Yr economi sylfaenol

Cysyniad yw’r Economi Sylfaenol, a’i brosiectau peilot cysylltiedig, a weithredir gan Lywodraeth Cymru er mwyn targedu gwariant cyhoeddus i fusnesau lleol sydd am wneud gwahaniaeth i’w cymuned.

Hoffem:

  • gweithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn tanlinellu ‘y gallu i greu’ yng nghyd-destun iechyd meddwl ac anabledd dysgu, ac ystyried sut gall corfforaethau cyhoeddus arwain y ffordd er mwyn lleihau iechyd meddwl gwael
  • bod Llywodraeth Cymru yn cynnwys amod ar unrhyw gyllid cyhoeddus a ddyrannwyd i fusnesau preifat, ynghyd ag unrhyw fusnesau dan gytundeb i’r sefydliadau hynny, bod angen iddynt ymddiried at argymhellion ‘y gallu i greu’
  • bod Llywodraeth Cymru yn creu cyfres o fesuriadau canlyniad sydd â’r un statws â Chynnyrch Domestig Gros (GDP) sy’n mesur llwyddiannau prosiectau peilot yn eu cyfanrwydd yn nhermau’r effaith ar ein cymunedau.

Cyfleoedd pellach

 

Yn ogystal, mae’r Coleg wedi adnabod nifer o brosiectau hoffem weld Llywodraeth Cymru yn eu hystyried yng nghyd-destun iechyd meddwl, yn ogystal â chynnwys rhai argymhellion ar sut gall Lywodraeth Cymru eu rhoi ar waith.

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry