Therapiau seicolegol

'Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru am weld gwasanaethau iechyd meddwl a chorfforol yn derbyn sylw cyfartal'

Hoffem:

  • bod Llywodraeth Cymru yn gweithio er mwyn sefydlu argaeledd therapïau seicolegol ledled Cymru o fewn gwasanaethau plant, oedolion ac anabledd dysgu
  • helpu i gyflwyno system sy’n cynyddu mynediad at therapïau seicolegol ar gyfer pawb
  • deall cysondeb y ddarpariaeth gwasanaeth yng ngwasanaethau gofal cynradd ym meysydd iechyd meddwl ac anabledd dysgu fel man cychwyn wrth sefydlu gwasanaeth iechyd meddwl ac anabledd dysgu sy’n addas ar gyfer y claf ble bynnag maent yn byw
  • bod Llywodraeth Cymru yn mapio’r opsiynau presennol sydd ar gael ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol mewn ardaloedd gwahanol o Gymru, a gweithio er mwyn sicrhau fod gweithwyr meddygol, yn cynnwys meddygon cartref, yn ymwybodol o’r dewisiadau sydd ar gael
  • gweithio er mwyn deall yr ymarferion presgripsiynu ymhlith meddygon cartref, yn enwedig yn nhermau plant a phobl ifanc, er mwyn annog atal presgripsiynu anaddas o wrthiselyddion.

Cyfleoedd pellach

 

Yn ogystal, mae’r Coleg wedi adnabod nifer o brosiectau hoffem weld Llywodraeth Cymru yn eu hystyried yng nghyd-destun iechyd meddwl, yn ogystal â chynnwys rhai argymhellion ar sut gall Lywodraeth Cymru eu rhoi ar waith.

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry