond cofiwch y gall addasu amgylcheddol fod yn un o'r rhannau pwysicaf o'r gefnogaeth a gewch chi ar gyfer ADHD.

Mae'n bwysig cofio nad oes un ateb a fydd yn gwneud i holl symptomau ADHD ddiflannu. Wrth i chi ddarllen drwy'r wybodaeth hon, efallai y byddai'n ddefnyddiol meddwl am sut mae'ch symptomau'n effeithio ar wahanol agweddau o'ch bywyd.

“Er bod ADHD yn gallu bod yn anodd iawn i’w reoli, gyda chymorth rydw i wedi gallu dysgu am fy nhuedd i ymgolli’n llwyr mewn gweithgareddau rydw i’n eu hoffi'n fawr ac i ddefnyddio hyn mewn ffordd adeiladol.” James

 

Deall eich ADHD

Grwpiau cymorth cymheiriaid

Mae grwpiau cymorth cymheiriaid yn darparu gwasanaethau rhad ac am ddim neu gost isel lle gall pobl ag ADHD wrando a rhannu profiadau, cyngor, strategaethau ac awgrymiadau. Maen nhw hefyd yn gyfle i gymdeithasu. Gall cyfarfodydd grŵp fod ar-lein neu wyneb yn wyneb. Bydd argaeledd ac ansawdd grwpiau cymorth cymheiriaid yn amrywio, yn dibynnu ar le rydych chi'n byw.

Gwybodaeth ar-lein

Gall dysgu mwy am gyflwr iechyd fod yn ddefnyddiol, ac mae llawer o wybodaeth am ADHD ar gael ar-lein. Mae'n bwysig cofio bod ansawdd gwybodaeth ar-lein yn amrywio. Yn anffodus, gall gwybodaeth ar-lein fod yn anghywir, yn gamarweiniol neu hyd yn oed yn ffug. Rydym wedi cynnwys rhai gwefannau defnyddiol ar ddiwedd yr adnodd hwn.

Therapi Galwedigaethol

Gall Therapyddion Galwedigaethol weithio gyda phobl ag ADHD i'w helpu i wneud y canlynol:

  • trefnu eu hamgylchedd corfforol a chymdeithasol
  • datblygu sgiliau rheoli amser effeithiol
  • datblygu amserlenni cynllunio effeithiol i helpu i fodloni gofynion swyddi
  • datblygu'r ddisgyblaeth i gadw at weithgareddau sydd wedi'u cynllunio er gwaethaf pethau sy'n tynnu eu sylw, tra hefyd yn parhau i fedru ymateb yn hyblyg i newidiadau.

Nod therapi galwedigaethol yw helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon.

Efallai y gallwch gael eich cyfeirio am therapi galwedigaethol rhad ac am ddim gan y GIG neu'r gwasanaethau cymdeithasol. Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Efallai y byddwch hefyd yn dewis talu am therapydd galwedigaethol annibynnol. Mae gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol restr o therapyddion galwedigaethol cymwys a chofrestredig.

"Pe bawn i'n gwybod bod pobl ag ADHD yn dechrau llawer o bethau a ddim yn eu gorffen nhw... fi oedd hynny'n bendant. A phe bawn i'n gwybod mai oherwydd ADHD oedd hynny mi faswn i wedi bod yn fwy gofalus am wneud pethau'n fyrbwyll heb feddwl.” Hameed

 

Cyflogaeth ac addysg

Addasiadau rhesymol

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rhaid i gyflogwyr, colegau a phrifysgolion wneud ‘addasiadau rhesymol’ fel nad yw pobl â nodweddion gwarchodedig yn cael eu rhoi dan anfantais sylweddol. Mae'r nodweddion gwarchodedig hyn yn cynnwys anabledd, sy'n cynnwys ADHD. Mae rhagor o wybodaeth am anabledd a'r gyfraith ar gael ar wefan y llywodraeth.

Bydd y math o addasiadau rhesymol y bydd rhywun ag ADHD yn eu cael yn dibynnu ar:

  • sut mae eu cyflwr yn effeithio arnynt
  • ymarferoldeb
  • maint y sefydliad
  • yr arian a'r adnoddau sydd ar gael
  • a fyddai'r addasiad yn goresgyn yr anfantais yr ydych chi'n ei hwynebu.

Mae enghreifftiau o addasiadau rhesymol yn cynnwys:

  • darparu desg mewn man tawel yn y swyddfa
  • rhoi cyfarwyddiadau ysgrifenedig yn ogystal â llafar
  • dirprwyo gwaith pan fo hynny'n briodol
  • helpu gyda strwythuro tasgau.

Mae Cymdeithas y Gwasanaethau Cynghori ar Yrfaoedd i Raddedigion (AGCAS) yn cynnig rhagor o enghreifftiau (PDF).

Mynediad at Waith

Mae Mynediad at Waith yn wasanaeth a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Gall gynnig cymorth ymarferol ac ariannol i bobl ag anableddau. Mae ar gael i bobl sy'n gyflogedig, yn hunangyflogedig, neu'n chwilio am waith.

Dim ond i bobl sydd angen cymorth neu addasiadau y tu hwnt i’r ‘addasiadau rhesymol’ y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i gyflogwyr eu darparu y mae hwn ar gael. Er enghraifft, gall Mynediad at Waith helpu i dalu am hyfforddwr swydd neu ddarparu hyfforddiant ychwanegol.

Mae rhagor o wybodaeth am gymhwysedd a’r broses ymgeisio ar gael ar wefan Llywodraeth y DU.

Therapïau seicolegol

Gall rhai therapïau seicolegol eich helpu i reoli symptomau ADHD. Mae’r rhain yn cynnwys:

Mae rhagor o wybodaeth am therapïau a all fod o gymorth gydag ADHD ar wefan y GIG.

Pan fyddwch chi'n chwilio am therapydd, holwch a ydyn nhw'n gwybod am ADHD, neu'n barod i ddysgu. Bydd hyn yn eich helpu i gael gofal cefnogol, cadarnhaol. Mae hefyd yn bwysig oherwydd gallai rhai o'r heriau sy'n dod gydag ADHD effeithio ar eich therapi. Er enghraifft, gallai bod yn anghofus olygu eich bod chi'n methu apwyntiad neu'n hwyr i apwyntiad, neu efallai y byddwch chi'n cael trafferth gweithio ar dasgau sy’n cael eu gosod y tu allan i apwyntiadau.

Dewch o hyd i wasanaeth therapi siarad yn eich ardal chi ar wefan y GIG.

Therapi ymddygiad gwybyddol (CBT)

Mae CBT yn rhaglen strwythuredig o therapi sy'n helpu pobl i adnabod patrymau meddwl di-fudd a datblygu technegau i'w goresgyn.

Os oes gennych chi ADHD, gall CBT eich helpu gyda:

  • sgiliau trefnu a rheoli amser
  • rheolaeth emosiynol
  • datblygu empathi a deall safbwyntiau pobl eraill
  • strategaethau ar gyfer gwella sylw a rheoli byrbwylltra.

Mewn ADHD, mae CBT yn dueddol o fod yn fwyaf effeithiol pan gaiff ei gyfuno â meddyginiaeth.

Hyfforddi a mentora

Gall hyfforddwyr neu fentoriaid helpu i feithrin sgiliau bywyd bob dydd fel rheoli amser, a gwneud addasiadau amgylcheddol. Mae yna hyfforddwyr sy'n arbenigo mewn helpu pobl ag ADHD.

Mae'n bwysig cofio, fodd bynnag, bod hyfforddi a mentora yn broffesiynau hunanreoledig heb safonau cyfreithiol rheoledig. Mae gwasanaethau hyfforddi a mentora yn amrywio o ran ansawdd ac arbenigedd. Mae gan ADHD Europe restr o gwestiynau a all helpu i ddewis hyfforddwr priodol.

Meddyginiaeth

Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar addasiadau amgylcheddol ac yn dal i gael trafferth, efallai y bydd meddyginiaeth yn ddefnyddiol i chi.

Cyn dechrau meddyginiaeth, dylai'r person sy'n eich trin wirio eich iechyd meddwl a chorfforol. Dylai roi gwybod i chi am y risgiau sy'n gysylltiedig â chymryd meddyginiaethau adfywiol os oes gennych unrhyw gyflyrau iechyd eraill, a dylai eich cefnogi wrth i chi fonitro'ch hun am unrhyw sgil-effeithiau. Unwaith y byddwch chi'n cymryd meddyginiaeth sy'n gweithio i chi, dylid ei hadolygu o leiaf unwaith y flwyddyn.

Mae yna nifer o wahanol feddyginiaethau ar gael ar gyfer trin ADHD. Rhennir y rhain yn ddau grŵp:

Meddyginiaethau adfywiol:

  • methylphenidate
  • dexamfetamine

Mae meddyginiaethau adfywiol yn cynyddu argaeledd y niwrodrosglwyddyddion dopamin a noradrenalin mewn rhannau o'r ymennydd sy'n helpu i reoli sylw ac ymddygiad. Mae tystiolaeth dda ar gyfer defnyddio symbylyddion i drin ADHD, ac i'r rhan fwyaf o bobl maent yn effeithiol, yn ddiogel ac yn cael eu goddef yn dda. Fel arfer byddwch yn gallu dweud yn fuan a ydynt yn effeithiol ai peidio.

Mae angen cynyddu'r feddyginiaeth yn raddol i leihau unrhyw sgil-effeithiau ac i ddarganfod y dos cywir i chi. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael buddion amlwg o'r feddyginiaeth gyntaf y maent yn rhoi cynnig arni. Efallai y bydd yn rhaid i bobl eraill roi cynnig ar feddyginiaeth wahanol i gael y canlyniadau gorau.

Mae llawer o bobl yn meddwl tybed pam mae meddyginiaethau adfywiol yn cael eu defnyddio i drin cyflwr sy'n achosi gorfywiogrwydd. Mae'r meddyginiaethau hyn yn cryfhau rhan o'r ymennydd sy'n gallu helpu i reoli'r rhannau o'r ymennydd sy'n ymwneud â gorfywiogrwydd.

Meddyginiaethau nad ydynt yn adfywiol:

  • atomoxetine
  • guanfacine

Mae meddyginiaethau nad ydynt yn adfywiol yn cynyddu argaeledd noradrenalin neu'n dynwared ei effeithiau. Maent yn tueddu i gymryd mwy o amser i ddechrau cael effaith na meddyginiaethau adfywiol. Fel arfer, cânt eu defnyddio os nad yw meddyginiaethau adfywiol wedi gweithio i chi neu os yw'n anodd i chi eu cymryd.

Profiad llawer o bobl ag ADHD yw bod cymryd meddyginiaeth yn ddefnyddiol iawn, ond mae yna bobl hefyd sy'n dewis peidio â chymryd meddyginiaeth neu'n methu â gwneud hynny. Mae pob meddyginiaeth yn achosi sgil-effeithiau, ac mae’r rhain yn fwy amlwg i rai pobl nag eraill.

Meddyginiaeth heb bresgripsiwn

Bydd rhai pobl yn prynu meddyginiaethau ADHD heb bresgripsiwn. Gallai hyn fod oherwydd eu bod yn amau bod ganddyn nhw ADHD ond nid ydyn nhw eisiau neu'n gallu cael asesiad. Mae rhesymau eraill dros gymryd meddyginiaethau ADHD heb bresgripsiwn yn cynnwys:

  • gwella perfformiad academaidd neu alwedigaethol
  • mynd i bartïon a chymdeithasu
  • colli pwysau.

Gall prynu meddyginiaeth ADHD ar-lein neu ei chael heb bresgripsiwn fod yn beryglus, oherwydd:

  • ni fyddwch o reidrwydd yn cael y feddyginiaeth y gofynnoch chi amdani
  • ni fydd gennych gefnogaeth meddyg i gael gwybod a yw'r feddyginiaeth yn gweithio i chi neu sut i'w defnyddio'n gywir
  • ni fyddwch yn cael eich monitro fel sy'n angenrheidiol.

Nid oes tystiolaeth bendant bod cymryd meddyginiaeth ADHD yn gwella perfformiad pobl sydd heb ADHD.

“Mae ‘na wefannau marchnad ddu sy'n gwerthu pethau, ond dydyn nhw ddim yn cael eu rheoleiddio a dydych chi ddim o reidrwydd yn gwybod beth rydych chi'n ei gael, ac mae'n beryglus iawn.” James

Mae nifer o bethau y gall pobl ag ADHD eu gwneud i hybu eu hiechyd a'u lles cyffredinol.

1. Dweud wrth y bobl o'ch cwmpas sut y gallan nhw helpu

Fel gydag unrhyw gyflwr iechyd, mae pobl yn aml eisiau helpu ond nid ydynt yn gwybod sut, ac yn y pen draw gallant roi cyngor nad yw'n helpu. Dywedwch wrth y bobl yn eich bywyd beth sydd, a beth sydd ddim, yn ddefnyddiol i chi.

2. Ceisio gwneud rhywfaint o ymarfer corff yn rheolaidd

Mae ymarfer corff rheolaidd yn dda i bawb. Mewn pobl ag ADHD, dangoswyd ei fod yn lleihau yn sylweddol symptomau sy'n gysylltiedig â phryder ac iselder, sy'n gallu gwneud symptomau ADHD yn waeth. Ni ddangoswyd bod ymarfer corff yn cael effaith gadarnhaol ar symptomau gorfywiogrwydd, byrbwylltra neu ddiffyg sylw.

3. Cael digon o gwsg o ansawdd da

Gall cysgu’n wael wneud symptomau ADHD yn waeth. Mae datblygu arferion cysgu da yn gallu bod yn heriol, ond mae yna bethau y gallwch chi roi cynnig arnynt:

  • Datblygu a chynnal trefn ymlaciol ar gyfer amser gwely, e.e. cael bath, gwrando ar gerddoriaeth
  • Mynd i'r gwely a chodi'r un amser bob dydd, gan gynnwys ar benwythnosau
  • Osgoi bod o flaen sgrin am o leiaf awr cyn amser gwely
  • Peidio â bwyta neu yfed siwgr, caffein nag alcohol o fewn awr neu ddwy i amser gwely
  • Gwneud digon o ymarfer corff yn ystod y dydd
  • Cadw eich ystafell wely yn dywyll ac yn dawel. Os yn bosibl, cadw ffenestr ar agor i gael awyr iach.

4. Anelu at gael deiet cyson a chytbwys

Mae astudiaeth fawr wedi dangos bod perthynas rhwng symptomau diffyg sylw ac arferion bwyta nad ydynt yn iach, gan gynnwys bwyta bwydydd sydd â llawer o siwgr ychwanegol ynddynt. Mae deiet nad yw'n iach yn cael effaith negyddol ar iechyd corfforol ac o bosibl ar hwyliau, a gallai hyn wneud symptomau ADHD yn fwy anodd eu rheoli.

5. Gyrru

Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i chi ddweud wrth yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am unrhyw gyflwr a allai effeithio ar eich gallu i yrru'n ddiogel.

Os nad ydych chi'n siŵr a yw eich ADHD, neu'ch meddyginiaeth ADHD, yn effeithio ar eich gallu i yrru'n ddiogel, siaradwch â'ch meddyg. Os yw ADHD yn effeithio ar eich gyrru ac nad ydych chi'n dweud wrth y DVLA, gallwch gael dirwy o hyd at £1,000. Os byddwch chi mewn damwain efallai y cewch eich erlyn.

Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan y DVLA.

Os ydych chi'n adnabod rhywun sydd ag ADHD, mae yna nifer o bethau y gallwch chi eu gwneud i wneud bywyd yn haws iddyn nhw, ac i chi'ch hun.

1. Dysgu am y cyflwr

Nid yw'r ffaith eich bod wedi cyfarfod un person sydd ag ADHD yn golygu eich bod wedi eu cyfarfod nhw i gyd. Gall dysgu mwy am y cyflwr eich helpu i ddeall ADHD yn well. Bydd hefyd yn dangos i'r person eich bod yn meddwl amdano neu amdani.

“Mae'n flinedig, yn newidiol ac yn ddigon i'ch gwylltio chi sawl gwaith y dydd. Gall effeithio ar bob agwedd ar eich bywyd ac mae llawer o hynny wedi'i guddio, yn enwedig gyda phopeth sydd ar feddyliau merched sy'n jyglo cartref, gwaith, teulu. Does gan bobl ddim syniad.” Margaret

 

2. Ymuno â grŵp cymorth cymheiriaid

Mae rhai grwpiau cymorth cymheiriaid ar gyfer oedolion ag ADHD yn rhedeg grwpiau ar wahân ar gyfer partneriaid a gwŷr a gwragedd, neu'n caniatáu iddynt gymryd rhan yn y grwpiau ADHD. Holwch y grŵp am hyn cyn mynd i un o'r cyfarfodydd. Fel arfer byddwch yn gallu dysgu mwy ar-lein am grŵp cymorth cymheiriaid.

3. Siarad â’r person rydych chi’n ei adnabod

Gofynnwch i'r person rydych chi'n ei adnabod a oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud i helpu. Os nad yw'n gallu meddwl am unrhyw beth ar hyn o bryd, gallwch egluro y byddwch chi yno os bydd angen rhywun i siarad ag ef yn y dyfodol.

4. Bod yn ymwybodol o stigma

Mae yna lawer o gamsyniadau am ADHD a'r bobl sydd ag ADHD. Gallwch chi helpu trwy ddysgu'r ffeithiau am ADHD a rhannu'r wybodaeth honno â phobl eraill.

5. Rheoli eich rhwystredigaethau

Os bydd ymddygiad y person rydych chi'n ei adnabod yn peri gofid neu rwystredigaeth i chi, siaradwch am eich teimladau â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo. Os oes problemau yr hoffech chi eu codi, ceisiwch egluro'n glir beth sy'n bod a beth rydych chi'n feddwl allai helpu. Efallai y bydd pethau y gall y ddau ohonoch chi eu gwneud i helpu i ddatrys y mater.

“Weithiau pan fyddwn ni’n siarad am anabledd, rydyn ni’n cymryd yn ganiataol mai rhywbeth gweladwy ydyw. Gydag ADHD nid yw mor weladwy, ac mae pobl yn meddwl mai eich personoliaeth yw'r achos.” Hameed

Canllawiau NICE ar ADHD

Mae'r canllawiau hyn yn ymdrin ag adnabod, gwneud diagnosis a rheoli ADHD mewn plant, pobl ifanc ac oedolion. Eu nod yw gwella adnabod a diagnosis, yn ogystal ag ansawdd gofal a chymorth i bobl ag ADHD.

Gwybodaeth am ADHD

Elusennau ADHA

Isod rydym wedi cynnwys manylion elusennau sy'n gweithio gyda phobl ag ADHD ac ar eu rhan:

Grwpiau cymorth cymheiriaid

  • Support | ADHD UK – Mae ADHD UK yn cynnal grwpiau cymorth cymheiriaid, darlithoedd llawn gwybodaeth a sesiynau holi ac ateb.
  • Cyfarfodydd grwpiau cefnogi ADHD - ADHD Aware - Mae ADHD Aware yn cynnal cyfarfodydd grwpiau cymorth cymheiriaid i ddarparu mannau diogel. Mae'r grwpiau hyn ar gyfer pobl ag ADHD a'u ffrindiau a'u teuluoedd.

Gwybodaeth am les

Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PEEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.

Awduron arbenigol: Dr Dietmar Hank a Dr Kate Franklin

Diolch i'r bobl sydd â phrofiad byw o ADHD a helpodd i ddatblygu'r adnodd hwn, ac a gytunodd yn garedig i rannu eu profiadau ar ffurf dyfyniadau.

Diolch arbennig i Susan Dunn Morua, sylfaenydd a hwylusydd Grŵp Cymorth ADHD i Oedolion ym Mryste.

Mae ffynonellau llawn ar gael ar gais.

This translation was produced by CLEAR Global (Jul 2023)

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry