23 August 2022
Mae 98% o bobl y mae anhwylderau bwyta yn effeithio arnynt yn teimlo y byddai cyflwyno labelu calorïau ar fwydlenni yng Nghymru yn cael effaith negyddol neu negyddol iawn, yn ôl arolwg newydd gan Beat, elusen anhwylderau bwyta’r DU.
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn y cyhoedd ar gynlluniau arfaethedig i wneud labelu calorïau ar fwydlenni yn orfodol mewn siopau bwyd fel busnesau, siopau tecawê, bwytai, lleoliadau gofal plant ac ysbytai, fel rhan o strategaeth gordewdra’r genedl. Mae Beat yn galw ar Lywodraeth Cymru i osgoi cyflwyno labelu calorïau ar fwydlenni i ddiogelu’r 58,000 o bobl yng Nghymru yr amcangyfrifir eu bod yn byw ag anhwylderau bwyta.
Gwnaeth Beat arolwg o dros 100 o bobl y mae anhwylderau bwyta yn effeithio arnynt ledled Cymru i ofyn sut maent yn teimlo y byddai'r ddeddfwriaeth hon yn effeithio arnynt. Nid yw 96% o ymatebwyr yr arolwg yn cefnogi cyflwyno labelu calorïau gorfodol ar fwydlenni mewn caffis, bwytai a siopau tecawê.
Lleisiodd llawer o bobl bryderon y byddai calorïau ar fwydlenni yn gwaethygu gorbryder i'r rhai sy'n byw ag anhwylder bwyta ac yn gwneud adferiad yn anoddach. Dywedodd Rhys*: ‘Yn ddiweddar rwyf wedi profi ailwaeliad o ganlyniad uniongyrchol i labelu calorïau mewn bwytai yng Nghymru. Roedd yn brofiad ofnadwy i fod yn ôl yng ngafael rhywbeth rwyf wedi gweithio mor galed i’w oresgyn.’
Roedd bron i 7 o bob 10 o ymatebwyr i’r arolwg yn teimlo pe bai calorïau’n cael eu cyflwyno ar fwydlenni’ yng Nghymru, y byddant yn mynd allan i fwyta’n llai aml. Dywedodd Elis* ‘pe bai calorïau wedi’u hargraffu ar fwydlenni pan oeddwn ar fy ngwaethaf, ni fyddwn wedi gallu bwyta allan o gwbl’. Dywedodd unigolyn arall: ‘Dydw i ddim yn gwybod a fyddaf yn gallu mynd allan i fwyta mewn bwyty eto’.
Roedd pobl hefyd yn pryderu am yr effaith y gallai calorïau ar fwydlenni ei chael ar blant a phobl ifanc, gyda 96% o bobl yn dweud na fyddant yn cefnogi calorïau ar fwydlenni mewn ysgolion, colegau, lleoliadau blynyddoedd cynnar neu ofal plant. Dywedodd Sara* y ‘gallai dod ag ymwybyddiaeth o galorïau ysgogi dechrau anhwylderau bwyta mewn pobl ifanc y mae’n hawdd dylanwadu arnynt, drwy annog gor-ymwybyddiaeth o’r calorïau yn y bwydydd y maent yn eu bwyta.’ Dywedodd un arall fod cyfyngu ar galorïau yn ifanc ‘yn gallu achosi cymhlethdodau difrifol i iechyd hirdymor y plentyn’.
Cyfeiriodd nifer o bobl at bwysigrwydd mynd allan am fwyd yn ystod adferiad o anhwylder bwyta. Dywedodd Owen* ‘mae’r agwedd gymdeithasol ar rannu a mwynhau bwyd yn rhan hynod bwysig o gydlyniant cymunedol a chymdeithasol, yn ogystal ag adferiad o anhwylderau bwyta.’
Roedd eraill yn rhannu rhwystredigaeth na fyddai labelu calorïau ar fwydlenni yn gwneud gwahaniaeth i iechyd y boblogaeth yn gyffredinol. Dywedodd Beca* nad yw ychwanegu calorïau at fwydlenni ‘yn cymryd i ystyriaeth y dwysedd maetholion na’r buddion cymdeithasol ac emosiynol y mae pobl yn eu cael o fwyta bwyd penodol’. Dywedodd rhywun arall ‘nid yw calorïau’n adlewyrchu pa mor iach yw bwydydd, ond maent yn gallu ysgogi teimladau o orbryder ynof i yn hawdd’.
Pan ofynnwyd iddynt beth y gallai'r Llywodraeth ei gyflwyno yn lle calorïau gorfodol ar fwydlenni, awgrymodd rhai ymatebwyr i'r arolwg y dylid darparu bwydlen ddewisol gyda labelu calorïau ar gyfer cwsmeriaid sy'n gofyn am un, ond mai bwydlenni heb galorïau ddylai fod y dewis diofyn.
Dywedodd Jo Whitfield, Arweinydd Cenedlaethol Beat yng Nghymru:
‘Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i osgoi gwneud calorïau’n orfodol ar fwydlenni. Mae tystiolaeth glir bod calorïau ar fwydlenni yn beryglus i'r rhai y mae'r salwch meddwl difrifol hwn yn effeithio arnynt. Er enghraifft, gall labelu calorïau gynyddu teimladau o ofid a phryder, a all waethygu ymddygiadau anhwylderau bwyta a gwneud rhywun yn fwy sâl. Rydym yn arbennig o bryderus bod labelu calorïau yn cael ei ystyried ar gyfer bwydlenni plant, gan fod hyn yn debygol o gynyddu'r gorbryder y mae pobl ifanc ag anhwylderau bwyta yn ei deimlo am amseroedd bwyd a gwneud adferiad yn anoddach.
‘Mae’r pandemig wedi cael effaith ddinistriol ar bobl ag anhwylderau bwyta, gyda llawer o bobl yn teimlo’n fwyfwy ynysig a gofidus, ac yn anffodus mae’r galw am gymorth yn parhau i dyfu. Yn Beat, darparodd ein tîm dros deirgwaith y nifer o sesiynau cymorth i bobl yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2021 a Mawrth 2022, o’i gymharu â chyn y pandemig.
‘Mae labelu calorïau ar fwydlenni eisoes wedi dod i rym yn Lloegr, lle mae tîm ein llinell gymorth wedi bod yn cefnogi pobl sy’n ofidus am y newid hwn. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle hollbwysig i fyfyrio ar effaith negyddol deddfwriaeth Lloegr, ac i osgoi cyflwyno polisïau iechyd sy’n niweidio pobl ag anhwylderau bwyta. Rydym yn cyfrannu at yr ymgynghoriad ac yn parhau i annog y Llywodraeth i ymgynghori â chlinigwyr anhwylderau bwyta ac arbenigwyr trwy brofiad trwy gydol y broses hon er mwyn osgoi niwed i bobl ag anhwylderau bwyta.’
Dywedodd Dr Isabella Jurewicz, Coleg Brenhinol Seiciatryddion Cymru:
‘Mae gan ordewdra ac anhwylderau bwyta ffactorau risg tebyg a chyflwyno effeithiau corfforol a meddyliol sylweddol. Dylai polisïau iechyd cyhoeddus symud o bwysleisio cyfrifoldeb unigol i fesurau iechyd sy'n seiliedig ar y boblogaeth. Gallai labelu calorie helpu rhai pobl i wneud dewisiadau gwybodus ond gallai hefyd fod yn niweidiol i blant a'r rhai sydd mewn perygl o ddatblygu anhwylder bwyta, neu'r rhai mewn adferiad, ac felly rydym yn cefnogi galwadau i osgoi cyflwyno labelu calorïau gorfodol ar fwydlenni.
‘Dylid cydlynu strategaethau i atal y ddau gyflwr wrth i fwy o blant a phobl ifanc nag erioed o'r blaen gael eu heffeithio, ac o oedran cynharach. Byddai polisïau sy'n rheoleiddio'r diwydiannau bwyd, diet a ffitrwydd, creu ysgolion a gweithleoedd iach, a mannau corfforol diogel sy'n annog chwarae a thrafnidiaeth actif yn ddefnyddiol er mwyn hybu lles meddyliol, gan gynnwys atal anhwylderau bwyta.’
For further information, please contact:
- Email: oliver.john@rcpsych.ac.uk
- Web: https://www.rcpsych.ac.uk/wales
- Contact Name: Ollie John
- Twitter: @RCPsychWales
- Out-of-hours contact number: 02922 33 1080