Cerdd newydd gan y Children’s Laureate Wales yn archwilio effeithiau technoleg ar iechyd meddwl plant

Cymru
10 October 2022

I nodi Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd heddiw, Hydref 10 2022, pleser yw rhannu cerdd ac animeiddiad newydd gan y Children’s Laureate Wales, Connor Allen, mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Seiciatryddion Cymru.

Ysbrydolwd y gerdd gan gyfres o weithdai barddoniaeth yn trafod effeithiau technoleg ar iechyd meddwl plant.

Cynhaliwyd y gweithdai barddoniaeth mewn dwy ysgol gynradd yng Nghaerdydd ym mis Ebrill 2022, a hynny yn dilyn trafodaethau rhithiol ar y pwnc wedi eu trefnu gan Goleg Brenhinol Seiciatryddion Cymru a Technology Enabled Care Cymru. Yn ystod y gweithdai barddoniaeth, anogodd Connor y disgyblion i fynegi a pherchnogi eu barn drwy ysgrifennu cerddi eu hunain.

Yn dilyn y gweithdai, meddai un o’r athrawon:

“Mae’r plant wedi dysgu cymaint am farddoniaeth a’u hunain… Mae’n braf gweld plant sydd weithiau’n ei chael hi’n anodd yn y dosbarth yn cymryd rhan ac yn mwynhau llythrennedd.”

Ysgogodd y gyfres o weithdai ac ymatebion y plant y Children’s Laureate i ysgrifennu cerdd newydd o’r enw Keys to the Future sydd wedi cael ei haddasu’n fideo wedi’i animeiddio a’i ryddhau heddiw ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, Hydref 10, 2022.

Meddai Oliver John, Rheolwr Coleg Brenhinol Seiciatryddion yng Nghymru:

“Mae’n hanfodol bwysig cefnogi pobl ifanc i gael trafodaeth agored am bynciau sy’n bwysig iddyn nhw. Mae ‘Keys to the Future’ yn adlewyrchu barn pobl ifanc, a’u perthynas newidiol â thechnoleg.

Drwy gefnogaeth y Children’s Laureate, a chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru, mae’r bobl ifanc wedi mynegi eu barn ymhellach gyda chreadigrwydd anhygoel. Mae wedi bod yn wych bod yn dyst i hyn ac mae’r prosiect wedi helpu i ddod â’r pwnc o effaith technoleg ddigidol ar iechyd meddwl yn fyw.”

Mae keys to the Future yn cynnwys yr ystod o farn a leisiwyd yn ystod y gweithdai ac yn tynnu sylw at sut all technoleg ein ynysu, yn ogystal â’n uno. Mewn cyfnod lle mae plant yn parhau i brosesu ôl effeithiau’r pandemig ac yn gorfod addasu’n gyflym i newidiadau cymdeithasol, cynigodd y gweithdai allfa emosiynol iddynt a llwyfan i leisio eu barn am y byd sy’n eu hamgylchynu. Mae’r gerdd yn dathliad o greadigrwydd a’i effaith gadarnhaol ar lesiant, boed ar sgrîn neu tu allan ym myd natur.

Mae annog plant i ddefnyddio eu dychymyg, ymddiried yn eu hunain, a bod yn uchelgeisiol, yn neges gyson yng ngwaith y Children’s Laureate, sydd yn ceisio ysbrydoli a grymuso plant a phobl ifanc ledled Cymru drwy lenyddiaeth. Gallwch weld rhagor o waith y Children’s Laureate, gan gynnwys ei gerdd gyntaf, Knock Knock, yma a chewch rhagor o wybodaeth am brosiect Children’s Laureate Wales yma.

Os oes gennych chi syniadau prosiectau neu gydweithio, cysylltwch ar  childrenslaureate@literaturewales.org neu 029 2047 2266.

For further information, please contact: